Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
-KARL Y LLEW; NEU MAECUOG…
KARL Y LLEW; NEU MAECUOG Y LLAW GOCH. PENOD VI. EDEYCEQDD y carcharorion yn y cyf- eiriad y daeth y goleu i mewin, a gwelsant ran o'r hyn a ymddangosai b oJ fel y graig ei hunan yn symud fel ar begwn yn ei ganol, ao yn fuan daeth dyn i mevn i'r gell affaglen gyneuedig yn ei law. Yr oedd wedi ymwisgo mewn du o'r pen i'r traed, ac ar ei fynwes yr oedd gem ardderehog yn dysgleirio, sef, arwydd y Llaw Goch. Pan drodd tuag at ei gyfeillion, adnabyddasant ef yn union. w Ixion." le, fy nhad. Yr oeddech yn dysgwyl am danaf." Yr oeddwn yn dysgwyl rhyw un, fy mab." Symudodd Marcbog y Llaw Goch yn mlnen pan gododd Manfred a Karl. "Clywais eich bod wedi cael eich cymeryd ddoe," ebe Ixion, a chred- wyf nad ydych wedi bod mewn un perygl. Nid yw Rupert o Frankenstein yn breuddwydio ond ychydig am y rhwyg wild '1 pi wei^on, Y mae y dyn a'ch arweiniodd chwi yma, yr hwn oedd a'r allweddi wrth ei ochr, yn aelod o'r Bruderschaft." Ydwyt ti wedi gweled yr Arch Dduc," gofynai Manfred. "Nac ydwyf," atebai Ixion. Nid yw yn bryd eto. Caf ei weled cyn bo hir. Y mae yn ychwanegu at ei ddrygioni bob dydd. Ond, fy nhad, gwelais im arall nad oeddwn yn dys- gwyl cael ei weled byth. Efe a'm atal- iodd, neu buaswn yma yn gynt." Pwy ydoedd, fy nhad." Cewch ei weled yn fuan." Yna gan droi at ein harwr, dywed- odd: Wel, fy mrawd, pa fodd yr ydwyt ti yn cael pethau." Credwyf fy mod wedi cael allan pa fath ddyn y gall yr Arch Ddue fod, a beth hefyd ydyw y Geweight Bruders- chaft. Nid wyf ychwaith yn beio fy hunan am adael i Rupert o Franken- stein fy nghymeryd heb ei wrthwynebu. Buasai hyny yn ynfydrwydd, ac yr oedd dianc yn anmhosibl." Nid wyf yn credu fod anifail yn ngosgorddlu yr Arch Dduc, faasai yn dy ddal di, pe bnasid wedi troi a ffoi." Dichon hyny," ebai'r dyn ieuanc, "ond nid oedd ceffyl Manfred yn gystal." Yr oeddwn i am iddo ddianc-- ceisiais ganddo wneud hyny, ond gom- eddodd," ebe yr hen wr, ac nid oedd amser i ddadlen." "Yr wyf yn gwerthfawrogi dy eg- wyddor," ebai Ixion, gan droi at Karl eto, ond paid a gadael i hyna ddy- gwydd etc. Nid yw dy fod ti yn cael dy ddal, yn cynorthwyo un brawd. Ni anghofir neb o'n cyfeillion fydd mewn eisieu. cynorthwy. Nid yw y Llaw Goch byth yn cysgu. Os ydwyt ti am wneud dy ddyledswydd, paid a goddef i neb dy ddal eto, os bydd dianc yn bosibl, gan nad pwy fydd wedi ei adael ar ol." Ond," ebai Karl, a fynech chwi i mi droi fy nghefn a gadael- ""Does dim gwahaniaeth pe buasefc yn gadael dy fam ar ol," ebe Ixion. Rhaid i ti edrych atat dy hunan yn gyntaf. Efallai y deui i ddeall hyn gydag amser. Ond dewch yn awr i ni gael myned o'r lie yma. Y mae wedi canol nos, a rhaid i ni aros yehydio- fynydan ar y ffordd. Dilynwch fi, a cherddwch yn ofalus." Gyda ei fod yn dweyd hyn, trodd ac ymneillduodd trwy y twll oedd yn y mur, ac wedi i Manfred a Karl ei ddilyn, gosododd ei fys ar v mur a throdd y cwbl yn ol i'w le." Arweiniodd Ixion hwynt yn awr trwy dramwyfa gul a garw, ac. mewn rhai manau yn liaith gan ddwfr. Deallodd Karl oddiwrth yr hyn a welodd ei hunan, ac a glyw- odd gan Manfred, raai hollt naturiol yn y graig ydoedd ar hyd yr hon y tram- wyent yn awr, ac wedi ei chymwyso ychydig gan law dyn. Nid yw Frankenstein yn gwybod dim am y llwybr yrna," ebe Ixion, ac y mae amryw ereill am ba rai y mae yn hollol anwybodus." "Ond," ebai Karl, "pan y ca allan ein bod ni wedi dianc, bydd yn rhaid i'r ceidwad wneud ryw eglurhad. Pa; esboniad y rhydd y dyn hwn." Y mae hyny wedi ei drefnu," ebai Mon. Yn mhen haner awr wedi i j chwi gael eich cau i fyny, cafodd y ceidwad arferol ganiatad i fyned i ym- weled a rhai o'i dylwyth yn mhentref Drosendorf. ac i dreulio y nos yno. I Cafodd ei allweddi eu trosglwyddo i swyddog arall. Y mae yr allweddi yn hongian yn awr yn yr ystafell wyiio, a'r swyddog erbyn hyn yn llys y Llaw Goch. Yr ydym i fyny a'r Due yn y peth hyn." Cyn fod Karl. wedi cael amser i ofyn dim yn rhagor, daethant at fur arall, yr hwn a edrychai yn hollol gyfan, ond agorwyd ef yn ddidrafferth gan Ixion, ac wedi myned trwy hwn, cawsant eu hunain mewn ystafell wedi ei hadcil- du o feini. "Yr ydym yn awr," ebe Ixion, o dan y priiadeilad, a dangosaf yn fuan, i chwi y fath ddaeargell sydd wedi cael ei hadeilad 1 oils i mn vcynu iodd Frankenstein t t v j V mae y fynt-ii i < o i of ei ban, ^<jdvluna<i o-. \j auili rdd arall i iyncd iddi. Cafodd y cruikwyr a'i adeiiadasant-—bedwar ohonynt—eu rhoddi i fnrwohieth yn fuaa wedi iddi gael ei chwblhau. Dygwyddod'l i Winifred, y ceidwad, ddod o hyd iddo yn ddamweiniol, a rhoddodd hysbys- rwydd i mi y ddoe." "Ac i bwy ddyben yr adeiladv,-ya eit goiyuai Manfred yn awyddus. Oewch weled yn fnan. Bvdd'vch yn ofalus i beidio gwneud dim stwr yma, gan fod ystafell y Duo uv/ch ein penau." Yn fuan, daethant at beth a ym- ddangosai fel mur cyfan a solid, ond fel o'r blaen, trwy gyffyrddiad llaw Ixion, trodd rhan o'r mur ar golyn, a chawsant le agored. Y tuhwnt i hwn. cawsaut eu hutiaiu mown cell fwaog, gal, a drws haiarn y pen pellaf iddi. Agurodd Ixion ef, ac •••UH daliodd ei i fyny, a cheisiodd gan Manfred fyucd i mewn. Daeardy gul yioeda, a gwelybychan to wellt yn yr ochr b,, iddo, ar yr hwn yr eisteddai hen v, r, g\vallt pa un oedd mor wyned a'r eira. Ei farf yn hir, ac yn annhieiuus, a'i ddillad yn hongian yn garpiau am dano. Cododd i fyny pan welodd yr ymwelwyr yn dyfod i mewn, fel pe buasai yn en dysgwyl. Cydiodd yn llaw yr hen wr, a syllodd yn ei wyneb, yr hwn a welid yn amlwg gan oleuni y fiaglen. <! Manfred llefai. "0, a ydwyf yn cael dy weled unwaith eto. Manfred, ydwyt ti ddim yn fy adnabod i ?" Edrychai yr hen wr yn graff ar yr hyn a fu unwaith yn wyneb hardd a llawn, ond yn awr yn salw ac yn rych- iedig, fel un wedi dyrysu, ond yr fuan yr oedd y cwbl yn glir. Y nefoedd drugarog ebai. Ai breuddwyd ydyw hyn, neu a ydyw y llawenydd yn wirioneddol. Y Barwnig Lodwig o Drosendorf. A ydyw fy synwyrau wedi dyrysu." Nac ydynt, Manfred, o herwydd myfi ydyw Lodwig, yn fyw o hyd. Nid oeddwn yn meddwl bedair awr ar hugain yn ol, y buaswn byw i weled diwrnod arall. Ond y mae dyfodiad an- nysgwyliadwy Ixion, dy fab, a'r addew- id a roddodd wedi rhoi nerth newydd i mi. Teimlaf yn awr y gallaf fyw i weled dyddiau gwell eto. Gwelaf fod fy mywyd wedi ei gadw drwy yr holl flynyddau yma i ryw ddyben da." "Ond," ebai Manfred, Nis gallaf ddeall pa fodd yr ydych chwi yn fyw, pan oedd pawb yn credu eich bod wedi marw. Paham y cadwodd yr anghen- fil Frankenstein chwi, ac i ba ddyben." "Am y rheswm," ebai y barwnig, "ei fod yn crecu fy mod yn dal rbyw ddirgelion pwysig perthynol i'r Uyw- odraeth, pa rai y gobeithiai eu cael genyf. Ymwel 7 mi am flynyddoedd nnwaith bob thni.s, ac weithiau yn amlach na gydag addewidion teg, a ffrydiai o fygythion dychrynllyd, gan feddwl y buaswn' yn dadguddio rhyw beth iddo. Yn y blynyddoedd diweddaf, nid ymwelai a mi ond yn anfynych, a'r prydiau hyny ni wnelai ddim ond fy ngwatwar, hyd at y ddau fis diweddaf. Creda o hyd fy mod yn dal rhyw ddirgelion, a bygythia beth arall yn awr. Dywed fod fy merch yn fyw, ac o fewn cyrhaedd ei allu ef, ac y bydd iddo ddial arni hi os na chyffesaf. Yr oeddwn wedi meddwl fod fy merch wedi marw. Tyngodd Frankenstein wrthyf unwaith ei fod wedi ei chladdu. 0, fy anwyl Gertrude Plentyn pryd- ferth ydoedd. Os ydyw hi yn fyw, y mae yn ei maint yn awr." Beth oedd ei hoedran pan welsoch chwi hi ddiweddaf," gofynai Ixion. Dwy flwydd." Y mae yn ddwy-ar-hugain oed yn awr, ynte." Rhaid ei bod. Yr ydwyt yn iawn Ixion. Er fod yr oriau a'r dyddiau yn llusgo yn drwm, byddwn yn foddlawn i'r cwbl pe gwybyddwn fod fy merch yn fyw." Y mae yn fyw," ebai Ixion, ac yn cael ei adwaen fel merch i Franken- stein." Trugaredd Peidiwch ofni dim, fy arglwydd. Gellwch fod yn sicr ei bod yn ddyogel. Y mae rhai sydd a gallu ganddynt i amddiffyn yn ei gwvlio yn ofalus. Y mae yn feddianol ar brydrerthweh a rhinwedd, a chewch fod yn hapus yn ei chwmpeini cyn bo hir." Cewch," ebai Manfred, gyda gwres a theimlad, "ac i roi y cam gyntaf yn y cyfeiriad hwnw, cewch fyned gyda ni ar unwaith o'r daeardy tywyil yma." Siglodd y barwnig ei ben. Pah gofynai Manfred, mewn syndod. "Fy anwyl dad," ebai Ixion, "yr wyf wedi bod yn siarad a Syr Lodwig, ac y mae ef yn deall yn dda. Rhaid cymeryd pwyll gyda Frankenstein, Credwyf eich bod chwi a Karl wedi dianc trwy fradwriaeth y swyddog oedd yn lie y ceidwad am y noswaith ond pe byddai i'r barwnig adael y lie yma, am yr hwn y creda na wyr neb ond ei hunan, ac un gwas arall sydd yn hollol ffyddlon iddo, deuai i wybod ar un- waidi fod rhyw allu dirgel ar waith. Na; rhaid i'r Barwnig Drosendorf aros yma am dipyn eto, ond gofalir yn dda am dano. Edrycha Winifred, y ceidwad, ar iddo gael lluniaeth dda a phriodol. Yr wyf wedi cael allwedd i'r drws haiarn yma, ac wedi eyfar- wyddo Winifred yn y ffyrdd dirgel y daethom ar Lyd iddynt, oud ni chaiff fod yn hir." Yr wyf yn foddlawn," ebai'r barwn- ig, gan fy mod yn gweled mai hyny sydd oreu. Felly, Manfred, peidiwch a gofidio dim o'm plegyd i, ymddiried- af i Ixion. Ac yn'awr, gadewch i mi weled eich cwmpeini." Cymerodd Ixion ein harwr wrth ei fraich, ac a'i harweiniodd yn mlaen. A
LLUEST Y MYNYDD.
LLUEST Y MYNYDD. IONAWR 7, 1876. A WYDDEST ti, Evan, rhyw greadur cibddall iawn yw Obadiah y Sgrechwr teithiol. Ma fe yn brolian wrth i hoff gymdeithion y pethe mwya ynfyd. Evan a ddywedodd, Y bai mawr a berthyn i ddyn fel efe, ei fod yn cy- meryd rhyw beth i fyny heb ei ddeall. Y mae wedi hyny yn sgrechain ei fod e'n iawn, gan ymddibynu ar ei serech yn hytrach na rheswm. Gwaith tarw dienaid yw sgrechain. Sgrech yw "dawn" yn ei gredo ef, a'r dawn hon yw pob peth yn ei olwg ef. Ac nid yw o un pwys yn y byd ganddo fe, pa un a fydd y ddawn hon mewn cy- sylltiad a nonsense neu sense, celwydd neu wir, ffwlach dynol neu sylwedd ysbrydol. Swyddogaeth fawr, eh wydd- edig, addurniadol yw ei bwynt ef; un yn sierhau arian, yn ol genius y sir Lefiticaidd, trwy filoedd o fan ym- ostyngiadau, a gwyleidd-dra wynebol, crymiadau gwarau, &c., i guddio crom- biliad Vesuviusaidd o hunanoldeb, sydd, yn barod i dori allan yn lava tanllyd, llifeiriol, ar draws pawb, na fydd yn cydnabod anffaeledigrwydd gwall- gofrwydd honiadol y Pseudo-Pope Aethon i ein dau i wrando ar Owain yn ateb leuan Goch yn nghylch Sosin- iaeth Cymdeithas Hen Sgidie. Ebai Owain, Y mae yn syn iawn genyf fi fod neb a broffesa feddwl o gwbl, a gadael ymresymu allan o ystyr- iaeth, yn taeru nad yw y gymdeithas hon yn un grefyddol, am nad yw yn sectyddol. Beth yw y meddalwch sydd wedi disgyn i fenyddiau bechgyn ffrost- gar yr oes hon i daenu peth mor ynfyd ? A oedd dim crefydd' yn ngardd Eden cyn bod dynion mewn bod i fod yn aelodau sect ? A fydd dim crefydd yn y nefoedd wedi i sectyddiaeth ddi- flanu o fodolaeth ? Ai sectyddiaeth y Phariseaid a'r Saduceaid a wnaeth eu haddoliad yn y deml yn grefydd,' ganoedd a flynyddau cyn i'r sectau hyn gyfodi ? Dywed Geiriadur Mr. Charles mae addoliad Duw' yw 'crefydd.' Dywed Parkhurst, o dan y gair thrcskeia, y gair Groeg am grefydd, ei fod yn golygu Religious worship, gweithred a gyflawnir gan angylion, y I zY rhai nad ydynt yn sectyddion. Tardda y gair Groeg, medd Parkhurst, o'r gair Hebraeg cleres, o'r hwn y tardda y gair dwyreiniol Dervish, un yn ceisio Duw. Y mae ',i,ddoli, gan hyny yii grefydd. ac y mae ceisio Duw' yn grefydd,' yn ol iaith y Beibl. Gwaith presenol yw addoli a cheisio Duw, pe na byddai un sect yn bod. Rhan o < addoliad' Duw gan berson yw gweddio.' 'Ceisio Duw yw gweddio.' Y mae personau yn gweddio ac yn ceisio Duw yn salons Cymdeithas Hen S,2idle; gan hyny y mae y personau hyny yn cyf- lawni yr hyn sydd 'grefyddol.' A chan fod rheolau y Gymdeithas yn rhwymo fod yn rhaid i hyn fod, yna "eymdeltlias grefyddol' yw hi. Eto, gan fod y ffurf grefyddol o addoli a cheisio Duw yn un Sosinaidd, y mae y Gymdeithas' yn un Sosmaidd. Byddai yn beth ynfyd i ddyn wadu hyn pan y mae mor amlwg a'r haul. Peth arail sydd yn ynfyd i'r pen yw, haeru nas gall eyfeiliornad Sosinaidd fod yn y gweddiau a'r emynau oddi- eithr fod egwyddorion Sosiniaeth yn cael eu dysgu yn ffurfiol a dogmatical. ,71 Gwyr pob dyn a llygad yn ei ben na fycldaifawr o gweryl rhwng Protes- taniaid a Phabyddion, pe bae yr haeriad dwl yma yn gywir, oblegyd y mae cyffes ffydd y Pabyddion yn nghylch Duwdod Crist, &c., yr un a'r eiddom ni. Y mae eu cyfeiliornadau hwyyn eu llyfrau gweddiau, yn eu llitual hwy, lie y ceir gweddiau at y Forwyn Fair a'r seintiau. Y mae eu cyfeiliornadau hwy hefyd yn eu hemynau. Yn ngwedd- iau ac emynau Ritualiaid Egl wys Loegr y mae Protestaniaid yr Eglwys yn cael Pabyddiaeth. Condemnir yr Hymns Ancient and Modern bron bob wythnos yn y Rock, papyr newydd y blaid Efengylaidd yn yr Eglwys, oblegyd eu bod yn cynwys golygiadau Pabyddol. Ond chwareuteg i'r Pab- yddion, a'r Ritualiaid yn Eglwys Loegr, pan y dygir hwynt ger bron y llysoedd, nid oes neb o honynt yn ym- resymwyr mor baganaidd, mor annysg- edig, a gwallgofus, ag airddiffyn eu Rituals, mewn gweddiau ac emynau, trwy ddweyd nad' crefydd' ydynt, ac nad oes yno olygiadau crefyddol' sectyddol, am nad ydynt mewn ffurf o gredo, nett wersi, neu gatecism. Pe dywedent felly chwerddid am eu penau trwy yr holl deyrnas. Onid yw pawb yn ffurfio eu hemynau a'u gweddiau yn y fath fodd ag i gynwys eu golyg- iadau athrawiaethol ? Onid yw em- ynau Williams Pantycelyn yn rhai Calfinaidd, a rhai Charles Wesley yn Arminaidd ? Oni fyddai yn ynfyd i Fethodist ddweyd nad yw Calfiniaeth yn ngweddiau ac emynau cynulleid- faoedd y Corl, am nad ydynt yn eu cyflawniadau hyn yn dysgu y Gyffes Fydd yn ffurfiol ? Onid yw athraw- iaeth y Drindod yn y penill hwnw o eiddo Williams, Un wyt fy Nuw ac eto Tri mor eglur ag yn y Gyffes Ffydd ? Nid oes un Sosin cyson a ddefnyddia y penill. Ac y mae Cymdeithas Hen Sgidie wedi troi y Drindod allan o'r TJoxology Saesonaeg, y penill mwyaf poblogaidd trwy'r byd, er mwynbod yn gyson a Sosiniaeth, gweddiau ac emynau llyfrau Rituals yr urdd. Fel y canlyn y mae y penill yn ei le Praise God from whom all blessings flow, Praise him all creatures here below Praise him above ye heavenly host, Praise Father, Son, and Holy Ghost." Tynodd awdurdodau Cymdeithas Hen Sgidie y ddwy linell olaf allan; ac yn eu lie rhoddasant y rhai canlynol: Praia him for all his goodness shown- For health, for friends, for joy, for home." Heb aros i feirniadu ar y fwngleriaeth -yn debyg i'r urdd mewn pethau eraill—a esyd" shewn i rigymu a "home," onid yw y weithred o daglu y Drindod allan o hen doxology a arfera pob enwad trwy yr holl deyrnas, ond y Sosiniaid, yn profi yn eglur fod amcan gwyneb galed gan awdurdodau Cym- deithas Hen Sgidie, pe cawsent lonydd i wrthwynebu cydwybod pob dyn sydd yn dal athrawiaeth y Drindod. Wedii ddynion uniawngred, allan o'r urdd ddangos gwrthuni ymddygiad awdur- dodau y gymdeithas, y llinellau oedd yn dadgan athrawiaeth y Drindod, gwelsant fod eu gwaith Sosinaidd wedi eu gwneud yn anmhoblogaidd. Ac yn eu bull awdurdodol, a yrwyd allan gan eu Pab a'i Gardinaliaid, o Birmiugham, Tach ^8. 1873, dywea- asant—" The appearance of the mutilated Doxology in our ode books was a matter of regret throughout our jurisdiction (Felly !); the mutilation has been expunged" Y mae Saes- onaeg en mawrhydi mor glofryrnaidd a'u golygiadau. Tynu cymal allan o'i Ie, nes gwneud anffurfiad, neu anafiad, yw mutilation. Dileu yw expunge„ Fel hyny dilead yr anafiad yw y medd- wl Buasai yn llawer mwy synwyrol iddynt ysgrifenu "the two lines left out have been restored." Ond yr oedd dewis dau air o wraidd Lladinaidd, er eu bod yn bwnglera yr ystyr, yn fwy dewisecMg gan y grands na geiriau syml yn ateb i'r synwyr. Ni raid diolch iddynt hwy am adteriad y Drin- dod i'r penill yn ell llyfr. Gallant foddloni. y Sosiniaid trwy beidio ei ganu eto." LLUESTWII.
YSTAFELL Y CYSTUDDIEDIG.
YSTAFELL Y CYSTUDDIEDIG. Y MAE y Nadoiig a'r Calan yn enwau swynol ac edmygol gan y bobl yn gyfFredinol, ac yn ddyddiau adderbynir gyda theimladau dyddanus, gorfol- eddus, a digrifoJ. Y maent yn enwog er ys oesoedd bellach fel adegan ham- ddenol er adloniant corlforol, difyr- weh cymdeithasol, siroldeb teuluaidd, a llawenydd ysbrydol. Dyddiau rhyfedd ywygwyliau. Y mae gwirionedd yn eu gwneud yn gysegredig, ond y mae hir ymarferiad yn eu graddolgyfnewid i ryw agwedd hollol wahanol." Nodweddir hwy gan y celyn cochion a'r llawrwyrtd bythwyrddion gan swn clychau, chwibanogiau, a thelynau; gan ymweliadau cyfeillgar, bwyta, ac yfed, canu a dawnsio, a chan bob hoen a llawenydd agy gellir dychymygu am danynt. Dyma y dyddiau y gellir dy- wedyd fod pawb, o fawr i fach, yn berchenogion arnynt eu hunain, ac fel y cyfryw teimlant ert -alonan ynrhydd- ion am unwaith yn y flwyddyn, 0 leiaf, a threuliant y gwyliau, gan hyny, bob un yn ei ffordd ei hun, heb oi'alu llawer pa le i ddechreu na pha le i derfynu, ond yn mlaen a hi, fel dynion ynrhedeg beb eu llygaid, heb waeth ganddynt o frwynen pe tae y byd yn myned yn gregin, dim ond iddynt hwy gael digon o fwyd a diod, a phob math o ddigrif- wch hyd nes o'r diwedd y syrth can- oedd o honynt dros holl ddibynau an- nghymedroldeb i ganol dyfnderoedd pob matho drybynu gwaradwyddus hyd oni byddgwisgoeddeu cymeriadau mor llarpiog a thystiolaethau dyhiryn, a chan ddued ag amcanion bradwr. Ond beth bynag a feddylir am y fath gy- mysgedd o rieltwch amrywiol, sicr yw, fod diwedd y naill flwyddyn a dechreu y Hall yn adegau mor arbenig ac aw- grymiadol, fel na ddylid goddef iddynt ymlithrio heibio heb eu defuyddio i raddau rbesymol gyda golwg ar dywys y meddwl i adolygu helyntion y ter- fynol, ystyried agweddion y presenol, a barnu rhagolygon y dyfodol. Taith yw bywyd, ac yr Jdys yn dyfod at rywbeth newydd, dyeithr, ac annys- gwyliadwy yn barhaus; o ganlyniad, y mae rhywbeth mawreddog a gogon- eddns yn perthyn i'r dyn hwnw a gymer addysg a rbybudd bob amser oddiwrth ddiwygiadau y terfynol. Fel hyn y gall y naill genedlaeth wella ar v llall a aeth o'i blaen, a phob dyn yn, mhob eyfnod o'i amser ddyfod o hyd: i'r hyn sydd yn onest, yn gyfiawn a chanmoladwy. Er nad ydys yn gweled pethau- anghyffredin yn fynych, eto canfyddir dygwyddiadau addysgiadol yn feu- nyddiol, ac o'u defnyddio yn briodol, gallant fod yn foddion effeithiol fel cynorthwyon i gyrchu at egwyddorion cyffredino], ac fel cyfarWyddiadau gwerthfawr mewn dyledswyddau ym- arferol. Araf, ar y goreu, yr a pawb a phob- peth yn mlaen, ac os ydys am wella'r byd, rbaid i'r wybodaeth, y profiad,, a'r doethineb a gyrhaeddir mewn un eyfnod gael sylw manylaf y rhai a ddilynant. Er bod y terfynol yn gorwedd mewn cyflwr nad yw yn bosibl ei wellhau mwyach, eto gellir yn hawdd gael gwersi pwysig ac anmhrisiadwy oddi wrth yr hyn a ddygwyddodd yn y byd yn flaenorol, ac oddiwrth ganfod pa fodd yr aeth ereill on blaen. 0 gan- lyniad, y mae pob egwyddor sydd a thuedd ynddi i'n cysuro, i'n goleuo, i'n dyogelu, a'n hamdcliffyn yn ein taer anog i wneud casgliadau doeth a, chymwysiadau priodol oddiwrth anei- rif ddygwyddiadau yr amser gynt, yn nghyda derbyn y gwelliantau a allant. roddi. Fel hyny y gwneir holl ffrydiau da a drwg y terfynol yn un afon fawr i droi olwynion y presenol er lleshad. y dyfodol. Wrth adolygu helyntion y flwyddyn ddiweddaf, ceir fod ar lechres ei haW,