Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
RHWYMAU Y MEISTR A'R GWEITHIWR.
RHWYMAU Y MEISTR A'R GWEITHIWR. Y GYFRAITH NEWYDD. Y MAE y gyfraith newydd yn nghylch dyledswyddau meistri a gweithwyr tuag at eu gilydd yn awr o'n blaen. Ei theitl yw, Employers and Work- men [38 & 39 Viet. ch. 90] A.D. 1875." Cynwysa bymtheg o adranau. Dywedir fel y canlyn yn y rhan ar- weiniol i'r gyfraith hon "Gweithrecl i helaethu awdurdod Llysoedd Sirol (County Courts) mewn cysylltiad a dadleuon rhwng meistri gwaith a gweithwyr, ac i roddi i Lysoedd ereill awdurdodaeth derfynol wladol gyda golwg ar y dadleuon byn (Awst 13, 1875/' Dywed yr ail adran fod y weithred hon o gyfraith y wlad i ddyfod mewn grym Medi 1, 1875. Felly y mae hi mewn grym yn awr. Adran y trydydd a rydd awdurdod rrllys i orchymyn taledigaeth arian, i ddileu cytundebau rhwng meistr a gweithiwr, i orchymyn gwneud colled- ion i fyny, colledion y rhai a ganlyn- ant doriad cytundeb, ac i dderbyn meichniaeth yn sicrhau y gwneir y colledion hyny i fyny. Unrhyw feich- iau a dalo arian dros yr un a feichnia, a fedda hawl i'r arian hyny fel dyled iddo ef oddiwrth yr un a feichnia. Yn ol adran y pedwerydd, gall ynad- on cyffredin orchymyn talu cyflogau, neu orchymyn gwneud i fyny golledion os na bydd y swm a ofynir na'r feich- niaeth yn fwy na deg punt. Yn ol adran y pumed, gellir myned a dadl rhwng meistri a phrentisiaid o flaen yr ynadon. Adran y chweched a awdurdoda yr ynadon i ddelio a dadl rhwng meistri a phrentisiaid yr un fath a rhwng meistri a gweithwyr. Gallant orchy- myn i'r prentis fyned at ei waith ac os dileant weithred cytundeb y prentis, gallant orcbymyn i ran neu yr oil o'r breintobwy (premium) i gael ei dalu yn ol, Os gorchymynant i'r prentis wneud ei waith, ac os parha efe yn anufudd am fis wedi hyny, gallant ei garcharu am bedwar diwrnod ar ddeg, end nid am ragor o ddyddiau na hyny. Yn ol adran y seithfed, gall yr ynad- on wysio meichiau y prentis o'u blaen, a'i orchymyn i dalu arian i wneud i fyny y colledion a achoswyd gan y prentis trwy esgeuluso ei waith, yn ol telerau y cytundeb. Gall Ilys yr ynadon dderbyn meichiau dros y pren- tis, i rwystro y gosb neu ran o honi, trwy ymrwymo y caiff y prentis gyf- lawni ei waith. Dengys adran yr wytbfed y modd y rhoddir neu y derbynir rheichniaeth. Adran y nawfed a eglura derfynau awdurdod yr ynadon. Y mae adran y ddegfed yn nodi allan pwy yw y 11 gweithiwr yn ol y gyfraith. Nid yw yn golygu gwas neu forwyn mewn teulu, neu is-was neu forwyn, ond gweithiwr mewn flvrmwr- iaeth, dydd-weithiwr (journeyman), crefftwr, Uaw-gelfyddydwr, mwnwr, neu ryw un a fyddo yn cyflawni rhyw law- waith. Y mae y cyfryw yn rhwym wrth y gyfraith hon, bydded ef o dan neu oddiar un-ar-hugain oed, os bydd yn gweithio o dan gytundeb a meistr gwaith, bydded y cytundeb yn cael ei ddatgan neu yn cael ei ystyried mewn bod, mewn geiriau o eneuau, neu mewn ysgrifen, wedi cael ei wneud cyn neu wedi i'r gyfraith hon basio. Rhaid ei fod yn gytundeb i gyflawni gwasan- aeth neu waith personol mewn rhyw waith nen lafhr dwylaw. Yn yr adran hon desgrifir pwy yw yr ynadon:— (1.) Arglwydd Mayor Llundain, neu unrhyw Alderman, yn eis- tedd yn Mansion House nen Guildhall, Llundain. (2.) Ynadon y Police yn Llundain. (3.) Ynadon cyflogedig mewn un- rhyw ddinasoedd, trefydd, bwrdeisdrefydd, lie, neu ddos- peirth o'r wlad, neu lysoedd y JPolice, yn mha rai y trefnir iddynt weithredu. (4.) Mewn manau ereill, unrhyw ynadon heddwch. Ond rhaid i achwyniadau gael eu dwyn o flaen y rhai byn pan y bydd dau neu fwy o honynt yn nghyd mewn petty sessions, pryd y byddant mewn awdurdod i orchymyn carchariadtroseddwr. Yn ol adran yr unfed-ar-ddeg, nid yw plentyn a gymerir o'i waith, yn ol cyfreithiau y Factory, sef y rhai o 1833 i 1874, i golli ei gyflog am y gwaith a wnaeth cyn ei ymadawiad ag ef, ond mor belled ag yr ystyrir fod y meistr yn golledwr trwy ei ymadaw- iad a'i waith. Adran y ddeuddegfed a eglura der- fynau prentisiaeth o dan y gyfraith hon. Y mae y rhwymedigaeth a rydd ar brentis gwaith, gyda pha un na thelir dim breint-obwy (premium), neu un na byddo y freint-obrwy yn fwy na phum punt ar hugain, neu ar brentis a rwymir o dan gyfreithiau perthynol i dlodion plwyfau. Adran eithriadol, gyda golwg ar brentisiaid, yw y drydedd ar ddeg. Dywed nad yw y gyfraith honyn tyiiu oddiwrth utc yn byrhau unrhyw ddeddf neu awdurdod leol neillduol perthynol i brentisiaid ac nad yw y gyfraith hon yn gymbwysiadol at for- wyr, nac at brentisiaid i wasanaethu ar y mor. Y mae adran y pedwerydd-ar-ddeg yn cynwys newidiad ffurf ymadroddion er eymhwyso y gyfraith at Scotland. Adran y pymthegfed a wna yr un peth gyda golwg ar yr Iwerddon. Hawddgweled fod rhediad cyflred- inol, ysbrydiaeth, ac amcaniaeth y gyfraith hon yn Doriaidd. Nid oes un sillaf ynddi yn awgrymu y posibl- rwydd y bydd y meistr yn debyg o dori cytundeb, nac unrhyw drefniant i'w gosbi am dori cytundeb, nac unrhyw rwymau i gael ei osod amo i wneud colledion i fyny i'r gweithiwr yn ngwyneb fod cytundeb yn cael ei dori ganddo. Dichon fod rhwymedig- aethau y meistr i dalu cyflog, &c., yn adranau y trydydd, a'r pedwerydd fel materion cynwysedig a chasgliadol, ond y mae y gyfraith wedi cael ei geirio drwyddi, fel pe na byddai neb yn debyg o fod yn droseddwr ond y gweithiwr. Yn ol adran y ddegfed, dichon i ddau feistr gweithwyr fod yn ynadon mewn petty sessions, yn setlo y ddadl rhwng meistr a gweithiwr, yn cyfrif collodion ac yn cosbi am adael gwaith, oddiar eu self interest" eu hunain, naill ai yn bersonol neu fel dosbarth. Gwyddai cynlluniwr y gyfraith na byddai tebygolrwydd y byddai gweith- wyr byth yn ynadon, ond fod sicrwydd y byddai llawer o feistri yn ynadon. Ni buasai neb ond Toriaid yn rboddi awdurdod i feistri fel ynadon i bender- fynu dadleuon rhyngddynt eu hunain a'u gweithwyr. Yn ol cyflawnder, dylasai canolwr ynadol fod yn ddyn mewn sefyllfa berffaith anmhleidiol tuag at y gweithwyr a'r meistri. Ni bydd gweithwyr Cymru, hyderwn, yn anghofio mai y Toriaid a wnaeth y gyfraith unochrog hon pan y delo Tory i ofyn am eu pleidleisiau mewn etholiad seneddol.
i MASNACH GLO A HAIARN.
MASNACH GLO A HAIARN. CAERDYDD, Awst 28.Cynydd yn mas- nach dramor haiarn. Dysgwylir mwy o fywyd mewn masnach yn fnan. Mas- nach glo yn dra llwyddianus; ao os aIff pethau yn mlaen fel y maent yn awr, bydd gweithwyr a meistri pyllau glo wedi adferu eu hunain o ganlyn- iadau eu dadleuon yn lied lwyr. Middlesborough.—Y mae prishaiarn yma wedi cyfodi 2s. 6e. y dynell. Birmingham.—Y mae masnach yma yn bywhau yn mhob canghen. Middlesborough, Awst 31.—Y mae ton masnach yma heddyw yn foddlonol dros ben, mewn pig iron. Y mae prynwyr yn barod i roddi prisoedd, y rhai na wrandawent ar neb yn son am danynt wythnos yn ol. Y mae pob math o haiarn yn myned yn dda. Y mae llong-lwythi trymion, a dysgwylir i'r fasnach dramorol gynyddu yn fawr yn mis Medi. Wolverhampton, Medi 1.—Y mae mwy o archebion yn Haw y meistri nag er ys cryn amser yn ol. Y mae cystadleuaeth Belgium wedi terfynu yma; gan fod haiarn Staffordshire 15s. o dan bris haiam Belgium, y mae wedi ei drosglwyddo i'r warehouses. Newcastle, Medi 2.Dywedir fod masnach glo i'r dwyrain yn isel yma, am y gall prynwyr gael glo ager yn rbatach yn Nghaerdydd. Y mae rhagor o ofyn yma am lo nwy. Caerdydd, Medi 2. Cymerwyd 11,500 o dynelli o lo o'r porthladd bwn, yn yr wythnos a ddibena heddyw, mewn llongau, yn fwy na'r wythnos o'r blaen, ac ymae y, rhagolygon yn y dyfodol yn foddlonAiawn; ondniarw- aidd yw masnach haiarn. 4
YR AWYRWYR AMERICANAIDD.
YR AWYRWYR AMERICAN- AIDD. Y MAE sicrwydd wedi ei gael erbyn hyn am dynged ofidus Donaldson a Grim- wood, y rhai a esgynasant yn awyren Barnum, o Chicago ychydig yn ol. Deuwyd o hyd o gorff Grimwood ar lan llyn Michigan, gan lythyr-gludydd. Yr oedd y corff mewn cyflwr pell o ddadfeiliad, y gwallt a rhan o'r gwyneb wedi eu cymeryd ymaith; ond yr oedd y papyrau, yr oriawr, a phethau ereill a gafwyd ar ei person, yn brofion digon- ol pwy ydoedd. Yn llaw-lyfr Grim- wodd yr oedd banes am esgyniad yr awyren, a'i thaitham awr o amser uwch ben llyn Michigan; ac yn mysg sylw- adau ereill yr oedd Pe syrth- iem, byddai ein cwymp fel eiddo Lucifer or nefoedd; ac erbyn i ni gyr- aedd y ddaear, neu yn hytrach y dwfr —gan ein bod yn awr ar ganol Lyn Michigaa-byddem yn fodau meirwon. Gwneir ymchwiliadau mewnol am weddillion Donaldson. —
LLOFRUDDIAETH YN NEWCASTLE-UNDER-LINE.
LLOFRUDDIAETH YN NEW- CASTLE-UNDER-LINE. DYDD Llun diweddaf cafodd dyn canol oed, o'r enw Aaron Vernon, ei ladd gan ddyn arall o'r enw Ward Maley, yn nhy yr hwn y lletyai Vernon. Yr oedd y ddau mewn diod, ac wedi bod yn cweryla mewn tyfarn o barthed i fenyw yr oedd Vernon yn cydfyw a hi. t
SYRTHIAD YSTORFA YN LIVERPOOL,…
SYRTHIAD YSTORFA YN LIVERPOOL, A CHWECH WEDI EU LLADD. ODDEUTU pedwar o'r gloch prydnawn dydd Mawrth diweddaf yn ddisymwth, syrthiodd chimney uchel perthynol i ystorfa sugr Mri. Tate a'i fab, Manesty- lane, yr hwn yr oeddynt ar ganol ei dynu i kwr, ar do gweithfa hetiau Mri. Legg. Yr oedd yr adeilad yn hen iawn. ac achosodi syrthiad y chimney iddo fyned yn ddarnau ar un- waith. Credir fod oddentu triugain o weithwyr, y rhan fwyaf yn fenywod, yn yr adeilad ar y pryd, ond gallodd y rhan fwyaf ddianc. Yn yr ymchwil- iad cafwyd fod tair wedi eu Uadd, a naw wedi en niweidio yn fawr.
CYNGERDD CARADOG YN .NGHASNEWYDD.'
CYNGERDD CARADOG YN NGHASNEWYDD. AM ddeg o'r gloch boreu heddyw, dydd Iau, y mae (Jor Undebol Aberdar, yn nghyda canoedd ereill, yn cychwyn gyda cherbycres rad tua Chasnewydd, lie y mae dwy gyngerdd i gael eu cynal gan y cor a'r glee party, dan arweiniad y bydenwog Caradog. Y mae y gyngerdd gyntaf i'w chynal am dri o'r gloch, ar y Marches; a'r ail yn yr hwyr yn y Vic- toria Hall. Bydd y gerbydres yn dy- chwelyd yr un noson. Y mae y cor yn cynwys rhyw ddau gant o aelodau, ac yn mynad trwy ddarnau gorchestol Handel, Mozart, &c., yn fendigedig. Y mae tocynau rhad i Gasnewydd yn gaffael- adwy i bawb a ewyllysiant fyned am bleserdaith am y dydd.
MARWOLAETH MRS. DAVIES, PRIOD…
MARWOLAETH MRS. DAVIES, PRIOD MR. CARADOO DAVIES, SWYDDFA Y "DARIAN." AR ol claddu ei dad, ei fam, a'i anwyl blentyn, mewn ychydig wythnosau i'w gilydd, yn awr y mae genym y gorchwyl annymunol a gofidus o gofnodi marwol- aeth anwyl briod Mr. Davies, ac unig ferch Mr. W. Curtis, Heolyfelin, Aber. dar, yr hon, er colled anadferadwy i'w phriod a'i dau blentyn hoff, a adawodd ar ei hoi, a galar dwys i'w pherthynasau a phawb o'i hadnabyddiaeth, a ymadaw- odd a'r fuchedd hon Medi 2, yn 26 oed. Y mae yn wir ofidus genym am y troion chwerw sydd wedi cyf arfod a Mr. Davies a'i berthynasau yn ystod y pedwar mis diweddaf, sef colli cynifer o wrth- ddrychau hoifnsaf eu serch, yn duol y ddiweddaf, yr hon, fel y cyd.dystia pawb a'i hadnabyddent, oedd yn un or gwragedd ieuaine mwyaf hawddgar a phrydferth ei rhodiad, ac yn arlun pur o ddiniweidrwydd, yr hyn sydd yn achosi i'w marwolaeth gael ei deimlo gyda dwysder drwy yr holl gymydog- aeth. Prydnawn dydd Sadwrn canlynol, ym- gynullodd torf luosog a pharchus yn nghyd i'w hebrwng i'w "hir gartref," i Cemetery Aberdar. Gweinyddwyd ar yr aehlysur gan Mr. H. Harris, a'r Parch. I. D. Jenkins, Vicer Eglwys Sant Ffagan, yn yr hon eglwys yr oedd yn aelod, ac ei magwyd mewn ystyr grefyddol o'i mebyd. W. D. Caradoc boff! mae mynwent oer'y Llan I chwi yn awr yn gysegredig fan Mae dagrau'ch hiraeth wedi mwydo 'i thir Ar ol eich didwyll berthynasau pur Mae tad a mam, a baban ttwa ti wedd, Yn huno'n dawel rhwng erchwyDioD bedd; Ond O! yr ergyd olaf hwn y sydd Yn dwys aredig y teiniladau prwdd, Yn chwalu gobaith megya man ronynau, A thaenn tristweh droa eich holl feddyliao; O'r braidd y gwelir un pelydryn weithian 0 oleu, trwy y cwDtwl du Iy'a hovgian Uwch eich pen ffurfafen oes yn dywyll, A braidd nad ydyw pob peth fel yn aefyll; Er hyn, fy mrawd, na ddigalonwsh wtitkiaa Os yn eich du'r y'ch chwi yn crwydro alias, A chleddyf amgylchiadau'n brathn'ch niyn- was, Mae gobaith fod eioh anwyl briod gynM Mewn gwyn yn nghwmni'r bendigadig Geid- wad, Lie na ddaw gofid byth i rl.lryllio'i theimlad; Wei, gyfaill hoff, prysurw oh fyned ati, Mae'r nef yn llawer gweli aa'r ddaear ini. Trecynon. TIBBKOG.
[No title]
Bu farw y Parch. Augustus Morgan, brawd y diweddar Arglwydd Tredegar, yn dra disymw^h ddydd Sul diweddaf, yn 76 oed. CAFODD y ddau garcharor—Baker a Cooper, y rhai a gollfarnwyd yn sesiwn ddiweddar Liverpool, eu dienyddio ddydd Llun diweddaf. DYDD Mawrth diweddaf lladdwyd Mr. William Angus, yn ngorsaf reil- I ffordd Canterbury, trwy iddo geisio disgyn o gerbyd y reilffordd cyn idd- ynt sefyll, Syrthiodd rhwng y cerbyd- au, ac aeth tri o honynt drosto. Y MAE bachgen o'r enw Sewed, 12 oed, wedi marw yri ngblafdy Bartho- lomew, LIundain, o gynddeiriogrwydd, yr hwn a achoswyd gan gnoiad cath. DYDD Mawrth diweddaf bu farw Dr. John Prbhard, gweinidog y Be- 0 dyddwyr yn Llangollen, yn 80 mlwydd oed.
HELYNT MRI. VIVIAN A MAC,DONALD.
HELYNT MRI. VIVIAN A MAC- DONALD. FEL y gwyr ein darllenwyr, y pwne pwysicaf yn awr mewn eysylltiad a Bwrdd Cymodol Deheudir Cymru, ydyw gwrthodiad Mr. Vivian i eistedd ar y Bwrdd hwn yn nghwmni Mr. Macdonald. Cyfarfyddodd Cynghor Undeb y Meistri yn Caerdydd dydd Sadwrn diweddaf, dan lywyddiaeth Mr. D. Davis, i'r hwn y rhoddodd Mr. Vivian ei sedd i fyny yn Mhwyll- gor y Sliding Scale, oherwydd y rheswm sydd eisoes yn adnabyddus. Mpdd bynag, gomeddodd y Cynghor a derbyn ei resignation, gan yr ystyr- ient fod yr hyn a ddywedwyd gan Mr. Macdonald yn dal perthyiias a'r meisiri ereill yn gymaint a Mr. Vivian, a thrwy hyny eu bod yn gofyn ymddiheurad am j cyfryw. Yn Casnewydd, dydd Sadwrn di- weddaf, ymgyfarfyd.dodd Mr. W. S. Cartwright a Mr. Mitcfiard gyda golwg aryr annealltwriaeth sydd rhwng Mr. Vivian a Mr. Macdonald, oher- wydd yr hon y gomedda Mr. Viviau eistedd feI un o'r Bwrdd Cymodol. Yr hyn a geisia Mr. Vivian a'r meistri ereill, ydyw llythyr o apology oddiwrth Mr. Macdonald am yr iaith gref a ddefn- yddiodd yn nghyleh meistri Deheudir Cymru yn Manchester, yn Chwefror diweddaf. Cymerwyd rhan yn yr ym- ddyddan hefyd gan Mr. Samuel Davies, Iberdar, a Mr. E. Jones, Farteg ond ni ddaethpwyd i un penderiyniad ar y pwnc, ond fod i Mr. S. Davies a Mr. W. Abraham i osod yr holl drafod- aeth o flaen Mr. Macdonald. Y mae Mr. Macdonald, yr hwn a lywyddai mewn cyfarfod perthynol i'r Undeb Cenedlaethol yn Manchester yr wythnos hon, mewn eyfeiriad at waith Mr. Vivian yn gwrthod eistedd ar Fwrdd Cymodol Debeudir Cymru, wedi hysbysa na bydd iddo gynyg ym- ddeheurad am yr hyn a ddywedodd, ond fod ymddygiadau y meistri yn adeg y lock-out yn cyfiawnhau ei sylwadau. ■ »
ABERDAR-YSGOL NOS.
ABERDAR-YSGOL NOS. MEWN congl arall, fe wel ein darllenwyr yn Aberdar fod Mr. Owen Rees, ysgol- feistr, yu bwriadu dechreu ei Ysgol Nos Flynyddol nos Lun nesaf, Medi y 13eg, pryd y dymunir ar i bawb a fwriadant ymuno a'r ysgol am y gauaf dyfodol i roddi eu henwau ar unwaith er cyd- adechreu. Y mae yr Ysgol Noa hon yn enwog or's blynyddau, a degau lawer o'n dynion ieuanc wedi derbyn lies trwy ymuno a hi am dymor neu ddau. +
EISTEDDFOD TROEDYRHIW,
EISTEDDFOD TROEDYRHIW, DYDD LLUN, MEDI 13EG, 1875. DERBTXIWTD cyfansoddiadau yn dwyn y ffugenwau canlynol:— Tri Phenill i Glock y Llan.- Y r Hen Glochydd, Taliesin, Ysbryd y Clochdy, Bili'r Clochydd, Saer y Gerdd o Sir Gaer, Hen Glochydd Clog, Wyf glau pan glywaf y gloch. Deg Penill i'r Peiriant Gohhi Glo yn Nilofa Danderi.-Hen Beirianydd, Da. fydd ab loan, Anfedrus, Britwn. Englyn i'r Mockyn.-Cigydd, Cook, Hwsmon, Dafydd Ddu, Goronwy, Cig- yddwr Gweddol. Englyn i'r Belyn.—Sion, Arthur, Da- fydd y Gareg Wen, Dafydd, Iolo Mor- ganwg, Alawfardd. Traethawd ar DroedyrMw, 8fc.—Ym- deithydd, Gwangalon. lOAN EGWESI.
. MOUNTAIN ASH.
MOUNTAIN ASH. Deallwn fod Cyngerdd Mr. William Hopkin, yn y He hwn wedi ei gohirio hyd ddydd Iau, yr 16eg cyfisol.
[No title]
♦ YR ydym yn cael y bydd i Dr. Ke- nealy ymweled a bwrdeisdref Merthyr tua diwedd y mis presenol, a thra- ddodi nifer o ddarlithiau. Rhoddwn lijabfsrwydd pellach yn ei gylch,