Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
,Cohebiaethau.
Cohebiaethau. [Nid ydym yn gyfrifol am eyniadau a golygiadau ein gohebwyr, ond yr vdym am adael rbyddid barn i bob dyn, a rbyddid ypgrif-bin hefyd can belled ag y goddef terfynau cyfraith a moea- oldeb.-GoL.l
Y PABYDDION A'R BEIBL.
Y PABYDDION A'R BEIBL. YN ei lythyr am Awst 13, haera Mr- Jones, o'r Rock, na erlidiwyd y Pabydd- ion yn y wlad hon yn amser y Frenine8 Elizabeth. Dyma yr ha-nes :—" Queen Elizabeth like her sister Mary had pro- mised at her accession, that she would allow all her subjects to enjoy their reli- gious opinions undisturbed: but no sooner was she seated upon the throne, than she adopted measures to put down the Catholic, and re-establish the Pro- testant religion; for in those days each sect was uncharitable towards others, and whichever happened to be in power, used that power to oppress those who, in religious matters, thought differently from themselves. The Catholics there- fore were find, imprisoned, or put to death, if they would not attend the Pro- testant churches and those who left the country for conscience's sake, forfeited all their estates.History of England, by Julia Corner, pp. 179-180. Os nad yw hynyna yn ddigon, mae ychwaneg i'w gael. Yn nes i ddiwedd ei lythyr, hona Mr. Jones hollwybodot th, a haera ei fod yn gwybod fy amcan yn ysgrifenu yn well na mi fy hun Myn haeru yn barhaus fy mod yn amddiffyn Pabyddiaeth, er fy mod wedi dweyd yn eglur droion fy mod hollol elynol i Babyddiaeth. Yr wyf yn diolch iddo am y compliment fy mod yn anwylo y Pabyddion, oblegyd wrth hyny y mae yn fy nghyfrif yn Gristion da. Fy nyledswydd fel dyn, ac yn neillduol fel Cristion, yw caru Pabyddion fel dyn- ion ereill, yn enwedig os mai gelynion ydynt. Cerwch eich gelynion, a gweddiwch dros y rhai a wnel niwed i chwi," medd Crist. A ydych chwi, Mr. Jonas, yn arfer gweddio dros y Pab a'r Pabyddion ? N eu a glywsoch chwi rai yn gweddio dros- tynt P Mae gan y rhai hyn eneidiau i'w cadw neu eu colli, a dylem weddio dros- tynt. Rhaid i mi gyfaddef na chlywais yr un Protestant yn gweddio drostynt. Os ydym yn Gristionogol, dylem weddio dros y rhai hyn fel ereill. Yn awr, cyn sylwi ar gynwys llythyr Mr. Jones am Awst 20, dymunaf nodi achos cychwynol y ddadl, sef fy sylw yn Meirniadaeth Eisteddfod Llwynypia. Dyma ran o'r hyn a ddywedais,—" Nid yr un cyfieithiad sydd ganddynt hwy (y Pabyddion) a ni mae'n wir, ond ffwlbri o'r mwyaf yw haeru fod y Beibl yn wa- harddedig iddynt, am fod y Cyfieithiad Protestanaidd yn cael ei wahardd i'w plith." Dyna gyfaddefiad eglur fod y cyfieithiad Prouestanaidd yn wahardd- edig ganddynt. Bellach, caf sylwi ar lythyr Mr. Jones, ond nid wyf yn bwriadu manylu ar y pentwr geiriau llanw sydd ganddo, megys Ynfydrwydd Dafydd Morganwg—gall- wn feddwl fy mod yn clywed Dafydd Morganwg ar ol darllen y llosgiadau hyn,-Druan o Dafydd Morganwg, &c." Enghraifft dda o arddull hen wrach or- phwyllog a thafod-ddrwg yw hyn. Tru- eni fod Mr. Jones, o'r Rock, yn ymostwng at ddull mor isel, wrth drin pwnc mor bwysig. G-yda golwg ar y rhes enghreifftiau sydd gan Mr. Jones, er profi fod y Pab- yddion yn llosgi y Beibl, nid oes ond dau yn eu plith heb fod yn gyfieithiad Pro- testanaidd, neu Anmhabyddol; ac felly, nid oes grym yn ei osodiad, gan nad yw y Pabyddion yn derbyn cyfieithiadau Protestanaidd. Y cyntaf a noda yw eiddo Tyndale. Yr wyf wedi darllen hwn, ac eiddo Cover- dale, y Douay, eiddo Dr. Morgan, ac un Dr. Parry, yr Oraclau Bywiol, a'r un awdurdodedig, gan eu cymharu a'u gil- ydd ac y maent bob un genyf yn awr ond yr Oraclau. Dangosais eisoes fod Tyndale wedi ymadael a Phabyddiaeth, ac wedi herio y Pab a'i gyfreitbiau flynyddau cyn iddo wneud ei gyfieithiad. Heblaw hyn, os credwn fywgraffydd Tyndale, nid y Pab barodd losgi Testament y gwr hwnw, ac nid y Pab barodd ei ferthyru yntau ychwaith, ond Barri vir., brenin Lloegr. Nid cyfieithu y Testament oedd y gwir achos ychwaith o'r gelyniaeth tuag ato. Gwir i Syr Thomas More nodi dwy fil o eiriau wedi eu cam-gyfieithu, meddai ef, yn y Testament; ond nid oedd hyny ond esgus i guddio y givir achos o'r gelyn- iaeth. Yr hyn fu yn achos o'r atgas- rwydd, oedd gwaith Tyndale yn gwrth- wynebu Harri vin., i ysgar a Chatherine ei wraig. Dyma fel y dywed ei fywgraffydd:— Tyndale moat decidedly oppresses the divorce, by learned and unanswerable arguments, drawn from the laws of na- ture and of God." Digon o brawf mai at berson Tyndale oedd y gwir ddigofaict, ac nid at yr Ys- grythyrau, yw y ffaith ddarfod i'r un brenin ag a barodd ferthyru Tyndale, a hyny yn yr un flwyddyn ag y merthyr- wyd ef, orchymyn gosod y Beibl yn mhob Eglwys yn y deyrnas, yn rhydd at was- anaeth y bobl. In this year (1536)" medd bywgraff- ydd Tyndale, were published seven or eight editions of the New Testament in English." Dichon fod hyn yn ddigon, er y gellid ychwanegu llawer. Cyfieithiadau Protestanaidd, wrth gwrs, losgwyd yn amser Mari Waedlyd, ac un Hereticaidd, yn ol barn y Pabydd- ion, oedd eiddo Romount. Awgrymais yn flaenorol mai Esboniad Pasquire Quesnel a gondemniwyd, ac nid y Testament. Dyma y titlepage Seisnig, The New Testament, with Moral Reflections upon every verse, by Pasquire Quesnel, translated by R. Russell." Cyboeddwyd ef gyntaf yn wyth cyfrol, ac y mae'r cyfieithiad Seis- nig yn bump cyfrol. Er fod ganddo Adfyfyrdodau Moesol ar bob adnod, eto, dim ond cant ac uu gondemniwyd o'r miloedd; a'r 101 hyny yn sylwadau poli- ticaidd, a thuedd ynddynt i godi gwrth- ryfel, medd Bull TJnigenitus, yr hwn sydd yn fy meddiant. Cyfieithiad Pabyddol arall a nodir gan Mr. Jones, fel un wedi ei losgi gan y Pabyddion, yw eiddo Antonio Martini, Archesgob Florence. Bydd genyf ychwaneg i'w ddweyd am hwn yn y dyfodol, felly, ni wnaf yn awr ond sylwi ar wrthuni y gosodiad. A oes cysgod o gysondeb mewn dweyd fod hwn yn gyfieithiad Awdurdodedig Eglwys Rhufain, a bod yr un Eglwys yn ei losgi? Nid oes rhith o synwyr mewn dywediad o'r fath; a phe gosod- asai Mr. Jones farn ar yr orsedd yn lie nwyd, ni fuasai yn dweyd peth mor ffol. Heblaw hyn, yn ei bapyr am Mai 14. haera Mr. Jones nad oedd gan y Pab- yddion Feibl ar werth o gwbl yn Itali; ond yn ei lythyr am Awst 20, cyfaddefa fod gany Pabyddion Gyfieithiad Awdur- dodedig i'r Eidalaeg! I ba both y mae'r dyn yn gwrthddweyd ei hun fel hyn ? Yn yr un llykhyr, haera Mr. Jones fod y Pabyddion yn gwahardd y Beibl fel Beibl, ac nid fel cyfieithiad Protestan- aidd, am fy mod i yn ystyried yr un Protestanaidd yn llawn cyfstal a'r un Pabyddol! A glywodd, neu a welodd rhywun y fath ymresymiad ffol o'r blaen ? A oes rhaid gorfodi y Pabyddion i dderbyn y Cyfieithiadau Protestan- aiddam fy mod i yn ei gyfrif yn dda ? laith tyrant yw hon, ac y mae lie i ofni fod gormod o dyrants culfarn yn ein plith fel Protestaniaid. Gellid meddwl wrth iaith Mr. Jones, y dylai pawb ym- ostwng i fod yn unfarn ag ef, ac onide llosgi a berwi yw'r canlyniad; oblegyd y mae yn son llawer am y pethau tanllyd hyn. Pa fodd bynag, y mae'n dda i'r Pabyddion fod Pwyllgor y Felbl Gym- deithas yn fil mwy rhyddfrydig nag ef; oblegyd nid ydynt yn gorfodi y Pabydd- ion i dderbyn cyfieithiad Protestanaidd, ond cyhoeddant y eyfieithiadau Pabydd- ol iddynt. Bellach, wedi myned droe haeriadau eiddilion Mr. Jones, o'r Rock, rhoddaf ychydig hanes y gwahanol gyfieithiadau hyny. Y ddau awdurdod uchaf yn y deyrnas hon ar banes y Beibl ydynt Bwylhor y Feibl y Gymdeithas, a'r Bible of Every Land." Yn 1842, cy- hoeddodil John Radley, (aelod o Bwyll. gor y Feibl Gymdeithas,) lyfr i amddi- ffyn ymddygiad y Gymdeithas yn cjr- hoeddi Cyfieithiadau Pabyddol. Cy- hoeddwyd ef drachefn yn 1857, gyda Ilythyr o eiddo larll Shaftesbury, Llywydd y Feibl Gymdeithas, yn am- ddiffyn yr ymddygiad yn ngwyneb bod rhai yn achwyn. Enw llyfr Mr. Radley yw, A defence of the Proceedings of the British and Foreigh Bible Society, in Reference to the (so called) Roman Catholic Versions; with a plea for their continued circula- tion- Mae'r llyfr hwn yn rhoddi llawer o oleuni ar sefyllfa cymdeithas ar Gyfandir Ewrop, yn ogystal ag ansawdd feddyliol y Pabyddion gyda golwg ar y Beibl. (Tw barhau.)
LLITH Y PIGWR BRYCHAU.
LLITH Y PIGWR BRYCHAU. DIAU y bydd rhai yn llygadu pan ddar- llenant y penawd uchod, ac yn barod i ofyn, "Pwy yw yr ysgriblwr anffaeledig hwn P" Ond i ragflaenu holiad o'r fath, y mae yr ysgrifenydd yn addef nad ydyw yn anffaeledig, nac yn honi ei fod yn awdurdod ar lawer o bethau y bwr- iada, draethu arnynt. Addefir gan bawb ein bod yn rhy dueddol i ganfod y brycheuyn yn llygad ein cymydog, o flaen y "trawst" sydd yn ein llygaid ein hunain; ac ni ellir gwadu hefyd fod yn hawddach i feirniad weled gwall yn ngwaith ei gymydog, na gwneud gwaith diwall ei hun; ie, a gweled y gwall fydd yn ei waith ei hun hefyd. Yr ydym yn dywedyd hyn rhag i neb ein cyhuddo o hunanoldeb. Y mae yn ffaith bwysig hefyd nad y bardd goreu yw y beirniad goreu. Y mae ambell un o'n beirdd goreu yn fwy tueddol i wneud gwall cynghaneddol na bechgyn b6n yr ysgol." Dichon y dywed rhyw- un y dylid pasio heibio gwall cynghan- eddol os bydd y farddoniaeth yn gwneud iawa am dano; ond dywedwn ninau na ddylid; os bydd y meddylddrych yn dda, mwyaf i gyd sydd o eisieu gwisg gy ran am dano. 0 bob lady in rags, barddoniaeth mewn carpi au yw yr hyllaf. Dylai pob bardd gofio hyn, rhag ofn i ysbryd D. ab Edmwnt ddyfod ar ei warthaf. Dywedwn yn mhellach naddylai neb wneud cais i gyfansoddi englyn heb yn gyntaf feistroli y cynghaneddion. Yr ydym yn gallu dyweyd hyn yn eofn oddiar ein profiad ein hunain. Cofus genym ein bod yn rheffynu englynion yn ddirif, ac yn credu eu bod yn benigamp, a mawr mor siomedig y byddem pan y dywedai rhywun wrthym nad oedd yn- ddynt yr un linell reolaidd. Yr ydym yn cadw rhai o'r englynion (?) hyn er cof am yr amser gynt," ac i adfywio tipyn ar y peirianau chwerthin yn awr ac yn y man. Y mae darllen ysbrydion englynion y dechreuwyr" Bydd heb ddeall y cynghaneddion, yn ddigon i yru y laughing fits ar bob meistr yn y gelfyddyd farddonol. Yn ami iawn y mae y dosbarth hwn yn ymorchestu i wneud englyn toddaid," ac i gael efel- yehu y prif feirdd, gosodant y cyrch olaf yn bedair sill, ac yna round hand o doddaid i'w ateb, heb un rhithyn o gy- nghanedd ynddo. Wrth y dosbarth hwn y dywed Islwyn, Moeswch awdl y tro nesaf." Wrth son am Islwyn, godd- efer i ni nodi un o'i "frychau" ef, ac nid yw yn un dibwys chwaith pan- yr ystyriom ei fod yn athraw i lu o feirdd ieuainc. Yn ol ein gramadegau bardd- onol gelwir dwy linell flaenaf englyn yn "baladr," a'r ddwy linell olaf yn "esgyll;" a phechod Islwyn yw cam- leoli y termau, a galw esgyll ar y paladr, a phaladr ar esgyll. "Paladr gwych," meddai, ac fel prawf o hyny, dyfyna yr esgyll, &c. Pe buasai hyn yn dygwydd ond rhyw unwaith neu ddwy mewn cam- gymeriad ar y bardd o'r Glyn, ni fuasem yn gwneud sylw o hono, ond y mae y ffaith ei fod yn syrthio i'r amryfusedd hwn oddiar yr ydym yn cofio, yn hawlio sylw. Nid ydyw ond ffolineb i ni anog ein beirdd ieuainc i wario eu sylltau a'u deunawau am Yagol Farddol D. Mor- ganwg, os mai Islwyn sydd i gael ei ffordd yn nghylch y "paladr" a'r "es- gyll." Y mae yn sicr, oa bydd yr athraw yn cyfeiliorni, y bydd y dysgyblion yn cyfeiliorni hefyd. Yr ydym yn crean ein bod wedi gweled enghraifft o un o'r I dysgyblion wedi myned ar gyfeiliorn. Dywed Cynfelyn yn ei feirniadaeth ar destynau Eisteddfod y C ilfach Goch, yn y DAMAN am Awst 27ain, fel hyn:— Un hoew yw'r tmliwr newydd,—un da, Hynod iawn a chelfydd." Ai Islwyn a wnaeth i chwi fyned ar gy- feiliorn, Cynfelyn ? Paladr yw yr uchod yn ol ein gramadegau. Gobeithiwn y cymer Islwyn ein sylwadau yn yr un ysbryd ag yr ydym ni yn eu rhoddi, ac y derbynia yr awgrym yn dawel yn nghys- god ei athraw. Hefyd, dymunwn gry- bwyll wrth Cynfelyn pan y dyfyna linell yn ei feirniadaeth fel onghraifft o linell dlos," am iddo ofalu ei bod yn yn gywir o ran celfyddyd, yr hyn nid yw y linell ganlynol.a ddyfynwydganddo yn Meirn- iadaeth y Gilfach:— Dy donawg eurwallt denol." Gwei y cyfarwydd fod tipyn rhwng yr uchod a bod yn gywir. Y mae yn chwithig gweled beirniad yn rhoddi ei droed ynddi" fel uchod. Y mae perygl i'r ymgeiswyr wnaud gwawd o'r beirn- iad, os na chymer ddigon o ofal, yn enw- edig os na fydd y beirniad hwnw uwch- law amheuaeth o ran gallu. Maddeuer i ni am ddyweyd fod eisieu defnyddio y wyntyll at lawer o bethau" y Gilfach, ond rhag i ni gael ein cyhuddo o fod a chenfigen at neb o'r frawdoliaeth yno, ni a'u gadawn am y presenol. Cymered y brodyr yr "hint yn garedig. Y peth nesaf a g;.iff fod dan sylw yw Carac- tacus a'i englynion i Gwmgarw. Ni fydd i ni aael ein cyhuddo o osod ein bysedd yn mhotes pobl ereill" wrth drafod y pwnc hwn, gan fod yr awdwr yn dymuno cael barn ereill ar ei englyn- ion. Wel, yn gyntaf, ffolineb oedd cynyg gwobr am ddeuddeg englyn, i fod yn barod mewn cyn lleied o amser. Ni all- esid erfyn am englynion gwych mewn awr a chwarter-rhywbeth dros chwe" mynyd at bob englyn. Yn ail, yr ydym yn ostyngedig farnu mai ffolineb arall oedd i'r awdwr hwn ddechreu ar y gorchwyl o gyfansoddi deuddeg englyn mewn awr a chwarter. Ymddengys i ni pe buasai yn cael awr at bob englyn, na fuasent yn rhyw rai gwychion iawn. Dyma y gybolfa fwyaf ofnadwy o englynion a welsom erioed. Dywed yr awdwr eu bod yn cynwys braidd holl feiau gwaharddedig cerdd dafod." Gall- asai ychwanegu eu bod yn cynwys braidd bob disynwyrdeb ag a allesid ei osod mewn englyn hefyd. Nid oes dim ond yr englyn olaf yn rhydd oddiwrth wallau cynghaneddol, ac nid oes yr un dewin a ddealla beth yw meddwl yr awdwr yn yr englyn hwn. Er nad allwn ganmol rhoddiad y wobr am ddeuddeg englyn mewn cyn lleied o amser, eto yr ydym yn beiddio eyfiawnhau Mynyddog am stal y wobr am y fath gymysgfa a'r englynion dan sylw. Er fod yr amser yn fach, buasem yn erfyn am gynghan- eddiad cywir, a'r meddyliau yn eglur. Ni fuasem yn dywedyd dim, os buasai'r farddoniaeth yn brin mewn amgylchiad o'r fath. PIGWR BRYCHAU.
EISTEDDFOD WAUNARLWYDD
[IIYSBYSIAD.] EISTEDDFOD WAUNARLWYDD ER mantais i'r corau ac eraill sydd yn bwriadu cystadlu yn yr eisteddfod ucbod, yr ydym fel pwyllgor wedi penderfynu ei chynal yn yr Athenseum, Llanelli, Caerfyrddin. Yr ydym yn cael ar ddeall fod amryw gorau yn parotoi i'r ymgyrch, pan y byddant yn cael ei mantoli gan y bachgen talentog hwnw o Ddowlais, sef Mr. D. Bowen, accompanist Cor Mawr Deheudir Cymru; a'r beirdd, byddant hwythau yn cael eu mantoli gan y ffraethbert Rhedynog. Yr ydym yn ) bwriadu cael gwledd o'r iawn ryw. UN O'B. PWYLLGOR.
LE'RPWL.
LE'RPWL. [ODDIWRTH EIN GOHEBYDD CYSON.] Y DBL YN YN BABILON. Y MAB adeg wedi bod pan yr ystyriai y Methodistiaid, ac ambell un culfarn yn mhlith yr enwadau eraill, fod telyn a chwibanogl neu berdoneg, yn anaddas i gymeryd rhan yu mheroriaeth addol- iadol ty Dduw, ond y mae yn ddywen- ydd genym heddyw ddyweyd fod fod yr hen gasbeth coelgrefyddol a thybosod- iadol uchod wedi myned i le ei hun, a chof genym, pan oedd Islwyn yn agor drws i'r gyfundraeth organyddol yn Nghapel parchus y Methodistiaid Calfin- aidd yn Portum Novum, tua rhyw chwe* mlynedd yn ol, iddo wneud araeth ragorol o blaid cyfreithlonrwydd yr oruchwyliaeth organyddol; ac ar ddiwedd ei araeth Utopiaidd, adroddodd ddeu- ddeg englyn ardderchog i ategu yr efengyl a gyhoeddodd parth peroriaeth a chyfreithlonrwydd offerynau cerdd yn sanctum sanctorum saint Duw ar y ddaear. Ystyriai Islwyn fod Duw (Bethel) yn llawn o offerynau cerdd o dan yr hen oruchwyliaeth, ond pan ddygwyd: yr Israeliaid i Babilon, i'r offerynau fyned i blith cenedl sstroniaethus ac anghysegr- edig. 0 iygwtib, dyfcwck j doo—o Babel 1 lwy« *#el S«ioa," meddarf eerab-fardd § o'r ^fGlyn, ac ychwanegais inn:- Dygwah y greadijraeth,—a lleisiaa LlaoMg dynoliaetb, I (ranmol ysbrydoliaeth.l 41' "JJ A dawn kwneud y Duw'a'n gwnaeth. Erbyn heddyw mae'r delyn a'r crwth wedi myned i'r dafarn-Babel Islwyn— ac mae yn gywilyddus meddwl fod hen offerynau yr Iuddewon wedi cael eu trawsymffurfio i'r fath eithafrwydd an- hewydus a damniol! Perthyn i dy Dduw mae'r oil beirianau cerddorol, ond fod diabolos wedi hud-ddenu rhai o'i wyr ffyddlonaf i ddwyn yr offerynau drwy drais a gormes i demlau halogedig Bacchus. Y mae yn ffiaidd genym wrandaw swn y delyn Gymraeg yn Heol-yr-Undeb, yn L'erpwl, ar nos Sadwrn, a'r hen asyn coeg-wenieithus, "Jack Llangefni" yn dynwared canu gyda hi; nis gallwn droedio'r heol heb gael ein beichio a swn yr abwyd aflafar hwn, a gwyr yr ysgolor Gomeraidd fod ei hen ysgrech- iadau dallhuanaidd yn warth ar gymer- iad yr hil ddynol, ond mae'n alarus dy- weyd fod hyd yn nod y Salamander bratiog a gorphwyllog hwn yn cael der- byniad tywysogaidd yn Union-street. Y mae canu gyda'r delyn yn un o'r Jgor- uchwyliaethau mwyaf calon-gynhyrfiol a nefolbur, ac ni chlywais i am un Cymro na Sais yn dangos eu hanghy-
YR UCHEDYDD.
fod ti Dick wedi clywed geiriau cy- segredig ein defode a thithe yn farbar- iad." Y fi yn farbariad, Deio, gwell i ti gym'ryd gofal i roi un enw arna i ond f enw fy hun, ac onide ti gei di fyn'd oddiyma yn ddiseremoni i Wallgofdy Llandatws." a Die bach," ebe Deio, "Nid wyf am dy ddigio, ac os leici di gallaf dy wneud yn un o hon)m ni mewn 'chydig amser, a chei dy alw genym wedi hyny yn Fawreddog Frawd, ac nid yn far- bariad, enw pob un nad yw yn perthyn i ni." O'r gore, Deio," ebe fine, a chyda hyny aethom ein dau tua'r Salon, yr hon oeid haner milldir oddiwrthym. Yn y pentre galwodd efe am un o'r frawdoliaeth, a dywedodd wrtho am fyn'd i agor drws y Salon ystafell hir, yn mha un y bu'r hen Betty Evan yn cadw ysgol flwyddi'n ol. Cyn myn'd at y lie d'wedodd wrthw i, rhaid i ti, Dick bach,, ddweyd wrth y drws, 4 esgid,' dair gwaith, a churo y drws deirgwaith. Bydd y Mawreddog Ddrysydd tu fewn, i'th ateb. Pender- fynais ine wneud y cwbl a geisiai efe er mwyn cael gweled y cwbl. Rhaid i mi fyn'd o dy flaen, ebe efe, i fod yno i dy dderbyn. Aethum ine bob yn gam at y drws. Yr oedd y drws mewn passage tywyll. a tho uwch ei ben. Gwaeddais y gair esgyd,' a rhoddais CIY ergyd i'r drws a fy mhastwn. Dim ateb; yr ail waith, dim ateb, ond y drydedd waith agorodd dyn ag esgid ar ei ben, a darnau o hen ledr yn hong- ian oddeutu ei wddf e y drws i mi, a gofynodd beth yr ydych yn geisio, ceisio'r dyn, eisie dwad i mewn sy arna i. Erbyn hyny daeth ataf yn dyner, ceisiodd genyf gymeryd ei fraich, a daeth swyddog, yr hwn a roddodd ei fraich i mi, a chanasant benillion yn nghylchsgidie a, chynildeb. Yr oedd yno chwech o fyrddau bach, tu cefn i ba rai yr oedd chwech neu ragor o swyddogion, heblaw dau fwrdd arall yn nghanol yr ystafell. Galwent y nesaf i'r drws yn allor, a'r un nesaf at y fan lie yr eisteddai Deio, yr hwn sydd yn dal y swydd uchelaf yn y lie. Daeth amryw o fy amgylch a chymer- wyd fi at un bwrdd ewyddogol, wedi hyny at un arall, nes cael cyfarchiad a math o weddi oddiwrth y Rabbi. Yr oedd y swyddogion i gyd wedi eu gwisgo yn debyg i Deio pan y gwelsoch chi e yma a'r tair esgid ar ei ben, a hugan o ddarne hen sgidie yn hongian oddeutu ei gorff ef. Yr oeddynt yn fy nghy- meryd o amgylch yr ystafell o dan ganu, a byddai y rhai ieuainc ynoyn chwerth- in bwff baff, pan yr oedd y Mawreddog Rabbi yn darllen y weddi glogyrnaidd oedd yno. Yn ystod y seremoni, go- fynwyd i mi i wneud ymrwymiad. Gofynwyd i mi osod fy' llaw ddeheu ar fy nghalon a chydsyniad a'r ymrwym- iad a ganlyn.' Yr ydych yn addaw na ddadgudduwcli waith dirgelaidd y gymdeithas hon i neb ond yr aelodau, ac nid i bawb o'r rhai hyny, neb ond y rhai y perthyn iddynt wy bod y dir- gelion, ac yn mhob peth y rhoddweh uf- ydd-dod llawen i holl ddeddfau 'Cym- deithas Hen Sgidie,' ei rheolau, a'i harferion.' Atebais hwynt, adywedais, na wyddwn i ddim beth oedd eu rhe- clan nl\'u deddfe nhw, ac nad oeddwn i 'rioed wedi arfer ymrwymo at bethe yn y tywyllwch am eu natur. Hwyth- au a ddywedasant, "Gwelwch fod yn dda ein credu ni. A ydych yn medd- wl y gofynwn ni i chwi ymrwymo i wneud yr hyn fydd ddrwg, a ninau yn amcann arwain y byd. i gyhildeb ?" wYr ydych yn ddyeithriaid imi," ateb- ais inau; "ac nid yw deddfDuw na dyn- ion yn gofyn i mi i gredu mewn peth cyn cael ei weled ef. Ac ni buasai neb ond tylwyth yr hen Butain, y rhai a gredant mai mamaeth Duwioldeb yw anwybodaeth, yn ceisio gan ddyn wneud ymrwymiad pwysig yn y tywyllwch, am yr hyn a ofynid ganddo, o dan yr ymrwymiad. Yr wyf fi wedi gweled digon yma heddyw i gred-i mai gweith- redoedd anffrwythlon y tywyllwch sydd yn myned yn mlaen yma, ac onide fyddech chi ddim mor awyddus i mi ymrwymo i beidio eu dadguddio. Beth allai fod yn fwy gwarthus na'ch bod chi yn yr amser yr oedd eich Rabbi yn gweddio yn cadw swn, ac yn cellwair a'ch gilydd fel mewn ffair. Twro rag- rithwyr rhyfygus i chi i gyd. Af yn awr at eich llywydd i ofyn iddo. A ydw' i ddim i fod yn aelod yma, Deio, heb rwymo iy hun yn y tywyllwch at eich deddfe chi?" Ebe Deio, "ttadewch i Dick fod yn aelod heb yr ymrwym- iad ffurfiol. Fel dyn gonest, 'neiff e ddim drwg i ni. Gadewch iddo gael ein llyfre yn cynwys ein cyfreithie ni A'r hyn y cytunwyd. Cyfarchodfl Deio fi wedi'n fel y M.G.D.Ll.H.S sef y Mawreddog- Gylymwr-Darnau*_ Lledr-Ben-Sgidie, a dywedodd, I Llaw enydd i'n calonan ni yw eich dyfodiad atom i gyduno a ni, Cymdeiths Hen Sgidie o blaid Cynildeb.' Wedi hyny canwyd fel y canlyn Dewcb, gyfeillion, cynbildeb gwrandewch Llawenhewch a ehalon gariadus a phur, Pob calondid yn ein Salon ni a gewch, A diddanweb byfrydol heb ddim cur, Yma y cewch ffyddlon g-yfeillion tra gwiw, A chylch eich amddiffyn sydd gryt; Hen noddfa a chadarn dwr yw, Rhag gelynion sydd greulon a hyf. Meddyliais yn union wrth glywed y gan fy mod wedi myned yn aelod o gymdeithas Phariseaidd, ddidduw, yn honi bod yn noddfa rhag gelynion, heb yngan gair am Dduw, nid fel y Salm- ydd, yr hwn a ddewisodd yr Arglwydd o flaen pawb yn noddfa. Cymdeithas honiadol, yn mawrhau ei hun yn mhob dull, 'heb obaith, heb Grist, ac heb Dduw' yw y gymdeithas hon." Dywedodd Owain Llysfeisyr, "yr wyf wedi synu ati, Dick, ni feddyliais erioed dy fod yn gwybod cymaint am grefydd. Diolch yn fawr i ti am yr hyn a ddywedaist." Dyma y llyfre i chi Owain," ebe Dick, "edrych drostynt, oblegid eich dyledswydd yw egluro twyll y Phari- seaid newydd hyn." Ebe fine, "dowch yma i gyd yr wytbnos nesaf i glywed esboniad Owain ar y llyfrau." LLUESTWR.