Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Y NOFEL: EINION HYWEL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y NOFEL: EINION HYWEL. (Buddugol. yn Eisteddfod ddiweddar Aberdar.) PENOD XV. Y MAE y gwynt i raddau yn tawelu eto; y mae yr hen lestr yn cael ei thaflu o don i don fel deilen, a lluaws o'r teithwyr wedi boddi, ac ereill wedi marw yn y dychryn anghynmarol, fel mai pur ychydig oedd wedi eu gadael rhwng y ddwy alanastra. O y mae bron a suddo Er fod heddwch wedi ei gyhoeddi yn Ilys y dymhestl, a'r wawr yn dringo grisiau y Dwyrain, y mae anobaith fel cwml du yn cuddio y llong. 0 rian deg, byddi yn y dy finder yn fuan, fuan! Dacw hi yn syrthio yn farw Ie, y mae ofnadwyaeth wedi tori ei chalon. 0 ei chwys Pwy a'i sycha ? Neb, neb! Y mae wedi marw Gostegodd y rhyferthwy, a thangnefedd a eistecda ar war pob ton, tra'r hen long yn para i nofio, er ei bod yn hynod ddrylliedig. 0 na ddeuai gwaredigaeth Y mae yn foreu teg, a'r wybren ar ol yr ystcrm heb yr un ewmwl ar ei bron, ond y cwmwl pryd- ferth a rhydd a groesa ei mynwes eang weithiau. Ond 0 nid oes neb yn gallu mwynhau yr olygfa er ei bod yn ogoneddus. Yn y cyfwng, dyma y cadben yn gwaeddi yn ddisymwth, 0 diolch! Y mae gobaith megys cerub wedi disgyn i'r llong, a'i fynwes yn Hawn o gysur, ac yn ei law y mae llyth- yr oddiwrth Waredigaeth. Diolch i'r nefoedd, dacw long yn y pellder yn cyflymn tuag atom, ebai y teithwyr. 0 gwelwch hi yn hollti y tonau Mewn ycbydig dyna fadau yn cael eu gollwng at y llestr oedd yn prysur suddo i'r dyfnder. Y mae llawenydd yn toi pob mynwes, a chredwyf, ddarllenydd, os bu angelion erioed yn dal Hong rhag suddo, iddynt fod yn cynal hon, o her- wydd gyda bod y diweddaf yn gadael ei bwrdd, yr oedd wedi suddo! Pwy ond Duw a drefnodd waredigaeth. Yn awr, dacw y teithwyr yn y llestr new- ydd, yr hon oedd wedi cychwyn yn mhen dau ddiwrnod ar eu holau o Lynlleifiad, ac yn rhwm i Peru. 0 mor falch yr oeddynt. Eto, pan dde- allasant fod Einion Hywel, y bachgen oedd wedi tynu cymaint o'u serch wedi boddi, tarawyd hwy a mudan- rwydd ac a syndod 0 fel y mae yr hen foneddwr y soniasom am dano yn wylo, gan adrodd rhinweddau a dewr- der y bachgen, yn nghyda'i ddull de- heuig yn trin y clwyfau yn y Hong pan oedd y geri yn ei erchyllder braw- ychol Yn yr adeg, dyna fachgen o ganol y dorf yn goiyn pa fath un yd- oedd, ac o ba le yr ydoedd yn dyfod. Pryd yr a>ebwyd efganyr hen fonedd- wr, trwy ddweyd ei fod ef wedi ei glywed yn dweyd mai o "Dyffryn Eifion, yn Nghymrn, yr oedd yn dy. fod;" ac hefyd rhodd'odd ddysgrifiad o hono. Erbyn hyn yr oedd yn wylo yn hidl, ac yn nghanol ei ddagrau, dy- wedodd ei "fod yn ei adnabod er's blynyddau, ac aeth dros ei hanes, yr hyn a yrodd y teithwyr i syndod. Eto, methai a deall pabam yr oedd wedi gadael y castell, er ei fod wedi clywed rhyw si ei fod wedi gwneud. Yn awr, dacw y llong yn cyflymu at wdd yr afon fawr Amazona, a bron yn union dicw hi yn hollti ei dyfroedd dyfn- ion. 0 fel y mae y teithwyr yn dis- gwyl am Peru ïe, y wlad oeddynt wedi clywed son am dani drwy eu hoes, yn y diwedd dacw hwy wedi glanio, ac yn gwasgaru i bob cyfeiriad. A dacw yr hen foneddwr yn cyrhaedd palas ei frawd, yr hwn oedd yn y wlad er's blynyddau. Ac 0 mor dda oedd ganddynt weled eu gilydd ïe, wedi bod am ugain mlynedd heb gael cy- maint ag un ymgom. O 1 peth hyfryd yw cwrdd a pherth- ynasau, yn enwedig mewn gwlad es- tronol. Hefyd, aeth Isaac Owen, Bryn y Garth, i ben ei daith, a mynych y meddyliai am Einion Hywel y Castell, ac wrth anfon llytliyr tuag adref dy- wedodd ei hanes; ac O! aeth y ne- wydd fod Einion wedi boddi ar ei ffordd i Peru trwy yr hon nymydog- aeth. megys Ar aden y fellden fyw;" ac yr oedd ugeiniau yn teimlo yn alar- us ar ei ol, a lluaws o wragedd gweddw- on yn wylo yn dost, a hyny wrth fedd- wl am ei haelioni diail pan oedd yn y Castell. Ar fyr daeth yr hanes i glustiau Deborah, a pban y clywcdd, syrthiodd i lewyg drom, a meddyliwyd ei bod yn marw; ac yn wir, aeth y newydd trwy ar ardal ei bod wedi huno yn yr angeu.

PENOD XVI.

GOGONIANT DYN YN EI SYL-WEDDAU…

+ BEIRNIADAETH CYFARFODI CYSTADLEUOL…

LLUEST Y MYNYDD.