Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
DIDDYMIAETH YN RWSIA.
DIDDYMIAETH YN RWSIA. Y MAB y Daily News, Llundain, dydd Ian, yr I ft eg cyfisol, yn riioddi hanes am gymdeithas o dan yr enw "Nihilesm)" neu Ddiddymiaeth, wedi tyfu i gryf- dwr mawr yn RWEia. Ysfcyria llyw- odraeth Rwsia y gymdeithas hon yn un wrthryfelgar yn erbyn yr orsedd. Y mae hi wedi cario ei gweithrediadau yn mlaen am flynyddau mewn modd dir- gel, ond effeithiol iawn. Y mae llyw- odraeth Rwsia wedi ceisio ceiu y gym- deithas er pan ei darganfyddwyd hi o olwg trigoliou y bvd. Cadwodd dreial ar aelodau y gymdeithas mewn modd ag oedd mor ddirgelaidd ag oedd yn bosibL Ond y mae cyhuddiad ffurfiol y gymdeithas wedi dyfod i law Rwsiaid, y rhai sydd wedi dianc am noddfa i Geneva acy mae y Thai hyny wedi ei gyhoeddi i'r byd, o waethaf llywodr- aeth Rwsia. Y mae profion mewnol yn yr hyn a gyhoeddir mai nid ifug yw, oblegyd ceisia y gymdeithas ddangos fod y cyhuddiad yn gwneud anghyf- iawnder a hi, a rhydd y gymdeithas hanes pethau nad ydynt yn ffafriol iawn iddi hi ei hun. Y mae y Ilyfryn, neu y traethodyn, o dan yr enw o gyhuddiad cyfreithiol llywodraeth Rwsia yn erbyn y gymdeithas, fel y gosodwyd ef ger bron y llys mewn treial dirgelaidd, rhai o aelodau y gymdeithas, yn draethodyn mawr. Y llynedd y daeth y llywodraeth i ddeall fod gweithredi&dau chwildroadol y gymdeithas hon yn myned yn mlaen mewn rhan fawr o Rwsia. Gwnawd ymchwiliad. Cafwyd allan fod diluw o lyfrau chwildroadol wedi gorlifo trwy y boblogaeth, a bod lluaws o ddynion ienainc wedi gadael yr ysgolion, yn troi yn weithwyr gwledig, er niwyn gwas- garu ei llyfrau, a pherswadio y werin i ymuno ar gymdeithas. Yn ol yr hys- bysrwydd a gafwyd, yr oedd gan y gymdeithas sefydliad fawr argraffyddol yn Moscow, a swyddogion uchel y llywodraeth ei hun yn perthyn iddi. Dechreuodd y gymdeithas ddadblygu ei hun yn 1872, o dan enwau y cym- deithasau cyfeillgarol a berthynai i'r Prifysgolion. Daeth y gymdeithas allan o'r diwedd dan wahanol enwau, megys Cymdeithas Carwyr Tea," Cymdeithas Apostoliaeth Gwirionedd a Daioni." Gwr ieuane o'r enw Ba w kounin a roddodd gychwyniad i'r gym- deithas o dan yr enw olaf. Anfonwyd cenhadon trwy holl Rwsia i ledu egwyddorion y gymdeithas trwy y boblogaeth. Amean y gymdeithas oedd diddymiad yr orsedd fel peth hollol groes i lesoldeb eymdeithas Rwsaidd, diddymiant eyfalaf, a ffurfio cymdeithas o'r graddau iselaf i fyny, trwy gymun- debau rhydd, sef creu cymdeithas ddynol newydd. Yr oedd pobl ieuainc Rwsia i ryddhau eu hnnain oddiwrth y llywodraeth. Yroeddeu brwdfrydedd yn hyn yn cael ei folianu gan eu cyf- eillion a'u perthynasau. Er mwyn cyn- byrfu y wlad dewÜodd y gymdeitbas offerynau cyfaddas. (1) Dynion o ar. ferion ac ymddygiadau gwledig, heb ond ychydig ddysg, i gynhyrfu y werin gyffredin. (2) Dynion mwy dysgedig i fod yn genhadon yn mhlith dosbarth canolog cymdeithas, ac i egluro iddynt mai bunan-wrteithiad yw yr allwedd i bob buddiant cymdeithasol. (3) Dyn- ion yn meddu y dysg u^vchaf, proffes- wriaid mewn Prifysgolion, aristocrat- iaid, a swyddogion uwchaf y fyddin. Llwyddodd y cynllun hwn yn ddirfawr. Yr oedd y gwahanol aelodau yn eym- deithasu alu gilydd yn barhaus trwy mottoes, passwords, a cyphers dirgel- aidd. Gwthient eu bunain i bob man, i golegan ac i ysgolion pentrefol. Llwyddasant i gael lluaws o wragedd a merched i weithio yn selog o'u plaid. Yr oeddynt yn hau eu hegwyddorion mewn siopau, gweithdai, a llyfrdai. Dynion o ddysg yn eu plith a osodent eu hitnaiu mewn setyllfaoedd gofiaid, er mwyn taenu eu hegwyddorion, gan mai lleoedd manteisiol am glebran yw siopau goliaid yn Rwsia fel yn y wlad hon. Defnyddient hefyd gymdeithasau cyd-weitbredol ('co-operative) at eu pwrpas. Un o brif ddynion y gym- deithas yn St. Petersburgh oedd un o'r enw Prince Peter Krapolkin, yr hwn oedd wedi bod mewn swydd uchel yn y llywodraeth. Yr oedd boneddiges fawr, merch swyddog uchel yn y fyddin, yn cynal ysgol, perthynol i'r gym- deithas, ar ei thraul ei hnn, mewn pentref. Yr oedd meddianydd llawer o diroedd wedi myned yn flaenor ar y symudiad yn nhalaeth Yaroslaf. Meistr gwaith cyfoethog mewn talaeth arall a gymerodd y flaenoriaeth. Un arall, yr hwn a fu yn farnwr mewn llys gwladol, a wariodd £6,000 ar y gymdeithas. Ynad cyfoethog mewn talaeth arall a wnaeth ei oreu o'i phlaid hi. Un aiall, perthynol i lysoedd y llywodraeth, a ddosbarthodd lyfrau y gymdeithas. Boneddigesau, gwragedd swyddogion o dan y llywodraeth, hwy a'u plant, a ym- drechasant yn selog o'i phlald. Er mwyn gwneud hyn aent i blith gweith- wyr iselradd yn y meusydd, cynorthwy ent hwy yn eu gwaith, a chysgent yn eu plith, Mewn un rhandir mawr cy- northwyid y gymdeithas gan gynulliad awdurdodol arglwyddi aristocrataidd ag arian, er mwyn lledu dylanwad y gymdeithas, Yr oedd swyddog uchel dan y llywodraeth mewn un rhandir yn ymgynghori ag un o genhadon y gym- deithas cyn gwneud un apwyntiad swyddogol, mewn talaeth yn cynwys dwy filiwn a haner o drigolion. Cyf- addefa M. Zychareff, yr erlynydd, yn y traethodyn a gynwys y eyhuddiad cyf- reithiol, fod gwabanol gylchoedd (circles) y gymdeithas mor lluosog a dirgelaidd, fel na ellir eu llwyr ddileu ac y byddantyn sier o barhau i fod yn achos perygl i'r orsedd. Allan o 770 o aelodau adnabyddus i'r police, y mae 265 wedi cael eu cymeryd yn garchar- orion. Y mae oddeutu 158 owragedd, am y rhai y mae hysbysrwydd eu bod yn gwneud eu goreu o blaid y gym- deithas. Yr oedd cynllun gan y gym. deithas i gyfodi trwy yr holl wlad yn erbyn yr orsedd mor gynted ag y de- ebreuai rhyfel a Germani, yr hwn a ddysgwylid. Gormesdeyrn sydd yn neillduoli llyw- odraeth unbenaetbol Rwsia. Beth a ellid ddysgwyl dan lywodraethau o'r fath ond cydfradwriaethau dirgelaidd ?
+ . ! CYFARFOD CYNRYCHIOLWYR…
+ CYFARFOD CYNRYCHIOLWYR CYFFREDINOL MERTHYR. CYNALIWYD y cyfarfod yn y British Workman No. 1, Merthyr, ddydd Sadwrn, Medi 18fed. Dygwyd y gwaith yn mlaen yn absenoldeb y wasg gyhoeddus, ond ar ddiwedd y cwrdd penderfynwyd fod gwaith y y dydd i'w gyhoeddi. Dechreuwyd y eyfarfod am haner awr wedi deg, pryd y penodwyd y swyddogion canlynolCadeirydd, Mr. D. Morgan, Mountain Ash Ysgrifen- ydd, D. Morgan, Aberaman Is-Ysg., W. Evans, Gwaen Curwen Ysg. Cy- northwy ol, S, Aberdar. Wedi cael ychydig nodiadau pwr- pasol gan y llywydd ar bwysigrwydd yr achlysur, lenderfynwyd fod y ddau gwestiwn cyntaf i gael eu ateb gyda'i gilydd er mwyn hwylysu y gwaith, a chael amser i ddadleu y trydydd tra y byddai yr ysgrifenyddion yn myned o'r neilldu i gyfrif y pleidleisiau. Wedi galw enwau y gwahanol lo- feydd, awd at y Cynllun goreu er cael Deheudir Cymru wedi ei huno a'r Undeb Cenhedlaethol," aft Fel y moddion goreu yn bresenol, penderfynwyd, 1. Fod Mri Macdonald a Halliday i ddyfod i anerch nifer o gyfarfodydd mor fuan ag y byddo yn gyfleus iddynt, a bod y gorueh wylwyr i benodi Ileoedd y cynhelir y cyfarfodydd. 2. Fod y cyfarfod hwn yn anog pob glowr yn Neheudir Cymru i ymnno a'r Undeb Cenedlaethol ar unwaith- fod ein sefyllfa yn galw yn uchel am hyny. n. in nesar i daod ger bron oedct mater "Trysorfa y Bwrdd Cymod- lawn." Penderfynwd,-Fod y cyfarfod hwn yn taer ddymuno ar weithwyr y glo- feydd hyny nad ydynt wedi talu y chwecheiniog at y Bwrdd, i wneud hyny mor fuan ag y gallant, a bod yr Ysgrifenydd a'r Trysorydd i gyhoeddi cofres o enwau'r glofeydd sydd wedi tain yr arian. Yn ystod y ddadl ar y materion diweddaf, daeth yr Y sgrifenyddfon i fewn, a chaed fod y bleidlais o blaid i Mr. Macdonald aros ar y Bwrdd yn 5 am 1, ac nad oedd yr un bleidlais am ei dynu yn ol ond ar delerau, sef fod Mr. Vivian i'w dynu yn ol hefyd o ochr y meistri. Mewn canlyniad, pen- derfynwyd fod y cyfarfod yn anog y cynrychiolwyr ar y Bwrdd i enwi diwrnod ar ba un i gyfarfod, ac i wa- hodd y meistri igyfarfod a hwynt mor fuan ag y byddo yir bosibl. Fod W. Abraham i'w awdurdodi i ohebu gyda Mri. Dalziel, Macdonald, a Halliday o barth penderfyniadau y cyfarfod. Penderfynwyd yn nesaf,- 1. Fod y pwyHgor fu yn tynu i fyny y rheolau newyddion i Ddeheudir Cy- mrn i'w talu allan o drysorfa y Bwrdd, yn nghyd a'r argraffu. 2. Fod cyfarfod arall i'w gynal eto yn yr un lie ar ddydd Llun, y 18fed o'i mis nesaf. 3. Wedi cynyg y diolchiadau arferol i'r swyddogion, terfynodd un o'r cyfar- fodydd goreu yn mhob ystyr a gynal- iwyd gan y gweithwyr yn y neuadd hon. Nid oes genym ond gobeithio fod y teimladau da a amlygwyd yn y cwrdd hwn i barhau, a bod yr edifeir- wch yn un gwirioneddol, yn codi oddi ar deimlad priodol o'r sefyllfa, ac yn edifeirwch i fywyd Undebol gwirion- eddol yn y dyfodol. (jan too y cyrarrod wedi penderfynu ar gyfarfod arall yn mhen mis, dyben pa un fydd Dadleu y rheolau cynyg- iedig," gobeithio y goddefer awgrym- iad. Gan fod y mater hwn wedi ei benderfynu yn o frysiog, o ddiflyg amser, sef yn lle bod un o bob gwaith yn dod i'r cyfarfod hwn, ond fod un o bob cyfrinfa yn dod, gan fod rhif y cyfrinfaoedd yn llawer llai na'rgweith- feydd.—Yr eiddoch, &c., Gower Road. G. MABON.
--4. MASNACH GLO A HAIARN.
4. MASNACH GLO A HAIARN. MEDI 11, Birmingham.-Y mae gwaith yn myned yn mlaen yn dda mewn llawer cangen. Y mae galw mawr am offer miniog. Middlesborough.—Busnes haiarn yn dd-i. Nid oes digon- yn cael ei weithio i ateb y gofynion am dano. Nid oes llawer o fasnach mewn rails yma nac yn Nghymra. Medi 14, Middlesborough.-Pethau yn myned yn mlaen yn llwyddianus mewn rhai canghenau. Cynydd ar werthiant pig iron. Bywyd mawr mewn archebion am dano. Llawer o ofyn, a phrisoedd da, am haiarn foun- dry. Cryn ofyn am haiarn forge. Medi 16, Birmingham.—Y mae archebion cyflawn mewn rhai cangenau g waith. Middlesborough. — Y mae mas- nach mewn finished iron yn fwy bywiog na'r llynedd. Y mae prisoedd glo at wneud haiarn yn rhesymol, bron yr un bris a chyn 1871. Caerdydd.—Y mae masnach dra- morol wedi bod yn fywiog iawn yma yn ystod yr wythnos. Sylw y South Wales Daily Nevis ar y fasnach yw, Digon tebyg na chludwyd mewn llongau gymaint o dynelli erioed o borthladd Caerdydd mewn mor lleied o amser." Y mae y docks yn llawn hyd at anghyfleusdra o longau yn dis- gwyl am eu Ilwytho. Nid oes digon o tips i roddi y nwyddau yn y llongau. Ac oblegyd hyn y mae achwynion mawr. Aeth 90,845 o dynelli allan o'r porthladd yr wythnos o'r blaen, ond cynyddodd i 118,402 o dynelli yr wythnos hon. Y mae cryn lwyddiant wedi bod hefyd yn Casnewydd-ar-Wysg ac Abertawe.
ACHOS MR. FOTHERGILL A'I IWEITHFEYDD.
ACHOS MR. FOTHERGILL A'I I WEITHFEYDD. Y MAE yn dda gan bawb ddeall fod helynt Mr. Fothergill a'i weithfeydd wedi cael ei benderfynu, a hyny, y mae yn ymddangos. yn foddhaol. Dywedir fod yr holl ofynwyr wedi cytuno i gy- meryd shares yn y gweithfeydd, a'u gweithio fel cwmni, nes cael eu cyflawn dal o honynt, a bod Mr. Fothergill ei hnn i fod yn gyfarwyddwr llywyddol y gwaitb. Dywedir fod gweithfeydd Plymouth am y presenol i fod yn segur, ac mai Abernant sydd i gael y flaenoriaeth, yn yr hwn Ie y bydd y llywyddiaeth. Os cymer adfywiad le yn y fasnach haiarn, Abernant sydd i gael y sylw blaenaf, ac nid i fod yn ail i Plymouth fel cynt. Modd bynag, y mae gweithfeydd glo Plymouth i'w cario yn mlaen, a dyna yr oil. Yr ydym yn cael fod y seiri, y moulders, y pattern-makers, &c., wedi cael eu hatal oil yn Plymouth, a'u talu ymaith, a bod Mr. Hosgood befyd wedi gorphen a gwasanaeth y cwmni o'r un dyddiad. Y mae lie Mr. Hos- good i gael ei lanw gan Mr. Fothergill ei hun, a buddianau yr estate i gael eu lywyddu gan Mri. Turquand a Lewis. Y mae glofeydd Abernant a Ply- mouth mewn sefyllfa ragorol i anfon allan gyfanswm mawr o lo, a gwyr pawb fod y rhai hyn dan arolygiaeth dau foneddwr nad ydynt yn ail i neb yn y Deheudir, sef Mr. J. Smith, a Mr. E. Howells. «
Y LLOFRUDDIAETH YN LLUNDAIN.
Y LLOFRUDDIAETH YN LLUNDAIN. Y MAE y llofruddiaeth hynod a ddaeth i'r golwg y dydd o'r blaen yn Llundain wedi tynu sylw neillduol, ac y mae bell- ach tuhwnt i ambeuaeth pwy ydyw y llofrudd a'r llofruddiedig. Yr adeg y daeth y llofruddiaeth i'r amI wg oedd dydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf, pan yr oedd gweddillion menyw yn cael ei symud mewn cab o un partb i'r llall yn Llundain. Drwgdybiwyd fod rhywbeth nad oedd yn iawn, gan ddyn o'r enw Alphred Phillip Stokes, i'r hwn y cynygiwyd arian mawr gan yr hwn a symudai y gweddillion mewn dau fox, os gadewid ef yn llonydd a bod yn ddystaw. Ond ni wnai efe hyn, ond tynodd sylw yr beddgeidwad at yr helynt drwgdybus. Yn ol pob tebyg- olrwydd, y llofruddiedig ydyw un Harriet Lee, yr hon a fu yn cydfyw, ac agafodd ddau o blant o un Wainwright, yn meddiant yr hwn yr oedd y gwedd- illion dyncl, a'r hwn sydd yn awr mewn dalfa dan y cyhuddiad o fod A yn llofrudd. Y mae y fenyw yma wedi cael ei cholli o olwg pawo er yr 11 eg o Fedi, 1874, blwyddyn i'r di- wrnod y cafwyd gweddillion ei chorff gan Wainwright. Yr oedd y coiff wedi cael ei gladdu yn nhy y carcharor, yn v 1 Whitechapel, ac ar ei waitb yn ei ^y- mud i adellad gwag yn v Borough y daethpwyd o hyd iddynt. Oddiwrth y corff y mae yn amlwg fod dau fwled wedi myned trwy ei plien, ac hefyd fod ei gwddf wedi ei dori. Y mae yn gof- us gan rai a weithient yn nghymydog- aeth ty Wainwright glywed dan er- gyd o ddryll flwyddvn yn ol, ac y mae yn wybyddus hefyd fod ganddo ef law- ddryll byehan ar yr adeg hono. Y mae yn cael ei sicrhau hefyd fod Wain- wright wedi prynn y llian a'r rhaff oedd am y cistiau a gynwysai y gweddillion. Cymerwyd i fyny ar yr un adeg a Wainwright un Alice Day, yr hon oedd yn y cab gyda'r carcbaror a'r gwedd- illion dynol, ond ni chafwyd dim yn ei herbyn, ac felly y mae wedi cael ei rhyddhau. Adnabyddwyd rhan o'r gweddillion dynol gan John Lee, fel gweddillion ei ferch, y rhai a adna- byddwyd ganddo o herwydd creithiau penodol. Gohiriwyd y prawf am rai dyddiau.
[No title]
YR oedd y gofyn am bob math o pig iron, yn marchnad Cleveland ddydd Mawrth diweddaf, yn fwy nag arfer, a'r pris yn fwy seiydlog. Y mae pob arwydd yn bresenol fod gwelliant cyf- lym yn cymeryd He. Y MAE gostyngiad eyffredinol wedi eymeryd He yn mhris y gwenith yn ystod yr wythnos a aeth heibio. Nid oes gobaith am ond ychydig ostyngiad pellach, trwy fod enwd y wlad hon yn llawer llai eleni na'r llynedd.
TREHERBERT.
TREHERBERT. DYMUNEM alw sylw trigolion cymoedd Aberdar, Taf, a Rhondda at yr hysbys- iad a welir mewn colofn ara.ll am y ddwy gyngberdd fawreddog sydd i gymeryd lie yn y Public Hall, Treheibert, pryd- nawn anos Iau, 31ain o'r mis hwn, pryd y perfformir ddwywaitb y "Crtatioa," o waith Haydn," gan y Rhondda Olj- pheus Society, dan arweiniad y byd- enwog Caradog. Rhifay cor dros gant, ac yn gymysgedig o brif gantorion Tre- herbert, Treorci, a'r Ystrad. Cenir yr unodau gan Miss Marian Williams, R.A.M., Llundain, Eos Morlais, a Mr David Morgan, Treherbert, y rhai sydd yn ddigon adnabyddus fel cantorion clasurol a thra cymeradwy. Bydd y cor yn cael ei gynorthwyo gan proffesional band o Bristol, yn nghyd a'r harmonium, yn cael ei chwareu gan Miss Bell Mor- gan. Mae y cor wedi bod yn ymbarotoi am fisoodd lawer, ac nid oes amheuaeth na fydd hon yn gyngherdd o'r fath fwyaf clasurol, ac yn gyfryw na cheir ei chyifelyb ond puranfynych yn Neheudir Cymrn.
YSTALYFERA.
YSTALYFERA. DIDD pwysig oedd yr 16eg o Fedi gan blant capel y Wesleyaid y lie uchod. Cafodd y plant eu anrhegu a the a bara brith am eu ffyddlondeb gyda'r Ysgol Sabbothol am y flwyddyn a aeth heibio. Darfu i gant a haner o honynt gyfranogi o'r pethau da hyny sydd yn llesoli y corff. Yr oedd dau amcan mewn golwg eleni, sef anrhegu y plant, a rhoddi gwahodd- iad serchus a brawdol i'n bugail newydd, sef y Parch. H. Curey, ar ei ddyfodiad i'r lie i gymeryd gofal o'r egl.wys uchod. Yr ydym yn credu fod y right man in the rightp'lace. Wedi i'r plant gael eu di- wallu, ihoddwyd gwahoddiad i'r aelodau a'r gwrandawyr at y byrddau i gael mwynhau eu hunain, ac fe gofiwyd am y rhai oedd yn methu dyfod gan afiechyd, sef Mrs. Close, a Mrs. Morgan, a'r brawd Phillips, yr hwn sydd yn methu a dyfod i'r capel er's dwy flynedd. Wedi i bawb gael digon, cafodd y plant haner awr i mjoyo eu hunain yn yard y capel} ac am saith o'r gloeh eegynodd Mr. C'urey yr areithfa am y waith gyntaf, a chynyg- iodd Mr. John Howells, un o ffyddlcn- iaid yr Ysgol, i gymoryd y gadair, yr hwn a lywyddodd y cyfarfod yn foddhaol, yna aethpwyd trwy y programme, sef canu, adrodd, ac areithio. DAFYDD SIA CrABB. I