Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DARGANFYDDIAD RHYFEDD Gwellhad rhag y Dropsy, y Dwfr, Gwynt, a Gravel, &c., &c. MA WR yw y dyoddef oddiwrth y clefydau peryglus hyn, a mawr yw y siomiant sydd yn feunyddiol oddiwrth gyffyrau meddygol; ond yn awr, trwy y dargan- fyddiad rhagluniaethol hwn, fe ellir 'cael gwellhad rmiongyrchiol oddiwrth Boen yn y Cefn, Diffyg Dwfr, Chwydd yn y Cluniau, yn yr Ymysgaroedd, yn y Traed, &c., &c., Diffyg Anadl, Gwynt yn y Cylla a'r Perfedd, Curiad y Galon, Gwendid, Gravel, &c., &c., (yr hyn oil sydd arwyddion o'r Dropsy,) trwy gy- meryd Hughes' Patent Dropsy Pills," un blwch a brawf eu rhyfedd effeithiol- deb. Gellir eu cael trwy unrhyw fferyllydd yn y Deyrnas am Is. lie., 2s. 9c., a iT 4s. 6c. Wholesale :-London: Messrs. Hear- on, Squire, and Francis, Barclay & Sons, Sutton. Bri-tol Pearces & Co. These Pills are Registered at Station- ers' Hall, London. Any infringement will be prosecuted. Un neu ddau allan o lawer o dystioj- aethall yn fy meddiant sydd fel y canlyn (A Copy.) Yr wyf yn dra diolcbgar i chwi am eich meddyginiaeth effeithiol o'r enw 'Hughes' Patent Dropsy Pills.' Y maent wedi fy llwyr iachau o'r Diffyg Anadl, Poen yn y Oefn, Diffyg Dwfr, Chwydd yn y Cluniau a'r Traed, ac yr wyf yn gobeithio y caiff pawb wybod am danynt fel y gallont gael iachad.-D. DAVIES, Llanelli, Tachwedd 10, 1875. (A Copy.) Trwy gymeryd eich m^atdion effeith. iol chwi, cefais fy iachau o'r Dropsy, chwydd mawr dros yr holl gorff, Diffyg Dwfr, Peswch, a diffyg mawr ar yr Anadl, a churiad y Galon. Yr oeddwn yn bur annhebygol o wella, er cymeryd llawer o foddion, eto dim daioni. Yn fuan wedi cymeryd eich moddion rha- gorol chwi at Dropsy y Gwynt a'r Gravel, cefais ryddhad. Gwnewch y defnydd a fynoch o hwn. Yr eiddoch,— R. THOMAS, Llandybie." DAFAD An GOLL. At Fugeiliaid Gwm Ystrad a'r Cylchoedd. ER ys tua thri mis, collwyd oddiwrth Rhondda, Blaenllechau, ddafad o groes- iad Cardi a Radnor, gyda nod o oil a phaint glas ar y cefn. Pwy bynag a rydd wybodaeth am y cyfryw i REES POWELL, Butcher,Ferndale, a gaiff dal da BWRDD Y GOLYGYDD. Y MAE wedi eu derbyn amryw ohebiaeth- au nad ydynt yn y rhifyn presenol, ac yn eu plith Helyntion Meddygol Mount- ain Ash (dau lythyr), Ddaw hi ddim fel yna, Merched y Gweithfeydd, Cyngerdd Pitson, &c. Y MAE Cystadleuwr Aflwyddianus yn gofyn i Bwyllgor Treherbert paham na chaiff ef a'i gyd-gystadleuwyr eu rhan hwy am eu traffierth, sef y feirniadaeth; eu bod yn disgwyl y cyfryw er ail wyth- nos yr Eisteddfod. Pob gohebiaethau ac ysgrifau i'r DARIAN i'w cyfeirio Editor of TARIAN Y GWEITHIWR, Aberdare. Pob archebion a thaliadau i'w hanfon, Mills, Lynch, a Davies, "Tarian y Gweithiwr" Office, Aberdare.
ALMANAOAU A'U GAUBRO-PHWYDOLIAETHAIJ.
ALMANAOAU A'U GAUBRO- PHWYDOLIAETHAIJ. Y MAE nifer fawr iawn o bobl y wlad hon eto yn credu yn naroganau amwys almanacan. Y mae llawer hen wr a hen wraig yn edrych gyda difrifwch mawr ar yr hyn a ddywed y ser-dde- winiaid yn yr almanac newydd. Gan fod yr hyn a ddarllenir mewn llyfr a brynir gan luoedd o bobl-sef almanac argraffedig-gadawant i'w dychymyg wirioneddoli brenddwyd yr almanac ar draws pob rheswm. Ni bu neb yn gosod eu hunain yn ddysgyblion cred- iniol, gyda mwy o hunan-arllwysiad addfwyn ac oenaidd, na'r dynion hyn, i wrando ar brophwydoliaeth yr al- manac. Nid oes ganddynt ffydd yn mbroffwydoliaethau gwirioneddol y Beibl yn eu cylch hwy eu hunain am amser a thragywyddoldeb. Y mae hyd yn nod cywreinrwydd yn farw ynddynt, i wybod beth a ddywed prophwydoliaethau y Beibl am danynt hwyen hunain. Nid yw y diafol, bid sicr, am ddinystrio ei deyrnas ei hun trwy rwystro i neb gredu celwydd yr almanac. Ond y mae yr aderyn uffernol hwn yn ddiwyd iawn wrth y gwaith o gipio Gair Duw allan o galonau celyd dynion, fel ymyl y ffordd, rhag iddynt gredu a bod yn gadwedig." Zadkiel yw y gaubroffwyd Almanac- aidd mawr. Y mae efe yn fwy pres- aidd ei wyneb nac un gwneuthurwr Almanac arall. Y mae poblogrwydd ei gelwyddau yn ei wneud yn hyf a beiddgar. Yn ei Almanac am y flwyddyn hon (y chweched Almanac a deugain a gyhoeddwyd ganddo ef), dywed efe nas gallai ei Almanac ef fod mor boblogaidd oni bae fod ei ser- ddewiniaeth ef yn iawn. Maen prawf gwirionedd ganddo efyw poblogrwydd. Nid oes dim yn fwy poblogaidd yn mblith y canoedd miliwnau o drigolion China na phaganiaeth dywell; na dim yn fwy poblogaidd nac eilunaddoliaeth yn mhlith cant a haner miliwnau India na dim yn fwy poblogaidd yn mhlith yr ugeiniau o filiwnau ymher- odraeth Twrci na chelwyddau y gau- broffwyd Mahomet; na dim yn fwy poblogaidd yn Ewrop na'r Babaetb anghristaidd a melldigedig. Nid oedd neb yn fwy anmhoblogaidd yn yr hen fyd na Noah, pregethwr cyfiawnder; na neb yn fwy anmboblogaidd na Lot yn Sodom, Daniel a'i dri chyfaill yn Ba- bilon, Crist a'i apostolion yn yr oes apostolaidd trwy y byd. Ond y mae llawer yn Nghymru mor ddall a Zad- kiel, yn barnu os bydd torfeydd yn cymeradwyo yr ynfydrwydd mwyaf, fod yn rhaid ei fod yc iawn. Ni bu un golygiad erioed yn fwy croes i Air Duw, yr hwn a ddywed "na ddilyn y lluaws i wneuthur drwg." Cymer Zadkiel yn ganiataol ei fod wedi rbagddweyd am lawer o bethau sydd wedi cymeryd lie. Ond, fel y dewiniaid yn mhob oes, nid yw efe wedi dweyd am ddim yn mlaen Haw mewn iaith na allesid ei chymhwyso at unrhyw beth a allasai ddygwydd. Y mae wedi arfer enwi rhyw bethau yn nghylch personau, llywodraethau, a theyrnasoedd, ac y mae 'tebygolrwydd y bydd pethau fel y dywed efe. Ond cymer ofal i beidio dweyd dim gyda manyldra rhag i bawb weled ei fod yn gaubroffwyd. Ei gelwydd yw dweyd tod y ser yn awgrymu hyn a'r Hall, pan y gwyr ef mai hanes y byd mewn papyrau newyddion sydd yn rhoddi iddo ef ddeibydd ei awgrymiadau. Yn yr ystyr hwn y mae pob dyn sydd yn darllen yn darganfod tueddrwydd achosion i gynyrchu dosbeirtb o gan- lyniadau. Dywed y bydd y Jesuitiaid a'r Ul- tramoniaid yn uchel yn y mis hwn. Gwyddai pawb hyny cyn i'w Almanac ef ddyfod allan. Y mae ei ddull twyllodrus ef o osod dylanwad y Jesu- itiaid ynymishwn., yn fwy na rhyw fis arall, fel pe bae y mis hwn yn rhyw eithriad i fisoedd ereill, yn arwain dyn- ion anymchwilgar i gredu ei fod ef yn gwybod yr hyn nad oedd neb arall yn wybod. Ond yr hyn a wyddai pawb oedd ei unig sail ef i siarad am y Jesuitiaid. Gwyr pawb fod yr hyn a arferent wneud y llynedd yn debyg o gael ei wneud eleni, ac y gwnaent yn Ionawr y flwyddyn hon yr hyn a wnaethant yn mis Ionawr y flwyddyn o'r blaen. Y mae ei eiriau ef mor gyffredinol yn nghylch yr hyn a wnant yn y mis hwn, a phe dywedasai y mae yn debyg y caiff llawer o bobl ddyoddef oddiwrth anwyd y mis hwn. Os oedd efe am ddangos ei fod wedi cael dadguddiad na chafodd neb arall mo hono, dylasai ddweyd am ryw am- gylchiad mewn rhyw wlad neillduol, gan ddesgrifio yr amgylchiad hwnw mor fanwl fel na buasai ei eiriau yn ateb i un arall. Y mae cyffredinol- rwydd amwys ei eiriau yn difetha eu holl werth. Sonia hefyd am fodolaeth ysbryd rhyfel yn Germani yn y mis hwn. Pa bryd y bu Germani heb yr ysbryd hwn ? Os yw yr ysbryd hwn yno bob mis, pa orchest oedd dweyd ei fod yno y mis hwn ? Oni allasai pawb trwy'r byd ddweyd yr un peth heb wneud Alman- ac, ac heb edrych ar seren ? Dy wed y bydd pethau yn ymddangos yn rhyfelgar yn Denmarc yn niwedd y mis hwn. Diau ei fod wedi clywed, fel y mae pawb, fod rhyw amod yn y cyngrair rhwng Germani a Denmarc heb gael ei chyflawni. Ni chafodd sillaf na llythyren oddiwrth unrhyw seren yn nghylch y fath beth. Dywed na bydd Rwsia yn rhydd oddiwrth gynhyrfiadau crefyddol a rhyfelgar o'r 22ain i'r 29ain o'r mis hwn.' Pa bryd y mae Rwsia wedi bod yn rhydd oddiwrth y cynhyrfiadau hyn ? Ac y mae ceisio eu gosod allan fel dygwydd- iadau mewn un wythnos, o'r 22ain hyd y 29ain, a phawb yn gwybod eu bod yn bethau mor gyffredin yn Rwsia am ganrifoedd lawer, a bod y trigolion yn arfer cysgu'r nos yno, yn fFurf o dwyllo yr anwybodus a chelwydd noeth, sef i'w harwain i feddwl fod gan Zadkiel hysbysrwydd neillduol am yr wythaos hono. Pe buasai ganddo y fath hysbysrwydd, paham na buasai yn enwi rhywbeth neillduol, neu ryw fan, tref, neu ardal, neu berson, neu ryw awr neillduol, y buasai y cynhyrf- iadau yn dangos eu hunain yn fwy arbenig nac arterol, fel y gallasem ddweyd mai Zadkiel yw yr unig bro- ffwyd sydd yn y byd. Nid yw ei eiriau c-yffredinol ef ddim yn dadgan ond yr hyn y mae papyrau newyddion wedi ei ddadgan filoedd o weithiau am Rwsia yn mlaen Haw. Y mae mor ynfyd galw Zadkial yn broffwyd, a phe gelwid dyn a ddywedai y byddai dadl yn Senedd Prydain o fewn y misoedd nesaf, yn broffwyd. Heblaw hyn, y mae yn ynfydrwydd o'r mwyaf i geisio gosod allan mai am wythnos yn unig y bydd cynhyrfladau rhyfelgar yn Rwsia, a hithau bob wythnos mewn rhyfel a'r Asiaticiaid yr ochr ogleddol i'r Himalayas. Ded- wydd fyddai pob gwlad pe na byddai cynhyrfladau rhyfelgar ynddynt ond am wythnos yn lonawr 1876. Nid oes un wlad mor ddedwydd a hyny. Gan hyny rhoddodd Zadkiel yr wyth- nos i mewn fel ffordd i dwyllo dynion. Ond gwel pob dyn a'i lygad yn ei ben mai ffordd yw hon sydd yn profi mai twyllo y mae efe. Dywed efe y bydd y weinyddiaeth yn y wlad hon mewn trailod "oddeutu" y 2 Gain o mis Chwefror. Ond dy- gwydda y dydd hwnw fod ar ddydd Sadwrn, pryd nad yw y senedd yn eistedd. Eto dywed efe y bydd ym- gais i derfynu hoedl y weinyddiaeth y pryd hwnw, ac y bydd hyny "yn debyg" o arwaini etholiadcyffredinol. Safia Zadkiel ei ben trwy ddefnyddio geiriau amwys fel <! oddeutu ac yn debyg." Camsyniodd wrth roddi y 26ain yn lie y 25ain. Gallai dadl beryglus fod y 25ain, ond nid y 26ain. Gallai ddibenu bid sicr oddeutu dau o'r gloch y boreu ar y 26, ond ni byddai ei dibeniad yn ateb i'w eiriau ef. Diau na bu yn ddigon gofalus i roddi pethau a wyr pawb yn nghyd yn yr esgraifft hon. Nid oes dim yn anhebyg na bydd gweinyddiaeth Mr. Disraeli mewn perygl y flwyddyn hon. Y mae pawb yn siarad am hyny. Ac nid yw ryfedd yn y byd fod Zadkiel yn dilyn ereill i siarad am hyny. Ond ei dwyll ef yw dweyd fod y ser wedi rhoddi hysbys- rwydd iddo. Pe buasai efe yn byw yn nghanol Affrica, a'r un ser ganddo yno ag yma, ni chlywsai air byth oddiwrth- ynt am y weinyddiaeth bresenol. Coginio y peth a wna efe allan o'r papyrau newyddion, a dweyd celwydd mai y ser sydd yn rhoddi bysbysrwydd iddo. Y mae gwall mawr yn ei ddesgrifiad ef o'r Iwerdionyn mis Mawrth. Dywed y byddant yn gwneud gweithredoedd echryslon mewn cysylltiad a Poland, ond eto v bydd nifer priodasau yncyn- i yddu yno. Nid yw cynhyrfladau rhy- felgar yn ffafrio cynydd yn nifer y priodasau, yn ol athroniaeth ystadeg- wyr. Ni bydd yn beth rhyfedd i'r Gwyddelod wneud gweithredoedd echiyslon. Ond o ba le y cafodd efe y drychfeddwl y buasent yn debyg o ymuno a phobl Poland ? Nid yw yn debyg iddo gael hyny o'r nefoedd na'r ddaear, ond o gaos ei feddwl breudd- wydiol ei hun. Am Ffrainc, dywed efe byddant yn ymdrechu am boblogrwydd ac aw- durdod." Nid oedd eisieu gofyn i'r ser am hysbysrwydd fel hwn. Oblegyd y mae pawb trwy'r byd politicaidd yn ei wybod. Cyngora efe bawb a anwyd, neu a enir, ar y 27 o Chwefror a'r laf o Medi i ofalu am eu hiechyd yn mis Mebefin Y mae y cyngor yn dda i ba\vb pryd bynag y ganwyd hwynt. Medd efe bydd Jupiter mewn sef- yllfa dda tuag at ei leuad (yn mis Gorphenaf,) ac y bydd iechyd a chyllid Tywysog Cymru yn ffafriol iddo." Bydd lleuadau Jupiter yn yr un man tuag at bawb, ac felly rhaid y bydd pawb yn llwyddianus y pryd hwnw yn y wlad hon. Gan fod lleuadau Jupiter, fel pob goleuad arall yn yr entrych, yn sefyll tuag at eu gilydd yn ol rheolau mesureg (Geometry), a chan eu bod oil yn ganoedd o filoedd o filldiroedd oddi- wrthym ni, rhaid nad oes dim mwy o berthynas rhwng eu symudiadau ag un dyn, mewn teulu, neu dref, na dYl0d. iad tren i'r station ar ryw ad eg o'r dydd. Ar dir rheswm, seryddiaeth (fel gwyddoneg), a Beibl, ynfydion twyllodrus. a dewiniaid gwrthryielgar yn erbyn Duw, yw holl ser-ddewiniaid y byd. Oeisiant d-ladgan y dvfodol yn anibynol ar Dduw.
OYFARFOD LLENYDDOL ADDOLDY…
OYFARFOD LLENYDDOL ADDOLDY Y BEDYDDWYR, ABERAMAN. CYNALIWYD cyfarfod llenvddol yn y lIe uchod nos Lun, Ionawr 3ydd. Llyw- ydd, y Parch. T. Davies (Dydimus.) Beirniaid-y traethodau, barddoniaeth, canu, &c., Hywel Cynon; y don gy- nulleidfaol, Parch. W. Harries, Tre- cynon; y gelfyddydwaith, Mrs. Rees [cashier,] Aberaman; yr adroddiadau, Mr. J. Bees, Go-operative Stores, a Daronwy. Awd yn miaen yn y drefn a ganlyn:—Anerchiad gan y cadeir- ydd. Can agoriadol gan Miss Goleu- ddydd Rosser. Cacu O'r hapus awr,' gan fechgyn dan 16 oed; cydfuddugoi, Thos. Michael a William Beddoe, Aberaman. Adrodd, Cuddia dy ofid,' o Swn y Jiwbili:' goreu, Miss M. Jones, Capcoch. Beirniadaethy traeth- awd ar y CynHun goreu er sicrhau llwyddiaut yr Ysgol Sabbothol;' goreu, John Price, Aberaman. Canu Rejoice, 0 Judah;" cyofuddugol, John Howells a Charles Davies, Aberaman. Beirn- iadaeth yr englyn i Grwgnnchwyr Eisteddfodol gp-reu, Daronwy, Aber- dar. Canu Yr awr weddi;" goreu, Joseph Thomas [Alaw Wyn,] a'i gyf., Oapcoch. Darllen unrhyw ddernyn ar y pryd; goreu, Thomas Bowen, Aber- aman. Canu'Fwyalchen;' goreu, Miss Hannah Edwards, Aberaman. Beirn- iadaeth yr 'Antimaccassar;' un yn cystadlu, ac yn deilwng o'r wobr, sef Mrs. Jenkins, Aberaman. Chwareu March,' o'r Judas Maccabeus,' ar yr harmonium goreu, vVm. Eynon, Aber- aman. Adrodd darn o Gywydd Tra- falgar;' cydfuddugoi, T. Bowen a T. Lewis, Aberaman. Beirniadaeth penili- ion i'r Capei buddugol, Addolwr ond ni atebodd i'w enw. Canu Cartrefyny nef goreu, Cor Gwawr. Beirniadaeth y Don 11 Gynulleidfaol; 43 yn cystadlu, goreu, Thomas Samuel, Capcoch. Canu 'Comfort ye my people ,'cydfuddugol, Charles Davies a John Jenkins, Aber- aman, a J. W. Jones, Trecynon. Beirn- iadaetb y Par Hosanau un ddaetb i law, ac yn deilwng o'r wobr, sef eiddo Mrs. Samuel, Capcoch. Canu y don fuddug- 01 yn nghyfarfod llenydaol Gwawr, Awst 23, 1875; tri chor yn cystadlu; goreu, Cor Abercwmboy, o dan arwein- iad Thomas Davies, diweddar o Beny- groes, sir Gaerfyrddin, Cafwyd cyfar- fod rhngoroi, a phawb ynymddangos yn fodd1 on i'w dynged. Rhoddwyd can yn ystod y cyfarfod gan Gor yr Aelwyd," yr hwn sydd newydd gyrhaedd yr hen wlad -E. OWEN, Ysg. 0 Y.—Meihodd y beirniad, yn her- wydd y nifer fawr o gyfansoddiadau ag oedd wedi dod i law, yn nghyda phrysurdeb y Nadolig, gyhoeddi beirn- iadaeth y traetbawd ar "Oriau Ham- ddenol y Gweithiwr," &c. Bydd i'r feirniadaeth ar yr holl gyfansoddiadau i ymddanges yn y DARIAN. Danfoned y cystadleuwyr eu henwau i'r ysgrifen- ydd, a throsgiwyddir y wobr i'r buddug- ol trwy gyfrwng y P.O. Nid ydym yn ymrwymo i ddychwelyd cyfansoddiadau anfuddugol heb lythyrnod.-E.O.
ABERDAR--ANRHEGIAD.
ABERDAR--ANRHEGIAD. CYHALIWYD cyfarfod yn ystafell Cyfrinfa Eryr Morganwg, I. O. F., M. U., yn ngwesty y Queen's Head, Aberdar, nos Fercher, y 5ed cyfisol, i'r dyben o gyf- lwyno anrhegion i'r brodyr Owen Davies, puddler, a John Frappell, glowr, sef Arwyddlun o'r Urdd, yn nghyda'u Hun- iau hwy a'u gwragedd, am eu llafur di- flino gyda'r gyfrinfa yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Llywydd y cyfarfod oedd G.M. Jenkin Howells, o'r dosbarth; is- lywydd, P.G. D. J. Evans, perthynol i'r gyfrinfa. Yr oedd y cynulliad yn dda ac yn Iluosog, a chafwyd areithiau campus gan y brodyr, llywyddion, a G. Thompson, Gwron Dar, Henry Davies, John Williams, Evan Evans, ac Ed- mund Davies. Hefyd cafwyd canu ag adroddiadau gan yr Abernant Glee Party, dan arweiniad James Campbell. Cyflwynwyd yr anrhegion gan Mrs. Jones, priod ein trysorydd, sef gwesty- wraig y Greyhound gynt. Cafwyd cyf- arfod rhagorol, a gobeithio y cawn y arfod rhagorol, a gobeithio y cawn y fraint o fwynhau llawer un eto.—ODYDD o GALON.
CRAIGCEFNPARC.
CRAIGCEFNPARC. Nos Sadwrn, Ionawr yr 8fed, cynaliwyd darllenfa geiniog yn y lie uchod, pryd y gwasanaethwyd gan gor y lie, ac am- ryw o gefnogwyr ereill. Hefyd, yr oedd yn hyfrydwch genyf weled cynifer o ieuenctyd yr ardal wedi ymgasglu yn nghyd, a phob arwyddion eu bod yn caru y mudiad, a. gobeitthio y gwnant barhau.-UN OEDD TWO.
CASTELLEEDD.
CASTELLEEDD. CYFARFODYDD CALAN MAESYRHAF. CYNELIK y rhai hyn yn ddidor er ys ugeiniau o flynyddau, ac y mae r hy- barch dad y Parch W. Morgan, Maes- teg, wedi gwasanaetbu ynddynt am 47 miynedd yn olyrol. Cafwyd cyfarfod- ydd o fer:digedig goffadwriaeth y tro hwn. Pregethwjd gan y Parehedigion L. Jones, Iv'nycoed; R. Rowlands, LI ansamlet; R. Morgan (Bhydderch ab Morgan,) Abcrafon W. Morgan. Maes- tog; D. M. Jenkins, Treforris, it Dr. Beey, Abertawe. Dechreuwyd yr odfaon gan J. Bees, (Ysgol Ramadegoly Parch. J. R. Jones, B.A.J y Parch. D. F. Ro- berts, (A. jEva.!iPritcha?d, (A..J a H. T. Stephens, [M.C-] Mwynhawyd cy- farfodydd rhagorol, ac yr oedd yr enein- iad oddiwrth y santaidd hwnw ar y weinidogaeth. Cafwyd cynulliadau Ilu- oscg, yn enwedig nos Iau-pob cwr o'r capel wedi ei orlenwi. Casglwyd at lei- hau y ddyled sydd ar y capel, yr hon sydd bellach yn toddi yn gyflym gan wres tanbeidiol haelioni crefyddol yr eglwys a'r gynuileidfa.—ISTEDDFAB.
"HIRWAIJN.
"HIRWAIJN. BCREU dydd Iau, y 6ed cyfisol. fel yr oedd geneth ieuanc o'r enw Gwenllian Morgans, 18 mlwydd oed, yn rayned at eu gwaith, cyfarfyddodd a'i diwedd yn dra sydyn trwy syrthio o dan gerbyd perthynol i gwmjii yr Aberdare' Mer- thyr Steam Coal Co." Bernir fod y cerbyd yn pwyso o 15 i 20 tynell o leiaf. Casglodd tyrfa fawr yn ngbyd dydd Sadwrn, yr 8fed cyfisol, er hebrwng ei gweddillion marwol i dy ei hir gartref; ond er ein mawr siomiant, methwyd cael y trengholiad, fel y gorfuw Jd claddu dranoeth, sef y Sabboth, pan y torodd boll ysgolion Sabbothol y gy- mydogaeth i fyny, ac yrydym yn barnu fod o leiaf pedair mil o drigolion yno. Yr oedd Gwenllian Morgans yn eneth obeitbiol, ac yn aelod hardd gyda'r Bedyddwyr, ac yn aelod cyson hefyd o gor undebol y He.—W. J.
YDIWEDDAR ROSSERBEYNON (ASAPH…
YDIWEDDAR ROSSERBEYNON (ASAPH GLAN TAF.) DYMUNAF ychydig o ofod y DARIAN i alw sylw y eerddorion at fy hen gyf- aill sydd newydd ymadael. Mae yn chwith genyf fi, fel un o'i hen ddysg- yblion henaf erbyn hyn, ac yn alarus gan ganoedd yn Neheudir Cymru i feddwl fod yr anwyl Asaph G-Ian Taf yn ei fedd Yr oedd y dyrfa fawr a ddaeth yn nghyd dydd Iau diweddaf yn arddangosiad. o barch mawr. Nid oes neb yn fyw a wnaeth mwy dros ganiadaeth y eysegr nag ef. Yr awgrym .1 z;1 ag y carwn daflu allan ydyw hwn— rhoddi cofgolofn hardd ar ei fedd, fel arwydd o'n teimlad a'n rhwymedigaeth am y gwasanaeth mawr a roduodd i ganiadaeth y cysegr. Pe cymerai blaen- oriaid canu yn mhob ardal y mater i fyny, a ffurfio yn bwyllgor lleol, er casglu at yr amcan, fe'i gwneir yn rhwydd a buan. Frodyr cerddorol, a gaf fi air oddiwrthych ar y mater hwn, nail! ai yn berponol neu drwy y wasg? Ydwyf, eich brawd hiraethlon, Dowlais. ABRAHAM BOWEN.
DOSBAitTH CASELLNEDD.
DOSBAitTH CASELLNEDD. Mae nhw yn dweyd fod mwy o ormes yn nosbarth Castellnedd yn awr nag a fu er's amser. Bod gwr o:r mynydd ar flaenau ei draed yn scriwio. Darfuiddo wasgu creadur bach trwy dwll hynod fychan, ac oni buasai fod y twll yn rhy fychan, buasai y mynyddwr yn gyfan- gorph ar ei ol.
BU FARW.
BU FARW. BHAGFYR 28, 1875, ar ol byr gystudd, yn 67 mlwydd oed, y cymydog hynaws, y gweithiwr didwyll, a'r Uristion diargy- oedd—Mr. Wm. Howells, gof, Dowlais- street, Aberdar. Y r oedd Mr. Howells yn meddu ar gyneddfau deallawl cryf, nc wedi darllen llawer, a thrwy hyny meddianodd wybodaeth gyffredinol. Bu yn aelod ffyddlawn gyda'r Annibyn- wyr yn nghapel Bethel, Gadlys, ac yn athraw cyson a phrydlawn yn ei ddos- barth, a theimlir colled fawr ar ei ol. Na fydded i'r weddwwylaidd a'i phlant a'i hwyrion alaru i ormodedd, gan fod yr ymadawedig wedi newid er gwell. Dydd Iau canlynol, daeth torf fawr o bobl i dalu y gymwynas olaf, er ei heb- rwng i'w hir gartref, yn Cemetery Aber- dar. Yr henwr, er ei huno,—ddaw'n hoyw-wych Ddyn newydd hardd eto Ni roed dyn erioed yno, Yn y llwch, un o'i well o. Dymunir ar y newyddiaduron Cymreig Americanaida godiyr uchod. Bethel. MArR.
[No title]
IONA WR 11, 1876, yn 42 mlwydd oed, wedi cystudd byr, o'r darfodedigaeth, Mr. Thomas D. Howells [Brynalaw], Trecynon. Yr oedd i'w weled yn nychu er ys tymhor, ond nid oeddem yn dych- mygu fod ei angeu mor agos. Yr oedd yn cymeryd rhan yn merfformiad Judas Maccabeus dydd Nadolig, ac yn wastad yn barod i wneud daioni. Gadawodd weddw a phump o blant amddifaid alaru ar ei ol. Cleddir ef dydd Gwener (heddyw), yr angladd i godi am haner awr wedi 2 o'r gloch, o No. 54. Meirion- street, Trecynon. CLUDYDD.