Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

EIN MEISTRI A Niii. MACDONALD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EIN MEISTRI A Niii. MAC- DONALD. MR. GOL.Mae yn ofidus iawn genyf weled ysbryd mor genfigenllyd a clias yn meddianu rhai o feistri Cymru y dyddiau hyn, yn enwedig pan yr adna- byddom y cyfryw, yn nghyd a'u cJ syI It- iadau diweddar. Pan y cyfeiriwn ein sylw ychydig i'r gorphenol, i'r adeg hono pan yr oedd cyfalaf a liafur megys wedi gwrthdaraw y naill yn erbyn y llall, ac effaith y gwrthdarawiad hwnw yn cael ei deimlo trwy bob llinell fasnachol, ac yn mhob teulu tylawd drwy holl Dde- heudir Cymru a sir Fynwy, fond er llawenydd a chysur i bawb o'r cyfryw ddyoddefwyr, gwelsom ddiwedd yr adeg hono wedi ei dwyn i ben), yr oedd yn hapns dros ben genyf fi, a phawb ereill o bleidwyr heddwch, weled enwau rhai o'r dynion mwyaf pwysig o blith jin meistri fel offerynau heddweh yn dyfal geisio dwyn y ddwy blaid at eu gilydd; ac wedi i'r amcan gwerthfawr hwnw gael ei gyrhaedd, wele ein meistri, yn nghanol eu balchder mawr am gafrael o honynt yr hyn a gollwyd am dymhor mor faith, sef heddwch, yn cymhell cynrychiol- wyr y gweithwyr i ddyfod i'r Royal Hotel, y man y cyhoeddwyd rhyfel, ac hefyd, er gwell, y cyhoeddwyd tangnef- edd, fel arwydd fod heddwch wedi ei sefydlu cydrhwng y pleidiau, er cyd- eistedd mewn bawjuei i wledda ar bob danteithion, a hyny ardraul ein meistri, a chael ymgom felus a'n gilydd am ein ffolineb yn y gorphenol, a'n*dy- ledswyddau y naill tuag at y llall yn y dyfodol. Gwelais yno H. Vivian, Yaw., A.S., fel cadeiryddy cyfryw gybrfod Yll cyfodi ar ei draed, ac yn arllwyH ei deimladau caruaidd ac heddychol, fel pe buasai wedi ei gymwyso i lywyddu mewn cyfarfodydd o'rfath gan Eaglun- iaeth. Siaradodd gyda phwys mawr ar yr angenrheidrwydd i weithwyr a meistri fod mewn heddwch a'u gilydd, er lies ac adeiladaeth y naill a'r llall. Befyd, rhoddodd anogaethau taerion iawn ar ddyledswydd y pleidiau i lwyr anghofio I y pob peth anhapusoedd wedi cymeryd lie rhyngddynt yn y gorphenol, fel nafydd- ent yn rhwystr i sefydlu heddwch yn y dyfodol. Dymunodd ar i bob peth mewn gair a gweithred a ymddatigosodd yn ystod y rhyfel i gael ei lwyr anghofio; a chan fod heddwch wedi ei wneud mewn ysbryd mor deilwng, anogai bawb i wneud ei oreu i gadw yr heddwch heb ei dori. Yr oedd y gweithwyr o'u bochr hwythau yn dymuno fod pob strike wedi ei chladdu, fel na fyddai dim perygl am ei hadgyfodiad mwyach, ond y byddai i heddwch, eyiiawiiuer, a thangnfefedd ddawnsio ar ei bedd am byth, a chariad a brawdgarwch deyrnasa rhwng y ddwy blaid. Cyn byth y gailesid cario yr amcan hwn i ben, yr oedd angen am gymorth cynllun. Gwnawd cytnndeb, wedi ei lawnodi gan ddynion cyfrifol o'r ddwy blaid, ar yr amod fod i'r gweithwyr dderbyn 12k y cant o o.nyngiad, ac wedi hyny y byddai i bob peth aros yr un am dri mis heb gyfnewidiad yn y cyflogau ar ddiwedd y tymhor hwnw fod y bwrdd i gyfarfod, sef chwech wedi (-(1 dewis gan y gweithwyr, a'r un nifer o du y meistri, er ffurfio bwrdd unol. Gwaith y bwrdd hwn oedd tynu i fyny gynllun symudol {sliding scale), yr hwn a lywodraethir gan werthiant y glo yn y farchnad; ac felly pris y cyfryw fyddai yn llywodraethu cyflog y gweithwyr. Fe wel pob dyn synwyrol fod gwaith tra phwysig gan y bwrdd i'w wneud. Ond pan yr oedd pawb yn dysgwyl yn bry- derus am gyfarfyddiad i gymeryd He cydrhwng y ddau ddosbarth, wele, er syndod pawb, yr un gwr a roddiodd y fath anogaethan taerion mewn iaith mor dyner a charedig, a gwynebpryd mor slriol, fel yr oedd ei holl ymddang- osiad yn peri i ni feddwl nad oedd dim wedi bod, ac na allasai'dim yn y dyfodol fod yn rhwystr iddo ef gyflawni pob peth yn ei allu er dwyn yr amcan i der- t'yniad: ond, er ein mawr syndod, pwy yw y cyntaf i godi rhwystr ar ffordd dygiad y cynllun i weithrediad, ond cadeirydd cyfarfod y banquet ar ddiwedd y strike ddiweddaf. Mae hyn yn dangos mor dwyllodrns vdyw dyn. Yn awr, cawn fod Mr. H. Yivian yn gwrthod cydeistedd a Mr. Macdonald, un o ddewisolion y gweithwyr, am fod Mr. Macdonald mewn araeth gyhoeddas wedi llefaru ychydig eiriau lied galed i'w deimladau ef eu dyoddef yn herwydd y lock-oid barbaraidd a gymerodd le yn Heheudir Cymru. Un llym yw y gwir- ionedd, gyfeiilion, pan y traddodir ef yn noeth ac yn bur. Mae yn gadael ei argraff ar gydwybodau y cyfryw hyny syddyn euogo anghyfiawndor a gormes. Carwn wybod pa le yr oedd hawl y meistri yn ngwyneb y cytuudeb oedd wedi ei lawnodi ganddynt i wrthod un o du y gweithwyr. Os oedd ganddynt hawl i wrthod, wrth bob rheswm y mae gan- ddynt hawl i ddswis hefyd, ac os gwad- ant eu haw] i ddewis o da y gweithiwr, sicr yw nad oes ganddynt bawl i wrthod ychwaith. Dywedodd Mi*. D. Davis, Myesyffynon, a Mr. Lewis, Maeruy, nad oedd dim gwrthwynebiad gan neb o'r meistri i gydeistedd a Mr. Macdonald ar y bwrdd, oddigerth Mr. Yivian, ac y byddai yn hwylusdod mawr er myneii a'r gwuith yn mlaen, os byddai i'r gweithwyr foddloni i dynu alhm Mr. Macdonald o fod yn aelod o'r bwidd. Siaradodd y cynrychiolwyr, Mri. Micb:. id a Prosser, yn hyf iawn yn erbyn ym- ddygiad y meistri yn ymyraeth yn eu dewisiad hwy, ac mai teg a ehyHawn Y buasai i Vivian dynu yn ol, ac iddynt ddewis arali yn ei le. Siaradwyd llawo-r ar werth a phwysigrwydd gwasanaetb y ddau foneddwr ond y mae un peth yn aros yn dywyll iawn i mi, yn ol y dystiolaeth a gafwyd gan Mr. Davis yn y cyfarfyddiaa hwn, hyny yw, y gallai y gweithwyr, ar yr amod y byddai iddynt do dynu Mr. Macdonald o'r bwrdd, wrthod Mr. Vivian, os ewyllysient hyny. Yn awr, os oedd Mr. Vivian y fath ddyn pwysig yn y lie blaenaf, fei nas gallas- ent fod hebddo, pa fodd y gallasent heb- gor y gwerth hwnw yn yr ail le ? Y casgliad yr wyf yn ei wneud o hyn yw, fod yr oil o honynt am gael gwared Mr. Macdonald oddiar y bwrdd, fel y mae erbyn hyn wedi cael ei wirio yn nghyf- arfyddiad Mr. Michard a Mr. Cart- wright, swydd Fynwy, pan y dywfedodd y boneddwr hwn fod yr holl gymdeithas yn awyddus am yr un peth oddhvrth Mr. Macdonald a'r eiddo Mr. Vivian. Felly ofer i'r meistri osod y bai hwn ar Mr. Vivian am ei fod ef wedi bod ar y Cyfandir, ac yn anwybyddus fod Mr. Macdonald ar y bwrdd. Paham yn enw pob rheswm; na fuasai y cyfryw hyny oedd gartref yn arwyddo eu teimladau yn erbyn Mr. Macdonald, a pba fodd yr eisteddai Mr. Yivian yn y Senedd-dy gydochrog a Mr. Macdonald? Meddyl- iwch fod Mr. Yivian a Mr. Macdonald yn cael eu dewis yn aelodau o'r un pwyllgor gan v Senedd, a yw yn debyg y byddai i Mr. Vivian ym wrthod a chymeryd rhan yn v cyfryw? PeJ1 iawn wyfofeddwl y b;asai dyn o sefyllfa Mr. Vivian byth yn ymddwyn mor annheilwng o hono ei hun. Felly paham y caniata ei anrbyd- edd iddo ymwrthod yn hyn o beth, gan mai nidachospersonolond cymdeithasol ydyw ? Gan hyny, dymuniad fy nghalon I yw ar fod i Mr. Vivian, yn unol a'r anog- aethau a roddwyd ganddo ef ei hun, edrych dros ben y personol ar y cym- deithasol, fel y bydd i'r rhwystrau sydd yn awr ar y liordd gael eu llwyr ddileu, a'r amcan mawr gael ei gyrhaedd er lies pawb yn gyffi-ecliiiol. lOAN AB J EPTHA,

-----.-----------'-AT LOWYR…

EISTEDDFOD TROEDYRHIW.

UNDEB CENEDLAETHOL Y MWNWYR…

HELYNTION GWLAD MYRDDIN

. CYJSTGHEBDD MISS HARRIES.

GRWYLILU BLYNYDDOL.

YSGOLDY NEWYDD, DOWLAIS.

Ysgol Nos Mr. Cuuen Rees.

Advertising

LE'RPWL.