Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

LLENLADRAD BEIDDGAR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLENLADRAD BEIDDGAR. MK. GOL.Yn eich rhifyn am yr wyth- nos cyn y diweddaf, yn ngholofn y fardd- oniaeth, gwelais un penill-ar-ddeg dany pena wd "Y byd yn myned heibio," ac wedi eu llawnodi gan un a gyfenwa ei hun Albanog," Trecynon. Deunaw mlynedd yn ol, cyhoeddwyd cyfrol o farddoniaeth o waith James Davies (lago ab Dewi,) yr hon elwid MyfyrdodauBarddonol." Argraffwyd y llyfryn yn swyddfa y Gwron'" gan y diweddar Barch. J. T. Jones; ac ar du- dalen 28ain, ceir y penillion air yn air fel yr ymddangosasant yr wytbnos cyn y diweddaf yn y DAKIAN. Blin oedd genyf weled fod y fath len- leidr beiddgar yn llochesu ar lanau y Cynon, a syn genyf fod un dyn mor yn- fyd i'w gael ag i gyhoeddi eiddo llen- yddol dyn arall heb aralleirio na chyf- newid gair na sill. Yr wyf yn galw arnoch chwi, Mr. Gol., neu ar y cyfaill Dafydd Morgan- wg i ddynoethi yr ysbeiliwr, a chy- hoeddi ei enw a'i gyfeiriad yn eich new- yddiadur, fel y gallo beirdd a llenorion gonest wybod fodd i ymddwyn tuag ato. Hyderaf y caiff hwn le yn eich colofn- au er dangos i "Albanog" a chrib- ddeilwyr o'r fath, fod lago ab Dewi, er yn huno yn dawel yn ei fedd, wedi gadael ar ei ol fab sydd yn benderfynol o amddiffyn ei hawliau, a dynoethi llen- ladron ar g'oedd byd. Yr eiddoch, 44, Seymour-street, D. DAVIES. Aberdar.

MORDAITH I AWSTRALIA.

[No title]

I.I CY DEITlIAS HEN 8GIDIE.

Y CEILIOG.

IYSBRYDONIAETH jYN HIRWAUN…

[No title]

CHWALU CERYG.

YR EISTEDDFOD IFORAIDD.

YSTAFELL Y CYSTUDDIEDIG.