Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
GOGONIANT DYN YN EI SYLWEDDAU…
GOGONIANT DYN YN EI SYLW- EDDAU CYFANSODDOL! (Gan y Parch. J. W. Bugh, Abergimun.) PENOD III. Y CYHYRAU sydd ranau enawdol yn y corff. Dosberthir y gyfundrefn hon yn ddau-y eyhyrau gwirfoddol ac anwir- foddol. Y rhai gwirfoddol yw y rhai sydd yn ddarostyngedig i'n hewyllys, sef y cyhyrau ymsymudol. Y rhai anwir- foddol yw y rhai nad oes genym yr un reolaeth arnynt, megys y galon, y cylla, &c. Mae y cyhyiau wedi eu gwneud i fyny fel swpyn o fan edafedd. Mae y -rhedwelian yn rhedeg yn llinellau cyf- ochrog i'r edafedd yma, fel y mae agos berthynas rhwng pob llinyn o'r cyhyrau a'r rhedweliau, oddiwrth ba rai y maent yn derbyn defnydd eu maith a'u cynydd. Mae y rhedweliau hyn yn lluosog iawn. ac yn trosglwyddo y gwaed trwy bob rhan o'r corff, ar ol iddo gael ei bur- eiddio trwy ei gyffyrddiad a'r snrbair sydd yn yr awyr a anadlwn. Dyma y rheswm sydd i'w roddi dros y lliw coch- lyd, dysglaer sydd ar ein. cnawd. Heb- law hyn, y mae y cyhyrau yn cael eu di- wallo gan y gyfundraeth gieuog (nerv- ous system), a hyny yn agos at y croen. Ffurfia y giau fath o droell tebyg i gwlwm rhedeg-anaml, os byth y ter- fynant yn y sylwedd cyhyrol. Tros- glwydda y giau argraffiadau i'r ymenydd, a hwnw drachefn a effeithia mewn modd annysgrifiadwy ar y meddwl. Nid yn unig perthyna i'r meddwl gydwybodol- edd y gallu hwn, ond ciengys y gallu hwn yn yr ewyllys a'r bwriad. Er eng- hraifft, os byddwn am godi ein Haw, ewyllysiwn hyny ac fe'i cyflawnir. Os bydd ein cyrffi yn ddianaf, gweithreda ein hewyllys ar y gyfundraeth gieuog; trosglwydda y giau y cynhyrfiad i'r cy- hyrau, ac yn y fan cyflawnir y gorchwyl a ewyllysiwn, megys, codwn ein Haw, ymsymudwn, &c. TJn o brif ryfeddodau y cyhyrau yw y gallu cwtogawl a berthyna iddynt o dan effaith rhyw gynhyrfiad allanol. Dywed naturiaethwyr wrthym fod rhai plan- higion yn ymgrebachu yn nghyd os cy- ffyrddir a hwy. Felly y cyhyrau os cy- ffyrddir a'r giau perthynol iddynt, ar darawiad, crebachant a chwtogant yn nghyd. Ymddibyna y gallu cwtogawl hwn ar iachusrwydd cynaliaeth y cy- hyrau, sef gwaed pur. Helaethir y ffryd- lif wrth ymarferiad gweithredol y cy- hyrau eu hunain, fel y mae yn ifaith hunan-brofedig, po fwyaf y byddo y cyhyrau mewn ymarferiad gweithgar, mwyaf i gyd eu maint a'u grym. Hyn sydd yn peri fod braich y gof gymaint yn fwy na'r eiddo y crydd, &c. Creadur gweithgar yw dyn i fod. Mae Awdwr ei Natur wedi ei greu i'r perwyl hwnw; ac y mae y cwbl y tu fewn iddo yn ei anog i ddiwydrwydd. Mae y Bod Mawr wedi gweled yn oreu i'n llunio yn y fath fodd t'sl y mae yn annichonadwy i ni gyflawni yr un cam o ddyben ein bodolaeth heb fod yn llafurus. Yn yr arddyrnau a chydiad y traed y mae y cyhyrau yn drwchus ac yn nerthol ry- feddol, gan fod yma undeb a chydgry- nhoad o honynt. Mae trefniant y cy- hyrau, fel pob trefniant arall yn y corff dynol, yn hollol yr hyn a ellid ddysgwyl oddiwrth Fod goruchel a daionus, yr Hwn y mae ei holl weithredoedd yn ber- ffaith, a'r Hwn sydd yn ymhyfrydu yn nedwyddwch ei holl greaduiiaid. Pe unwaith yr ymddifadid ni o'r gyfun- draeth ryfedd hon, neu pe y cyfnewidid ei threfniant gogoneddus, dyryaai y peiriant dynol yn y fan. Siarad nis gallem, ac nid yw yn de- bygol y gallem rodio ychwaith; dar- fyddai cylchrediad y gwaed, ac ni allai y cylla a'r ymysgaroedd wthio yn mlaen eu cynwysiad, ac hawdd yw dychymygu y canlyniad. Mae dyn yn greadur rhyfedd eto, os ystyriwn gylchrediad ei waed. Canol- bwynt cylchrediad y gwaed yw y galon. Perthyna y galon i'r dosbarth anwirfodd- ol o'r cyhyrau. Rhenir y galon yn ddwy ochr—de ac aswy-a phob ochr yn cynwys dwy o gelloedd, a muriau cy- hyrog cryfion. Mae y celloedd hyn wedi eu gosod y naill uwchlaw y llall, ac y mae agoriad helaeth rhyngddynt yn eu cysylltu. Y gell uchel a elwir Auricle, oddiwrth ei ymdebygolrwydd i glust; a'r gell isaf a elwir ventricle, am ei fod yn debyg i gwd, ac yn cysylltu y rhedweli fawr a elwir Aorta, yn ymranu yn ei chwrs, ac yn terfynu yn filoedd lawer o fan ganghenau, yn ymwau trwy bob rhan o'r parthau bywydol. Y mae dwy ochr y galon wedi eu gosod gyferbyn eu gilydd, a'r cebloedd y soniasom am danynt yn wynebu eu gilydd; eto, nid yn ymarllwys y naill i'r llall. Y mae genym ddwy gyfundraeth rhedweliaidd. Swydd y rbedweli yw trosglwyddo y gwaed o'r galon a swydd y gwythienau yw ei drosglwyddo yn ol i'r un canol- bwynt. Yn y cyntaf, mae y gwaed yn ei sefyllfa mwyaf pur yn yr ail, yn ei sefyllfa anmhir. Yn awr, beth yw y gwahaniaeth rhwng rhedweli a gwythi- en? Tra parhao bywyd, gwahanieithir rhedweli wrth ei chiriadau gellir cy- ffelybu y curiadau i donau yn codi yn y galon, ac yn teithio yn mlaen trwy yr I holl gyfundraeth redweliaidd. Adwaen- ir rhedweli hefyd wrth ei thori, ym- saetha y gwaed allan yn ergydion olynol. Ond nid oes curiadau yn perthyn i'r gwythienau, ac y mae y gwaed yn ddu- ach nag yn y rhedweli.
Gohebiaethau.
Gohebiaethau. [Nid ydym yn gyfrifol am syniadau a golygiadau ein gohebwyr, ondyr vdym am adael rhyddid barn i bob dyn, a rhyddid yagrif-bin hefyd can belled ag y goddef terfynau cyfraith a moes- oldeb.—GoL.t
Y PABYDDION A'R BEIBL.
Y PABYDDION A'R BEIBL. MAE gwaith Mr. Jones yn nodi mai cyf- ieithiad awdurdodedig Eglwys Rhufain yir yr un Ysbaenaidd y cyfeiria ato, yn profi eu bod wedi cyfieithu y Beibl i iaith y wlad hono ac y mae eu bod yn cyhoeddi argraffiad o ddeng mil o gopiau, yn profi eu bod yn bwriadu eu gwerthu ac y mae hyny yn brawf, wrth gwrs, eu bod yn foddlon i'r bobl eu darllen; ac fel yr awgrymwyd, y mae yn amheus ac annhebygol, a dyweyd y lleiaf. bod un- rhyw Esgob Pabaidd wedi beiddio gwrthwynebu awdurdod y Pab, trwy atal y copiau rhag y bobl. Caf sylwi ar hyn eto cyn gorphen. Mae dull cyfrwys-ddrwg Mr. W. Jones yn dwyn i sylw dystiolaeth Gavazzi, yn gyfryw nad oes genyf well enw arno na chyfrwysdra dieflig i gyrhaedd amcan drygionus a thwyllodrus. Mae darn- guddio y gwirionedd yr un faint o bechod yr oes hon, ag oedd yn amser Ananias a Sapphira ond gellid meddwl wrth ddull Mr. W. Jones yn darnguddio, nad yw yn fod cyfrifol o gwbl. Dyma ei ddyfyniad o dystiolaeth Gavazzi Ar y diwedd dywedai -nad oedd yn Itali yn 1848 gymaint ag un gynulleidfa Brotestanaidd, ond yn 1860, bod yno bump, ac yn 1874, yr oedd yno 125, yn cynwys tua 40,000 o wrandawyr, a thua 10,000 o gymunwyr. Nid oedd rhyddid i'r Beibl y pryd hwnw i gael ei werthu na'i roddi; ond yn awr y mae tua 600,000 wedi cael eu lledaenu yno." Edrycher ar y cyfrwysdra,—Wrth son am sefyllfa pethau yno yn 1848, nodir nad oedd yn Itali yr un gynull- eidfa Brotestanaidd; ond bod yno yn 1874, gynifer a 125. Pan yn cyfeirio at y Beibl, gadewir y gair Brotestanaidd allan, gan ddarnguddio y gwirionedd. Pe dywedasai y cyfaill nad oedd yn 1848, ryddid i werthu na rhoddi y Beibl Brotestanaidd yn Itali, buasai y gwir yn cael ei amlygu; ond wrth guddio y gair Brotestanaidd, mae'r cyfrwysdra Satan- aidd yn dyfod i'r golwg. Cyfrwys i dwyllo yw Satan o'r dechrea ac y mae ei blant yn debyg iddo yn y oyfeiriad hwn. Cofied Mr. W. Jones fod cleddyf y gwir yn llymach na chleddyf Goliath. Dangosaf eto i dri argraffiad o'r Beibl ddod allan yn Itali yn 1848. Dywed Mr. W. Jones fod dros 115,000 o'r Ysgrythyrau wedi eu lledaenu yn Awstria y flwyddyn ddiweddaf; a 40,000 yn Itali; ond gofalodd beidio dyweyd mai cyfieithiadau Pabyddol ledaenwyd! Arwyddair y Feibl G-ym- deithas yw Beibl i bawb o bobl y byd," ac nid cyfieithiad Protestanaidd i bawb o bobl y byd; a chan na dderbynir y cyfieithiadau Protests,naidd gan y Pabyddion, y mae'r Gymdeithas Feiblaidd wedi barnu yn ddoeth gy- hoeddi y cyfieithiadau Pabyddol; a hyn yw dirgelwch y llwyddiant diweddar ar y Cyfandir. Mae rhai a fuont yn brif gefnogwyr y Feibl Gymdeittas wedi peidio ei chefnogi o herwydd ei bod yn cyhoeddi cyfieithiadau Pabyddol. Ai nidpechod yw dai ngaddio gwirionedd fel hyn er mwyn twyllo y werin ? Os mai ataf fi y cyfeiria awdwr yr ysgrif flaenaf yn y DARIAN. am Medi 3, fel un yn amddiffyn Pabyddiaeth, a brygawthan, a chyhoeddi pob math o sothach, &c., dymunaf ei hysbysu nad wyf yn amddiffyn Bahyddiaeth o gwbl; a chyn terfynu yr erthyglau hyn, caiff wybod fy mod yn deall y pwnc lawn gystal ag yntau; a'm bod yn ddigon cyfarwydd a thraethodau Mr. Gladstone, yr hwn sydd yn wedi taro ar wraidd drwg Pabyddiaeth. Dywed Mr. Glad- stone ei hun mai mewn ystyr wleidyddol yn unig y mae a fyno ef a Phabyddiaeth; a dyua fan y drwg. Un ran o ffieidd- dra Pabyddiaeth yw anghyfreithloni y priodasau y cyfeiriwyd atynt; a gall- wn ychwanegu fod rhai yn nes yma na Rhufain yn anghyfreithloni priodas. Gydag hynyna o sylw, wrth basio, deuaf at gynwys llythyr Mr. Jones o'r Rock am Awst 13. Dywed yn hwnw ei fod wedi derbyn llythyr yn mis Ebrill diweddaf oddiwrth y Parch. James Williams, a fu gynt yn genadwr yn Llydaw; a dywed fod Mr. Williams yn y llythyr hwnw yn hysbysu fod Esgob Pabaidd yn Llydaw wedi gwrthwynebu cyhoeddiad Cyfieithiad Legonidec o'r Ysgrythyrau, ac ychwanega, Dyma gyfieithiad awdurdodig Eglwys Rhufain hefyd." Dywed hefyd, Dengys Mr. Williams fod rhai o'r esgobion a'r offeir- iaid ddim yn gwrthwynebu Cyfieithiad Jerome o'r Vulgate." Wel, wel, dyma hi bellach. Beth? Mr. Williams yn son am Gyfieithiad Jerome o'r Vulgate Nid wyf yn gallu deall pethau fel hyn, ac nid wyf yn credu fod Mr. Williams yn eu deall ychwaith. Y Vulgate ei hun yw cyf- ieithiad Jerome, ond am "gyfieithiad Jerome o'r Vulgate," nis gwn am dano. Rhaid fod rhywbeth allan o le yn y sawl ysgrif en odd y pethau hyn. Mae llythyrau cenadol Mr. Williams o 1843 byd 1853 yn fy meddiant; ac yr wyf wedi eu darllen yn ddiweddar. Yr wyf yn deall y rhai hyny, ond nid wyf yn gallu deall dyfyniadau Mr. Jones o'r Rock o'i lythyr; ac felly, Awst 15, anfonais lythyr gyda stamped addressed envelope at Mr. Williams i ofyn eglurhad ar yr hyn a ddywed Mr. Jones o barthed Cyfieith- iad Legonidec, &c. Hyd yn hyn, Medi 3, nid wyf wedi cael atebiad. Nis gwn beth yw y rheswm. os nad am na ddeil yr haeriad ei chwilio. Mae dyweyd fod Esgob Pabaidd yn gwrthwynebu cyf- ieithiad awdurdodedig Eglwys Rhufain, yn wrth-ddywediad mor amlwg, fel y gall y dall weled ei wrthuni. Mae yn rhaid fod y sawl a ddywedodd fod Cyf. ieithiad Legonidec o'r Testament New- ydd yn gyfieithiad awdurdodedig Eglwys Rhufain, naill ai wedi ymwerthu i an- wiredd, neu yn anwybodus o barthed y cyfieithiad hwnw. Ai ni all Mr. Jones ysgrifenn dim ond anwiredd ? Ym- ddengys oddiwrth ei lythyrau ar y pwnc hwn, na waeth ganddo beth a vsgrifena. Tuag at brofi nad oedd, ac nad oes a fyno Eglwys Rhufain a chyfieithiad Le- gonidec, rhoddaf ychydig o'i hanes cyn myned yn mhellach. Yn 1814, darfu i Gymdeithas Hynafiaethol Paris, anfon cais at Gymdeithes Feiblaidd Prydain, i ofyn iddi ddwyn allan argraffiad o'r Ysgrythyrau yn iaith y Llydawiaid Yn 1819, anfonwyd yr un cais drachefn, Yn 1824, aeth y Parch. David Jones, Abertawe, yn genad dros y Feibl Gym- deithas i Lydaw, i chwilio am gyfieith- iad Llydawaeg o'r Beibl. Gan na chaf- odd un, darfu iddo gyflogi Legonidec i'r Feibl Gymdeithas, er cyfieitbu y Testa- ment Newydd. Llydawiad dysgedig oedd Legonidec, ac ymgymerodd a'r gwaith. Tra yr oedd y cyfieithiad ar waith, bu farw y Parch. D. Jones, ac felly darfu i'r Professor Keiffer o Paris, anfon y prawfleni drosodd i'r wlad hon, i'r Parch. T. Price (Carnhuanawc) i'w hadolygu. Gorphenwyd y gwaith yn 1827, a chyhoeddwyd 1,000 o gopiau yn Angouleme, preswylfan Legonidec, ar draul y Feibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor; a chludwyd hwy oddiyno i ystorfa y Gymdeithas yn Paris. Amcan mawr Legonidec wrth gyfieithu, oedd adfer yr iaith, trwy ddefnyddio Llyd- awaeg bur, gan ymwrthod a'r holl eiriau estronol sydd wedi ymgymysgu a'r iaith hono; ac felly, erbyn ei gyhoeddi, yr oedd ei gyfieithiad mor annealladwy i'r Llydawiaid yn gyffredin, ag yw cyfieith- iad Dr. W. O. Pughe o Goll Gwynfa i'r Cymry. Yn ngwyneb hyn, darfu i'r Parch. J. Jenkins, mab y Parch. John Jenkins, D.D., o Hengoed, wneud cyfieithiad newydd o'r Groeg i'r Lly- dawaeg; yr hwn a ddealllr gan holl drigolion Llydaw, oddieithr yn ardal Vannes. Argraffwyd 3,000 o gopiau o'r cyfieithiad hwn yn Brest, ar draul y Feibl Gymdeithas, yn 1847; a dygwyd allan argraffiad o 4,000 o gopiau o hono drachefn. Gwel Bible of every Land, p. 172. Pa le y mae awdurdod Eglwys Bhufain yn awr, Mr. Jones ? Mae eich haeriad o barthed awdurdod Eglwys Rhufain yn nglyn a'r 10,000 copiau yn Spien, yr un mor ddisail. Mae gormod o anwireddau fel yr eiddoch chwi wedi eu cyhoeddi yn Nghymru, er mwyn twyllo y werin, a gormod o honynt, ysy- waeth, wedi eu credu. Caf sylwi yn mhellach ar y cyfieithiad Pabaidd yn Ffrainc cyn gorphen. Yn nes yn miaen yn ei lythyr, dywed y cyfaill fy mod yn hoff o ddyrnu y meirw, ac herio y byw, &c. Wel, wel, dyma beth yw Satan yn ceryddu pechod! Mr. William Jones yn fy meio o ddyrnu y meirw! Pwy sydd wedi dyrnu mwy ar feirw nag y mae ef wedi wneud yn ei lythyrau o'r dechreu? Mor bell ag y mae ei fraich eiddil, a'i ffust fechan ef yn gallu, y mae wedi dyrnu a churo cymaint a allodd ar Babyddion meirw pob oes. Gellid meddwl wrth ei ddull yn ysgrifenn, bod hawl a rhyddid iddo ef ddyrnu y Pabyddion meirw, a llunio pob math o anwireddau am danynt; a bod fy ngwaith inau yn dwyn dwy ffaith nas gellir eu troi yn ol am Dr. Adam Clarke, a'r Parch. T. Charles o'r Bala, yn dyrnu y meirw!! Yr wyf yn col- eddu y syniadau uchaf am Charles o'r Bala, ac yr wyf yn falch mai Cymro oedd, ond nid oedd hyd yn nod Mr. Charles yn berffaith, ac nid oedd pob gweithred o'i eiddo yn ddifai. Gyda golwg ar amddiffyniad Mr. W. Jones i Dr. Adam Clarke, y mae yn siarad yn lied deg, ond mie'r am ddiffyn. iad yn eiddil dros ben. Nid yw wedi ceisio gwrthbrofi yr hyn a ysgrifenais; C, 1-1 ac o ran hyny, nis gellir. Eto dywed fod gan y Pabyddion wahanol drefn- iadau o'r gorchymynion. Felly ninau, ond nid yn y Beibl. Dyma un :— 1. Na foed it' dduwiau ond myfi. 2. Un eilun nac addola di. 3. Nac ofer gymer enw Duw. 4. Na lygra'r Sabbath, santaidd yw. 5. Rho i'th rieni barch a bri. 6. Llofruddiaeth waedlyd gochel di. 7. Ymgadw rhag yr afian waith. .8. A gwylia rhag lladrata 'chwaifh. 9. Goebel fod yn ddyn celwyddog. 10. Na chwenych eiddo dy gymydog. A fyddai yn deg cyhuddo y Cymry o dynu oddiwrth, a thalfyru y gorchym-' ynion yn y Beibl, am eu bod wedi eu trefnu ar fesur fel hyn yn y Rhodd Mam? Na fyddai yn ddiamheu; ac yr wyf yn dyweyd eto, mai annheg a phech- adurus yw cam-gyhuddo y Pabyddion o'r pechod gwarthus o adael yr ail orchymyn allan o'r deg. (I'w barhau.)
PLESERAU AMHEUS.
PLESERAU AMHEUS. MAE llawer o siarad yn Mhontypridd y dyddiau hyn am aelodau crefyddol yn myned i leoedd amheus i ymbleseru. Er yr holl siarad sydd gan weinidogion a swyddogion y gwahanol eglwysi yma yn erbyn pic-nics, rhedegfeydd ceffylau, darllen ffugchwedlau, &c., ymddengys fod llawer iawn yn diystyru eu cy- nghorion, acar garlam wyllt" i goll- edigaeth. Gwnawn rai sylwadau ar y lleoedd amheus hyn. Yn gyntaf, sylwn ar y fete and gala, a gynelir yma yn fiynyddol. Llawer iawn o bechodau a gyflawnir yno mae yno redegfeydd, meddwdod, a godineb, medd rhai, eto mae llawer iawn o ddyn- ion crefyddol yn myned i'r lie hwn yn fiynyddol, a dywedant nad ydynt hwy yn gwneuthur un drwg yno; a gofynant, Os pecha rhai yno, a ydyw hyny yn rheswm digonol dros ein hatal ni i fyned yno P" Atebaf y dosbarth hwn yn ngeiriau y Parch. W. J. Morris, Sardis, Yr ydych yn rhoddi shade o respecta- bility i'r lie hwn wrth fyned iddo can- lynir chwi gan ereill, ac os gellwch chwi ddal yn ngwyneb y profedigaethau fydd yno, metha y rhai a'ch canlynant." Eto yr ydych wrth dalu am fyned i mewu yn rhoddi eich suppwt iddynt mewn ystyr arianol, felly yr ydych yn euog o'r pechodau a gyflawnir mewn cysylltiad a'r cyfarfodydd hyn. Yn nesaf, yr Agricultural Show. Cy- naliwyd yr arddangosfa hon yn Mhonty- pridd eleni, ac er ein syndod, mawr oedd y gefnogaeth a gafodd; er fod yno anifeiliaid wedi eu tewychu i'r fath raddau nes oedd bywyd yn boen iddynt, yn hytrach na chosbi yr amaethwyr am greulondeb i anifeiliaid, gwobrwyid hwy am fod mor llwyddianus a thewychu mochyn neu eidion nes oedd yn methu cerdded. "Anything for convenience," medd V Sais, ond yma "anything for in- convenience" oedd hi. Yn fynych gwelir erthyglau meithion yn ein newyddiad- uron yn condemnio rhedegfeydd ceffylau y Saeeon i'r man pellaf. Ond yn Nghy- mru ceir prizes am y racehorses goreu. Chwardda y Sais am ben peth fel hyn, geilw ef arian yn amser rbyfel yn "sinews of war;" ar yr un tir y gall ddyweyd, "Racehorses are the sinews of horse-racing." Mae Cymru yn parotoi ceffylau i'r Saeson i gynal eu rhedeg- feydd. Dywedir fod llawer o gyngwystlo yn cael ei gario yn mlaen yn yr ar- arddangosfa o barthed i'r gwabanol ani- feiliad oedd yno; hyn sydd sicr, yr oedd yno ddigonedd o ddiod feddwol, a llawer o feddwon; gallem gyfeirio at rai a yfasant gymaint nes y bu ei bywydau mewn perygl o herwydd hyny. Mewn gwirionedd, ail-adroddiad o Ffair y Commin ydoedd. Eto yr oedd lluaws o aelodau eglwysig, ac fel mae gwaetha'r modd, gweinidogion hefyd. Mae y rhe- Isymau roddwyd yn erbyn y Fete yn dal eu tir yn yr achos hwn eto. Eto'r Pontypridd Literary Institute. Mae yma braidd bob math o lyfrau- rhyw res anferth o nofelau, comic jour- nals, gweithiau dramaticaidd, a rhai llyfrau da. Yr ydym yn cael ein rhy- buddio gan weinidogion y gwahanol eglwysi yn barhaus i beidio uarllen ffug- chwedlau, a'r hyn a elwir yn light read- ings, ond mae'n syn meddwl fod cynifer yn gwrtbod gwrando ar lais eu hathr- awon; maent yn aelodau o'r gymdeithas hon; talant am ffugchwedlau ofer a di. chwaeth, y rhai a ddarllenir gan lawer nes y gwenwynir eu meddyliau, ac y lleddir y tueddiadau crefyddol sydd yn eu calonau. Treuliant ei Suliau gartref i ddarllen Faust" (Goetho) a'r cyffelyb- weithiau. Os ydym, drwy ymuno yn gymdeithas yn cael llyfrau da yn rhat- ach, y maent yn rby ddrud, pan gofiwn ddylanwadau gwenwynig y ffugchwedlau a'r ysbwrial llenyddol sydd yn cael eu cynyg wrth y canoedd o gyfrolau i ieu- enctyd ein tref dan ein nawdd a'n cy- northwy ni, aelodau crefyddol. COEDWIGWR.
BEIRNIADAETH CYFAROD LLENYDDOL…
soddiadau, sef, eiddo Sylwedydd Bro Caredig, Un ydwyf yn ei adwaen, ac Un adnabyddus o hono. Yr wyf wedi gwneud fy ngoreu i restru y rhai hyn yn ol eu teilyngdod, a'r cyntaf a ddaw o dan ein sylw ydyw, Un adnabyddus o hono. Y mae ol llafur ac ymchwiliad mawr i'w ganfod ar y cyfansoddiad hwn, eto y mae yn amddifad iawn o anhebgorion bywgraffiad. Ceir ganddo lawer o hanes Frederick Thomas mewn gwa- hanol fanau, yn nghyd a'i gymeradwy- aethau ysgrifenedig oddiwrth wahanol bersonau, yr hyn a ystvriwn bob amser yn dda mewn bywgraffiad. Ond pan y gwneir cyfansoddiad i fyny o bethau fel hyn yn unig, a gadael ei gymeriad fel dyngarwr a Christion allan, nis gallwn yn ein byw ei gymeradwyo. Hefyd, wrth ddarllen hwn, yr ydym yn teimlo ei fod yn mynychu gormod ar yr nn geiriau, yr hyn a brawf fod yr awdwr yn brin o iaith. Y mae yn y traethawd hefyd luaws mawr o wallau sillebol. Rbydd rhyw am ryw, amddifyn am amddiffyn, rhan am ran, mae am mai, fydda am fyddai, rhai am rai, a'i am a'u, ac amryw ereill, yr hyn a gyfrifir yn fai pwysig mewn cystadleuaeth. Gwyddom fod y cyfansoddiad hwn yn fwy na gwerth y wobr; er hyny, y mae yn rhaid i'r awdwr fod hebddi y tro hwn, oblegyd y mae dau gawr arall yn y gystadleu- aeth. Un ydwyf yn ei adwaen.—Y mae gan yr awdwr hwn lawer rhagorach cyfansoddiad na'r un blaenorol, Ye, y mae hwn yn dangos gallu a llafur neill- duol. Eto, nid ydym yn hoffi ei gyn- llun; rhana ei draethawd i ddwy ran. Yn y gyntaf y ceir hanes y gwrth- ddrych o'i febyd i'w fedd ac oni bai fod ganddo wallau pwysig mewn am- seriad, a phethau eraill, ni allem gon- demnio y rhaniad uchod. Ond trwy fod diofalwch wedi peri iddo ysgrifenu amrywiol o bethau hollol gyfeiliornus, nid oes genym ond gadael i'r cyfan- soddiad fod yn brin yn y glorian. Yn y rhan hon y ceir lluaws o syniadau hollol anmhriodol, yn ol ein barn ni. Yn ei ail dudalen dywed fod cofiantau dynion annuwiol yn felldith i'r byd, yi hyn sydd i'n golwg ni yn dra gwrthun. Ceir yn y Dadguddiad Dwyfol fyw- graffiadau y dynion annuwiolaf a sangasant ar y ddaear erioed. Ond ni fynem er dim i neb dybied fod ysbryd- oliaeth wedi en cadw ar gael hyd y dydd heddyw, a hyny er melldithio y byd. Yn ei bedwerydd tudalen eil- waitli y dywed mai yn mhlwyf Llan- harran y saif ty Charles, pan mewn gwirionedd mai yn mhlwyf Llangrallo y mae. Yr ydym yn hoffi yn fawr ei ddarluniad o'r hen amaethdy, a'r coed- ydd megys yn estyn eu breichiau i'w gofleidio, a'r gornant gerllaw megys ar dalentau Frederick bach i ymagor. Yn ei wythfed tudalen eto,rhydd ddesgrif- iad o'r hen amaethdai a amgylchynant Ty Charles; a dywed eu bod Like angels' visits, few and far between." Yn wir, yr ydym wedi bod yn syllu droion ar hen amaethdai Penprysg a'i amgylchoedd, ond nid ydym erioed wedi gweled tebygolrwydd ynddynt i angels' visits, o herwydd yr ydym yn meddwl fod golwg hynod ieuanc ar yr angylion bob amser, a'r rhai hyn, y rhan fwyaf, yn hynod o hen. Yn ei wythfedtudalen ar hugain dywed fel hyn, Bu farw yn nhy William Morgan, ar yr 22ain o Ebrill, 1874, yn 34 oed," yr hyn sydd yn afreolaidd yn ol yr amseriad ydym ni wedi gael. Wrth ddyweyd mai ar yr 22ain o Ebrill y bu farw, y mae yn dyweyd un diwrnod o gamsynied a chofied wrth adolygu ei gyfansoddiad eto, am roddi y 23ain yn ei le. Gallem nodi amryw o wallau cyffelyb yn y rhan hon, ond caiff hynyna wneud y tro yn awr. Dra- chefn, yn yr ail ran, ceir ganddo Sylw- adau ar ei gymeriad," pa rai a ystyriwn yn dra phwrpasol, ond gallai y rhai hyn eto fod yn llawer mwy trefnus. Yn y lie cyntaf sylwa ar Ei lafur gyda chref- ydd;" yn ail, "Ei gymeriad;" yn drydydd, "Ei dalentau;" yn bedwer- ydd, "Ei gyfeillgarweh;" ae yn olaf, "Ei dduwioldeb." Gan mai cynwysiad y rhan hon yn gyfangwbl ydyw Sylw- adau ar ei gymeriad, md oedd angen i'r awdwr ei gymeryd yn un o'i benau drachefn. Yr hyn a ddysgwyliem gael yn y rhan hon ydoedd, prif elfenau ei fywyd, wedi eu dosbarthu yn rheolaidd. Onid "Ei dalentau" a ddylasent gael ei sylw gyntaf, ac yna ei wahanol rin- weddau, neu ei alluoedd yn ymagor i gefnogi moesoldeb ? Ceir ganddo hefyd amryw o eiriau estronaidd a di- bwrpas; er hyny y mae hwn yn gyf- ansoddiad gwreiddiol a da, a phe cy- merai at ei ail drefnu, yr ydym yn meiddio dyweyd y byddai yn llawer gwell bywgraffiad i Frederick Thomas, na'r un sydd wedi dyfod i'r gystad- leuaeth hon. Y mae rhai darnau ynddo mor deimladwy a thyner, fel ag y mae yn anmhosibl peidio eu darllen heb golli dagrau. Y mae yn flin genym fod y fath awdwr galluog wedi gyru ei gyfansoddiad o'i law, a chy- nifer o gamsyniadau ynddo.