Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
"Tra Môr tra Brython." CAPEL SARDIS, WAUNARLWYDD. BYDDE D hysbys y cynelir EISTEDDFOD yn y lie uchod dydd LLUN, Hydref 25, 1875, "prvd y gwobrwyir yr yrngeiswyr llwydd: ianus mewn Traethodaeth, Cerddoriaeth, Bardd- oniaeth, ac Adrodd. Y PRIF DDARNAU CERDDOROL. 1'r Cor heb fod dan 50 mewn nifer, a gano yn oreu "Fel y brefa'r Hydd." 8 0 0 1'r Cor heb fod dan 30 mewn nifer, a gano yn or en "Mendelssohn," o Lyfr Stevens a Jones • ••• 1 10 0 I'r Parti heb fod dan 12 raewn nifer, a gano yn oreu "Cheer Up, Companion" I 0 0 1'r Cor o Blant, dan 15 oed, a gano yn oreu "Y Plentyn Hardd," o'r Gerddorfa 1 0 0 Caniateir i 5 mewn oed i ganu gyda'r plant. Cadeirydd,—S. L. Bowen, Ysw., Llwchwr. Beirniaid—v Gerddoriaeth, Mr. D. BOWEN, Organist, Dowlais; Rhyddiaetb, Barddoniaetfh, 4c., Mr. R. RHEDYNOG PRICE, Gilfach Goch, Llantriaant. Danfonir y programmes i unrhyw gyfairiad ar dderbyniad ceiniog a dimai mewn stamps. Arweinydd,—Mr. T. Wedros Evans, C.M., Three Crosses Board School. Ysg. Cyff.,—THOMAS WILLIAMS, Gorwydd Cottage, Waunarlwydd. Ysg. Myg..—BENJA- MIN PRICE, Griffith Row, Waunarlwydd. Try- sorydd, JOHN GRIFFITHS. TO BE SOLD BY PRIV ATE CONTRACT. IN one or separate lots, FOUR SUBSTAN- TIAL COTTAGES, Nos. 390, 391, 392, 393, Cardiff Road, Aberdare, occupied by Wm. Morgans and others. Ground rent £478. Area 522 square yards. Unexpired lease 74 years. For further particulars apply at Crawshay's Arms, Hirwain. YN AWR YN BAROD. HANES BYWYD A THEITHIAU DR. LIVINGSTONE. CYHOEDDEDIGgan REES LEWIS, Swyddfa "Y FELLTEN," Merthyr. I'w gael gan yr holl Lyfrwerthwyr. [Mewn Lliain hardd, pris 2s.; drwy post, 2s. 6c. GAKPETS i CARPETS CARPETS H. LEWIS, 11, Commercial Place, ABERDARE, Will offer, on SATURDAY, the 28th instant, and following week days, several hundred yards of TAPESTRY CARPETS, at 2s. 7id. per yard, usual price 3s. 6d. Also the whole of his Stock of Brussels, Kidderminster and Felt Carpets, Hearth Rugs, Table Linen, Sheetings, Lace and Muslin Cur- tains, Cretones, Dimities, Repps, Damasks, &c., &c., much under value. A lot of slightly soiled Blankets, Remnants of Carpets and Floor Cloths will be sold regardless of cost. All the Summer Stock of Cos- tumes, Skirts, Mantles, Fancy Dresses, &c., will be cleared out at desperate prices. The goods will be marked in plain figures, and sold for Ready Money. No discount allowed. ALICE GRAY. CAN, gyda geiriau Cymreig a Saesneg yn nghyd a chyfeiliant i'r piano. Pris 4§e. Cyfeirier-S. REES, Treborth, Swansea. COLLWYD! COLL WYD JTOS Sadwrn diweddaf, rhwng naw I a deg o'r gloch, rhwng tref Aber- dar a Threcynon, collwyd WATCH ARIAN, Double Case. Pwy byiiag a ddaeth o hyd i'r cyfryw ac a'i dychwela i swyddfa TARIAN Y GWEITHIWR, a dderbynia wobr ragorol am ei drafferth. SADLERIAETH RHAD. DYMUNA J. PINNER, 12, Commercial Street. Aberdar, HYSBYSU pawb a fwriadant ym- fudo tua'r Wladfa Gymreig y gellir cael pob math o Sadleriaeth am y pris- oedd iselaf. Mae Mr. Edwin Roberts wedi mawr gymeradwyo y pethau a wneir ganddo. Gall y Cymry a fwriadant ymfudo brynu gyda mantais fawr yn y cyfeiriad hwn, 12, Commercial-street, Aberdar- SKETCHES ABOUT WALEsT" By Uwen of rr www. CONTENTS: HOW a Queen of England fell in Love with a Welshman. A visit to the Grave of the Last Native Prince of Waleu. The Wonderful Old Scholar of the Vale of Glamorgan, namely, Iolo Morgan wg, The Great South Wales Chore at Aberdare; Presentation of the Welsh Flag; Meeting at Oolston Hall, Bristol; Journey to London Harp and Fiddle in the Train; The Victory at the Crystal Palace; The Reception by the Prince and Princess of Wales, and the Czarevena of Russia; and a Complete List of Members of the South Wales Choir as it appeared below the Handel Organ at the Crystal Palace on the day that Caradog led .them on to Victory! To be had irom Owen of Wales, Pontypridd, for 12 penny stamps; and from all Western Mail" Agents. NANTGARW. BYDDED hysbvs i'rbeirdd, llenorion. a cherdd- orion yn gytfredinol, y cynehr EI&l EDL) FOD yn y lie uchod, dydd LLUN, Hydrei 11, 1875, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr llwyddianus mewn Traethodau, Barddonnieth, Cerddoriaeth, &c. „ Am y traethawd hanesyddol gsreii ar "Hen Weithiau China Nantgarw." Gwobr YI. Bydd y programmes yn barod j'n tuan, yn cynwys yr oil o'r testynau a r amodau. w cael gan yr Zsgrifenydd ^™7Pr^gOMAS, 4, Bute Esplanade, Cardiff. GOHIRIAD. DYMUNIR hysbysu v cynelir yr Eisteddfod uchod yn Ysgoldy Frytanaidd Ffynon laf, am fod y pwyllgor wedi methu yn ei amcan yn Nantgarw, a'i bod i gael ei gohino hyd y 23<m o Hydref yn lie yr lleg, fel yr hysbyswyd yn flaenorol. Hefyd, fod y Traethawd ar "Hen Weithiau China Nantgarw" i fod yn Saesonaeg. Yr eiddoch dros y Pwyllgor, W. L. THOMAS, 4, Bute Esplanade, Cardiff. Goreu arf, arf dysg," Mor u gan yw Cymru i gyd." UNDER DISTINGUISHED PATRONAGE. A GRAND EISTEDDFOD WILL be held in a large Pavillion erccted in a field close to the town of Troedyrhiw, Mer- thyr Tydfil, on Monday, September 13, 1875, when the successful competitors in Recitations, Poetry, and Music, will be awarded. Chief Choral Prize, £ 20,—" He gave them Hailstones for Rain." "The Village Blacksmith" (by Weiss) is to be competed for. A GRAND CONCERT Will take place in the Evening, when celebrated Artistes will assist on the occasion. Programmes may be had at the Taff Vale Gazette Office, or at O. BOWEN, Sec., 8, Hill-street. GWAUNCAEGURWEN. /"LYNELIR AIL-EISTEDDFOD FLYN- \j YDDOL y He uchod NADOLIG nesaf, RHAGFYR 25, 1875. I'r Cor heb fod dan 30 mewn nifer, a gano yn oreu "Yr Haf" (Gwilym Gwent) .50 I Gor o un gynnlleidfa a gano yn oreu y" Gwanwyn" (Miller) 2 0 C Ac Arweinffon i'rArweinydd, gwerth. 0 10 0 Yr Arweinydd i fod dan 21 oed. Am y 60 Ilinell goreu ar Fywyd 0 10 0 Am y ddau Englyn goreu ar Ddi- wydrwydd • ..050 Am fanylrwydd pellach, gwel y Programme; i'w gael gan yr Ysgrifenydd am y pris arferol. B D. MORGANS, Llwynrhydiau Colliery, G.C.G., Brynaman. Goreu arf, arf dysg." EISTEDDFOD LLWYNYPIA. B YDDED bysbys y cynelir Cyfarfod Cystadleu- ol yn y capel uchod, NADOLIG 1875, pryd y gwobrwyir y buddugwyr mewn Caniadaetb, Barddoniaetb, Adrodd, Areithio, &c. CANIADAETH. I'r Cor, heb fod dan 30 mewn nifer, a ddadgano yn oreu "Y Ffrwd," gan Gwilym Gwent, Rhif 94 o'r Cerddor Cymreig .500 BARDDONIAETH. Am y Bryddest Farwnadol oreu i'r diweddar Barch. Henry Rees, Llwyn- ypia .000 Bydd y gweddill o'r testynau, enwau y beirn- iaid, a'r holl fanylion i'w cael yn fuan yn y pro- gramme, pris lc.; drwy y Post, 1 !c., gan yr ysgrlfenydd, MR. B. FRANCIS, Tailor & Draper, Tonypandy, Pontypridd. DYMUNA ROBERT JONES, Dilledydd, &c., DDIOLCH yn barchus i'r cyhoedd am y gefnogaeth ryfeddol y mae wedi ei gael er pan yr agorodd ei Ystorfa Ddillad yn Marchnadfa Aberdar; hefyd, dym- una hysbysu ei fod yn benderfynol o barhau i gyflenwi y cyhoedd o ddillad da o bob math am y prisoedd iselaf er cyfarfod a'r amser tylawd presenol. Cofiwch,—Bob dydd SADWRN yn Marchnadfa Aberdar. Rhoddwch bmwf am univaith, a cliewch eich hoddlo-ni. Ysgol Nos Mr. Owen Rees. DYMWNIK hysbysu y bydd yr YSGOL NOS FLYNYDDOL uchod yn decbreu eleni nos LUN, MEDI 13, 1875. Gan na dderbynir i mewn ond nifer penodol, fel arfer, deisyfir ar y sawl a fwriadant ymuno a hi i ddvfod a'u henwau i mewn yn ddioedi er mwyn eyd-ddechreu. 1, Seymour-st.. Aberdare. Established 1868. RICHARD THOMAS PRACTICAL BOOKBINDER, AND BINDER TO THE TRADE, J 4, Albert St., Market Square, MERTHYR TYDFIL. BWRDD Y GOLYGYDD. Y mae yn ddrwg genym fod llawer o helyction Cymreig wedi eu derbyn, ond wedi methu yn lan a'u dodi i mewn yn brydlon. Bydd i ni roddi mwy o sylw i'r pethau hyn yn y dyfodol. Pob gohebiaethau ac ysgnfau i'r DA IN AX i'w cyfeirio Editor of TAEIAN Y GWEITHIWR, Aberdare. Pob archebion a thaliadau i'w hanfon i Mills, Lynch, a Davies, "Tarian y Gweithiwr" Office, Aberdare.
PHILOSOPHYDDION PRYDAIN AR…
PHILOSOPHYDDION PRYDAIN AR UNDEBAU MEISTRI A GWEITHWYR. DYDD Mawrth, yn yr wythnos ddiw- eddaf, yn un o gyfarfodydd cangenol y British Association, yn ei chynadledd fawr yn Bristol, darllenodd Proffeswr Leon Levi, F.S.A., F.S.S., adroddiad pwyllgor a apwyntiwyd i wneud ym- chwiliad i feddianau elwadol effeitliiau (economic effects) undebau meistri a gweithwyr. Dywedodd nad cyfreithlondeb na phriodoldeb yr undebau hyn oedd mater yr ymchwiliad, ond a oedd elw yn pertbyn i'w heffeithiau. I'r dyben o roddi barn ar y mater ymgynghorwyd a meistri a gweithwyr, er mwyn cael golygiadau y iiaill a'r lleill arno. Yr oedd rheolau ysgrifenedig y ddwy blaid yn adnabyddus. Ond yr oedd yn angen- rheidiol cael gwybod ganddynt a oedd- ynt yn cadw at y rheolau hyny, ac yn barod i'w hamddiffyn. Materion yr ymchwiliad oeddynt (1.) Beth a benderfyna y radd leiafo gyilog? (2.) A all y radd leiaf hyny fod yn unffurf mewn unrhyw grefft, ac a ellir rhoddi yr unffurfiaeth hwnw mewn gweithrediad trwy orfodaeth ? (3.) A all undeb effeithio ar raddoldeb cyfiog er budd i'r meistr neu y gweithiwr? (4.) A all atalfa gwaith neu gyfalaf trwy benderfyniad celfyddydol fod yn iawn, yn ol deddf elw, neu fod yn fuddiol o dan unrhyw amgylchiadau ? I'r dyben o gael atebion i'r cwestiynau hyn ymgynghorwyd a Mr. Whitworth ac eraill, ar oehr y meistri, ac a Mr. Macdonald, A.S., ac ereill o blaid y gweithwyr. Yn ngwyneb yr atebion a gafwyd, dywed yr adroddiad a ddarllenwyd gan Mr. Leon Levi fod y prawf cyntaf o ddigonoldeb cyllog, yn ei berthynas neu ei gyfartaledd a phrisiau angen- rheidiau bywyd. Os felly, nid prisoedd nwyddau a werthir gan y meistr yn y farchnad yw unig reol graddoliaeth y gyflog. Rhaid ystyried ar ba faint o gyflog y gall y gweithiwr fyw, yn ol prisoedd march- liadol augenrheidiau. Fel hyn y mae buddiant y gweithiwr gystal ag elw y meistr i'w ystyried, yn ol barn athron- wyr mwyaf yr oes, yn y .British Asso- ciation. Dywed Proffeswr Rogers, un o aelod- au y pwyllgor uchod, perthynol i'r British Association, "Y radd leiaf o gyflog yw y radd leiaf ar ba un y gall gweithiwr gynal ei hun, yr hyn a all efe gael o dan yr amgylchiadau mwyaf anffafriol." Ond medd yr adroddiad, ni ymostyngir i dderbyn y radd leiaf hon ond Q dan amgylchiadau o angen mawr. Dywedodd un o gynrychiolwyr gwaith, Y radd leiaf o gyflog yw yr hyn a dderbynia y gweithiwr gwaethaf, gan y meistr gwaethaf, o dan yr am- gylchiadau gwaethaf." Yn ngwyneb hyn, dywed adroddiad Proffeswr Leon Levi nas gallwn gy- meryd y radd leiaf o gyflog, yn ol y desgrifiad uchod o honi, fel sylfaen briodol digonoldeb cyfiog. Medd efe yn mhellach, nis gallwn wybod pa feint o effaith sydd gan annigonoldeb eyflog i sicrhau angenrheidiau bywyd yn y wlad hon i acliosi ymfudiaeth gweithwyr i wledydd ereill, bob blwyddyn, yn ngwyneb fod gwell cyf- logau i'w cael yno. Y mae traul angenrheidiau bywyd wedi cynyddu yn ddirfawr yn y wlad hon o fewn yr ugain mlynedd diweddaf. Y mae cysuron blynyddau yn ol, mewn bwydydd a dillad, wedi myned erbyn hyn yn angenrheidiau. Ac y mae rhentoedd tai yn llawer uwHa nag y buont. Wrth y ftbithiau hyn y dylid barnu swm cyf- logau digonol, er nas gellir rheoleiddio maint y swm yn ol terfynau moetlius- rwydd gwlad. Gyda golwg ar berthynas eyflog,, a marchnad gwaith a nwyddau, dywed yr adroddiad, mai y radd leiaf o gyflog yw y radd y mae gweithwyr yn foddlon i'w derbyn o dan yr amgylchiadau. Y mae leu hundebau yn eu cytarwyddo yn ughylch sefyllfa rnasnach a gwerth eu gwaith. Ond nid yw yr hyn y meddylia gweithwyr a ddyient gael fel cyflog yn ateb i'r hyn y meddylia y meistri eu bod yn abl i'w roddi. Yn sefyllfa wreiddiol pethau, medd yr adroddiad, pender- fynir eyflog, o ran swm, wrth y nifer o weithwyr fydd yn ceisio eael gwaith, yr hwn a sefydlir gan swm o gyfalaf. Ond rheoleiddir swm cyfalaf wrth swm traul gwneuthuriad nwyddau, a'r pris a geir am danynt yn y farchnad. Yn hyn ystyrir gwerth cyfalaf fel arian, gwerth defnyddiau, gwerth arolygiad, a chyflogau gweithwyr. Ond rhaid i feddianydd cyfalaf ystyried faint a rydd prynwyr am nwyddau wedi eu gwneud, gymaint a'r pethau a enwyd uchod. Heb brynwyr, ac heb brisoedd, a'u denant i brynu, rhaid iddo roddi i fyny gynyrchu nwyddau. Nis gall meistr lywodraethu traul y gwahanol bethau a berthynant i gynyrchiant ei nwyddau. Y mae gwerth cyfalaf, a defnyddiau o bob math, yn cael ei reoleiddio yn ol deddf supply and demand yn mhob gwlad. Ystyriaawdwryr adroddiad, sef Mr. Leon Levi, tod yn anhawdd iawn i arweinwyr gweithwyr, yn eu hundebau hwy, i ddeall yr holl ffeithiau perthynol i'r farchnad i fedru penderfynu faint ddylai y gyflog fod. Barna efe a'r pwyllgor dysgedig a gytunodd ar yr Z71 adroddiad, y gallai y meistri egluro yr amgylchiadau—o herwydd pa rai y gostyngant gyflogau, neu y gwrthodant eu dyrchafu—i'r gweithwyr, neu i'w harweinwyr, yn y fath fodd ag i rag- flaenu anghydfod rhwng meistri a gweithwyr. Dywed yr adroddiad, ei fod yn "natirriol ond yn antfortunus nad yw y meistri ond yn anaml yn cynyg codi cyflogau, pan y mae y farch- nad yn caniatau hyny, hyd nes y gor- fodir hwynt, ond eu bod yn barod i ostwng cyflogau heb fod neb yn ceisio hyny. Pe y dangosent gymaint parod- rwydd i godi cyflogau ag i'w gostwng, lleddfai hyny lawer ar elyniaeth y Trades Uniorisyn eu herbyn." Rhodd- odd y cyfarfod uchel gymeradwyaeth i'r syniadau hyn. I/ Dengys yr adroddiad! fod y pwyllgor wedi ymchwilio i ddeall pa mor belled yr oedd y gweithwyr yn credu fod y meistri yn cael cyfran ormodol o elw ar draul eu gwaith hwy. Cafwyd ar ddeall y credai y gweithwyr nad oeddynt wedi cael dim yn debyg cymaint o gyflog yn 1 1873 am godi y glo a chyfartaledd yr elw a gafodd y meistri. Coifa yr ad- roddiad dystiolaeth Mr. Halliday o fiaen pwyllgor yn y Senedd, yr hwn a ddywedodd mai rheol chwanegiad cyfiog y mwnwr yw dwy geiniog ychwanegol y dydd am bob deg ceiniog y dynell. Ond telir yn ami i'r gweithiwr geiniog yn lie dwy y dynell yn rhagor, ac yn ami ni chai If ddim yn rhagor. Pan y cyfododd pris y glo yn y farchnad 2s. 6c. a 5s. y dynell, ni ohyfodwyd y gyflog ond 8c. yn y dydd. n Dywed yr adroddiad fod y Trades Unions yn cymeryd yn ganiataol, heb ymchwiliad, fod pob un o'u haelodau yn abl i weithio yn gyfartal a'i gyd- weithwyr, a eh an hyny dylai swm y gyflog fod yn unftorf i bawb. Cyfaddef- odd gweithwyr fod rhai yn gallu cy- nyrchu mwy yn eu gwaith nag ereill. Y mae galluoedd meddyliol a chorfforol dynion, yn nghyd a'u nodweddion moesol, yn gwahaniaethu yn ddirfawr, Ac y mae cynyrch eu gwaith yn gwa- haniaethu i'r un graddau. Gan hyny 'llis gall cyfiawnder ofyn unffurfiaeth yn ngraddau cyflogau pawb. Gyda golwg ar ddylanwad undebau ar gyflogau, dywed yr adroddiad fod meistri yn haeru nas gall undebau godi cyflogau. Ond dywed gweithwyr fod digon o brofion i ddangos nad yw gweithwyr wedi cael codiad cyflogau yn ol y ferchnad ond trwy ddylanwad y Trades Unions. Y mae meistr mewn gwaith mawr yn gallu troi un gweithiwr ymaith heb deimlo y gblled, ondy maeyn golled fawr i'r gweithiwr. Heb undeb, gan hyny, ni allai. y gweithiwr ddal allan i sicrhau bywiol- iaeth iddo ei hun a'i deulu. Cyd- nabydday pwyllgor fod Trades Unions yu fuddiol i gyflymu camrau cyfiawn- der, yn ol y farchnad, rhwng meistr a gweithiwr, a pheri i gyflog fod i fyny neu lawr yn ol y farchnad, ac nid yn ol trefniant arferiad ddiddeddf, er na all elw y meistri na chyflogau fod ond yn ol graddau supply and demand yn y pen draw. Dywed; yr adroddiad- fod. y meistri yn tystio fod rhai cangenau o waith wedi cael eu niweidio am byth gan undebau y gweithwyr. Ond nid ym- ddengys hyn yn eglur i'r pwyllgor. Dywed fod cynyrch gweithfeydd y wlad hon yn fwy yn awr i raddau aruthrol nag y bu erioed. Y mae mas- nach glo a colce wedi cynyddu 223 yn y cant mewn deng mlynedd; copr, 159 yn y cant; cotton yam, 49y cotton manufacture, 113; haiarn, 112 wor- sted mamifacture, 71 yn y cant. Barna y pwyllgor fod cynllun undeb- au gweithwyr yn cadw eu gilydd allan o waith, er mwyn cadw y gyflog i fyny, yn niweidiol, ac nad yw yn syl- faenedig ar unrhyw egwyddor o haedd- iant moesol, nac effeithiolrwydd mas- nachol yn nghynyrchiant llwyddiant unrhyw ddosbarth o ddynion. Eto cydnabydda y pwyllgor fod nerth yn atebiad gweithwyr i'r sylw uchod, sef fod gan y gweithiwr gystal hawl i dynn ei waith o'r farchnad, os na bydd ei waith yn dwyn digon o elw iddo, ag sydd gan y meistr i gadw ei nwyddau o'r farchnad, a chwythu allan ei ffwrnesi yn ngwyneb nad yw yn cael digon o elw. Y mae yn wir y gall y meistr fyw, er lleihau cynyrch ei weithfe ydd; ond nis gall y gweithiwr fyw heb weithio oddieithr yn achlysurol. A thrwy beidio gweithio pan y bydd gwai th i'w gael gall sychu fxynonell gwaith a niw- eidio" ei hun. Eto nid yw ymresym- iadau y pwyllgor fawr gwell ar y mater hwn nag aweTymiadpu, heb fedru meisfcroli yr holl ffeithiau, a ffurflo cynllun o weithredu a ateba i fanyl- rwydd gofynion rheswm. Wedi darPeniad yr adroddiad, Mr. Handel Cossham a ddywedodd fod y gweithwyr mewn strike yn ysbeilio y n wlad o'r gwaith y mae gan y wlad hawl iddo. Y mae y meistri yn euog o'r un peth mewn loch-out. Y mae gan ygenedl hawl ar y ddwy blaid, mewn cyfalaf a gwaith. Rhoddodd y cyfarfod uchel gymeradwyaeth i'r syniadau hyn. Dy- wedodd efe fod y Creawdwr wedi setlo fod gwaith i gael ei wneud. Chwe' diwrnod y gweithi." Unrhyw undebo ddynion a rydd y gyfraith hon naill ochr a siomir. Dywedodd mai colled i'r wlad oedd fod gweithwyr da yn ymfudo o honi. Nid buddiant i'r wlad yw i gyflog y gweithiwr fod mor isel ag y gall fod. Dylai gael, nid yn unig angenrheidiau, ond digonedd i fwynhau byWyd. Cymeradwy wTyd y geiriau hyn yn fawr. Dasthant gyda grym o enau meistr gwaith fel efe, yr hwn sydd yn talu cyflogau i lawer o weithwyr. Beiodd y meistri yn Nghymru yn fawr am y loch-out. Mr. Samuel Morley, A.S., a ganmol- odd yr adroddiad, a phleidiodd gyflaf* areddiad. Pleidiwyd ef hefyd gan Mr. Chadwick, A.S. Y mae 7,000 o lowyr yn gweitbio o dano ef. AmI wg yw fod boneddwyr deallus trwy y wlad wedi dechreu ystyried achos y gweithiwr yn ngoleuni rheswm a ffeithiau, ac nid yn ngoleuni aristo- cratiaeth cyfoeth honiadol gorthrymus. Brysied y dyddiau pan y bydd y blaidd yn trigo, yn ddiwanc am waed, gyda'r oen.
ABERDAR-CYNGERDD MISS WILLIAMS.
ABERDAR-CYNGERDD MISS WILLIAMS. Nos Ian, yr wythnos ddiweddaf, anrheg- wyd Aberdar ag ymweliad rhai o brif ddatgatiwyr Cymru, yn mherson Miss L. Williams (Llinos y De), yn awr o Brifysgol Gerddorol (R.A.M.), Llun- dain Miss Harris, o'r un sefydliad; Gwilym Oynon, Eos Dar, Hywel Cynon, ac Ap Herbert, yn cael eu cynorthwyo gan Glee Party Aberdar. Yr oedd y gyngerdd hon yn un o'r rhai goreu a gynaliwyd yn ein neuadd erioed. Y mae Llinos y De yn debyg o ddyfod yn un o brif ser cerddorol y deyrnas, a dy- lem fod yn falch ei bod yn un o honom. Ni fyddai ond ofer canmol y rhai a gy- merasant ran, y ma,e eu henwau yn ddi- gon, ac yr oedd y gymeradwyaeth uchel a gelent gan y gwyddfodolion yn dciigon o brawf eu bod yn wir dderbyniol.
EISTEDDFOD WAUNARLWYDD
EISTEDDFOD WAUNARLWYDD ER mantais i'r csrau ac eraill sydd yn bwriadu cystadlu yn yr Clsteddfod uchod, yr ydym fel pwyllgor wedi penderfynu ei chynal yn yr Athenseum, Llanelli, Caerfyrddin. Yr ydym yn cael ar ddeall fod amrywgorauyn parotoii'r ymgyrch, 1 11 y pan. y byddant yn cael ei mantoli gan y bachgen talentog hwnw o Ddowlais, sef Mr. D. Bowen, accompanist Cor Mawr Deheudir Cymru; a'r beirdd, byddant hwythau yn cael eu mantoli gan y ffiraethbert Rhedynog. Yr ydym yn bwriadu cael gwledd o'r iawn ryw. UN O'R PWRLLGOA.