Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
Y GYFRAITH NEWYDD YN ERBYN…
Y GYFRAITH NEWYDD YN ERBYN CYDFRADWRIAETH. P ASIWyD eyfraith yn y senedd-dymor diweddaf yn erbyn cydfradwriaeth gweithwyr, neu ryw rai ereill, i ddrvgu meddianau neu unrhyw waith oddi- wrth yr hwn y deillia budd i'r boblog- aeth. Enw y gyfraith yw, Conspi- racy and Protection of Property (38 & 39, Vict. ch. 86.) A.D., 1875." Dyddiwyd y gyfraith Awst 13eg, 1875. Cafodd awdurdod yr orsedd y pryd hwnw. Cynwysa un-ar-ddeg o adran- au. Yr adran gyntaf a rydd enw y gyfiaith. Yr ail a ddywed ei bod i ddvfod i weithrediad Medi laf, 1875. Eglurwn yr adranau o dan ei rhifnodau. 3. Ni bydd cytundeb rhwng dati, neu ragor o bersonau i wnend gweith- red, neu beri iddi gael ei gwneud, gan fwiiadu neu barhau dadl mewn gwaith rhwng meistri a gweithwyr, i gael ei chospi fel cydfradwriaeth, os na bydd y weithred yn un gospadwy fel trosedd yn ha eddu cosp ar berson y troseddw (crime.) Os bydd y weithred yn un n o'r fath, bydd y troseddwr yn agored i gael ei garcharu gan y llys am dri mis, neu ragor, fel y byddo y gyfraith yn caniatau. 4. Y mae yr adran hon, sef y bed- waredd, yn rhoddi awdurdod i gospi dyn a doro ei ymrwymiad i gyflenwi tref neu ardal a nwy (gas), neu ddwfr, o ugain punt, neu dri mis o garehariad, with o'r without hard labour. 5. Y mae yr adran hon yn rhoddi i ynadon awdurdod i gosbi dyn fyddo wedi cytuno, neu wedi cael ei hirio i wneud gwaith, ag ugain punt o ddi- rwy neu garchariad o dri mis, with or without hard labour, os bydd efe ei hun, neu mewn cytundeb ag ereill- trwy beidio gwneud ei waith yn ol ei gytundeb-yn peryglu bywyd, neu yn achosi niwaid i gyrff dynion, neu yn peri dinystr i feddianau gwerthfawr. 6. Os bydd meistr mewn rhwymau cyfreithiol i'w was, neu ei brentis, mewn modd gwirfoddol yn esgeuluso rhoddi iddo ymborth, dillad, meddyg- iniaeth neu lefy angenrheidiol, heb es- gusawd cyfreithlon, trwy yr hwn es- b geulusdra y gwneir niwaid pwysig a pharhaol i'r gwas, neu y prentis, rhaid i'r meistr a wnelo felly dalu ugain pint o ddirwy, neu gael ei garcharu am, nid rhagor na chwe mis, with or without hard labour. 7. Y mae yr adran hon, sef y seith- fed, yn bwysig iawn i weithwyr. Yn 01 hon cospir dyn gan yr ynadon ag ugain punt o ddirwy^ neu dri mis o garchariad, with or witl Olt liard la- bour, am orfodi unrhyw weithiwr neu unrhyw berson i beidio gwneud, neu i wneud yr hyn y mae gan y person hwnw bawl i'w wneud neu i beidio ei wneud. Y mae ffiirf y gorfodaeth angbyireithlon fel y canlyn yn yr ad- ran :— (1) Defnyddio moddion gortnrecnoi, bygythiol, tuag at berson gweithgar, neu ryw un arall, neu tuag at ei wraig, nen ei blentyn, neu a ddinystria eiddo y gweitbiwr, neu ryw un arall neu, (2) Yn gildynus addilyna y gweith- ,iwr, neu ryw un arall o le i Ie, neu, (4) A guddia offer gwaith, dillad, neu bethau ereill fydd yn eiddo i'r gweithiwr, neu ryw un arall, neu a'i hamddifada o'r pethau hyn, fcl na all -eu defnyddio yn ei waith neu, (4) A wylia neu a gylchyna dy, neu le arall lie y bydd y gweithiwr, nei ryw un arall yn aros, neu yn gweithio, neu a wylia ar arweinfa i'r lie y byddo efe neu, (5) A ddilyna y cyfryw weithiwr neu berson, gyda dau neu ragor o bersonau, mewn modd atreolus, ar hyd heolneu ffordd. 8. Yr adran hon a rydd awdurdod i ynadon i leihau swm dirwyon, i ddim llai nag un rhpn o bedair o'r dirwyon 0 dan gyfreithiau neu weithredoedd seneddol ereill. 9. Yr adran hon a rydd hawl i'r person a gyhuddir i wrthod cael ei farnu gan yr ynadon, y rhai a allant ei erlyn ar gyhuddgwyn (indictment). 10. Yn ol yr adran hon gall yr yn- adon gospi yn ol y Summary Juris- diction Act. 11. Yn yr adran hon rhoddir aw- durdod i rai a rwymir mewn cytundeb- au at waith, yn ol adranau 4. 5, 6, y gyfraith hon, hwy, eu gwyr, nen eu gwragedd, i fod yn dystion mewn er- lyniad. 12. Rhydd yr adran hon awdurdod i unrhyw ddyn a erlvnir, yr hwn a deimla nad yw yn cael cyfiawnder ar law yr ynadon, i apelio at y Quarter Sessions." Ond rhaid i'r apeal fod, (1) Yn mhen pymtheg diwrnod ar 01 penderfyniad yr ynadon, ond nid cyn hyny na rhagor. na phedwar mis ar ol hyny. (2) Rhaid i'r apeliwr roddi hysbys- rwydd ei fod yn myned i apelio i'r parti gwrthwynebol iddo, ac i'r ynadon, yn nghyda'i resyman am apelio, yn mhen saith niwrnod wedi i achos yr apeliad gymeryd lie. (3) Rhaid i'r apeliwr yn ddioed wedi rhoddi yr hysbysrwydd yn nghylch yr apel o flaen yuad heddweh, yn gystal a meichiau, neu hebddynt, ymrwymo i brofi yr achos, ac i ymostwng i farn y llys arno, ac i dalu y costau a wely llys yn gyfiawn iddo eu talu. (4) Os bydd yr ynadon wedi car- charu yr apeliwr, gall ynad, os gwel yn dda, eiryddhau, ond iddo ymrwymo fel y dywedir uchod. (5) Gall y llys i ba un yr apelir ohirio yr apel, ac wedi clywed dadl ly yr apel, gall gadarnhau y farn flaenorol, neu ei diddymu, neu wneud cyfnewid- iad yn mhenderfyniad yr ynadon, neu .u hanfon yn ol at yr ynadon, a golyg- iad y llys ami, nsu orchymyn rhyw beth yn yr achos fel y byddo y Ilys yn gweled hawl eyfiawnder; ac os bydd yr achos yn cael ei anfon yn ol i'r ynadon (neu y court of summary Jurisdiction), rhaid i'r llys hwn o ynadon ail-wrando y ddadl a phenderfynu yn ol barn Ilys yr apel. 13. Eglura yr adran hon pwy yw yr ynadon, fel yn yr erthygl a roddasom yr wythnos ddiweddaf ar y gyfraith newydd yu nghylch dyledswyddau meistri a gweithwyr. 14. Eglnra yr adran hon pwy yw y "municipal authority." 15. Yn hon cyfeirir at "Act, relat- ing to malicious injuries to property, 24 & 25, Vict. chap. 97, sectiou f>8, i egluro beth a feddylir wrth y gair "malicious," sef bwriad drwg, yn y gyfraith hon. 16. Nad oes dim yn y gyfraith hon yn gymhwysiadol at forwyr, nac at brentisiaid ar y mor. 17. Wedi dechreuad awdurdod y gyfraith hon diddymir y gyfraith perth- ynol i droseddau tebyg i'r rhas a gosb- ir dan y gyfralth hon. Y gyfraith a ddiddymir yw 34 a 35, Vict., chap. 32. A chyfraith "Meistr a Gwas" 1867, oddieithr rhyw eithriadau ffurf- iol yn nghylch ynadon, a'u hawdirdod yn y wlad hon a'r Iwerddon, a hen gyfreithiau ereill yn rhai o'u hadranau perthynol i waith. 18. Ffurfo gymhwysiad y gyfraith at Ysgotland yw yr adran hon. 19. Felly yr adran hon a'r 20 a'r 21 at yr Iwerddon. Gwelir wrth adranau y gyfraith hon fod gofal mawr wedi bod, ac yn bod, i gadw y gweithiwr gyda ei waith, er mwyn cadw canlyniadau drwg oddi- wrth ereill; ond ychydig iawn a ddy- wedir yn nghylch y posiblrwydd i fawr- ion y wlad, y rhai a roddant waith, i wneud annhegweh a'r gweithiwr. Ac y mae ffurfiau en apeliad at lys uwch yn drwm ac anhawdd, fel ag i ladd ei obaith am gyfiawnder. Ond beth ly gwell a allesid ddysgwyl oddiwrth Dori- aeth, yr hwn sydd yn llywodraethu ein Senedd yn awr ?
+1 MASNACII GLO A HAIARN.
+ MASNACII GLO A HAIARN. Medi 4. Birmingham. Eg-lur yw nad oedd prophwydoliaethau pruddglwyfus bapyrau Llundaiu, am ragolygon mas- nach yn y lie hwn ychydig wydinosau ol, ond rhai hynod tyr eu golwg. Y mae yr un bapyrau yn awr yn dweyd nad oes diffyg gwaith yn y prif weith- faoedd. Ond ceisiant dynu nos dros gyfandir Ewrop o ran ei masnach, o herwydd y gwrthryfel bychan a phell sydd yn Twrci, pan ar yr un pryd y dywedant eu bod mewn Uawn waith, ynparotoi arfau rhyfeli wledydd ereill. Os yw rhyfel yn un man neu wlad yn rhwystro un math o fasnach,y mae rhy- fel mewn gwlad arall yn ei bywhau hi mewn arfau rhyfel. Beth a ddeuai o Birmingham oni bai fod rhyfeloedd yn bod ? Deheudir Cymru. Ceisia papyrau Llundain dynu noseiddiwch dros fas- nacli haiarn Cymru. Ond nis gall fod yn ddrwg iawn pan yr hysbysant fod sibrwd gobeithiol yn bod yn nghylch gwaith Plymouth, ibd Cwmni newydd yn myned i'w gymeryd. Humour yw hyn meddant hwy. Y mae masnach yn myned yn mlaen yn dda yn Middlesborough. Medi 8. Wolverhampton. Pryu- wyr yn methu cael haiarn yn ddigon cyfiym am yr hen brisoedd. oJ Medi 9. Ni ystyrir frid masnach mor fywiog ag y bu hi ychydig ddydd- iau yn ol. Ond eglur yw fod tuedd yn haneswyr masnach i ddychymygu a phrophwydo, er fod profion yn dyfod i'r golwg yn barhaus mai gau bro- phwydi ydynt.
+ DAM WAIN DDYCHRYNLLYD MEWN…
+ DAM WAIN DDYCHRYNLLYD MEWN GLOFA. 11 0 Fywydau WEDI eu COLLI. Cymerodd dam wain ddychrynllyd le ddydd Sadwrn diweddaf mewn glofa yn bhropshire, trwy yr hon y collwyd unarddeg o fywydau. Erbyn chwech o'r gloch yn y boreu, yr oedd yr ychydig weithwyr a weithient yn mhwll Henry Guy, yn nglofa Donnington Wood, ar ben y pwll yn barod am fyned i lawr. Aeth chwech i lawr i ddechreu, a phump arall i'w canlyn. Yr oedd Henry Guy, y swyddog mewn gofal, ar ben y pwU gyda thri o lowyr ereill, i'r lhai nad oedd gwaith am y diwrnod. Wedi i'r unarddeg gyr- haedd y gwaelod, yr oedd ceffyl i fyned i lawr. JDeallwyd, modd bynag, nad oedd neb ar waelod y pwll i dderbyn y cefiyl, a me thai gwaeddiadau ar y lan a chae). un math o atebiad. Dechreu- wyd ofni fod rhywbeth wedi cymeryd He, a gwnawd parotoadau i ddisgyn trwy y pwll arall. Erbyn cyrhaedd y gwaelod, deallwyd fod tanchwa wedi cymeryd lie mewn rhan o'r gwaith, a bod y tagnwy angeuol yn llanw y lie. Ymdaenodd y si yn gyflym, ac nid hir y bu wycl cyn bod digonedd yn barod i auturio er ceisio achub eu cydweith- wyr, os oedd hyny yn ddichonadwy. Y peth cyntaf y deuwyd o hyd iddo oedd eorff y ceffyl, ac o dano gyrff y ddau lowr a'i derbynient. Methid myned dros rhyw saith llath oddiwrth waelod y pwll o herwydd y nwyon angeuol, er ceisio drachefn a thrachefn. Modd bynag, erbyn haner dydd, yr oedd yr holl gyrff wedi eu cael, y rhai a symud- wyd i'w cartrefi. Nid oedd ond tri 0 honynt o dan 20 oed. Eu henwau oeddynt James Morgan, Thomas Joke, James Wagge, James White, Emman- uel Guy, David Guy, James Stank- worth, Edward Guy, Charles Hay- ward, Alfred Guy, a James Guy. ♦
CYFOETH DISYMWTH.
CYFOETH DISYMWTH. YN llysoedd bwrdeisdrefol Kingston- on-Thames, dydd Sadwrn, yr oedd car- chares o'r enw Margaret Stacey, ain feddwdod. Rhai blynyddoedd yn ol yr oedd ei gwr wedi ei gadael, gan fyned a'i blant gydag ef i'r America. Ychydig ddyddiau yn ol, yr oedd y wraig, yr hon oedd wedi bod yn der- byn cynorthwy plwyfol, wedi cael y newydd fod ei gwr wedi marw, ac wedi gadael ar ei ol iddi hi ryw £ 30,000. Yr oedd y newydd da hwn wedi achosi iddi yfed yn helaethach nag arfer. + .—
TAN MEWN" GLOFA.
TAN MEWN" GLOFA. Canol nos Sul diweddaf torodd tau dychvynllyd all an yn nglofa Wallows, perthynol i Arglwydd Dudley, yr hwn na ddarganfyddwyd am beth amser. Y mae dinystr mawr wedi ei wneud yn y lofa, ac oddeutu pedw a- ugain o I geffylau, gwerth deugain punt yr un, wedi en llosgi i farwolaeth.
-4 (tO RU CH W YLIWR GLO WYE…
-4 (tO RU CH W YLIWR GLO WYE ABERDAR. Cymerodd etholiad Agent newydd i ddosbarth Aberdar le yr wythnos ddi- weddaf, pryd y derbyniodd Mr. Samuel Davies y liiwyafrif o'r pleidleisiau, ac y cyhoeddwyd ef wedi ei ethol yn rbc- olaidd. — 4
MR DALZIEL AC UNDER Y MEISTRI.
MR DALZIEL AC UNDER Y MEISTRI. Dydd Mawrthdiweddaf, yn nghyfarfod Chwarterol Undeb y Meistri, darllen- wyd llythyr oddiwrtii Mr. Dalziel, yn yr hwn rhoddai efe i fyny ei swydd fel ysgrifenvdd. Y mae yn ymddang- as fod yr Undeb yn bwriadu i'w hys- grifenydd, 0 hyn allan, roddi.ei holl amser ato. Y mae Mr. Dalziel yn debyg o gadw ei swydd yn mlaen hyd C', 11 ddiwedd y llwyddyn.
DAL MORFIL YN YR HAFREN.
DAL MORFIL YN YR HAFREN. DYDD LInn diweddaf, yn agos i Lyd- nev, daliwyd morfil gan bysgotwyr, yr hwn a bwysai ddwy dynen ac un-cant- ar-ddeg, ac a fesurai 27 troedfedd o hyd. Cymerwycl t'f dydd Maw:th er ei arddangos yn Gloucester. -_u.+-
EISTEDDFOD TYNEWYDD.
EISTEDDFOD TYNEWYDD. Cynaliwyd yr Eisteddfoh hon dydd LIun diweddaf, ) n ysgoldy Ty-newydd, pryd y llywyddwyd gan Mr. Jones, goruchwyliwr glofeydd Wyndham. Trodd yr Eisteddfod allan yn rhagorol, a dysgwylir y cynelir yr Eisteddfod yn flynyddol yn y lie, ac yr adeilcdir He cyfleus i'w cynal erbyn y tiwyddyn ddyiodol. +
ABERDAR—DARL1TII.
ABERDAR—DARL1TII. Yn ydym yn deall fod y Parch. Na- thaniel Thomas, Caerdydd, wedi addaw traddodi darlith ar y 19eg o'r mis nes- af, yn nghapel y Gad lys, ar Ddirwest a Themlyddiaeth Dda. Y mae Mr. Thomas yn un o wroniaid Dirwest a Themlyddiaeth, ac yn haeddi derbyn- iad croesawgar. Gobeithiwn weled Temlwyr Aberdar yno. +
GWEI! Hi A'U H MARM NANTYGLO.\
GWEI! Hi A'U H MARM NANT- YGLO. Yn ydym yn cael fod parotoadau dydd- iol yn cael eu gwneud er dechreu yn fuan ran bwysig 0 weidiiau haiarn Nantyglo, y rhai sydd wedi bod yn sefyll am flynycldan. Y mae hyd yn nod yr arwyddion hyn yn bywiogi y trigolion.
PRIF YSGOL CYMRU.
PRIF YSGOL CYMRU. Y MAE yn ymddangos fod galwad ar Gymru penbaladr i wneud ymgais neill- duol at y Brif Ysgol eleni. Y mae Mr. Hugh Owen, Llundain, yr Y sgrifenydd Anrhydeddus, ar hyd ein cymydog- aethau yn esbonio yr amcan ac yn sef- ydlu pwyllgorau er gwneud casgliadau cyffredinol trwy yr holl wlad; ac nid oes genym ond gobeithio y teimiwn fel cenedl y dyddordeb dyladwy yn y sef- ydliad, ac y teifl pawb eu hatliug i'r drysorfa.
[No title]
Y MAE gweithwyr Glofa Oak Pit, Wvddgrig, wedi gwrthod cynygiad y meistri, sef eu bod i ddyehwelyd at en gwaith ar 7t o ostyngiad nes pender- fynu yr anneaiitwriaeth trwy gyrutfar- eddiad. Nm oes nemawr gyfuewidiad wedi cy- '71 meryd He yn marchnad y gwenith yr wythnos hon. Marwaidd oedd y gwerthiant, a'r mathuu gwaelaf yu tu- eddu i ostwng. DYDD Sul cli weddaf, pan yn dyfod o iarchuaTfa Mertlivr, gwelwyd hen weddw o'r enw Richards, yn byw yn Collier's row, yu syrt.hio i'r Hawr. Par- haodd i anadln am oddeutu haner awr, pryd y bu fVw. Y mae corfi bachgenyn oddeutu pump oed wedi ei gael yn yr afon yn Llan- daf, prydnawu dydd Sul dhveddaf. Yr oedd archoll dwm ar ei dalceu. Hyd yn hyn nid oes neb wedi dyfod i'w berchenogi.
POXTARDDULAIS.
POXTARDDULAIS. Ti'stuu.—Nos Sadwrn, Awst 28ain, cyfarfn gweithwyr glofa Talyclyn yn ys- tafell ,cyfrinfa Rose of Glan Gwily," i'r dyben o gyfiwyno tysteb i'w diweddar oruchwyliwr, Mr. D. Davies, pa uu sydd wedi ymadael i arolyga glofa yn Cwm- aman, sir Gaerfyrddin. Yn apsenoldeb W. \V. Masters, Ysw., cymerwyd y gad- air gan Mr. Chatham Brickman, yr hwn a siaradodd yn uchel am ymddygiad Mr. Davies tra yn eu plith. Gwnaeth y gweithwyr i gyd sylwadau i'r un cyfeir- iad, gan ddymuno llwyddiant iddo yn ei le newydd. Canwyd amryw ganeuon gan y gweithwyr, yn nghyda solo gyday cor- net gan Mr. William Lloyd. Yna awd yn mlaen a chyflwyuo y dysteb, sef che- ffonier, yn nghyda boxiobaco hardd. Cyf- lwynwyd y cliejfumer, dros y gweithwyr, gan Mrs. Jones, Gwily; a'r box. toba'oo gan Mr. Chatham. Talodd Mr. Davies ei ddiolchgarwch gwresocaf iddynt am eu rhoddion. gan roddi ychydig o gyng- horion i'r gweithwyi; gwerth eu cofio; gobeithiaf y gwnaiuddal gafael ynddyn t Cyfar fod Gystcullenol.—Cynaliwyd y cyfarfod uchod yn nghapel y Wesleyaid, nos Lun, Awst 30ain. Beirniad y canu ydoedd Mr. Hughes. Abertawy; yr ad- roddiadau a'r areithiau, y Parch. T. Ihomas, Abertawy. Y tnae y c3'feillion uchod i'w hedraygu am eu bod yn tori gwaith allan i'r dynion ieuanc; sicr ydyw fod hyn yn foddion i'w cadw oddi- wrth lawer 0 oferedd. Gwelsom ddyn- ion ieuanc yn adrodd, canu, ac areithio ar yr esgynlawr na ddarfu inieu gweled ar unrhyw esgynlawr erioed o'roiaen; ac yr oedd eu bod yn myned trwy eu gwaith mor dda yn arddangos eu bod yn llafurio yn galea. Llwyddiant; i'r bro- dyr Wesieyd'dol i fyned yn mlaen a'u cyfarfodydd, gan gwbl gredu eu bod yn gwneud daioni annhraethol i'n dvnion ieuanc. Glan G-wiely.
Advertising
H. LEWIS, 11, COMMERCIAL J't AGE. I-KDARE, WILL offer on SATURDAY VV NEXT, 1,000 Yards of Black Silks, very much under value. 89 Pairs of Cloth Blankets, 2f yards long, at 10s. lid. per Pair. A lot of Coloured Counterpanes, 31 yards long, at i lUd. each,