Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y NO FEU: .Helyntion y Bachgen…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y NO FEU: Helyntion y Bachgen A mddijad NEU EINION HYWEL, BBYNARSWTD. (Buddugol yn Eisteddfod ddiweddar Aberdar.) PENOD III. ENWAU gwr a gwraig Brynarswyd oeddynt Meurig a Jane Howell, ac iddynt yr oedd tri o blant—un ferch, a dau fab. Enwau y meibion oeddynt Ifor ac Einion, ac enw y ferch oedd Myfanwy. Nid oedd dim neillduol yn perthyn i un o honynt ond Einion, yr hwn oedd fachgenyn bychan hynod o siriol, a'i ruddiau yn gochion fel y rhos, a'i lygaid yn serenu o dan dalcen uchel. Mewn gair, yr oedd yn ddarlun o brydferthwch, ac efe oedd telyn y teulu, a gwr thddry ch sercli ac edmygedd yr holl ardal. Ond pan oedd y teulu hyd yr en mewn cysur, neu fel llwyn deiliog a'i frigau yn nofio mewn swyn perlifol, ymwthiodd angeu yn lladradaidd, a tharawodd y tad ag ergyd mawrol, a'r teulu dedwydd a braw a dychryn. 0! fel y mae pawb yn wylo; ac Einion bach,yn gofyn i'w fam, Pa beth a wnaf am dad eto ? Pa fodd y cawn fwyd ? Daeth dydd yr angladd, ac yn foreu du i deulu Brynarswyd. Y mae degau yn galaru, oherwydd yr oedd breichiau serch y gymydogaeth yn blethedig am wddf Meurig Hywel, yr hwn oedd yn ddyn hynod am ei rinwedd. Cladd- wyd ef yn mynwent Glyn Addewid, a gadawodd pawb y weddw a'r amddifaid by chain i wynebu ar y byd drachefn; a chan eu bod yn bur dylawd, bu raid i Ifor a Myfanwy fyned i wasanaethu, a chafodd y fam le i Myfanwy yn Lletty'rbuarth gyda hen bobl hynod am eu duwioldeb, ac Ifor a gyflogodd. gydag Arthur Edward, yn Panty- Bwynog,yr hwn oedd yn ddyn annuwiol dros ben, ie, yn gwadu y Bod oDduw. Nid oedd yn gwneud hyny o'i fodd; o na, amgylchiadau yn unig a'i gorfod- odd. Yn mhen dau fis rhoddodd Jane Hywell Einion bach yn ngofal teulu Troedyraur, ac aeth i edrych am ei cbwaer, yr hon oedd yn byw tua naw milldir oddiyno, ond wrth groesi y mynyddoedd yr oedd yn gallu myned ar bump. Cyrhaeddodd y lie erbyn deg o'r gloch yn y boreu; ac 0! y llawenydd a fu gan ei chwaer ar ei hymweliad. Yr oedd yn ddiwrnod oer, eto heb fod yn ystormllyd.—Yn y prydnawn dechreuodd barotoi i ddy- chwelyd, oblegyd yr oedd yn anesmwyth iawn yn nghylch Einion bach, yr hwn oedd ei holl ddifyrweh. 0 gwmpas pedwar o'r gloch cychwynodd yn groes iTr brynian drachefn; ond 0 pan oedd ar haner eu croesi ymgauodd y niwl am dani; ac 0 yr oedd y wybren yn duo, a phob peth yn arwyddo fod ys- torm ofnadwy gerllaw. Yr oedd rhu- adau y m6r i'w clywed am filldiroedd, a'r nos erbyn hyn wedi gollwng ei god- ran du i lawr nes cuddio penau ucbel y mynyddoedd; o drwst dychrynllyd! Rhuthra i fyny trwy y cwm gerllaw. Darnia y coedydd, cydia yn eu brigau, a thafla hwynt fel brychau tu ol i'w gefn ysgydwa a'r fath nerth nas gall iaith roddi dysgrifiad o heno. Y gwlaw a ddisgyna yn bistylloedd preimon, a/r cornentydd a lifa dros eu eeulanau, a chluda y llifogydd anifeil- iaid, coedydd, gwair, gwellt, yn un gy- mysgfa trwy y cymoedd tua'r mor; a'r llongau a glywir am filldiroedd yn taro yn erbyn y creigiau. 0 noswaith ofn- adwy Braidd nad ydym yn barod i ofyn, A ydyw Duw wedi rhoddi y frrwynarwarpobelfen." 0 1 feI y mae Einion bach yn wylo, ac yn dysgwyl am ei fam, a theulu Troedyraur yn ei gysuro, gan feddwl nad oedd wedi cych- wyn, oblegyd fod y fath ystorm wedi dygwydd. Ond tua haner dydd dra- noeth dyma ddyn o ymddangosiad boneddigaidd yn marchogaeth at y ty, a phwy ydoedd, ond Yswain Ifan, Castell Hywell. Arosodd wrth y drws, a dywedodd, "Yr oeddwn yn dyfod i lawr dros y Graig Ddu yna, ac edrychais ar y llaw chwyth, a chanfyddwn er fy mawr ddychryn ddynes yn gorwedd yn farw ar y ddaear, a gallwn feddwl fy mod yn ei hadnabod. Methais a magu digon o wroldeb i'w chyfodi, a charwn pe bai rhai o honoch yn dyfod at y drancedig, oblegyd y mae mewn cyflwr gresynus." Aethpwyd i'r fan yn union; ac 0 pwy oedd wedi syrthio dros y graig oud Jane Hywell, Brynarswyd. Aeth y newydd alaethus fel trydan mewn byr amser trwy y gymydogaeth, a braidd yr oedd ugeiniau yn credu y t ffaith. Wel! wel!! Dyna y teulu mwyaf dedwydd a breswyliai ya Nyifryn Eifion wedi ei lwyr chwalu. y O yr amddfaid! Beth ddaw o honynt yn awr ? Gwelwch Einion bach yn wylo, ac Ifor a Myfanwy bron tori eu colonau. 0 Dduw! edrych yn dy dosduriaethau. Yn y gladdedigaeth, pwy oedd yn talu mwyaf o sylw i bethau, ond Yswain Ifan, Castell Ilywell ac wrth fyned o'r fynwent, dywedodd wrth chwaer y drancedig am iddi aros dranoeth yn Brynarswyd, hyd oni byddai iddo ef dyfod i'r lan i drefnu o berthynas i'r plant. Boreu dranoeth, yn ol eiaddewid, aeth i fyny, a phenderfynwyd i Myfanwy ac Ifor fyned yn ol at eu gwasanaeth, a thrwy fod y boneddwr wedi hoffi Einion gymaint, deisyfodd ganiatad ei fodryb i'w gael, a dacw ef yn cael ei godi i'r ceroyd, tra'r dagrau yn saethu o lygaid pob edrychydd, a phan gyrhaeddodd y boneddwr y Castell, ac hysbysu ei eneth fach fod ganddo gyfaill iddi, dyna hi yn gwyllti yn deg eisieu cael trem arno. Y mhen rhai diwrnodau roddwyd ef yn yrysgol, a bnan y dang- osodd ei fod yn feddianol ar y talent- au dysgleiriaf, oherwydd cyn pen tair blynedd yr oedd fel Saul, mab Cus, yn nwch o'i ysgwyddau na'i gydysgolheig- ion.

PENNOD IV.

Gohebiaethau.

ADOLPHUS A'I FEIRNIAD.

LLYTHYR 0 BATAGONIA.

L'ERPWL.