Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
GWAUNCAEGURWEN. CYNELIR AIL-EISTEDDFOD FLYN- YDDOL y lie uchod NADOLIG nesaf, KKAGFYK 25, 1875. I'r Cor heb fod dan 30 mewn nifer, a gano yn oreu "Yr Haf" (Gwilym Gwent) .500 I Gor o un gynnlleidfa a gano yn oreu J" Gwanwyn" (Miller) ..200 Ac Arweinffon i'r Arweinydd, gwerth 0 10 0 Yr Arweinydd i fod dan 21 oed. Am y 60 llinell goreu ar Fywyd 0 10 0 Am yddau Englyn goreu ar Ddi- wydrwydd" • • ..050 Am fanylrwydd pellach, gwel y Programme, i'w gael gan yr Ysgrifenvdd am y pris arferol. 6 D. MORGANS, Llwynrhydiau Colliery, G.C.G., Brynaman. TREORCI. Tra Mor tra Brythron." "Mor o Gna yw Cymru Gyd." BYDDED hysbys i boll Gymru benbaladr y cynelir Ail EISTEDDFOD FLYN- YDDOL Y BRYTHONIAID vn Nbenrci, ar y Dydd Llun cyntaf yn Awst, 1875, er cadw mewn cof Fuddugoliaeth. y C6r Cymreig, YJf Llundain, yn 1873. CERDDORTAEEH. 1. I'r cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 60 mewn rhif, a gano yn oreu yr ail chorus o'r Creation, "Achieved is the glorious work l w chanu ar, y geiriau Cymraeg, Ar ben mae r gogoneddus waith." Gwobr, £25. 2. I'r cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 50 mewn rhif, a gano yn oreu Llawenychwn, gorfoleddwn," o Gantata Gwilym Gwent. Gwobr, £ 12 12s. 3 I'r 21 mewn rhif a ganont yn oreu Can Jaradog," gan AlawDdu. I'w chael gan Isaac Jones, printer, Treherbert. Gwobr, £ o 5s. Fmddengys rhai o'r prif ddarnau mewn rhif- ynau dyfodol, yn nghyd ac onwau y beirniaid. Bydd y Programme yn fuan yn barod, yn cynwys yr holl destynau. TESTYNAU YCHWANEGOL. Am yr Awdl oreu ar Wanwyn Einioes," heb fod dan 300 llinell, na thros 400. Gwobr, £ 5, a chadair gwerth £ 3 3s. Am y Gan oreu i'r Crwydryn, heb fod dan 60 llinell, na thros 80. Gwobr, XI 10s. Am y Gan a Chydgan oreu, gwel y Programme. G Beirniaid^'eanu, EOS MORLAIS a LLEW TAWE. Beirniad y Farddoniaetb, y Traatbawd, a'r Adroddiadau, ac arweinydd yr Eisteddfod fydd Mynyddog. Bydd y Programmes yn cynwys yr holl fanyl- ion, yn barod erbyn y cyntaf oEbrill; i'w gael drwy y Post ar dderbyniad dau stamp geiniog. Dros y Pwyllgor, J. DEFYN JONES, Llywydd. R. MANSELL THOMAS, ) Trysor- Gr. R. JONES (Garadog) ) yddion. W. WILLIAMS, Canton House,) Ystrn D. SKYM, (Dewi Arucd), ) ° GOHIRIAD YR EISTEDDFOD IFORAIDD. YN Nghyfarfod Chwarterol yr Adran, y 7fed cyfisol, penderfynwyd oedi penodi adeg cynaliad yr Eisteddfod Ifor- aidd hyd y cyfarfod trimisol nesaf, sef y Llun cyntaf yn Medi. Ar ran yr Adran. DAVID DAVIES, U.L.A. DAVID HITCHINGS, I.L.A. THOMAS WILLIAMS, Y.A. ADDOLDY Y BEDYDDWYR, ABERAMAN. BYDDED hysbys y cynelir CYFARFOD CYSTADLEUOL yn y lie uchod nos LUN, Awst 23, 1875. Cadeirydd,—Mr. T. REES, Cashier, Powell s Duffryn. Beirnmid- Y Traethodau, y Farddon- iaeth, yr Adroddiadau, &c., Mr. W. THOMAS, (Morfab,) 11, Sunny Bank Street, Aberaman y Gerddoriaeth, Mr. JOHN PARRY, Timothy Row, Cwmbach; y Gelfyddydwaith, Mrs. REES, Aberaman. Mynediad i mewn 6c.; plant dan 15 oed, 3c. Y cyfarfod i ddechreu am 6 o'r gloch. L' Y Programmes i'w cael gan yr Ysgrifenydd,— EVAN OWEN, 279, Cardiff Road, Aberaman. YSIOPLYFRAURHATAF YN ABERDAR. Os ydych am Lyfrau Cymraeg a Saes- neg rhad, ewch i Siop S. DAVIES j Commercial- Street. Pob math o Babyr Ysgrifenu ac Amleni am y prisoedd iselaf. YmaeSypynanyn dyfod 0 Lundain yn ddyddiol, yr hyn nad oes neb arall yn gael yn y dref; felly, gellf cael unrhy w Jvfr neu newyddiadur ar ddau ddiwrnod o rybudd. Cofi,tvcl?. y Cyfeitiad 17J Commercial-street) AB ER0AR. SKETCHES ABOUT WALES, By Owen of Wales. CONTENTS: HOW a Queen of England fell in Love with a Welshman. A visit to the Grave of the Last Native Prince of Wales. The Wonderful Old Scholar of the Vale of Glamorgan, namely, lolo Morganwg, The Great South Wales Choir at Aberdare Presentation of the Welsh Flag Meeting at Colston Hall, Bristol; Journey to London Harp and Fiddle in the Train The Victory at the Crystal Palace; The Reception by the Prince and Princess of Wales, and the Czarevena of Russia: and a Complete List of Members of the South Wales Choir as it appeared below the Handel Organ at the Crystal Palace on,the day that Caradog led them on to Victory. To be had from -Owen of Wales, Pontypridd, for 12 penny stamps; and from all "Western Mail" Agents, COFFINAU RHAD!! DYMUNA. SAMUEL MORRIS, 64, BUTE STREET, ABERDAR, HYSBYSU y cyhoedd yn gyffredinol ei fod IL-IL yn awr yn barod i ymgymeryd a gwneud unrbyw fath o GOFFINAU, a hyny mor ise) neu is na neb arall yn y cymydogaethau. Y mae yn teimlo yn wir ddiolcbgar i'r cyhoedd am y gefnogaeth y mae wedi ei chael yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, gan obeithio y bydd iddo gael parhad o'r cyfryw gefnogaeth am y dylodol. t PEMBREY. BYDDED hysbys y cynelir MASS MEETIN6- gan Undeb y Glowyr, ger y PEMBERTON ARMS, am bedwar o'r gloch, prydnawn SADWRN, GOEPHENAF y lOfed, 1875, yn ylle uchod, pryd y dysgwylir glowyr Llan- elly, Trimsaran, a'r cylchoedd i fod yn bresenol. AT EIN GOHEBWYR. Y MAE genym luaws o ysgrifau etc ar law heb allu eu gwasgu i mewn yr wythnos hon, megys "Slow and Sure," ce Llytliyrau Cardi," "Sut y byddwn byw," "Y Priodoldeb o ddysgu yr iaith Gymreig, &c., y rhai a gant ymddangos yr wythnos nesaf. YN gymaint a bod ein gohebwyr a'n gohebiaethau yn cynyddu mor gyf- lym a'n cylchrediad, byddai yn dda genym i'n gohebwyr gofio bod mor fyred ag y byddo dichon iddynt, yn hytrach nag i ni orfod arfer ein liawl gwtogol. Pob gohebiaethau ac ysgrifan i'r DARIAN i'w cyfeirio :—" Editor of TARIAN Y (XWEITHIWR, Aberdare Pob archebion a thaliadau i'w hanfon i Mills, Lynch, a Davies, Tarian y Gweithiwr" Office, Aberdare.
MR. DALZIEL AC UNDEB Y GWEITHWYR.
MR. DALZIEL AC UNDEB Y GWEITHWYR. Y MAE yr hyn a gyhoedda Mr. Dalziel yn nghylch undeb y gweithwyr yn 1871, yn awgrymiadol mewn llawer ystyr. Beth bynag a ellir ddweyd am gywirdeb ei ffigyrau, a'r hanes y rydd efe yn nghylch symudiadau y gweith- wyr, nid yw ond yr hyn sydd iawn i weithwyr Cymru yn ngororau y glo a'r haiarn, gael gwybod y golygiadau y rhai sydd wedi eu lledu yn mhlith y meistri, am dros dair blynedd, gan Mr. DALZIEL yn ei lyfr, yn nghylch y gweithwyr. Yn tudalen 32 o'i lyfr, dechreua dynu y lien oddiar weithrediadan Mr. HALLIDAY a'i blaid. Anhawdd yw credu y gallai efe wybod am bob peth a berthyn i undeb y gweithwyr. Er hyny rhaid ei fod ef wedi cael hysbys- rwydd gan y gweithwyr eu hunain, i fedru cyhoeddi y fleithiau a ymddan- gosant yn ei lyfr. Amlwg yw ei fod wedi edrych gyda llygad craff ar reports undeb y gweithwyr, y rhai a argraff- wyd ac ar eu hareithiau o bryd i bryd, fel yr ymddangosent yn y Western Mail. Dywed efe fod y gweithwyr wedi penderfynu ar strike yn ngwyneb fod y meistri wedi gwrtbod codi eu cyflogau. Hyby&a fod Mr. HALLIDAY wedi dadgan fod y gymdeithas, i ba un y berthynai efe, yn llywodraethu 40,000 neu 50,000 o fwynwyr, y rhai oeddent yn barod i dalu levies i'r rhai oedd yn gwrthod gweithio ar delerau y meistri, er mwyn eu cynorthwyo i ddal allan. Dywed- odd fod undeb y gweithwyr wedi talu er cynorthwyo gweithwyr ar strike mewn gwahanol fanau £1,757 10s 2d; bod yr hyn a elwid yn central fund yn meddu £ 1,407. Ond o'r swm hwn talwyd at gostau dirprwywyr at y senedd, &c.? £ 392 18s 7j. At strikes £243 2s 4d, sef £149 16s 3!cl yn fwy i ddirprwywyr at waith aiiigylchiadol yr undeb, nag at gynal gweithwyr mewn strikes. Rhydd Mr. DALZIEL balance sheet cyhoeddedig yr undeb gerbron y darllenydd, yr hon a ddengys y ffeithiau uchod. Dengys efe fod saith o feistri wedi ildio i gais y gweith- wyr am 5 yn y cant o godiad cyfiog. Gofidia yn ddirfawr fod y saith yma wedi neillduo eu hunain oddiwrth y meistri ereill. Dangosa nad yw yn rhoddi cred yn eu rhesymau am eu hymddygiad. Ond os gallai y saith yma godi cyf- logau y gweithwyr, eglur yw y gallasai y lleill wneud yr un peth, neu nid oedd dim synwyr na chyfiawnder yn eu dig- ofaint nad oedd y saith yn cyduno i beidio ildio i gais y gweithwyr. Dywed Mr. DALZIEL mai nifer y dynion a'r bechgyn ar y strike y pryd hwnw oedd 10,920; ac nad oedd cyllid undeb y gweithwyr yn ddigonol at eu cynal. Ystyriai efe fod pleidwyr yr undeb yn hyderu y buasai y mwnwyr oedd yn gweithio yn rhoddi help i'w zn cyllid hwy. Gwnaeth yr undeb reol nad oedd neb i gael gymhorth o'r cyllid hwn heb ei fod yn aelod o'r undeb am dri mis. Dywed Mr DALZIEL fod gwyr yr undeb yn bryderus, am eu bod yn ymddibynu am avian y gweithwyr, y rhai yr honent eu bod yn abl i'w hamddiffyn yn erbyn y meistri. Dywed efe y buasai yn well ganddynt dderbyn na rhoddi arian. Yn nghanol hyn cyhoeddodd undeb y gweithwyr hanes eu gweithrediadau yn eu cynhadledd yn M anchester, Mai 1-5, 1871. Yn ol yr hanes hwn yr oedd 23,901 o aelodau yn yr undeb. Deallwyd y buasai yn anhawdd i'r nifer hyny o aelodau gadw at rwymiadau yr undeb trwy gynal 10,920 ar y strike. Addawyd y caffai pob gweithiwr 10s. yn yr wythnos, a swllt at bob plentyn, o'r, undeb. Buasai hyny yn dyfod i fyny i'r swmo £5,458 1 Os. yn yr wythnos at gynal 10,917 o weithwyr yn wythno- ol. A chan nad oedd ond 23,901 yn yr undeb, buasai y swm hwnw yn cael ei dalu allan o enillion y nifer oedd yn gweithio, sef 12,984. Yn mhen tair wythnos wedi dechreu y strike dygodd Mr HALLIDAY £600 0'1' Central Fund.' Ond y swm dyledus, yn ol 10s. yn yr wythnos i bob un o'r 10,917 gweithwyr ar y strike, am dair wythnos, oedd £ 16,375 10. YnlleyswiihwnzCOOOa dderbyniwyd, sef eB15,775 10s. yn llai na'r addewid, neu oddeutu y chweched- ran-ar-hugain o swm yr addewid; neu ychydig dros bedair ceiniog yn yr wythnos, yn lie 10s. Daeth swm aratl ychydig wedi yr uchod, yn ol yr hanes a rydd Mr. DALZIEL am undeb y gweithwyr. Talwyd i'r gweithwyr yn ol deg ceiniog yn yr wythnos ac nid deg swllt. Dy- wedir fod y deg ceiniog hwn wedi cael ei dreulio ar ddiod, a bod gwragedd y gweithwyr wedigrwgnach yn ddirfawr. Yr oedd gobeithion yr undeb y buasai y gweithwyr yn ymwasgaru, ac yn cael rhyw fath o waith ar hyd y wlad, tuag at eu cynhaliaeth, yn cael eu siomi i raddau helaeth. Dywed Mr. DALZIEL fod yr undeb wedi anfon, yn ol tystiolaeth Mr. HALLIDAY, £1,200 i weithwyr per- thynol i'r undeb yn Nghwm Aberdar i ateb pump wythnos o angen 9000 o weitbwyr, yr hyn nad oedd yn rhagor na chwe' cheiniog y pen Y11 yr wythnos. Rhydd hanes am arian yn dyfod wedi byny o'r undeb, yr hon o gynyddodd i bymtheg ceiniog yn yr wythnos i bob un. Wedi hyny swm arall o swllt a saith ceiniog yn yr wythnos i bob un. Er hyn i gyd ymddangosai y gweith- wyr fel rhai yn rhoddi ymddiriedmawr ynyr undeb, yn ol fel y cydnabydda efe. Yr oedd y ffaith fod dynion o dan ormes, tybiol neu wirioneddol, yn dyoddef gyda eu gilydd, yn eadw eu hysbryd i fyny yn nghanol siomedig- aethau chwerwon. Yn ngwyneb fod y meistri yn gwrthod derbyn telerau y gweithwyr, parhaodd y strike am amser maith. Penderfynodd y meistri ar gael gweith- wyr o ardaloedd ereill. Gosodasant ddyn ar waith i .gasglu gweithwyr. Nid oedd y dyn hwn yn gallu ysgrifenu. Yr oedd hwn i gynyg 6s. yn y dydd i weithiwr, a 3s. yn y dydd i fechgyn. Yn nghanol hyn yr oedd anghytun- deb mawr yn mhlith y meistri meistri y pyllau glo yn Nghwm Rliondda ac Aberdar yn ewyno ar feistri gweith- feydd haiarn, eu bod yn rhoddi gwaith i yn agos 1000 o'r hen weithwyr. Dywed Mr. DALZIEL mewn modd torcalonus, oblegyd hyn, "nad oedd dim yn rhagor i'w wneuthur ond i feistri y pyllau glo ymostwng i bethau fel yr oeddynt, yn ngwyneb cyfeillgar- wch dwyllodrus y meistri yn y gweith- feydd haiarn, y rhai a gynygiasant o'u gwirfodd i beidio rhoddi gwaith i'r rhai oedd ar y strike." Ceisiwyd cael dynion o Gaerdydd, y rhai a weithient mewn cysylltiad a throsglwyddiad glo i longau, i godi glo. Ond deallwyd eu bod hwy yn cydym- deimlo a'r dynion oedd yn sefyll allan. Yr oedd hyn eto yn siomedigaeth i'r meistr. Ond os oedd meistri yn cydym- deimlo a'u gilydd, pa ryfedd fod y gweithwyr yn gwneud yr un peth ? Anfonwyd dirprwywyr gan y meistri i siroedd Stafford, Devon, a Cornwall, i hirio dynion i weithio. Gosodwyd telerau den gar o'u blaen. Yroeddy dirprwywyr i gael punt o gomisiwn am bob gweithiwr a allent hirio, heblaw traul eu teithiau, &c. Wedi galw llawer o weithwyr ya nghyd yn Cornwall, dywedodd un o honynt ei fod ef wedi bod yn Nghyipru, a bod llawer o lowyr yno yn cael eu lladd gan nwyau peryglus y pyllau. Wedi yr araeth hon ffaeload y dirprwy- wr i gael neb i gytuno. Ceisiodd PAUL ROPEE, y dirprwywr, yr hwn na allai ysgrifenu, hirio dynion yn swydd Stafford. Ond nid oedd fawr o barch iddo gan y meistri, oblegyd dywed Mr. DALZIEL am dano, "he fleeces the masters;" hynyyw, yr oedd yn tynu cymaint o arian oddiwrtb y meistri ag a aliasai gael. Trueiniaid oedd y meistri! Rhwng gwrthwyneb- iad eu hen weithwyr ar y etrike, an- ffyddlondeb rhai o'u cydfeistri, a'u hys- beiliad gall ROPER! Ymddangosai tos- turi ymysgaroedd pawb fel weclieu cau tuag atynt, Mr. DALSIEL yn dyst! Gwnaethant eu goreu, druain, o dau yr amgylchiadau helbulus! Rhoddas- ant orchymyn caeth ar HOPER nad oedd efe i hirio neb a fyddai yn per- tbyn i undeb y gweithwyr, pan ar yr un pryd yr oedd y boneddwyr hyn a orchymynent ROPER yn cwyno am fod rhai yn anffyddlon i undeb y meistri! "vVhat is good for the goose is good for the gander." Os oes mantais i'r meistri oddiwrth undeb, pan y mae pob un o honynt ar ei ben ei hnn, yn llawer cryfach na llawer o weithwyr, onid yw yn greulondeb i wrthod yr un rhyddid i weithwyr gweiniaid ymuno a'u gilydd gystal a'r meistri ? Ar ypryd hwn, ychydig o sylltau yn yr wythnos a dderbyniai y gweithwyr ar y strike oddiwrth eu hundeb. Dywed Mr. DALZIEL fod y gweith- wyr yn cynghori eu gilydd i fod yn heddychlon yn ngwyneb fod dynion dyeithr yn dyfod i gymeryd eu lie yn y gwaith. Beth a allasai fod yn fwy can- moladwy na hyn ? Rhag ofn terfysg, dywed Mr. DAL- ZIEL, fod yr awdurdodau wedi cymeryd arfau o feddiant vohmteers, yn Moun- tain Ash. Yr oedd swyddogion y meistri yn glaiar iawn yn eu hymdrechion i gy- northwyo y gweithwyr newydd. A dywed Mr. DALZIEL gyda phwyslais mawr, mewn llythyrenau Italaidd, "Mewn unrhyw strike ddyfodol dylai y meistri fod yn wyliadwras ar eu swyddogion." Dyma rybudd i gaffer- iaid i fod yn slafiaid ufydd, fel telerau eu cyflogau da. Cyfododd gofid i'r meistri, druain, oddiwrth y dynion newydd. Cymeras- ant bob peth yn hamddenol. Dywed Mr. DALZIEL fod y dynion newydd hyn yn treulio eu hamser mewn segurdod. Ac nid oedd y meistri yn eu ceryddu am hyny. Nid oedd ond ychydig iawn o lo yn dyfod i fyny. Yr oeddynt yn gofalu gofyn am eu cyflogau. Yr oedd siomedigaeth y meistri yn fawr. Ac aeth y dynion yn ol i swydd Stafford mewn ycbydig o wythnosau. Wedi cael oddeutu 500 o weithwyr dyeithr, o wahanol barthau, am ychydig o wyth- nosau, dywed Mr. DALZIEL, "The result, so far as the actual work was concerned, was miserable in the ex- treme." Yn y diwedd gwelodd y meistri a'r hen weithwyr mai y peth goreu a allent wneud oedd cyfarfod a'u gilydd, i gael trefnu telerau o ymheddychiad. Cymer- odd hyn Ie, a daeth y strike i derfyniad. Gofidus iawn yw y ffaith na bae hedd- wch diflwlch yn teyrnasu rhwng y meistri a'r gweithwyr hyd derfyn eithaf amser.
CYFASFOITCYNRYCHIOLWYR Y GLOWYR…
CYFASFOITCYNRYCHIOLWYR Y GLOWYR YN MERTHYR. DYMUNIR ei wneud yn hysbys y cynelir cyfarfod pwysig o gynrychiolwyr glo- feydd Deheudir Cymru a Swydd Fynwy, yn Ystafell y Gweithwyr, Merthyr, ddydd Llun nesaf, y cyfarfod i ddechreu am 11 o'r gloch. Dys- gwylir i bob glofa i anfon un cynrych- iolydd i'r cyfarfod, a gydag ef gynygiad ei gydweithwyr ar y chwech person cymhwys i fyned i benderfynu safon y cyflogau am y dyfodol, mewn undeb a chwech o ddewisiaid y meistri. Heb- law penodi ar y personau, ymddyddenir yn y cyfarfod hwn ar y safon a gynygir, yr hyn ydyw y pwnc pwysicaf i lowyr Deheudir Cymru ar yr adeg presenol. Fe gofia ein cydweithwyr, y glowyr, fod y meistri yn ei ystyried yn wir bwysig, ac yn mynych gyfarfod i ystyried y pwnc, apharotoi ar gyfer gosod i lawr safon gadarn, a hono o gwrs i fod yn un fanteisiol iddynt fel undeb. Y gofyniad sydd yn codi yw, a ydyw y glowyr yn un a chytun, ac yn barod i sefyll fel un gwr wrth gefnau y rhai a etholir ? Y mae hwn yn amgylchiad ag y byddai yn dda pe byddai ein holl weithwyr tanddaearol mewn undeb a chydweithrediad perffaith er eu cyfar- fod. Y mae yr hen ddywediad, Fed mil del) yn nerth, yn sicr o fod yn wir- ionedd mewn cysylltiad a phob dosbarth o gymdeithas, a hyny heb wneud eithriad o'n cyfeillion y glowyr; ond pa fath undeb, hwynt-hwy sydd addasaf i farnu; ond yn sicr, wedi i hyny gael ei benderfynu y tro hwn, credwn y dylai pob person roddi i fyny i lais y mwyafrif, a chario y cyfryw allan yn deilwng a pharhaol. Deallwn oddiwrth penderfyniad a basiwyd yn nghyfarfod misol dosbarth Aberdar, nos Lun diweddaf, fod y pwnc o ethol goruchwyliwr i'r dosbarth i gael ei ystyried o hyn hyd y cyarfod chwarterol nesaf—Mr. Samuel Davies i weithredu fel goruchwyliwr byd yr adeg hono.
- UNDEB CYFFREDINOL Y GOFIAID…
UNDEB CYFFREDINOL Y GOF- IAID A'R TARAWYR. CYNALIWYD Cynadledd Haner-Blyn- yddol y Gofiaid a'r Tarawyr dydd Sad- wrn diweddaf, Mehefin 26ain, 1875, yn y Crown Hotel, Aberdar. Daeth yn nghyd luaws mawr o gyn- rychiolwyr erbyn yr amser apwyntiedig. Yn apsenoldeb y llywydd cyffirediuol, etholwyd brawd 0 Lansamlet i Ianw ei Ie, a brawd arall o Gwmafon i gadair yr islywydd. Wedi cael anerchiad agoriadol pwrpasol gan y llywydd, aethpwyd yn mlaen a gwaith y cyfarfod. Mabwysiad- wyd amryw benderfyniadau pwysig er hyrwyddiant a llwyddiant yr undeb. Yr oedd yn y cyfarfod boreuol gariad a brawdgarwch trwyadl yn ffynu. Am 2 o'r gloch ymgyfarfu y brodyr drachefn, pryd y cafwyd hanes y gwa- hanol gyfrinfaoedd. Yr oedd yn dda genym weled golwg mor ffafriol ar yr achos ar ol y storom sydd wedi myned heibio. Nid oes ond ychydig o waith mewn cydmhariaeth nes cael y cylch yn grwn, ac ondnnwaith ei gael felly, bydd yn rhy gadarn i'w dori na'i ysgogi.
RYMNI—PRIODAS.
RYMNI—PRIODAS. Bu priodas yn Ebenezer, capel y Meth- odjstiaid Calfinaidd yn y lie hwn, Mehefin 16eg. Enw y ferch ieuane oedd Miss Martha Jones, merch Mr. Enoch Jones, yn ngofal yr hwn y mae storehouse Cwmni Rymni, a'r mab ieuanc oedd Mr. David Eynon, draper, Tredegar. Y mae tad y briodasferch yn flaenor gyda y Methodistiaid yn Brynhyfryd, Rymni. Gan mae Bedyddiwr perthynol i Penuel, Rymni, yw Mr. D. Eynon, cyflawnwyd y seremoni briodasol gan y Parchedigion J. Jones (Mathetes), ac E. Davies, Meth- odist, yn mhresenoldeb amryw gyfeillion. 0 ran symledd a phob gweddeidd-dra serchog, yr oedd trefniant amgylchiadau y briodas hon yn esiampl Gristionogol. Teimla perthynasau a chyfeillion y ferch ieuanc hiraeth dwfn ar ei hoi, a gobeithia ugeiniau lawer yn Rymni y caiff hi a'i phriod serchog hir oes, llawn o lwyddiant tymhorol ae ysbrydol ar y ddaear, a bod gyda er gilydd byth yn y nefoedd, fel cyd-ddeiliaid o deyrnas Crist.
I IPRIODASAU.
PRIODASAU. Yn swyddfa'r Cofrestrydd, Merthyr, Mehefin 26, Mr. Evan Thomas (Ieuan Dar,) a Miss Elen Giles-y ddau o Dre- cynon, Aberdar. Efan lwys gyda'i fin Ion,—a fo byth Fyw i barch cym'dogion, Yn rhodio hael rydiau Ion, Yn ddilys beirdd dduwiolion. Ac eirion cynydded cariad-y ddau Fel bo'u hedd yn wastad I dda a mwy bri heb ddim brad, Ter hynaws y bo'u teyrnasiad. Un Ion, hael, yw'r Ian Elen-cariadus Ceir ydyw'r ferch drylen Gem o'n bro sy n gwisgo gwen, A chall mewn digriivrch llawen. Awen a dysg yw leuan Dar,-gwr doeth Sy'n gar da ymiyngar Ei ddawn goetb, anwylddyn gwar, A gyn enaid yn gynar.—GoHSBYDD.
- MAEWOLAETRAU.
MAEWOLAETRAU. Mehefin 27, wedi diwrnod o gystudd, Mathew Samuel, baban Mr. a Mrs. T. Isaac (Daronwy,) yn ddau fis oed. Wylo ydyw'r oruchwyJiaeth-hawddaf Heddyw dan loos biraeth O'n teulu ni ein telyn aeth,—dvgwyd Hi o'r aelwyd ar ddydd ei farwolaeth. Ei DAD.