Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

LE'RPWL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LE'RPWL. [ODDIWRTH EIN GOHEBYDD CYSON.] YMFTJDWYB, I BATAGONIA. 0 GWMPAS 355 o flynyddoedd yn ol yr angorodd y mordwywr enwog Magel- lan mewn porthladd anadnabyddus, ond gwyddai yn dda ei fod yn perthyn i'r Cyfandir mawr Americanaidd ac yn gymaint a'i fod yn awyddus am dynu sylw y byd at y fiaith ei fod wedi darganfod traethell newydd yn y gororau deheuol, efe a alwodd enw'r lie yn St. Julian. Cyfaneddodd Mag- ellan yn St. Julian a Santa Cruz am bum' neu chwe' mis, yn ystod pa amser daeth ato ddyn o faintioli dirfawr, a ehanlyrrvyd hwn eto gan 18 o Bata- goniaid o faintioli cyfiredin. Yr oedd y brodorion wedi ymddilladu mewn crwyn, ac yr oedd eu hesgidiau o gwmpas llathen o hyd, a dwy droed- fedd o drawsfesur; a phan cerddai'r Patagoniaid, gwnaent rychau arutbr yn y ddaear, a chadwent dwrw ofnadwy drwy eu traed a'u tafodau, ac yn her- wydd aruthrolrwydd maintioli eu traed y rhoddes yr Yspaeniaid iddynt yr enw Patagones, ac oddiar foncyff y sen-enw hyn y deilliodd enw y wlad— Patagonia. Y mae llawer o ymosodiadau wedi cael eu gwneud ar yr oror Batagon- aidd fel man cyfadddas i sefydlu Ymherodraeth Gymreig; y mae gwrthwynebwyr yr ymgais glodfawr hon wedi dyweyd a thaenu pob math o chwedlau, gwirioneddol a chelwyddog, am y wlad a'i brodorion ond wedi'r cwbl, yr ydym ni yn rhwym o gyf- addef nad ydym wedi gweled un wrth- ddadl hyd yma ag sydd yn alluog i ddadymchwelyd ein hangerddolrwydd Patagonaidd. Dywed y gwrth-Bata- gonwr fod yn Patagonia rhyw luaws o gewri; ac yn wir, mae'r gelyn am ddychrynu'r ofnus a'r eiddil, drwy ddyweyd mai cewri yw holl frodorion Patagonia, ond gwyr y darllenwr, y myfyrivyr, a'r Si-ragfarn amgenach pethau am Patagonia a'i thrigolion, na'r hen gawdel hunan-greedig-y cewri. Yn y fiwyddyn 1615, bu dyn o'r enw Schouten yn Buenos Ayres, ond Did oes hanes iddo dd'od i gyf- ffyrddiad personol a'r Patagonwyr; ond b. eto ar ei ddychweliad i'w wlad ei hun, efe a gyhoeddodd i'r byd y chwedl an- wireddus am gewri Patagonia, eu bod yn rnesur o 10 i 11 troedfedd 0 hyd, a bod en Ueferydd fel taranau, a'u cyf- lymdra fel mellt Aralwg yw mai Pabydd oedd Schouten, ac yr oedd wedi Ilwyddo i enill rhai o'r anwariaid arfordirol i'r ffydd Babyddolj a gwyddai, os cawsai Ionydd yn mysg y brodorion, heb ymyraeth o'r sectau eraill ag ef, y buasai yn Iled debyg o Babeiddio yr holl wlad; ond yr oedd yn ofni y sectau hereticaidd ereill, am ba achos efe a daenodd yr hen chwedl mai cewri o faintioli an- ferth yw brodorion Patagonia; ac, ysywaeth, mae ysbryd taiog, yn ngbyd ag unbenaeth a gwrthnysigrwydd yr 0 9 hen Jesuit coelgrefyddol a chelwyddog wedi disgyn yn helaetb iawn ar fan Jesuitiaid Cymru. Y mae Pigafetta, Van Noort, Huyvet, Narborough, Falkner, Byron, Wallis, Viedma, D'Or- bigny, Cunningham, a Musters wedi treulio llawer iawn o'u hamser yn mysg y Patagoniaid, ac y mae'r oil o'r ym- chwilwyr dewrion yn tystio mewn modd difrifol nad yw'r Patagoniaid ond rhywbeth ar gyfartaledd maintioli brodorion y wlad hon, as nad yw chwedl y cewri ond rhyw hen fabinogi yn dwyn delw gelyn i gynydd trafnid- iaeth ac egwyddorion annhyblyg y gwirionedd. Dydd Iau diweddaf, am ddeuddeg o'r gloch i'r eiliad, cychwynodd mintai ddewr o'n cydwladwyr tua gwlad yr addewid—Patagonia. Yr oedd y fintai cyn ei chychwyniad yn aros gyda Mri. Lamb & Edwards, Union-street, L'er- pwl, a'r noson cyn ei hymadawiad, aethum idd ei gweled yn ei llety, ond siomwyd fi, gan fod lluaws o'r fintai wedi myned allan i edrych ansawdd y dref; ond y ddosran a welais i, mi a gefais ar ddeall eu bod yn dyfod o Aberdar a Chwmaman, ac yr oeddynt oil yn llawn gwrolfrydedd, mwythus- rwydd, a phenderfyniad, teilwng o anianawd cyn-frodorion Ynys Prydain. Yn y fintai hon yr oedd un gwr o'r enw Mr. T. M. Jones, ei wraig, a naw o blant, ac yr oedd ganddo sypynau aruthrol o offerynau amaethyddol yn ei ganlyn; ac yr oedd y brawd dewr yn llawn o'r bywyd a'r gwresogrwydd mwyaf Cymroaidd a Phatagoneiddiol, ac mae'n ddilys genym, os ca Mr. Jones a'i deulu lluosog gyrhaedd Teg Ganaan Patagonia, fod dyfodol ardderchog o'i fllen ef a'i hiliogaeth anturiaethus. Yr oedd y nntai yn rhifo tri-a-deugain, ond yr oedd y rhan luosocaf o honi yn ddi- briod, yr hyn, efallai, a fydd yn an- fFafriol i gynydd poblogaeth y Wlad- ychfa am adeg birfaith; ond ysgatfyd fod gan y bechgyn gweddwon obaith y daw eu duwiesau heirdd ar eu holau i Batagonia pan yr urddir hwy yn ieirll- esau, ardalyddesau breninesau, tywys- ogesau, ac ymherodresau ar treinlawr yr hen Batagonia gabliedig. Aeth Mr. Lamb a'i weinidogion gyda'r fintai ar fwrddyllong, acymddangosai ygatrawd yn lion, hawddgar, hewydus, oalonog, a boddlongar mewn gwirionedd. Dywed Lamb nas gwelodd efe dorf o ddynion yn fwy hapus a buoyant yn myned allan o'r porthladd hwn erioed. Nid yw o un pwys genym pa betb ydyw barn y gwrth-Batagonwyr am y priod- oldeb neu'r amnhriodoldeb idd ein cydgenedl ymfudo yno—y mae genym yr un httwI i bleidio'r lie ag sydd gan- ddynt hwythau i greu pob math o gel- wyddau a thyb-osodiadau, er mwyn troi'r llif ymfudol i gyfeiriad arall. Y mae yn ddirmygedig genym glywed ambell Gymro rhagfarnllyd, hunan- dybus, papilionaceous, a gwatwarilyd, yn ceisio gwneud gwawd a rheg o ym- drechion anrhydeddus ein goreugwyr i sefydlu arbenogaeth Gymraeg ar lan traethellau'r Chupat bell; ond myn y cyfryw i ni gredu nas gellit eu euro mewn gwladgarwch a dynoliaeth, ac mai gweled anghyfaddasder yn Mhata- go nia i ddodi lawr gynsail yr orsedd Gymreig, yw yr achos eu bod a'u man- fi iogau yn ymdrechu tori lawr bawb a phobpeth a feiddia ddangos eu hunain o du'r Wladfa. Yr ydym yn taeru yn ddiofn yn eu gwynebau, mai am na wa- hoddasid bwy i gymeryd rhan yn yr oruchwyliaeth wladfaol ar y cyntaf, y maent yn cynhyrfu nefoedd a daear er mwyn dadymchwelyd meddylrith a gobeithion y gyfundrefn Batagonaidd. Yr ydym ni yn dymuno nawdd Duw a'i dangnef i'r fintai fach grand sydd newydd adael hen draethellau gwlad eu —1^ bamuii ■Mil IIWHI TmUMIWM gen euigBeth- -gwl ad eu serch a'u ore- fydd, ac arosed nawdd ac ymgeledd Creawdwr cyrau'r ddaear ar y Pata- goniaid Cymreig hyd byth anorphen* 0 for blwng ac ofer bia-pob gormes, Fob garsn ac ymwasgfa Mir gweled Cymry Gwalia-yn troi'a fyg Eto i gynyg gwlad Patngonia. Pybyr rhoes brodyr yabrydol—eu hedd A'u bneddiant cnrtrefol O'r naill du, er enill dol, A meusydd anormesol. Pwy eto gynyg ladd Patagonia ? Oes eto heriwr goeg ddiystyra Yr baddef anwyl- oes gwr ddifenwa Aelwydydd aury wlad dda-rydd heddwch A dyogelwch i ysbryd Gwalia ? Pe tai gwyneb Patagonia—mor lln Ac mor lwys a'r Wynfa, Dir wed'yn y gwael droedia-Adail deg Y newydd goleg a brynodd Gwalia. Elw'r cwbl i wyr y cablu,-dyma Bob dim eu pregethu Eu camrwyeg yw dwyn Cymru Yn aberth dwl i'w buarth du. Fe ddaw yr adeg pan fydd i nvydan Y rhaglaw anwar i gloi ei enau Fe gwyd yr huan ar lan eur-lynau Y GamWYR unig, a maws awenau, Y Cymry enwog a grog wrth greigian, Y wlad sydd weithian o dan groch donau, Oerlidiog getbern erledigaethau; Llewyga bleiddiaid a dall gableddau, Brwvdwyr gwyll, a'r bradwr gau-ad ei cbwant I groth ddiffyniant pob gwarth a phoenau! Ar ol i wawdwyr i lwydo,—a gwarth Droi'n gylch am eu hamdo, Bydd awen glaerwen dan glo Haul tyner y wlad bono. Y mae mintai arall i gychwyn diwedd yr wythnos hon, ac fe ddanfonir ad- roddiad neillduol am dani i'r DARIAN nesaf.

MOODY A SANKEY.

• GWRTHDARAWIAD AR Y MIDLAND.

YSGOLDY NEWYDD, DOWLAIS.

SAFON Y SLIDING SCALE.

Y PARCH. JOSHUA THOMAS.