Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

MRS. CRAWSHAY A MORWYNION…

GADLYS, ABERDAR.

TRECYNON—CYFARFOD YMADAWOL.

CAERFFILI A'R BED WAS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CAERFFILI A'R BED WAS. MEDI y 9fed oedd y dydd penodedig i'r gwahanol weithfeydd gydgyfarfod, er ystyried y cynllun goreu i gario pethau yn mlaen yn y dyfodol mewn gwell trefn. Cafwyd cyfarfod o'r iawn ryw, ac araeth bwrpasol gan Mr. Mitchard, yr hwn a ddywedodd y buasai yn dda ganddo aros, ond yr oedd yn rhaid iddo ymadael am Gwmbran. Wedi hyny aethpwyd yn mlaen a gwaith y cyfarfod. Y peth cyntaf ydoedd cael cyfrif o arolygiad y llyfrau, y rhai a gafwyd oil yn hollol gywir, heb un ddimai yn eisieu am y chwech mis diweddaf. Lied dda, onite ? Y peth nesaf a ddaeth i'r bwrdd oedd yr undeb newydd, a phasiwyd yn un- frydol i'w dderbyn, a thalu tuag ato mor fuan ag y mae modd. Pa le y mae John Grey a'i farn ar yr undeb newydd ? Wedi hyn, sylwyd ar Mri. Vivian a Macdonald, a phasiwyd yn unfrydol eu cadw yn aelodau o'r bwrdd. Wrth der- fynu, yr wyf yn dymuno ar fy nghyd- weithwyr wrth ddechreu undeb newydd fabwysiadu cynllunian newyddion hefyd. COTHI FAB.

TROEDYRHIW.—DARLITH.

CWMAMAN, SWYDD GAERFYRDDIN.

PONTYPRIDD—PRIODAS.

ESGORODD.