Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Y J E SUI T I AID.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y J E SUI T I AID. Y MAE gweithrediadau y Jesuitiaid, a'r Pabyddion yn gyffredinol o dan eu harweiniadhwy, yn ein hamser ni, yn dangos yn eglur beth yw eu hegwyddor- ion, a'r perygl mawr iddynt gael y llywodraeth yn eu dwylaw, mewn un ffurf na modd mewn gwlad. CibddaU yw y bobI hyny a dybiant fod ein gwlad ni yn ddiogel rhagddynt. Felpysgod, owahanal fFurfiau, y mae y Toriaid, yr Eglwyswyr, yn byw yn yr un mor--o draddodiadau, seremoniau, rhwysg, balchder, cybydd-dod, a gwrthwynebiad i ysbrydolrwydd Crist- ionogaetb, a'i gwirionedd hi, yn ei dylanwad ar ddyn, a'i hawl ar ei gyd- wybod, fel y dadguddir hi yn y Beibl, a'r Jesuitiaid. Gallesid meddwl fod holl berygl Lloegr i f)d yn Babyddol yn deilliaw oddiwrth weinyddiaeth Ryddfrydig fel un Mr. Gladstone, ac y byddai gwein- yddiaeth Doriaidd, o dan arweiniad Mr. Disraeli, yn forglawdd digon # cryf i gadw tonau cynddeiriog Pabyddiaeth allan o hafan ddymunol Prydain. Ond y mae yn eithaf eglur fod y morglawdd tybiadwy hwn yn un perffaith dwyll- odrus. Y mae Mr. Disraeli wedi creu nifer o arglwyddi ychydig ddyddiau yn ol. Y mae wedi eu gosod hwynt yn Nhy yr Arglwyddi i wneud cyfreithiau y wlad. Ac y MAE UN 0 HONYNT YN BABYDD Fel ei arfer, y mae y Times yn canmol Mr. Disraeli am osod v Pabydd hwnyn Nhy yr Ar- glwyddi. Dyma eiriau y Times ar y mater, "we are glad to find fresh proof that Roman Catholics, as such, will never be distrusted by their Sovereign!" Nid oes ond ychydig o amser er pan yr oedd y Times yn ceisio profi mewn erthygl olygyddol, syniad hollolwrth- wynebol i'r un uchod. Y mae Mr. Gladstone yn ei bamphledau campus wedi gwrthbrofi y syniad uchod. Y mae holl wrthryfel y Babaeth yn erbyn gorsedd Prwssia yn ei wrfchbrofi. Ofer yw edrych i bapyr newydd mor span- ielaidd, mor wenieithgar tuag at un- rhyw beth fydd yn uchaf ar y foment, a'r Times, am unrhyw farn gyson a chyfiawnder, aca gwirionedd, ar un- rhyw fater. Ni osododd Mr. Disraeli y Pabydd yn Nhy yr Arglwyddi am fod y Frenines yn ymddiried yn ffydd. londeb y Pabyddion, ond taflodd yr asgwrn hwn i'r ci peryglus i'w foddloni, er mwyn ei gadw yn dawel. Y mae ein llywodraeth ni wedi arfer gwneud triciau o'r fath a phob math o gref- yddwyr paganaidd, yn India a gwledydd eraill. Y mae wedi dangos parodrwydd i waddoli pob crefydd. Ni phetrusai waddoli crefydd, a'r diafol yn benaeth proffesedig ami. Felly y gwnai yr ymherodraeth baganaidd Rnfeinig gynt yn amser yi apostolion, os byddai y grefydd yn un ddylanwadol mewn gwlad. Pilat, y Rhaglaw Rhufenig, _a draddododd Grist i gael ei groeshoelio am ei fod yn chwenych boddloni y bobl." Nid ydvm yn golygu el fod yn ddy- ledswydcf ar y llywodraeth i gospi un dosbarth o grefyddwyr oblegyd eu cre- fydd. Ond dylai gaiiiatan rhyddid i bob crefydd. Eto nid caniatall rhyddid i bob erefydd yw gwaddoli Pabyddiaeth a'i gosod mewn sefyllfaoedd o awdur- dod yn y wlad. Fel y dengys Mr. Glad- stone, corfforiaetli boliticaidd yw y Pabyddion, yn cydnabod bream" arail yr hwn a felldithia freniniaeth Lloegr. Y mae hyn yn hanfodol i Babyddiaeih. Gan hyny, anmhosibl i Babydd trwy- adl fod yn ffyddlon i orsedd Prydain. Ac y mae geiriau meddal y Times, gan geisio fcaHu hugan deneu dros y ffaith hwn, yn baganiaeth dan, direswm, perffaith gamarweiniol. Yn ngwyneb y ffaith hwn, y mae holl lywodraethau y bydyn gorfod gwrthwynebu Pabydd- iaeth Jesuitaidd, am fod ei hegwyddor- ion politicaidd yn erlidgar. Pa le bynag y gesyd ei luman i lawr, erlid pob crefydd arall hyd at waed, yw ei hoff waith hi. Gosodwyd hi yn gre- fydd y wlad yn Peru gan y Spainiaid. Pan y ceisiwyd gwneud eyfraith i oddef crefyddau eraill i fodoli yno, yn 1867, oddeutu naw mlynedd yn ol, cyfododd y Pabyddion riots gwaedlyd yno yn erbyn rhoddi rhyddid cydwybod i gre- fyddau eraill. Dywed y South Wales Daily News, Rhagfyr 29, 1875, oddeutu wythnos yn ol, am ddargan- fyddiad echrychus yn Lima, un o ddi- nasoedd Peru. Cafwyd oddeutu 5,000 o skeletons dynion o fewn muriau ceuol (h ,llow) sefydliad yno, yr hon oedd dan lywodraeth y J esuitiaid, y rhai oeddynt wedi gwneud lleoedd gweigion yn y muriau i guddio jyrff y rhai a laddent hwy yn ddirgelaidd. Dyfyna y papyr uchod yr hanes o'r Globe, un o bapyrau mwyaf awdurdodol Llundain. A dywed y papyr hwnw mai esgyrn cyrff dynion a laddwyd yn ddirgelaidd gan y Chwil-lys Pabyddol Jesuitaidd oeddynt yn ol pob tebyg. Y mae trigolion gwledydd y rhac ddeheuol o gyfandir America, y rhai ZIY oeddynt ar y dechreu yn drefedigion Spainaidd, ac a ysgarasant eu hunain oddiwrth y fam wlad, er ys amser, wedi ei weled yn beth anhebgorol an- genrheidiol ermwyn bodoli, mewn cy- sylltiad a masnach y byd, i wrth- wynebu y Jesuitiaid yn eu hegwydd- orion eriidgar yn erbyn pob crefydd arall ond yr un Babaidd. Ychydig rhagor na deugain mlynedd sydd er pan y taflodd trefedigaeth Guatemala, heb fod yn mhell o Peru, iau llywodr- aeth Spain oddiar ei gwar. Ond yr unig grefydd a oddefid yn y drefedig- aeth, hyd yn ddiweddar, oedd y gre- fydd Babaidd. Pan yr alltudiwyd y Jesuitiaid o wledydd ereill yn yr America Spainaidd, cawsant groesaw mawr yn Guatemala. Ymddiriedwyd addysg y wlad i'w dwylaw. Ond fel arfer, aeth eu hawydd i orthrymu pawb, eu syched am awdurdod i or- faelu pob mantais iddynt eu hunain, eu rhagrith, eu twyll, a'u gwaith yn gwthio eu bysedd i gawl pob dyn, yn 5 y ymyraeth a busnes bersonol, teuluol, masnachol, gwladol, gwyddonol, a chrefyddol pawb, mor annyoddefol i'r Pabyddion oedd yn gorfod bod yn ddysgyblion iddynt, nes y cyfododd y bobl, fel un gwr, ac yr byrddiwyd y Jesuitiaid o'u gorseddfeinciau. Y mae Hywodraethwr y wlad hono, sef Gua- temala, yr hwn a elwir Senor Barrios, wedi cyhoeddi eyfraith yn ddiweddar yn datgan mai un o ryddfreintiau mwyaf gwerthfawr dyn yw ei fod yn medru addoli Duw yn ol ei gydwybod ei hun." Mai y rheswm paham "nad yw dynion o wledydd tramor yn ym- weled a Guatemala yw, nad oes rhydd- id wedi bod yno i ddynion addoli Daw yn ol eu cydwybodau." Dywed fod buddiant ei wlad yn galw am ryddid creiyadol, a bod y grefydd Babaidd yn bui aCh mewn gwledydd He y mae rhyddid cydwybod,' na lie y maent hwy yn cael awdurdod i wrthwynebu y rhyddid hwn;" Dyma o lygr- edigaeth y grefydd Babaidd mewn gwledydd Pabyddol wedi cael ei gwneud gan Babydd, llywodraethwr y wlad, mewn datganiad cyfmthiol aw- durdodol, yr hwn a wnawd yn Guate- mala, Mawrth 15, 1873. Cymsr y Jesuitiaid fantais ar y rhyddid a gaffont mewn gwledydd Protestanaidd i gyhoeddi eu boniadau ynfyd-yn berfFaith ddigywilydd. Dy- wed y "New York Observer" fod offeiviad Pabaidd yn Ynys Ward, ger New York, wedi dweyd Gorph. 9, 1873, o dan ltv, "Yr wyf yn credu fod genyf awdurdod ddwyfol i gymeryd plant oddiwrth eu mamau Protestanaidd, a'u gorfodi i fod yn Babyddion. Yr wyf yn gwadu hawl gweinidog Pro- testanaidd i wneud yr un peth. Yn ngwyneb hyn, gofyna yr "Observer" i rieni Protestanaidd, a allant hwy an- fon en plant i ysgolion y Pabyddion, gan wybod y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud yno i'w troi yn Babydd- ion ? 0 na agorai y Cymry eu llygaid i weled y maglau uffernol a daenir o'u hamgyloh.

:«— STRIKE YN MOUNTAIN ASH.

DIWEDDARAF.

4 : MASNACH GLO A HAIARN.

.———4 WEDI EI BOBI I FARWOLAETH

STRIKE YN GLANDWR.

4 CYFARFOD YR ALCANWYR YN…

..--.-.-:♦ ,.----STRIKE YN…

+ LLONGDDRYLLIAD A CHOLL-IAD…

I CWMFELIN.

YR WYTHNOS.

[No title]

TRECYNON.

CROSS INN, LLANDYBIE.