Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

---'-.., Y JESUITTAID YN CANADA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y JESUITTAID YN CANADA. Y MAE y newyddion diweddaraf o Canada, yn dangos fod pren gwenwyn- ig Upas y Babaeth yn dwyn eiffrwyth naturiol ei hun yn Canada, o dan lywodraeth Brenines Lloegr. Y mae llawer o drigolion y wlad hon yn ym- fudo i Canada. Ac os bydd ganddynt gydwybodau Protestanaidd, y maent yn sier o gael dyoddef erledigaeth yno oddiwrth y Jesuitiaid. Ond fel y mae gwaethaf, y mae canoedd yn ymfudo y rhai ydynt yn byw mewn perffaith ddi- brisdod o Air Duw- I'r rhai hyny yr un peth yw Pabyddiaeth, a rhvw beth arall o ran crefydd. Ac y mae tuedd gref mewn llawer Protestant mewn enw i geisio dangos fod Protestaniaid cyn- ddrwg a'r Pabyddion mewn athraw- iaeth, dysgyblaeth, a phob peth. Y mae gelyniaeth calon y dyn annuwiol yn erbyn Gair Duw, am ei fod yn con- demnio ei hoff eilynod. Efe a gymer ryw esgus os gall i osgoi awdurdod y Beibl ar ei gydwybod. Ymhyfryda fyned ar draws gorciiymynion Duw, yn enwedig fel y maent yn galw am ufudd- dod y galon. Yn y Daily News, Llundain, am ddydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf, gef Ionawr y 4ydd, yr oedd llythyr oddiwrth ohebydd, dyddiedig Montreal Canada, Rhagfyr 17, diweddaf. Yr hyn oedd uwch ben ei lythyr fel teitl, oedd, "Priestly outrage on the Pro- testant Indians of Lower Canada." Dechreuodd ei lythyr trwy ddweyd ei fod wedi bod yn fater o ymffrost gan ddeiliaid brenines Victoria, pa greu- londerau bynag a ddyoddefai yr Indiaid Americanaidd oddiwrth drigolion yr Unol Daleithiau, nad oedd dim ond dyngarwch yn cael ei ddangos tuag atynt, yr ochr arall i'r ffiniau, yn Canada, o dan lywodraeth Lloegr. Ond y mae yr ymffrost hwn, fel llawer ym- ffrost arall, yn myned gyda'r llif o ddi- dduwiaeth yr oes hon. Mewn sefydliad a elwir Oka, yn agos i un o lynoedd Canada, triga Indiaid perthynol i genedl yr Iroquois. Y mae yr Indiaid hyn wedi bod yn Baby dd ion. Ac oblegyd hyny rhoddodd llywodraeth ein gwlad ni, yn Canada, eneidiau, cyrff, a medd- ianau y bobl hyn odan ofal yr offeiriaid Pabaidd. Ond chwe blynedd yn ol, anfonodd y Wesleyaid genhadau i blith j bobl hyn. Buont yn llwyddianus iawn. Trodd bron yr oil o honynt allan o Eglwys Rhufain. Yr oedd y cenhadau yn cael eu cynal bron yn gwbl gan gyf- raniadau plant yr ysgolion Sabbothol yn Montreal. 0 amser eu troedigaeth hyd yn awr, y mae y Pabyddion Jesuit- aidd, creulawn, wedi erlid yr Indiaid dychweledig, yn ol eu ffurf cigyddol, arferol, yn mhob oes. Ac y mae ynadon y police, ac ynadon y sir, yn eefnogi yr offeiriaid Pabaidd yn yr erledigaeth. Felly y gwnaethant yn Nghymru a Lloegr dros gan mlynedd yn ol, tuag at y Methodistiaid Calfin- aidd, a'r Wesleyaid. Yr oedd yr ynad y pryd hwnw yn bleidiwr i'r erlidiwr Eglwysig. Dygant gyh addiadau o bob math yn erbyn y dynion gweiniaid di- amddiffyn, a charcharent hwy fel y gwelont yn dda, gan broffesu eu bod yn tori y gyfraitb. Fel hyny y proffes- ent hwy, sefy Pabyddion, pan yr oedd- ynt yn llosgi y merthyron yn Smith- field. Gwadant yu awr mai am eu crefydd y llosgvvyd hwynt. Gwadant godiad yr haul us bydd hyny yn ateb en pwrpas. Y mae celwydd yn llawer mwy cysegredig yn eu golwg na gwir- ionedd. Rhaid fod menyddiau y rhai a'u credant yn feddal. Ceisiwyd gan yr Aborigines Protection Society yn Llundain, i ddwyn achos y trueiniaid dan sylw o flaen swyddogion ein llyw- odraeth ni. Gwnaeth hyny. Ac an- fonodd Arglwydd Caernarvon, yr ys- grifenydd Taleithiol, at lywodraeth talaeth Canada yn eu cylch. Yr ateb a gafwyd oddiwrth y llywodraeth hono oedd "Nis gallwll wneuthur dim iddynt lie y maent ond os symudant rhodd- wn dir da iddynt yn agos i lyn Nipiss- ing." Dyma gydnabyddiaeth fod y Jesuitiaid yn drecli na llywodraeth Prydain yn Canada, neu ynte fod llywodraeth Prydain yno yn dueddol i gefnogi y Jesuitiaid. Yn mha le y mae Orangemen Canada yn awr ? Onid oedd ymffrost mawr am danynt hwy, fel asgwrn cefn Protestaniaeth yn y wlad hono, pan y bu y Prince of Wales ync ? Ond rhaid cofio eu bod hwy yn uchel Eglwyswyr selog. Ac efallai nad yw yn fater o ofid iddynt hwy, fod y Jesuitiaid yn erlid y Wes- leyaid Ymneillduol Indiaidd. Nid oedd yr Indiaid, druain, yn foddlon ymadael a'u hen diriogaeth a fu yn eu meddiant am oesau. Adeilad- wyd capel iddynt ychydig amser yn ol. Traul ei osod i fyny oedd £300. Llenwid ef ag addolwyr. Nid oedd nemawr o Indiad yn myned i addoliad y Pabyddion. Cyfodwyd y capel yn ngardd un o'r Indiaid, yr hon oedd wedi bod yn meddiant ei berthynasai ef am genedlaethau. Nid oedd neb wedi ceisio ei chael oddiarnynt. Yn absenoldeb cyfreithiwr yr Indiaid, yn llys yr ynadon, ceisiodd y Jesuitiaid gan y llys awdurdod i dynu y capel i lawr. Cawsant yr awdurdod! Pan oedd y perchenogion allan o'r ardal gyda eu goruchwylion, aeth Mob o Babyddion at y lie, ac heb roddi un rhybudd, tynasant y capel i lawr, a chludasant y defnyddiau i fod yn fedd- iant i'r offeiriad Pabaidd! Gwnawd hyn, difrod erledigaethus hyn, y cysegr ysbeiliad hyn, y Iladrad llechwraidd hyn, trwy awdurdod llys cyfreithiol yn Canada, o dan lywodraeth Coron Lloegr! A gwneir yr un peth yn Lloegr ei hun, os caiff y Jesuitiaid yn yr Eglwys Sefydledig, ac allan o honi, awenau y llywodraeth yn eu llaw. Y maent yn awr yn dylanwadu ar Ardal- ydd Bute i beidio rhoddi tir i adeiladu addoldai Protestanaidd arno. Ac y mae efe wedi rhoddi y swydd o osod offeiriaid mewn bywiolaethau sydd yn ei feddiant, yn llaw offeiriad mor Bab- yddol ag a allai gael. Cefnogir y Jesuitiaid gan fawrion ein gwlad ni. Gosodir hwynt mewn swyddau manteis- iol i erlid Protestaniaid. Gwnant hyny mewn gwahanol ffyrdd. Cynlluniant gelwyddau arnynt i'w rhwystro i gael dylanwad. Ac os byddant yn wan gwnant eu gorau i'w ddwyn i afael a chosp o ryw fath. Cymerasant fantais ar wendid yr Indiaid druain. Anghof- lant i Dduw felldigo Amalec am byth am iddo, fel coward, syrthio ar y llesgaf yn y llwythau." Cymer Duw blaid yr Indiaid, a gwna i gynddar- edd" y Jesuitiaid "i'w folianu." Wyl- odd penaeth yr Indiaid yn fawr pan y gwelodd fod ei le addoliad wedi cael ei dynu i lawr gan ei elynion Jesuitaidd. Y mae yn awr yn 93 mlwydd oed. Ymladdodd gynt dros orsedd Lloegr. A dyma y diolch y mae yn ei gael yn awr am hyny Y n ngwyneb yr erledig- aetb, cydsyniodd yr Indiaid a chynyg y llywodraeth i ymfudo at lyn Nipissing. Ond gwrthoda y llywodraeth gyflawni ei haddewid. Cynygia dir arall gwael iddynt, lie y byddant o dan draed y Jesuitiaid. Os na chyfyd Protestan- iaid Lloegr, fel un gwr i orfodi y cryf arfog i ollwng ei ysglyfaeth yn rhydd, gwae hwynt.

TREORCI-DAMWAIN.

MOUNTAIN ASH-AMGYLCHIAD TORCALONUS.

GWEITHIAITABERDAR A PLYMOUTH.

TANCHWA YN NORTH STAFFORDSHIRE.

TRI 0 WEITHWYR WEDI EU LLADD…

Advertising

PONTARDDULAIS.

4 Y WLADFA PATAGONAIDD.

, V '" NODION O'R AMERICA.

MASNACII GLO A HAIARN.

. CRYBWYLLION DIWEDDARAF.