Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

RHEOLAU UNDEB CENEDLAETHOL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHEOLAU UNDEB CENEDLAETHOL Y MWNWYR. (Parhad o'r rhifyn diweddaf.) Os cymera ataliad gwaith le yn unrhyw Gymdeithas Gymydogaethol perthynol i'r Undeb hwn, ac yn gofyn ei gynorthwy moesol neu arianol, y mae yn rhaid i Gyngor neu Bwyllgor y Gymdeithas Gymydogaethol, trwy ei Ysgrifenydd, osod gerbron Llywydd ac Ysgrifenydd yr Undeb Cenedlaethol holl amgylchiadau yr annealldwriaeth, y rhai a gant hawl i alw y Bwrdd Canolog yn nghyd i'r dyben o wneud ymehwiliad i'r achos, wedi yr hyn (os profir yn yr ymchwiiiad fod aelodan y Gymdeithas Gymydogaethol wedi geweifhredu yn unol a Rheolau ac egwyddorion yr imdeb) y bydd hawl ganddynt i ganiatau cynorthwy yn oj y Rheolau. 18. Nad yw y Gymdeithas hon yn cydnabod ond dau ddosbarth o aelodau ynunig, sef, Aelodau Llawn ac Haner Aelodau. Yn mhob achos bydd haner aelodau yn talu ac yn derbyn haner yr hyn y bydd yr aelodan llawn. 19. Unrhyw Gymdeithas Gymydog- aethoj yn chwenych dyfod yn aelodau o'r- Undeb Cenedlaethol, a raid apelio at y Llywydd a'r Ysgrifenydd, y rhai a ddygant y cyfryw apel o flaen cyfarfod cyntaf y Bwrdd neu Gynadledd, pryd y penderfynir pa un a ganiatair y cais ai peidio ac, os ei derbynir, penderfynir derbyndal pob aelod o'r cyfryw Gymdeithas Gymydogaethol yn nnol a thrysorfa yr Undeb Cenndlaeth ol; er esiampl, os bydd chwe cheiniog yr aelod yn nhrysorfa yr Undeb, yna y mae yn rhaid i'r Gymdeithas a apelia am dderbyniad dalu chwe cheiuiog yr aeled fel derbyndal. 20. Os cymera unrhyw ddamwain le yn nnrhyw Gymdeithas Gymydogaeth- ol, trwy yr hon yr aberthir bywydau, neu y niweidir yr aelodau, caiff Cyngor neu Bwyllgor y cyfryw Gymdeithas weithredu yn y cyfryw fodd ag a ys- tyrir yn aigenrheidiol er gwneud ym- chwiliad trwyadl i amgylchiadau y ddamwain, ac os bydd y Cynghor neu y Pwyllgor o'r farn fod meistri neu oruchwylwyr y cyfryw weithfa He y cymerodd y ddamwain le yn euog o es- geulusdod, caiff yr achos ei osod o flaen Llywydd ac Ysgrifenydd yr Undeb Cenedlaethol, y rhai a gant, cyn ym- wneud yn gyfreithiol a'r pwnc, osod y peth o flaen y Gynadledd neu Fwrdd Canolog, a hyny mor gynted ag y byddo bosibl, a chaiff ei drafod yn y dull y cytunir arno yn y cyfryw gynadledd. 21. Nadywyr Undeb Cenedlaethol i ddwyn dim o'r treuliau wrth gario allan y rheol flaenorol, hyd nes y bydd i'r Gynadledd neu y Bwrdd Canolog gymeryd y pwnc mewn Haw, wedi hyny bydd yr holl dreuliau i gael eu tain o'r Drysorfa Genedlaethol, a phob treuliau a gofynion perthynol i'r achos, tra dan lywodraeth y Cyngor neu Bwyllgor Cymydogaethol, a delir gan y cyfryw Fwrdd, ac nid o'r Drysorfa Genedlaethol. 22. Ni chaniateir i Lywydd, Ysgrif- enydd, a Thrysorydd, i gynrychioli un- rhyw Gymdeithasfa Gymydogaethol neu Gynrychiolwyr tra y byddont mewn swyddi; ond yn yr holl Gynadleddau neu gyiarfodydd y Bwrdd Canolog, cariateir iddynt bleidleisio. 23. Caiff pob person a apwyntir i wneud gwasanaeth ar ran y Gymdeith- asfa, am bob diwrnod o wasanaeth, dderbyn y cyfryw swm ag a benderfyn- ir o bryd i bryd gan y Gynadledd, a thraul y train i'r ac o'r cyfryw le y cyflawnir y gwasanaeth. Ni chaiff un- rhyw ddirprwyaeth ei hystyried yn gyfreithlon onifapwyntir ef gan y Gy- nadledd neu y Bwrdd Canolog. 24. Caiff Y sgrifenydd bob Cym- deithas Gymydogaethol wneud allan adroddiad cywir unwaith bob tri mis i Ysgrifenydd yr Undeb, yn hysbysu pa nifer o aelodau a berthynant i'r Gym- deithas Gymydogaethol, a chyfanswm llawn ei thrysorfeydd, yn nghyda sef- yllfa helyntion y cyfryw Gymdeithas. 25. Unrhyw Gymdeithas Gymydog- aethol a fyddo mewn cysylltiad a'r Un- deb Cenedlaethol, ac yn segui-, ac yn cadw gyda Rheol yr 8 fed, ac yn derbyn bndd yr Undeb; a gant dalu en cyfran- iadaumisol; ond unrhyw Gymdeithas Gymydogaethol neu Ddosbarth, neu unrhyw gyfran o'r cyfryw, yn segur neu allan o waith o herwydd amgylch- iadau nad oes ganddynt reolaeth dros- tynt, ac heb dderbyn budd yr Undeb, a esgusodir rhag talu unrhyw gyfrau- iadau i'r Undeb Cenedlaethol yn ys- { tod y cyfryw amser y byddont allan o waith. 26. Er darparu. ar gyfer diogelwc-h pellach Trysorfeydd yr Undeb een- edlaethol, fe appwyntir, gan y Gyiiau- ledd, bump o Ymddiriedolwvr, yn enwau y rhai y diogelir pob ari:.n dros ben y swm a ganiateir yn nwylaw y Trysorydd. Bydd gan be'hvar o'r Ymddiriedolwyr hawl i weithiedu yn mhob achosion arianol, yn mi "I a chy- farwyddydy Gynadledd neu y Ibvixld Canolog. Bydd gan y Gynadledd hawl inewid yr ymddiriedolwyr ar un- rhyw adeg yr ystyriant hyny yn angen- rheidiol.

TEEFNIANTAU SEFYDLOG.

BWRDD IECHYD ABERDAR AC ISAAC…

..-.-------.---TABOR, CROSS…

ABERAMAN, DAMWAIN ANGEUOL.

LLEWELYN'S ARMS, PENTRE YSTRAD.

ABERAMAN.-URDD YR HEN FRYTANIAID.

MAESTEG.-DAMW AIN.

BWRDD UNDEBOL PONTAR. DAWE.

AT Y BEIRDD.'

Y BEDD.