Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Goreu arf, arf dyog." EISTEDDFOD LLWYNYPIA. BYDDED bysbya y cynelir Cyfarfod Cystadleu- ol yn y eapel uchod, NADOLIG 1875, pryd y gwobrwyir y bnddugwvr mewn Cauiadaeth, Barddoniaetb, Adrodd, Areithio, &c. CANIADAETH. rr Cor, heb fod dan 30 mewn nifer, a ddadgano yn oreu "Y Ffrwd," gan Gwilym Gwent, Rhif 94 o'r Cerddor Cymreig .500 BARDDONIAETH. Bydd y gweddill o'r testynau, enwau y beirn- iaid, a'r holl fanylion i'w cael yn fuan yn y pro- gram me, pris lc.; drwy y Post, Ifc., gan yr ysgrlfenydd, Am y Beddargraff Hir a Thoddaid goreu i'r diweddar Barch. Henry Rees, Llwynypia .110 MR. B. FRANCIS, Tailor & Draper, Tonypandv, Pontypridd. EISTEDDFOD TREFORIS. BYDDED bysbys y cynelir Eisteddfod yn y lie ucbod prydnawn dvdd Sadwrn, Tachwedd yr 20fed, pryd y gwobrwyir y eystadleuwyr buddugol mewn cerddoriaetb, barddoniaeth, ad- rodd, ac areitbio. Y PRIF DDARN. I'r Cor, heb fod dan 40 mewn rbif, a gano yn oreu y Marseillaise Hymn gwobr £ 6. Programmes yn barod yn fuan, ac i'w cael am geiniog yr un; trwy y Post, ceiniog a dimai, gan yr ysgrifenydd, DAVID EDWARDS, John-street, Brynhyfryd, near Swansea. BWRDD Y GOLYGYDD. CAEWR CYFIAWXDES A SHONI O'R WERFA.—Y mae y ddwy ysgrif hyn yn cyfeirio at bethau nad ydym yn eu deall yn iawn, ac o ganlyniad nad all ond ychydig o'n darllenwyr eu deall. Carem i bethau y DARIAN fod yn bethau cyffredinol mor belled ag y byddo modd, ac yn gyfryw a roddai ddyddordeb i bawb a'u dar- llenent. Mor bell ag yr ydym yn deall, y mae eich ysgrifau yn bethau personol bron. Y mae ambell ddyn naill lygad yn gallu gweled cystal a dyn a dau. CARNELIAN.—Yr ydym yn ddiolchgar am eich syniadau. Y mae y gefnog- aeth a dderbyniwn yn profi fod y cam a gymerasom yn un yn ei Ie. Pob gohebiaethau ac ysgrifau i'r DARIAN i'w cyfeirio Editor of TARIAN Y GWEITHIWR, Aberdare. Pob archebion a thaliadau i'w hanfon i Mills, Lynch, a Davies, "Tarian y Gweithiwr" Office, Aberdare.
MRS. CRAWSHAY A MORWYNION…
MRS. CRAWSHAY A MORWYN- ION BONHEDDIG. OES yr oddities yw yr oes hon. Y mae dyn od yn gaffaeliad mewn cymdeithas. Rhydd fywyd iddi pan y bydd bron wedi cael ei chloi i fyny mewn cwsg, o dan ddylanwad cyffredinolrwydd a pharhad didor, mwyniant a llwyddiant. Rhydd cystudd, newyn, a noethni, awch ar olygon deall dyn, i weled gwerth pethau da, wedi eu colli neu trwy fethu eu cael, wedi i'r mwyniant o honynt yn ddifeth am flynyddoedd greu diflasdod tuag atynt, fel pan y galwodd Israel ffon eu bywyd dros anser maith, yn "fanna gwael," er mai "bara angyl- ion" oedd. Os bydd rheswm coeth, wedi cael ei addysgu i weithredu yn ddoeth, yn holl berthynasau bywyd, wedi myned yn feddiant mor gyffredin mewn cymdeithas, fel na bydd yn od yn y byd fod dyn yn cadw ei reswm yn ddysglaer, a bod eisiau cynbyrfu sylw y byd a rhyw fath o oddity, nid rhyfedd fod tuedd gref mewn dosbarth o ddynion, o dan ddylanwad y dwymyn hunan-geisiol, i osod ychydig dameid- iau o surdoes gwallgofrwydd, mewn cymdeithas o resymolion, o bwrpas i dragywyddoli eu henwau ryw fodd. Y mae y brofedigaeth yn gref iawn i wneud hyn os bydd y boneddwr, neu y foneddiges uchelfrydol yn meddu digon b y o arian i ddianc o ataelion common- place marw, neu yr hyn a eilw y Ffrancod ennui, yr hwn a olyga deiml- ad o atgasrwydd at sefyllfa ddigynhwrf. Nid oes dim mor ofnadwy i'r cyfryw na bod yn rhyw ronyn mewn twmpath o dywod aristocrataidd, yn ddim ond tm o filoedd, yn unig i ddweyd wrth for tlodi, hyd yma y deui a dim yn mbellach neu yn ddyferyn bychan, dinod, yn mhlith ei gymdeithion mewn cawod fawr neu yn ddyn, neu ddynes, ar yr un lefel a phob un arall, heb fawr o obaith cael ei ddyrchafu yn "uwch o'i ysgwyddau na'r crowd. Diau fod y rhai sydd o dan ddylan- wad y dwymyn boeth am ryw fath o hynodrwydd, yn wrthddrychan tosturi. Y mae eu hanedwyddwch hwy yn fawr. Y mae y dwymyn yn ffynu yn mhlith athronwyr yr oes. Y mae gwirionedd wedi myned yn gyfoeth rhy gyffredin. Gwisgant hen gelwydd dychymygol yn iaith ffasiynol yr oes, yn unig er mwyn i'r byd rythu ei lygaid mewn syndod am ychydig o fisoedd. Y mae y dwym- yn wedi cyrhaedd y pwlpud. Cymerir rhyw destyn o'r Beibl, fel boel i hong- ian araeth wleidyddol arni, ar nos Sab- both, er mwyn gwneud attraction o ryw fath, trwy oddity, gan fod chwaeth y byd wedi syrffedu arwirionedd hanfod- 01 i fywyd enaid a chorff. Y mae yn debyg fod oddity y blod- euyn dyeithriol a gododd Mrs Crawshay o flaen trsvynau dynolryw, ychydig amser yn ol, yn nghylch llosgi cyrff yn lie eu claddu hwynt, wedi dechreu gwywo, fod ei liwiau dyeithriol wedi diflanu, neu yr oedd arogl ei hathraw- iaeth hi, neu ei blodeuyn dyeithriol, yr hwn a dynodd hi o hen ardd paganiaeth, yn rhy ddrygsawrus yn ffroenau y byd, i ddynion aros yn hir uwch ei ben i synu oblegid ei ddyeithrwch. Pa fodd bynag, y mae Mrs. Craw- shay wedi cael gafael mewn blodeuyn newydd. Cymerodd ef i gyfarfod mawr athronwyr yr oes yn Bristol. Yr oedd ei ddyeithrwch yn ateb chwaeth llawer yno, oblegid nid ydynt yn gwneud fawr o ddim ond breuddwydio mewn 'spe- ciilati-ve philosophy.' Yr oedd yn han- fodol i ddedwyddwch y foneddiges i ddwyn allan ryw beth newydd. Yr oedd Miss Nightingale wedi myned ffwrdd a'r goron fawr am hynodrwydd dyngarol mewn clafdai. Yr oedd Jenny Lind wedi cipio y goron am ganu. Yr oedd Miss Burdett Coutts wedi gafaelyd yn y goron am gyfran- iadau tywysogaidd tuag at wneud tlod- ion yn gysurus. Yr oedd Harriet Beecher Stowe wedi cymeryd yr holl enwogrwydd oddiar y rhyw fel ysgrif- enydd nofelau. Nid oedd dim wedi ei adael i Mrs. Crawshay, lie y gallai sefyll ar ei phen ei hun mewn hynod- rwydd, heb iddi fyned ar draws holl reswm a synwyr yr oes, trwy gynyg gwneud boneddigesau yn forwynion i wneud gwaith cyfFredin yn mhob eongi mewn ty. Aeth a'i chynygiad i gyn- hadledd dysgawdwyrmwyaf athronydd- 01 yr oes. Nis gallasai bigo cyfle mwy cymwys i ddwyn ei chynllun o flaen Y byd, ac i dynu sylw yr holl fyd arni ei hun. Y mae hi wedi llwyddo i wneud hyny, gellid meddwl, bron tu hwnt i'w dysgwyliad. Yr oedd y chwerthyn a gynyrchwyd gan ei thraethawd yn Bristol yn ddigon i osod enwogrwydd ami, tebyg i enwogrwodd Colonel Sib- thorp yn Nby y Cyffredin gynt. Mae ei thraethawd fel goruchionen (metor) neu seren gynffonog, wedi tynu sylw yr holl bapyrau newyddion trwy y deyrnas. Nid yw y gwrthwynebiadau y mae hi wedi eu cael ond gwleddoedd i'w hysbryd, o herwydd ei bod felly yn wrthddrych sylw. Y mae y ffaith ei bod hi yn credu yn ddifrifol yn ei chyn- llun yn chwanegu at ddyddordeb y feirniadaeth arno. Ac os nad yw y cynllun yn derchafu ei rheswm i an- rhydedd, digon yw ei fod yn profi i'r holl fyd fod ganddi ddychymyg ffrwyth- Ion o hynodion. Ac os yw hyn yn ddigon i'w llenwi hi a dedwyddwch fel mono-onarist, sef breuddwydyddes ar ei phen ei hun, mawr lies iddi. Gosodwyd cynllun Mrs. Crawshay ger bron y gynadledd yn Bristol, gan- ddi hi ei hun, fel y canlyn "Yr wyfyn cynyg fod boneddigesau cynorthwyol (lady-helps) yn cael eu dewis i fod yn uwch-forwynion (upper- servants). Yr wyf wedi gwneud prawf o'r cynllun hwn. Am fiwyddyn, tra y bu boneddigesau-cynorthwyol yn fy ngwasanaethu, ni bu un cyfnewidiad yn fy morwynion. Ond er pan y mae morwynion boneddig wedi fy ngadael, y mae sfith o gyfnewidiadau wedi bod mewn d ng mis yn mhlith ein naw morwyn. Cetii; lawer mwv o waith wedi ei gyflawni pan yr oedd y mor- wynion boneddig yn fy ngwasanaethu nag a gefsis am 29 mlynedd o'r blaen, gan yr un nifer o forwyuion. Ni effeithiodd gwasanaeth am bymtheg mis yn niweidiol ar iechyd, nac ym- ddangosiad fy morwynion boneddig, yn ol tystiolaeth eu perthynasau, ond o'r ochr arall, yr oedd eu hiechyd yn well na'r boneddigesan hyny a gymer- ent" exercise "yn unig, wedi canol dydd mewn cerbyd wedi ei glustogi yn dda. Merched ysgrifenydd yn swyddfa Pro- ffeswr dy&gedig oedd tair o'm morwyn- ion boneddig. Methodd ei feistr, a ou yntau o dan angenrhaid i gael Ileoedd i'w blant i enill eubywioliaeth. Merch gweinidog Ymneillduol oedd un arall. Merch offeiriad oedd un arall. Un fantais o'r cynllun fyddai fod bonedd- iges weddw mewn angen o gael bonedd- iges yn gwmni iddi, yn gallu ei chael yn ei morwyn, heb fod mewn angen o gael morwyn a chwmnies. Dylai ben- ywaid feddwl am ryw waith i'w wneud gystal a'r gwrywaid, er mwyn iddynt fedru byw ar eu henillion eu hunain, os bydd eisiau." Dyna swm ei chynllun hi. Gwrth- wynebwyd y cynllun gan Mrs. Gray, boneddiges o Lundain, yn y cyfarfod yn Bristol. Dywedodd hi, nad oedd yn gynllun doeth i ddefnyddio ofFeryn- au caboledig i wneud gwaith garw. Tueddai i iselhau merched a'u gyru yn mhellach oddiwrth foneddigion. Mae digon o le iddynt weithio a chynal eu hunain heb fod yn forwynion. Canmolwyd cynllun Mrs. Crawshay gan Lord Amberley, mab Iarll Russell. Gwrthwynebwyd ef yn rymus gan Mr. Me Mordie. Dywedodd fod y cynllun yn warth i Gristionogaeth a gwareidd- iad. Y mae gormod o waseiddiwch caeth eisioes yn y cylch teuluol, heb dynu dosbarth arall iddo. Galwodd efe y cynllun yn un Quixotic, sef yn rhamantus mewn gwrthuni. Ymddang- osai Mr. Spalding mewn ofn y buasai y cynllnn yn codi gweision a morwyn- ion i gyfartaledd a'u meistri a'u meis- tresi. Gofynai mewn dychryn, beth a ddeuai o'r byd pe byddai gweision a morwynion mor uchel ac annibynol eu sefyllfa, a ffurlio Trade Union yn eu plith eu hunain, a'u bod yn ymadael a thy gyda'u gilydd pe torai rhyw glefyd, allan ynddo ? Ond yn awr gall meistres anfon morwyn a darewir yn glaf i'r meddygdy neu i dy y tlodion. Dywedodd MrLawson, Llywodraeth- wr Barbodoes, y gallai meistr drwg -nnend gwasanaeth yn rhyw iselhad i ddyn, ond nid felly un da. Ac os nad yw gwasanaeth yn iselhad, paham nad all boneddiges wasanaethu ? Y mae boneddigion ieuainc yn y trefedigaeth- au yn glanhau eu botasau a'u ceffylau eu hunain, agolchi eu dillad eu hunain. Ond wedi ychydig o flynyddau y maent yn derbyn gwobrwyon oddiwrth ei Mawrhydi y Frenhines. Y cwestiwn yw, pa fodd y gellir newid arferion cymdeithas y rhai sydd wedi gwreiddio yn ddwfn ynLloegr ? Gallai ele ddweyd nad oedd gwasanaeth yn iselhau dyn yn y trefedigaethau. Nid oedd yn isel- hau dyn yn y wlad hon gynt, pan yr oedd y meistri a'u gweision yn eistedd i fwyta wrth yr un bwrdd. A oedd y barwn cyntefig yn iselhau ei hun wrth gymdeithasu a'i weision ? Cynhyrfodd y ewestiwn hwn uchel gymeradwyaeth. Lord Aberdare a ddywedodd, fod y Senedd wedi penderfynu, fod math o waith yn iselhad i ferched, os cyflawnid ef mewn rhyw oriau. Yr oedd y sen- edd wedi gwahardd i ferched weithio o dan y ddaear. Ac yr oedd pawb yn cytuno na ddylent weithio yn y maes, fod hyny yn ddiraddiad iddynt. Cafodd uchel gymeradwyaeth pan y dywedodd ei fod o'r un farn a Mrs. Gray. Dy- wedodd fod teimlad Lloegr, tyfiant canrifoedd, yn erbyn darostwng merch- ed o ddygiad i fyny da i wasanaethu fel morwynion. Teimlai eu perthynasau eu bod yn cael eu darostwng. Cynyrchai y cynllun genfigen rhwng morwynion, gan y byddai dau ddosbarth o honynt. Cynyddai y teimlad hwn i raddau ni- weidiol yn y morwynion israddol wrth weled y rhai uwchraddol, fel cymdeith- ion meistresi, yn cael myned gyda hwynt i'r chwareudai, cyngherddau, ac mewn llawer ffordd y byddai meis- tresi yn rhoddi pleserau bywyd iddynt. Ond y mae y cwestiwn yn nghylch terfynau gwaith merch yn deilwng o ystyriaeth. Tybiai efe y gwelai Mrs. Crawshay na atebai ei chynllun un pwrpas da, pe byddai iddo gael ei fab- wysiadu yn gytfredinol, er y gallai hi wneud iddo i ateb ryw fodd yn ei theulu ei hun. Mr. Mildmay a ystyriai y buasai yn iselhad i'w ferched ef fod yn gym- deithion i fwtleriaid a footmen, panyn gwasanaethu fel cogyddesau. Mrs. Crawshay a gydnabyddai fod nerth yn yr ymresymiadau gwrthwyn- ebol, ei fod yn ddiau yn iselhad i fon- eddigesau fod yn gymdeithion i fwt- leriaid, &c., ond dywedodd ei fod yn draeni i'r boneddigesau hyn i ddyoddef newyn, a'i fod yn well iddynt gyfeill- achu a bwtleriaid na marw o newyn, neu enill eu bara mewn ffyrdd anfoesol. Meddai hi, dywedodd Lord AberdAr am deimlad gwrthwynebol fel tyfiant canrifoedd, ond diwreiddia y fath deimladau eu hunain cyn bo hir. Gwel meistri a gweithwyr gyfnod newydd yn fuan. Cyn i lawer o flynyddau fyned heibio, digon tebyg y gwelir boneddig- esau yn gorfod gwasanaethu arnynt eu hunain. Ond hyderai hi y byddai peirianau yn rhoddi tipyn o help idd- ynt y pryd hwnw. Parodd ei sylwadau hi chwerthyn mawr. Nid oedd ymresymiad neb yn y ddadl yn ei Ie, er fod yno awgrymiadau arwyddocaol iawn. Nid oedd rhesymau Mrs. Crawshay yn cefnogi ei chynllun hi mwy na rhyw gynllun arall. Buas- ent yn ateb cynllun llawer llai bieu- ddwydiol na'i chynllun hi, a hyny yn llawer gwell. Ond gan fod y ddadl, yn y gynhadledd yn Bristol ar y mater, wedi cymeryd ein gofod yr wythnos hon, a chan fod awgrymiadau pwrpasol i'r gweithiwr yn y ddadl, gadawn ym- resyniiad pellach arni hyd yr wythnos nesaf.
GADLYS, ABERDAR.
GADLYS, ABERDAR. Nos Fercher, y 9fed cyfisol, yn y capel uchod, traddododd y Parch. H. W. Hughes (Arwystl), Dinas, ddarlith ragorol-er ei hoff destyn, sef "Taith yr Israeliaid o'r Aipht i Ganaan." Digon yw dyweyd fod pawb wedi eu llwyr foddloni, ac yr ydym yn credu mai iaith pawb a'i clywodd "Melus, moes eto." Y mae yr elw yn myned at aehos teilwng, sef i gynorthwyo y brawd ieuanc gobeithiol E. Jones ar ei ymadawiad a'r lie i fyned i Athrofa Llangollen y mis hwn. Amlygodd amryw o weinidogion oeddynt yn bre- senol eu teimladau da tuag at y brawd ieuanc. Bwriada y dosbarth sydd dan ei ofal yn yr Ysgol Sul ei anrhegu a llyfr hardd ar ei ymadawiad. Rhodd- odd Mr. Hughes ei wasanaeth yn rhad. Cafwyd cyfarfod dymunol iawn. Mawr lwyddiant i'r brawd ieuanc ydyw dym- uniad llawer heblaw MKNES.
TRECYNON—CYFARFOD YMADAWOL.
TRECYNON—CYFARFOD YMADAWOL. PWNC y dydd yma yn bresenol ywcynal cyfarfodydd i ganu yn iach, a chyflwyno tystebau i'r cyfeillion sydd yn ymadael a'rlle am Patagonia. Nos Fawrth diw- eddaf cyna-liwyd uno'r cyfrywyn nghapel Mr. Harris, fel ei adwaenir, i'r dyten o gyflwyno amryw lyfrau gwerthfawr a chydaid o arian i David Thomas a'i deulu lluosog a pharchus ar en hymadawiad am ywlad bell, fel arwydd o deimlad da lluosog gyfeillion tuag atynt. Siaradodd y Parch. W. Harris, y cadeirydd, ac ereill yn efEeithiol iawn, gan ddadgan eu hiraeth a'u colled yn yr eglwys, am fod y brawd da, ffyddlon, ac ymdrechgar, yn ogystal a'i deulu, yn ymadael. Canodd y cor ac ereill amryw ddarnau bywiog; ond y rhai a bynodasant eu hunain yn y gangen hon o'r gwasanaeth ydoedd dau gyfaill yn ffurfio canu gyda'r concertina. Chwareuai un o honynt yr offeryn, a'r ddau yn chwareu eu gwefusau yr un ffurf yn gywir a phe buasent yn dadganu; ond er gwrando yn astud, yn ein byw methasom a chlywed y swn lleiaf o'u gei.au, ddim ond sain y concertina, yn unig. Efallai mai ffasiwn newydd i ddadganu oedd ganddynt. Beth bynag, na ddigied y cyfeillion am ddweyd mai ffasiwn odd iawn ydyw. Adroddwyd amryw ddarnau yn hynod dda, ond am y ddwy ferch fechan yn actio" Rhanu y Deisen," yr oedd yn ddigon o dreat i'w clywed a'u gweled. C, W. D.
CAERFFILI A'R BED WAS.
CAERFFILI A'R BED WAS. MEDI y 9fed oedd y dydd penodedig i'r gwahanol weithfeydd gydgyfarfod, er ystyried y cynllun goreu i gario pethau yn mlaen yn y dyfodol mewn gwell trefn. Cafwyd cyfarfod o'r iawn ryw, ac araeth bwrpasol gan Mr. Mitchard, yr hwn a ddywedodd y buasai yn dda ganddo aros, ond yr oedd yn rhaid iddo ymadael am Gwmbran. Wedi hyny aethpwyd yn mlaen a gwaith y cyfarfod. Y peth cyntaf ydoedd cael cyfrif o arolygiad y llyfrau, y rhai a gafwyd oil yn hollol gywir, heb un ddimai yn eisieu am y chwech mis diweddaf. Lied dda, onite ? Y peth nesaf a ddaeth i'r bwrdd oedd yr undeb newydd, a phasiwyd yn un- frydol i'w dderbyn, a thalu tuag ato mor fuan ag y mae modd. Pa le y mae John Grey a'i farn ar yr undeb newydd ? Wedi hyn, sylwyd ar Mri. Vivian a Macdonald, a phasiwyd yn unfrydol eu cadw yn aelodau o'r bwrdd. Wrth der- fynu, yr wyf yn dymuno ar fy nghyd- weithwyr wrth ddechreu undeb newydd fabwysiadu cynllunian newyddion hefyd. COTHI FAB.
TROEDYRHIW.—DARLITH.
TROEDYRHIW.—DARLITH. Nos Iau, y 9fed cyfisol, yn Nghapel y Methodietiaid, Troedyrhiw, traddodwyd darlith hynod o addysgiadol a dyddorol ar Ddiwydrwydd," gan y Parch. David. Jones, gweinidog y lie. Daeth cynull- iad lluosog yn nghyd, y rhai a wrandaw- sant gydag astudrwydd a boddhad neill- duol ar y darlithydd parchus yn traethu mor hyawdl a nerthol ar y testyn yn ei wahanol agweddau. Yr oedd ei dde- ffiniad o ddiwydrwydd yn ddysgedig, athronyddol, a dyddorol iawn. Dygodd i sylw amryw ffeithiau arbenig mewn cysylltiad a bywydau rhai o enwogion a. rhagorolion y ddaear, megys, John Bunyan, Carey, Dr. Livingstone, ac ereill, pa rai oeddynt wedi gwneuthur gwrhydri mawr, ac wedi gwneud eu henwau yn anfarwol trwy eu diwyd- rwydd dihafal. Yr oedd y ddarlith yn dangos llafur ac ymchwiliad mawr i'r pwnc, ac yr oedd dull y traddodiad yn hapus ac effeithiol. Dylai holl gynull- eidfaoedd Cymru glywed y ddarlith rag- orol hon-byddai yn lies ac yn fendith i lawer. Rhy ychydig o ddarlithiau o'r natur yma sydd yn cael eu traddodi, a gormod o sothach dienaid a dibwynt yn cael ei osod o flaen y werin. Dyma. ddarlith y bydd ayn yn well o'i chlywed, a chynghorem bawb i fynu ei chlywed. Yr oedd yr elw deilliedig oddiwrthi tuag at dreuliau yr achos yn y lie.—> GWEXYWEN.
CWMAMAN, SWYDD GAERFYRDDIN.
CWMAMAN, SWYDD GAER- FYRDDIN. YR HEN GYMRY.—Agorwyd cyfrinfa. o'r Urdd uchod yn yr Aman Inn, pryd- nawn dydd Llun, Medi 6ed. Gorym- deithiodd y fra,wdoliaeth yn eu hurdd- wisgoedd ysblenydd, yn cael eu blaenori gan seindorf pres Cwmaman. YR EISTEDDFOD FAWR.-Ie, y fwyaf a fu yma erioed fydd yr hon a gynelir yma dydd Llun nesaf, Medi yr 20fed. Llyw- yddir hi gan y Parch. T. Griffiths, D.D., Ficer Llandilo. Pwysir y beirdd gan Gwilym Elian, Groeswen, a'r traethodau gan y Parch. W. J. Morris, Pontypridd. Bydd yn rhaid i'r cerddorion fyned i glorian Mr J. Parry (Pencerdd America.) Mae amryw o brif gorau Myrddin a. Morgan wedi hysbysu y safant frwydr am y prif ddarn, ac yr ydym yn pender- fynu rhoddi ugain gini i'r goreu. Yr ydym wedi clywed y bydd Hen Domos a Shwned, poor things, yn yr Eisteddfod. ,0s daw yr hen wr a'i geffyl Boxer yma, nid ydym yn sicrhau lie i Boxer, ond fe gaiff yr hen bobl bob croesaw, a chant hwy, a phawb yn ddiwahaniaeth, ddigon- edd o de a bara brith gan y pwyllgor os y rhoddant ebolyn glas (chwedl Mr. Kilsby) am dano. FREDERICK.
PONTYPRIDD—PRIODAS.
PONTYPRIDD—PRIODAS. MEDI yr 8fed, yn Carmel, Pontypridd, gan y Parch. J. Williams, y gweinidog Mr. Evan Williams a Miss Louisa Towns- end, y ddau o Bontypridd. Anyddan fel hen Add.fuost Trwy'tb fywyd bvd yma, Mewn penyd ar hyd yr ha' Yn ymofyn am Efa, 0 anialdir diauwyldeb-ben lane, Dilun mewn taerineb, Bu yn gwenu'n ei gwyneb, A'u gwylio 1, nhw heb gael neb. Na, Evan gafodd Efa—do, yn siwr, Rhoedo'n sound mi w'ranta; Doniol o beth, ond dyna, fu'th dynghedfen, Dy loew asen di yw Louisa. Ac Etu ddel gafodd wr—yn Evan. Bydd hefyd yn noddwr Iddi—a thi fydd ei thwr, Ei phen a'i haniddiffynwr. 0 boed haul eu bYWfd hwy-yn gryf, Ae yn grwn fel modrwy, Bo'u hyder heb adwy, byw'n hiroedlog, Yn oludog a chanmoladwy. Pontypridd. CARNELIAN.
ESGORODD.
ESGORODD. AWST 25tin, Mrs. Nicholaa, priod Mr. Lev Nicholas, No. 1, Sunny Bank-street, Aberdar, ar fercb, a gel wir ei henw yn Hannah Jane. Levi y lili olenwedd-gefaist, Yw'th gyflawn orfoledd A thra'n y byd. byfryd hedd I fwyn loni'r fun lanwedd. Ar Hannae Jane yn gain gweued—y byd, A'i boen byth na dJeled Net geinion a Naf gwyned, ei llwybran, A dwyfol rodau diafel reded. GWILYM NEDD. Awst 31, priod Mr. David Morgan, peirianyddP Ysguborwn, Fredrick-street, Trecynon, ar fab, a gelwir ei enw Watkin John. Medi y 12fed, priod Mr. John Thomas, ficerdy, Sant Ffagan, Trecjnon, ar fab, a gelwir ei enw yn Isaac John. I Isaac John, y prydferth angel-faban, Y rhosyn hardd a ddaeth i Walk wiwhin, Boed hafaidd dyrnhor trwy ei oes, a gwynfyd A phurddedwyddwycb fo'n codw."ddu 'i fywyd Boed heulwen llwyddiant ar ei rndd jn gwenu, A rhin ei einioes fyddo'n perarogli l'el nardus yn mhob man y bo'n blaguro— Na foed i chwaun adfyd byth ei wywo! lOAN EQWEST. Dydd Sadwrn, Medi yr lleg, yn Merthyr, Mr. Daniel Hughes, a. Mips Elizabeth Daniels, y ddau o Hirwain. lor daeno'i glaer adenydd—yn dyner Am danyut hwy beunydd. A boed haul gwyneb eu dydd 0 blaniad oes ysblenydd.