Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y NOFEL: EINION HYWEL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y NOFEL: EINION HYWEL. (Buddugol yn Eisteddfod ddiweddar Aberdar.) PENOD XIV. MEWN llawn awydd dyna ef yn ei agor, ac er ei fawr syndod, beth ydoedd yndclo ond locket ei anwylyd yn nghyda'i darlun hi a'i mam, a llythyr byr, ond cynwysfawr, yn ei orchymyn i wisgo y locket bob amser wrth gad- wen ei oriawr. 0 fel y mae y dagrau yn tarddu o'i lygaid, ond eto prysura i'r orsaf. Mewn enyd dacw ef yn y ger- bydres, ac yn yr hwyr yn cyrhaedd Llynlleifiad; ac er ei fawr syndod, y gyntaf a ddaetb yn mlaen i ysgwyd llaw ag ef oedd Bronwen, Plas yr Afon, yr bon oedd ar ymweliad a'i Hewythr. Ond gan nad oedd ganddo amser i'w golli gorfu arno ffarwelio a hi yn bur fuan. Dranoeth aeth i'r Hong, yr hon oedd lestr mawreddog a chadarn, o'r enw Elizabeth," ac yn arfer hwylio i Peru. Mewn ychydig oriau dacw y dyfroedd yn dechreu berwi o'i ham- gylch, a hithau yn symud yn ei ganol. Golygfa swynol! Y mae yr haul yn araf suddo megys i for o brydferthweh yn y Gorllewin—yr awelon yn chwareu a'u gilydd yn hwyliau llydain y llong, a'r mor fel pe byddai wedi llwyr ym- lonyddu, a'r tonau bychain mewn di- fyrwch yn neidio ar gefnau eu gilydd yn wir, gallesid meddwl na fu yr un dymhestl yn ei marehogaeth erioed; eto, ychydig o'r teitbwyr sydd yn gallu mwynhau yr olygfa, a hyny o herwydd yr hiraeth a lanwai bob mynwes. Yn nghanol y pryder a'r wylo dyna fachgen ieuanc yn neidio ar ei draed, ac yn cy- farch ei gyd-deithwyr, gan ddweyd :— Yn awr wrth golli ein golygon ar Gymru fynyddig, cydganwn y llinellau canlynol:— Ton. Hen Wlad fy Nhadau." u 0 Gymru fynyddig, rhown ffarwel i ti, Er bod dy fynyddau yn anwyl i ni A'th gestyll henafol a safant yn dderch. Dy greigiau a dynant ein serch.

CYDGAN.

YSTAFELL Y CYSTUDDIEDIG.

[No title]

LLUEST Y MYNYDD.

BEIRNIADAETH CYFAROD LLENYDDOL…