Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
DYFODIAD Y SULTAN.
DYFODIAD Y SULTAN. Y mae'r gwr urddasol uchod yn ymweled a'n tref yn bresenol, ac er nad oes rhyw lawer o ddarpariaethau neillduol er ei dderbyn, amlwg yw fod yma ddyddor- deb mawrfrydig yn ein mysg. Y mie Sezzid Braghash bin Said, yn Ilywodr- aethu ar ddosran aruthrol o dir ar dir- iogaethau dwyreiniol Affrica, ac y mae y dyddordeb a gymerodd ac a gymera yn ddidor i gynorthwyc/r Prydeiniaid a chenedloedd gwareiddiedig ereill, i dda- rostwng caethwasiaeth, wedi enill iddo enw anrhydeddus yn mysg pob dyngar- edd oddi tan y nefoedd. Zanzibar ydyw prif farchnatfa'r byd adnabyddus am ifori a copal, ac hyd yn ddiweddar yno hefyd yr oedd prif ar- werthfa a chyrchfan y caethion. Pobl- ogaeth amcangyfrifol yr ymherodraeth yw o 80,000 i 100,000 o eneidiau, ond pan ddyga'r gwyntoedd trafnidiol—y monsoon -—Arabiaid, Indiaid, &c., i mewn o fis Tachwedd hyd fis Mawrth, y mae'r bobi- ogaeth yn arathrol luosocach. Dyma lie mae Unyanyembe, yr hwn a anfarwol- wyd, hyd na byddo amser mwyach, gan yr anwyledig ymgyrchwr anturiaethus, Dr. Livingston yno hefyd y derbyniodd y Dr. gyfarwyddiadau a darpariaethau mawrion gan y Sultan er myned yn mhellach yn mlaen i berfeddion disathr Affrica. Yr ydym yn dymuno derbyn y gwr breiniol hwn gyda'r gwresogrwydd mwyaf cysegredig. H wre! i creyrn awyr deg-y d wyrain Awdurol a gwiwdeg; Rhydd Prydain sain Saosoneg-i'w dderbyn, A selia wed'yn yr oesol adeg. Groesaw i'r dewr i groesi'r don—o'i wlad, I lys Prydain dirion Ca' yma wledda ar Ion Urdduniantyrhydd-ddynion. Pan ddychweli di o'th daith I olwg dy wlad eilwaith, O dwg yno deg hanes-Gwlad y Beibl A golud by W'B proftes Ac anog dy iron yn gynbes I lwyr waith a nefawl wres, i Drwy hen (çd y dwyrain fawr-gosod d Gais teg yn dy dymawr Drwv hawTbedd i dorflawr i- Agweddion diegwyddawr.
MELLT A THARANAU.
MELLT A THARANAU. Boreu dydd Mercher diweddaf, dir- grynodd taranau Duw holl ymysgaroedd praffaidd y dref a'r gymydogaeth. Yr oedd hwrdd-beirianau Mawrth a Iau yn eu llawn hwyliau yn gwasgar tandifrod- ol drwy holl amgylchoedd daear a nef- oedd yn y rhanbarth hwn o'r byd. Gall- esid meddwl fod yr elfenau brawychus wedi ymgynghreirio a'u gilydd i lwyr ysgubo'r solar system oddiar ei echeloedd, a chymeryd meddiant llwyr o gadair fawr yr adfeilion Yr oedd cynghanedd- ion holl-gynhyrfiol y daran yn gwneud i ni anghofio pobpetb ond golygfaoedd a thabyrddau ofnadwy ddydd y farn! Yr artilleries ofnadwy sydd yn magnelfa- oedd yr H wn sydd yn taranu yn y nef- oedd, nes yr ysgydwa sylfeini y ddaear Gweinidogaeth frawychus y mellt a'r taranau ydynt y pregethwyr nertholaf, penaf, a sancteiddiaf-mwyaf gogleisiol. a chalondreiddiol a glywsom ni erioed. Dyma osgorddlu freimol y Duw Gor. uchaf yn rhoddi i ni gipdrem arwrid gwynebpryd yr A.nfeidrol, yn nghydag esboniad cywir ar leferyddy Duw mawr. Meginau Salmau gwiwnef-ddihunant Faiddonwyr uchelnet; A'u bydron 1-f rldyd adref, Bryddestau magnelau'r nef! Tarawodd yr hylif trydanol ar dy Mr. H. Matthewson, prif glwydwr yn Water- loo Dock, ac ar dy heddgeidwad yn Eldon Place Tarawodd hefyd big-dwr St. Mary yn Birkenhead; ond yn ffodus, nis gwnaeth fawrniwaid. Gwnaethytrydan ei ffordd i dy yn Bootle. Gosododd ran o daoarern y ty ar dan, ac yn wyrthiol braidd y diangodd y teulu rhag marwol- aeth ddisyfyd. Yn ychwanegol at fraw a difrod mellt a tharanau, bu yma dan mawr eto yn Haline-soreet, lie cedwid miloedd o sypynau o attwl, a dinystriwyd gwerth £20,000 o nwyddau Yr eiddoch yn bruddglwyfus, PATHOS.
LLYTHYR 0 BATAGONIA.
LLYTHYR 0 BATAGONIA. Tre Rawson, Ebrill 20, 1875. ANWTL GTFEILLIONYr wyf yn anfon atoch i'cb hysbysu fy mod yn iach a chysurus, ac yn hoffi y lie hwn yn ar- dderchog. Ni dderbyniais yr un llytbyr oddiwrthych er y cychwynais. Hyderaf eich bod yn fyw ac iach. Cafwyd cyn- hauaf ardderchog yma eleni. Bernir fod yma rhyw bed war cant o dynelli wedi eu codi. Y gyflog wrth y cynhauaf oedd 100 pwys o wenith, a hyny am wyth awr o waith yn fwyaf cyffredin i'r sawl oedd yn gweithio i ereill, ond gweithiai pawb ereill faint a ewyllysient iddynt eu hun- am. Ni bum yn gweithio i neb ond i mi fy hun. Pris y gwenith yma yw 9s. y cant. Y mae yma long o'r enw Gwen- llian, perthynol i Young, o Buenos Ayres, yn cael ei llwytho ar yr afon. Bydd yn ymadael am Buenos Ayres yr wythnos hon, ar fwrdd yr hon y mae dau o'n cyd- wladwyr, sef Edwin Roberts a Lewis Davies, y rhai a fwriadant gychwyn am yr hen wlad. Cewch hanes y lie i fanyl- wch ganddynt hwy yn ddiamheu. Deall- wyf wrth y papyrau a anfonwyd yma ei bod hi yn amser go ddifrifol a digalon iawn yna yn nechreu Chwefror. Go- beithio fod pethau wedi dyfod i drefn yn bresenol. Credwyf fod yma le da i ym- fudo iddo, ac y mae yn anhawdd cael un lie hawddach i ddechreu byw ynddo na dyffryn y Gamwy, ac y mae yn debygol iawn y bydd dylifiad llawer yma hefyd yn y dyfodol. Gobeithio mai Cymry fydd mor ffodus a dyfod, a hyny mor fuan ag y caniata pethau iddynt. Diam- heu bydd y Wladfa yn alluog i gyflogi cant o ddyniun y cynhauaf nesaf, oblegyd bydd mwy na chymaint arall wedi ei hau eleni na llynedd. Nid yw hau yn waith mawr yma, canys y mae yma filoedd o erwau o dir heb angen eu haredig am un- rhyw gnwd pa bynag-dim ond hau a llyfni. Fealiai eich bod yn dysgwyl i mi eich cymhell allan. Yr wyf yn dweyd wrthych fel y mae pethau yn bod, a barnwch drosoch eich hun. Buasai yn dda genyf fi pe buaswn yma yn gynt, ac o ddyfod goreu pa gyntaf, am y rheswm y byddwch yn agosach i'r mor, a llai o ffordd i ddwyn eich cynyrchion i'r farch- nad. Gwelais fod yn mwriad cyfeillion y Wladfa ar ol clywed am y cynhauaf gasglu mintai erbyn Hydref. Gwell, yn 01 fy marn i, fyddai iddynt gychwyn yn Medi, fel y byddant yma fis o leiaf cyn y cynhauaf. Bydd yn gynhauaf yma yn Ionawr. Os bydd rhywrai o Gwmaman yn bwriadu dyfod, anfonwch lythyr, a phob peth a fydd yn fy ngallu i er eu groesawi mi a'i gwnaf. Mae yn debyg y teimla llawer dipyn yn hynod ar y cyntaf mewn gwlad fel hon. Mae Patagonia o ran golwg i'r llygad yn llawer gwaeth nag ydyw, am y rheswm fod yma mor lleied o wlaw, a'r gyfundrefn o ddyfrhau eto yn ei mabandod. Ond fel y dywedais o'r blaen, gellir gwneud y dyffryn hwn yn lie paradwysaidd iawn gydag ychydig o gelfyddyd. Mae yma dir cynyrchiol iawn yn ddiamheu, fel y prawf y gwenith sydd yn cael ei godi yma. Mae yma yn awr ddau ystordy, ac y mae braidd bob peth ynddynt sydd yn angenrheidiol, ond eu bod yn hytrach yn ddrud. Daeth y Hong Gwenllian a dau beiriant medi ac un peiriant dyrnu yma felly chwi welwch fod y Wladfa yn llwyddo. Ydwyf, gyda chofion at bawb, WILLIAM THOMAS.
AT PHILLIP JONES A'R TEULU.…
AT PHILLIP JONES A'R TEULU. lebyg y deallwch mai myfi sydd wedi ysgrifenu y llythyr i W. Thomas, ond efe sydd yn fy nghyfarwyddo beth i anfon. Pe buaswn i yn ysgrifenu atoch, ni fuasai genyf ddim yn wahanol, ac oni b'ai ei fod ef yn gwneud hyny, buaswn i yn ysgrifenu. Tybiwyf eich bod yn gweled na fyddai ysgrifenu dau lytbyr at yr un person ddim ond gwaetraffi ar amser i'w ysgrifenu a'i ddarllen. Yr wyf fi, fy meistres, a'r plant yn anfon ein serch I atoch fel teulu, a phawb ereill a fydd yn holi rhywbeth am danom. I Yr eiddoch yn gywir, J. C. EVANS.
[No title]
YN Talyllyn, dydd Sadwrp diweddaf, cafodd glanhawr, o'r enw Spacey, ei ladd ar y reillfordd. Rhywfodd yr oedd wedi syrthio ar y cledrau, ac wedi cael ei ddarnio i farwolaeth.
CYNADLEDD YR IFORIAID.
CYNADLEDD YR IFORIAID. CYNALIWYD y gynadledd honyn Calfaria Hall, Aberdar, dydd Mawrth diweddaf. Cynaliwyd y cyfarfod cyntaf mewn cy- sylltiad a'r gynadledd nos Lun yn neuadd y Cardiff Castle. Amean y cyfarfod hwn oedd rhoddi derbyniad croesawgar i gynrychiolwyr y gynadledd. Llywydd y eyfarfod oedd Dr. Price, a chymerwyd yr is-gadair gan M. Davies, Abertawe. Dywedai y Dr. mae math o free-and-easy oedd y cyfarfod i fod, ac nad oedd ganddo yr un programme. Cymerwyd rban ganyddol ynddo gan Gwilym Cynon (gwestiwr y Cardiff Castle), Eos Dar, Hywel Cynon, Gwynalaw, a pharti perthynol i Aberdar, dan arweiniad Mr. David Davies. Anerchwyd y cyfarfod gan Mr. Thomas Williams, Ysgrifenydd Adran Aberdar Mr. W. George, Ysgrif- enydd yr Undeb Mr. Williams, Sir- howy Mr. J. B. Thomas, Pontypridd; Mr. John Johns, a Mr. John Davies. Agorwyd y gynadledd am ddeg boren dydd Mawrth gan y Llywydd, Mr. Richard Evans, Cwmnedd, pryd yr oedd yr Is-lywydd, Mr. Thomas Williams, Sirhowy Ysgrifenydd Cyffredinol, Mr. William George, Llanelli; Trysorydd, y Parch. Dr. Price, a haner cant o gynrychiolwyr yn bresenol. Pan alwyd ar y Dr. Price i wneud ei adroddiad fel Trysorydd yr Undeb, dy- wedodd nad oedd ceiniog o olddyled ar neb i'r Undeb, ond fod pawb wedi talu yr oil oedd arnynt, a hyny yn brydlon. Wedi hyny, cafwyd anerchiad agoriadol y llywydd, yr hwn a ddywedai ei fod yn falcho allu gadael llywyddiaethyrUndeb i'w ganlynydd yn ddiddyled. Ei fod yn awyddus iawn am gael yr anrhydedd o gael bod yn Ilywydd yr Undeb cyn ei fedd. Yn adroddiad yr Ysgrifenydd, cafwyd y manylion cyfrifol canlynol:— Rhif yr aelodau yn onawr laf, 1874, 21,952 rhif yr aelodau a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn, 1,837: a dderbyn- iwyd trwy lythyrau, 81 cyfanswm, 23,876. Nifer yr aelodau a fuont feirw yn y flwyddyn, 336; ymadawyd trwy ly- thyrau, 52; eto trwy beidio talu, 649 eto a ddiarddelwyd, 10 cyfanswm, 1,047. Rhif yr aelodau yn Ionawr laf, 1875, 22,823; cynydd yn y flwyddyn, 891; rhif gwragedd aelodau a fuont feirw yn y flwyddyn, 175; rhif yr ad- ranoedd, 25; cyfrinfaoedd, 307; aelod- au, 22,823.
Y TRYSORFEYDD.
Y TRYSORFEYDD. Gwerth y cyfrinfaoedd yn Ionawr laf, 1874, £ *88,928 8s. 11c.; derbyniwyd yn ystod y flwyddyn, £ 32,535 6s. 3c.; cyfan- swm, £121,463 15s. 2c. Talwyd i gleif- ion ac ar farwolaethau, £23,070 3s. 4c. Gwerth y cyfrinfaoedd Ionawr laf, 1875, £ 97743 lis. 10c; cynilwyd yn y flwyddyn, £7,865 2s. lie.; swm eyfartal i bob aelod yn yr Undeb, £458. 8c.; gwerth y Drysor- fa Undebol mewn arian, £2,346 18s. lie.; eto mewn nwyddau,£178148. 7c.; cyf- answm, 2,525 13s. 6e. Rhif yr aelodau yn 1865, 15,775; cynydd yn y 10 mlyn- edd, 7,048; yn flynyddol, 704. Gwerth y cyfrinfaoedd yn Ionawr, 1865, £61,800; cynydd yny 10 mlynedd, £ 35,993 lis. 10c,; cyfartal blynyddol, £3,599 7s. 2c.; gwerth y drysorfa undebol yn Ionawr, 1865, £900; yn Ionawr, 1875, £2,525 13s. 6c.; cynydd yn y 10 mlynedd, tl,625 13s. 6c.; ar gyfartal yn flynyddol, zC162 lls. 3c. Derbyniwyd y manylion hyn oddiwrth yr ysgrifenydd gyda chymeradwyaeth mawr, ac nid yn ami y ceir swyddog mor feistrolgar ar ei waith. Yr oedd y Parch. Dr. Price yn dweyd y nos gyntaf am Mr. Thomas Williams, mai ei feibl oedd Rheolau Cyffredinol yr Undeb, a chredwn y gallai ychwanegu mai beibl Mr. George oedd rhifnodau a chyfrifon yr Undeb. Wedi cryn lawer o ddadleu o barthed ychydig welliantau yn y rheolau, awd yn mlaen ag ethol y swyddogion am y flwyddyn ddyfodol. Y radran a enillodd i benodi cyfrifolygwrydyw Adran Aber- ystwyth. Y gynadledd nesaf i'w chynal ynDowlais. Llywydd am y flwyddyn ddyfodol, Mr. Thomas Williams, Sir- howy is-lywydd, J. Roberts (Alawydd), Penybont-ar-Ogwy.
AT BWYLLGOR CYNORTHWYOL PONTYPRIDD.
AT BWYLLGOR CYNORTHWYOL PONTYPRIDD. MAE yn ddywenydd genym gael eich eydnabod fel pwyllgor am eich rhodd annysgwyliadwy am yr hyn a wnaethom ar eich rhan yn adeg y strike ddiweddaf, a gallwn eich sicrhau y bydd yn dda genym, tra y cyhoeddwn y DARIAN, i wasanaethu unrhyw bwyllgor a fydd am weithredu yn ngwyneb haul a llygad goleuni mewn unrhyw gysylltiad a'n cyd- weithwyr. Un o'npenderfyniadau cyntaf wrth gychwyn oedd, y buasem yn gwas- anaethu ein cydweithwyr fel corff mewn hysbysidau, fel mewn pethau ereill., yn rhad ac am ddim, ac yr ydym yn bender- fynol o sefyll at y cyfryw. Mae pwyllgor cynorthwyol Trecynon a chwithau wedi ein cydnabod yn deilwng, a gobeithiwn y y derbyniwch ,ein cydnabyddiaeth cy- hoeddus hwn yn yr. un ysbryd ag y mae yn cael ei roddi. Yr eiddoch yn ostyngedig, MILLS, LINCH, A DAVIES.
IY COR MAWR A'R MUDIAD AMERIGAXAIDD.
Y COR MAWR A'R MUDIAD AMERIGAXAIDD. PRYDNAWNdydd Iauyrwythnos diweddaf ymgyfarfyddodd cynrychiolwyr y Cor Mawr yn Calfaria Hall, Aberdar. Yn absenoldeb llywydd y pwyllgor, ethol- wyd y Dr. Price i'r gadair. Wedi i'r llywydd agor y cyfarfod, ac i beth ym- ddyddan gymeryd lie mewn cysylltiad ag ymweliad diweddar y Cor a Chas- newydd, galwyd ar Brythonfryn i ddarllen y llythyrau a dderbyniwyd oddiwrth awdurdodau y Palas Grisial mewn cysylltiad a'r cwpan a enillwyd gan y cor. Yr oedd awdurdodau y Palas wedi anfon er's peth amser am i'r cwpan gael ei ddychwelyd yn ddioedi. Ni wnawd hyn, a gofynwyd am eglurhad paham v gwnawd y fath gais. I hyn cafwyd atebiad, fod eisiau y cwpan, am fod y gystadleuaeth gerddorol ar gym- eryd lie, ac fod angen y cwpan fel rhan o'r arddangosiadau yn ystod y cyfryw gyfarfodydd. Ystyriai y- parchus lyw- ydd,ynnghyda'rpwyllgoryn gyffredinol, nad oedd awdurdodau y Palas wedi gwneud yn iawn, ond fod gan y Cor Mawr hawl i'r her-wobr hyd nes y byddai i ryw un gymeryd yr her i fyny. Sylwai y Dr. fod Tom Sayers a hawl i'r belt nes y buasai dyn gwell yn ei chymeryd oddi- wrtho. Yr oedd ganddynt felly, yn ei dyb ef, hawl moesol a chyfreithlon i gadw y cwpan am beth amser yn hwy. Pender- fynwyd ei gadw nes y byddai i awdurdod- y Palas brofi y dylent ei roddi i fyny, neu ynte nes y byddai i ryw gor ddyfod allan yn erbyn Cor Mawr Deheudir Cymru. Dywedai y Dr. yr elent a'r cwpan gyda hwynt i'r America os pen- derfynent fyned yno. Y pwnc nesaf oedd rhoddi i'w cadw y cwpan a roddwyd i'r cor gan Bwyllgor Llundain, y faner a roddwyd iddynt gan Mri. Howell a Chyf., Caerdydd, a'r ddwy arweinffon a dderbyniwyd gan Gymry Awstralia a Califfornia. Pender- fynwyd gosod y pethau hyn, yn nghyd ag eiddo arall a berthynai i'r cor, yn Mhrif Ysgol Aberystwyth, a hyny yn enwau y boneddwyr canlynol fel ymddir- iedolwyrDr. Price, Caradog, Eos Mor- lais, Mr. J. P. Lewis, Merthyr; Mr. Joseph Mathews, Castell Nedd; Mr. David Nicholas, Cwmafon; a Mr. D. E. Coleman, Mountain Ash. Wedi hyn arddangosodd y Dr. yllyth- yron, a'r anerchiadau a gyhoeddwyd genym rai wythnosau yn ol, y rhai a anfonwyd i'r Cor gan Gymry New South Wales, ac a gollwyd am rai dyddiau oddiar fwrdd yr Schiller. Yr oedd yn y llythyr hwn, fel y cofir, £27. Penderfynwyd gadael yn agored dysteb Caradog hyd ddiwedd y flwyddyn. Y mae yn ymddangos mai lied araf y mae y tanysgrifiadau yn dyfod i mewn at y mudiad teilwng hwn. Gobeithiwn na thry y mudiad yn warth i ni fel Cymry. 0 barthed y mudiad i America, dy- wedai Caradog ei fod yn barod i'r ym- 0 gymeriad, a'i fod hefyd yn credu y byddai i'r mudiad droi allan yn llwydd- ianus. Cymerodd siarad brwd le ar y pwnc hwn, a dywedai y Dr. wrthynt mewn iaith eglur y rhwystrau oedd gan- ddynt ar y ffordd, &c. Y penderfyniad y deuwyd iddo oedd, fod yr ysgrifenydd i ohebu ag awdurdodau America, a gofyn iddynt a gelai y Cor safle yn yr wyl, yn Gorphenaf 4, 1876. Gohiriwyd y cyfarfod nes cael atebiad oddiwrth awdurdodau America.
EISTEDDFOD CYMDEITHAS LEN-YDDOL…
EISTEDDFOD CYMDEITHAS LEN- YDDOL DOWLAIS, GORPH.17, 1875. DERBYNIWYD y cyfansoddiadau yn dwyn y ffugenwau canlynol:—Mynyddlanc, Ab Ofydd, Rhys, Y Geraint Goch, Gwalch Dyfed, Rhys ab Gwilym, Y Gwaelaf i gyd, Plentyn Llafur, Cromwell, Gomer, Abraham, Israel, Abednego, Estron o'r Ystrad, Cymro, Ab Dewi, Bachgenyn,Ab Morlais, Awenydd, Un yn byw mewn hiraeth, Owen ab Iorwerth, Gweithiwr Caled, a Brynfab. Cofied yr olaf ei fod yn defnyddio enw bardd o fri, a phrif ddiwygiwr yr oes. Rhumni. TWYNOG JEFFREYS.
GADLYS, ABERDAR.
GADLYS, ABERDAR. MAE yn hysbys i bawb bellach mai araf iawn y mae gwaith tan y lie uchod yn cerdded er ys llawer dydd, ond bell. ach y mae wedi aros am dymhor. Nis gwyddom pa mor gynted y daw cyfnewid- iad, ond gobeithiwn y bydd hyny yn fuan. Mae y gwaith glo yn myned yn mlaen yn o lew hyd yn hyn, beth bynag am y dyfodol. Mae tua chant o weith- wyr Hen Bwll y Gadlys, y rhai sydd yn gweithio yn y pedair isaf (lower four feet) wedi rhoddi rhybudd dydd LIUM. diw- eddaf am dair ceiniog y dynell o godiad, ac y mae ganddynt resymau digonol, i'm tyb i, am eu hymddygiad. 1. Am fod trwch y glo yn llai na'r pedair yn gyff- redin trwy y cwm. 2. Ammài glo llaith ydyw, neu mewn geiriau ereill, glo gwan. 3. Am fod y pellder cymaint i'w osod yn y tramgan y glowyr cyn y cyrhaedda ben y pwll, neu yn hytrach ben y daith. Nid oes genym ond gobeithio y daw y g meistri a'r gweithwyr i gydwelediad a'u gilydd cyn y terfyna y rhybudd. SLLLYDD.
SCIWEN, GER CASTELLNEDD..
SCIWEN, GER CASTELLNEDD.. ANEYNYCH y gwelir enw y lie uchod ar dudalenau eich papyr clodwiw. Dichon fod hyn i'w briodoli i'r ffaith fod y lienor twymgalon Sciwenfab, o'r lie hwn, wedi ei ddal gan gystudd er's llawer o fisoedd bellach. Mae Sciwenfab yn un a gerid yn fawr yn y gymydogaeth, a chan ei gydweithwyr yn gyffredinol, a phawb yn ddyeithriad yn dymuno ar iddo gael ad- feriad buan yn ol i'w gynefinol iechyd.
DAMWAIN ANGEUOL.
DAMWAIN ANGEUOL. Dydd Llud, yr 28ain cynfisol, fel yr oedd dyn o'r enw David Herbert, o'r lie hwn, yn dyfod oddiwrth ei waith o'r Red Jacket, a phan yn dyfod ar hyd y linell sydd yn cludo glo Cwmni Dynevor i'w ddadlwytbo, daeth i gyffyrddiad a'r ager- beiriant, yr hwn a'i tarawodd ef i lawr, ac aeth yr olwynion drosto, a niweidiwyd ef mor fawr fel y bu farw yn y fan. Dyma rybudd eto i bawb i fod yn fwy gofalus yn y dyfodol. Y dydd Llun blaenorol claddwyd ei wraig. Gadawodd bedwar o blant i alaru ar eiol, y rhai a gollasant dad a mam mewn ysbaid wythnos. M.L.
Advertising
TO BE SOLD BY PRIVATE CONTRACT. IN one or separate lots, FOUR SUBSTAN- 1 TIAL COTTAGES, Nos. 390, 391, 392, 393, Cardiff Road, Aberdare, occupied by Wm. Morgans and others. Ground rent £47s. Area. 522 square yards. Unexpired lease 74 years. For further particulars apply at Crawshay's Arms, Hirwain. NOTICE. TO THE CLERGY, GENTRY, & NOBILITY OF SOUTH WALES. H. STEVENSON, 11, CARDIFF STREET, ABERDARE, Organ Builder, Pianoforte, and Har- monium Maker. ORGANS manufactured on the American Or- gan Free Reed Principle-the only manu- facture of these Free Reed Instruments in South Wales. All kinds of Organ and Harmonium Fittings supplied. Works:—Station-street, and back of the- "Tarian y Gweithiwr Steam Printing Offices. Organs, Harmoniums, and Pianofortes tuned' by the year or otherwise. EVAN LLOYD, London House, ABEEAMAN, BEGS to inform the public generally that he always holds a very large assortment of all kinds of DRAPERIES. 33RJESS STUFFS In endless varieties; namely, French Merinoes, Coburgs, Lustres, Alpacas, and FANCY DRESS STUFFS. MILLIlsrERY. q V-y ?IXTAT A^ATTT T?Let^eS °{1 a11, kinds of' Millinery and a FIRST-CLASS MILLINER employed. n MANTLES m abundance. FANCY GOODS of all descriptions and in great varieties. n WOOLLEN CLOTHS. A LARGE STOCK of Broads and Narrows. TAILORS always kept on the premises to make up orders. OTJTFITTIJST Gr For Men, and_ Boys. READY-MADE CLOTHING in abundance, consisting of Cloth, Moleskin, and Duck Goods. In fact? ue&riy 9-11 kinds of DRAPERY for Ladies^ Gentlemen^ and Children^ may be had at LONDON HOUSE, ABERAMAN. ¡ G0HIRIAD YR EISTEDDFOD IF0RAIDD. YN N'ghyfarfod Chwa-rterol yr Adran, y 7fed cyfisol, penderfynwyd oedi penodi adeg cynaliad yr Eisteddfod Ifor- aidd hyd y cyfarfod trimisol nesaf, sef y Llun cyntaf yn Medi. Ar ran yr Adran, DAviD DAviES/U.L.A. DAVID HITCHINGS, I.L.A, THOMAS WILLIAMS, Y.A.
L'ERPWL.
allan o'i gaethiwed, ond rbagorfraint y Freinlen Fawr. Nos Iau, yn yr un Neuadd, cafodd y Dr. ei fygwth a'i ddifenwi gan fintai o eulonysiaid ysgymun a gwaradwyddus: y mae yn liiaidd meddwl fod doethorion pena'r tir yn gorfbd gosod eu hunain yn nod i saethaubrwynenaiud y Tv crin ddicliell- ddrwg, di-foes, di-urddas, a didalent ydynt y eyffredinolrwydd o'r werin arddangosiadol hyn; ond eto y maent yn meddu'r fath ystorfaoedd o haer- llugrwydd a bombasteiddiweh, fel nas gwyddiant wahaniaeth rhwng un o'r un iathnod a hwynthwy eu hunain, ag un sydd yn mhell uwchlaw eu cyrhaedd- iadau hwy i'w amgryffred na'i ddilyn. Cawsom ni foddlonrwydd mawr yn y Dr. hyawdl ac athrylithfawr, ae yn ngwyneb ei fod yn ymladd a chynifer o pseudo-philanthropists rheglyd, llawn o oddities a whimsicalities, yr oeddem. o galon yn teimlo drosto, ac yn nghanol y chwyldroadau cythryblus nos Fercher yr oeddem ni yn mwynhau eia hun yn mhreichiau cadair welii Apollo PWDC niwliog pen Kenealy-yw "Roger," Ragah mawr tylodi; gwr mawr ar lawr dan li', A'i feddwl bron ar foddi. 0 bair y farn bwria fellt, A gwg ynfyd gog-anfellt, I geisio darbwyflo byd, I 'dwmlo' Roger doinlyd Allan o'i garch-gelloedd A rhoi blwng hwre a bloedd, Nes synu gwlad a senedd, A dwyn lawr drydanawl hedd, A dewrfeib iawnedd dirfawr, 0 Eden fyg Prydain Fawr Magna Charta—Wagga Wagga, A gyhoedda yn dragvyddol Rhega farnwyr-gwna ddadleuwyr Yn ymyrwyr croes a marwol. Ei gynddaredd sy'n ddiddiwedd, A'i ddialedd yn ddiwaelod Ei weis lJeriant-croeh-fytheiriant, Ac a boerant fel gwiberod Y Senedd yw gorsedd gwynt. Yn ol ei brydyddol dunt; A phot>peth sy'n beth di-boint, Ond y Cigydd rhydd ei rent