Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
DARGANFYDDIAD RHYFEDD
DARGANFYDDIAD RHYFEDD GwelUiad rhag y Dropsy, y Dwfr, -7 Gwynt, a Gravel, &c., &c. MAWRJTW y dyoddef oddiwrth y clefydau peryglus hyn, a mawr yw y siomiant sydd yn feunyddiol oddiwrth gyffyrau meddygol ond yn awr, trwy y dargan- fyddiad. rhagluniaefchol hwn,' fe ellir cael gwellhad uniongyrchiol oddiwrth Boen yn y Cefn, Diffyg Dwfr, Chwydd yn y Cluniau, yn yr Ymysgaroedd, yn y Traed, &c., &c., Diffyg Anadi, Gwynt yn y Cylla a'r Perfedd, (Juriad y Galon, G wen did, Gravel, &c., &c., (yr byn oil, sydd arwyddion o'r Dropsy,) trwy gy- meryd Hughes' Patent Dropsy Pills," un blwch a brawf eu rhyfedd effeithiol- deb. Gellir eu cael trwy unrhyw fferyllydd yn y Deyrnas am Is. lie., 2s. 9c., a 4s. 6c. Wholesale:—London: Messrs. Hear- on, Squire, and Francis, Barclay & Sons, Sutton. Bristol: Pearces & Co. These Pills are Registered at Station- ers' Hall, London. Any infringement will be prosecuted. n Un neu ddau allan o lawer o dysLiol- aethau yn fy meddiant sydd fel y canlyn (A Copy.) Yr wyf yn dra diolchgar i chwi am eich meddyginiaeth effeithiol o'r enw I Hughes' Patent Dropsy Pills.' Y maent wedi fy llwyr iachau o'r Diffyg Anadl, Poen yn y Cefn, Diffyg Dwfr, Chwydd yn y Cluniau a'r Traed, ac yr wyf yn gobeithio y caiff pawb wybod am danynt fel y gailont gael iachad.—D. DAVIES, Llanelli, Tachwedd 10, 1875. (A Copy.) Trwy gymeryd eich moddion effeith- iol chwi, cefais fy iachau o'r Dropsy, chwydd mawr dros yr holl gorff, Ditfyg Dwfr, Peswch, a diffyg mawr ar yr Anadl, a churiad y Gaion. Yr oeddwn yn bur annhebygol o wella, or cymcryd llawer o foddion, eto dim daioni. Yn fuan wedi eich moddion rha- gorol chwi at Dropsy y Gwynt a'r Gravel, cefais ryddhad. Gwnewch y defnydd a fynoch o hwn. Yreiddoch,— R. THOMAS, Llandybie."
DAFAD AR GOLL.
DAFAD AR GOLL. At Fugciliaid Cwm Ystracl a'r Gylchoedd. En ys tua thri mis, collwyd oddiwrth Rhondda, Blaenllechau, ddafad o groes- iad Cardi a Radnor, gyda nod o oil a phaint gias ar y cefn. Pwy bynag a rydd wybodaeth am y cyfryw i REES POWELL, Butcher, Fern dale, a gaiff dal da
UNDEB CENEDLAETHOL Y MWNWYR.
UNDEB CENEDLAETHOL Y MWNWYR. DYMUKIR ar bawb ag sydd wedi dechreu talu i Gyfrinfa Rhif 11, Cross Inn, Tre- cynon, i bresenoli eu hunain yn ystafeil y gyfrinfa, nos Lun, y 24ain o'r mis hwn, or ymdrin a mater neillduol. Ysg Wrth orchymyn,—D. MOKGAK.
HUGUENOTS.
HUGUENOTS. Y MAE Mr. Smiles, awdwr galluog "Self-help," wedi newydd gyhoeddi Ilyfr o 430 tudalen, ar hanes v Protes- taniaid o dan yr enw ucbod yn Ffrainc. Nid ydvm yn gwybod am ddim a allai difyrn, buddioli, ag oleuo deall ein darllenwyr yn fwy na rhoddi ychydig o erthyglau ar hanes y blaid rhyfedd uchod. Y mae cyhoeddiadau mwyaf poblog- aidd Seisnig Lloegr yn rhoddi rhestr faith o erthyglau galluog ar wahanol faterion o bwys, mewn rhifynau dilynol am fisoedd lawer. Cyhneddwyd rhan o'r llyfr uchod, y mae yn debyg mewn rhifynau dilynol o'r cyhoeddiad poblog- aidd hwnw a elwir Good Words. Beth bynag, dywed Mr. Smiles, mai yn hwnw yr ymddangosodd darnau o'r llyfr. Y mae tuedd gref yn y Cyniry i geisio gwybodaeth yn y llwybrau byraf. Y mae llawer o honynt fel gwiwerod ar bren gwybodaeth. Neicllo oddiar un gangen fechan ar y naJJ, gyda ehyf- lymdra, yw eu dewis waith. Byddant fyw ar wybodaeth fenthyg, heb ym- chwilio i'w haeddianau, yn hytrach nac ymboeni i feistroli gwybodaeth o bob peth drostynt eu bunain. Darnau bych ain, o hysbysrwydd am ddamweiniau bychain eu cymydogaethau, a lanwant ea sachau bychain hyd at eu geneuau. Ac y mae cyhoeddwr ambell bapyr fel pe bae Alpha ac Omega ei fodolaeth ef yn gynwysedig mewn boddloni y dorf sydd wedi magu y chwaeth i lanw cylla eu meddyliau diwrtaith, a byr hysbys- iadau yn nghylch dygwyddiadau bych- ain, y rhai, pan eu gwelant, a adawant eu deall mor wir baganaidd at bwrpas bywyd, a phe buasent heb ddarllen dim. Y dynion hyny, y rhai a ymbleserant mewn cymeryd digon o amynedd, a gwneud ymdrech diflino i suddo eu hymchwiliadau i fwngloddiau gwybod- aeth, ac aros ynddynt nes cyrhaedd trysorau yn eiddo iddynt eu hunain, yw y dynion dedwyddaf, cyfoethocaf, a mwyaf eu dylanwad yn mhob math o gymdeithas. Pe mushroom yn cyfodi mewn ychydig oriau i'w gyflawn faint- ioli, fyddai pob peth a gcdai o'r ddaear, byd tlawd fyddai ein byd ni. Y coed hyny a gymerant y nifer fwyaf o flyn- yddau i dyfu yw y rhai gorau o lawer pan y tyfant. Yn araf iawn, ac'mewn llawer o ffynyddoedd y daw dyn, y creadur uwchaf ar y ddaear, yn gym- hwys i fod yn hunan-arweinydd, yn hunan-gynaliwr, ac yn hunan-lywod- raethwr. Neidia llo, a chreaduriaid ereill direswm, allan o'u mabandod i fath o hunan-ddibyniaeth me% i i ychydig oriau. Ac os yw ein darllenwvr am gael gwybodaeth hanesyddol a ddichon fod yn drysor defnyddiol iddynt tra y byddont byw, bydded iddynt ddyfod gyda ni o wythnos i wythnos am ych- ydig amser i hanes y bobl uchcd. Gelwid y Protestaniaid yn Ffrainc, Huguenots, yn ol D'Aubigne, oddi wrth Hugon, en wtporth yn Nliref Tours, lie y byddant yn arfer ymgynull. Y mae llawer tarddiad i'r gair gan wahanol awduron. Dywed Browning ynei hanes am danynt, fod tarddiad yr enw hwnyn ol yr hanes cyntaf am dano, oddiwrth enw John Huss. Galwai eu gelynion hwynt mewn gwawd, "GuenouR de Huss," neu Epaod Huss." Y mae yn ddyddorol i ni yn y wlad hon gymeryd golwg go fanwl ar hanes y Protestaniaid hyn, oblegyd diangodd llawer o honynt i'r wlad hon am noddfa, rhag cael eu diietha gan yr erledigaeth greulawn a osodwyd i fyny yu eu her- byn gan Louis XIV, Brenin Ffrainc, llai na dau cant o flynyddau yn ol. Gwnaeth efe gyfraith o dan ddylanwad Pabyddiaeth,yr hon a elwid "The Re- vocation of the Fdict of Nantes," yn mha un y rhoddwyd awdurdod i dynu ] ilawr bob He o addoliad a feddai yr Hu- guenots. Yn yr un ddeddf gwahardd- wyd iddynt gadw cyfarfodydd crefydd- ol, Gwaharddwyd i foneddigion bro- ffesu eu bod yn aelodnu yn y blaid Brotestanaidd hon; os gwnaent, eu bod i gael eu cosbi yn bersonol, ac i golli eu meddianau. Yn ol y gyfraith hono yr oedd pobgweinidog perthynol i'r Huguenots i gael eu alltudio o'r wlad, ei fod i fyned ymaith mewn pym- theg diwrnod, neu y cospid ef a trans- portation fel drwg-weithredwr ond os troai y gweinidogion i fod yn Ba- byddion, y caffentwobrau a manfceision. Fed holl blant y deyrnas, y rhai a enid rhagllaw, i gael eu bedyddio, a'u dwyn i fyny yn y grefydd Babaidd. Fod holl rieni plant i'w dwyn i'r eglwysi Pabydd- oj, neu gael eu cosbi o ddirwy o £ 20 16s. Fod" pob meddianydd eyfoeth, neu dir, neu dy, oedd wedi gadael y wlad 6herwydd erledigaeth, i ddych- welyd yn ol, neu y byddai ei feddianai yn myned yn eiddo rhai ereill. Fod y rhai oedd wedi bod yn Brotestaniaid i gael llonyddwcb, os nad ymgynullent i weddio ac addoli, neu i gyflawni un- rhyw ddyledswydd crefyddol! Cofied pobl Cymru fod y ddeddf gythreulig hon wedi cael ei gwneud yn Ffrainc yn mis Hydref. yr wythfed dydd o'r mis hwnw, yn y flwyddyn 1685, oddeutudeng mlynedd yn llaina dau can' mlynedd yn ol. Gwnawd hi o dan ddylanwad yr eglwys Babaidd, yr hon sydd yn dweyd yn awr, fel y dengys Mr. Gladstone, fod y gyfraith uchod yn un hollol gyfiawn. Gwnawd hi gan hyny gan y blaid sydd yn ceisio denu plant y Cymry i'w hysgolion dyddiol yn Pontypool, Blaenafon, Pen- ycae, Tredegar, Coed-duon, &c. Nid yn unig y mae y rhai a ddysgant blant y Cymry yn yr ysgolion Pabyddol o'r un grefydd a'r rhai a wnaethant y gyf- raith uchod, ond y maent yn gwneud eu goreu yn y wlad hon a gwledydd ereill, i ddwyn poblogaethau y byd i'r fath sefyllfa o anwybodaeth, o dueddiadau coelgrefyddol, o anghof o bob peth a ddywed Gair Duw, ac a'n gwna yn barod i basio cyfreithiau o'r tath i osod Pabyddiaeth i fyny fel yr unig glefydd i'w dyoddef mewn gwlad. Er mwyn en plant na chefnoged y Cymry jsgolion yr ellyllon. 0 herwydd y ddeddf annuwiol uchod ymfudodd o leiaf 230,000 o Brotestan- iaid, o dan yr enw Huguenots o Ffrainc. Oir rhai hyn yr oedd 1,580 yn weinid- ogion; 2,300 yn henuriaid, yn ol y drefn Bresbyteraidd, a 1,500 o fonedd- igion. Yr oedd y gweddill yn farsiand- wyr a gweithwyr. Parhaodd yr ym- fudiad am flynyddau. +
GWEITHWYR GLO TAI SIR FYNWY…
GWEITHWYR GLO TAI SIR FYNWY A DEHEUDIR CYMRU. Y mae yn ymddangos nad yw pen- derfyniad pwjdlgor y Scliding Scale yn eistedd yn rhyw esmwyth iawn gyda ein cyfeillion, glowyr y glo tai, a bod cyfarfod o gynrychiolwyr wedi ei alw, mewn canlyniad, i gymeryd dan ystyr- iaeth y pynciau oanlynol 1. Safon newydd y bcliding Scale a rheoleiddiad dyfodol ein cyflogau. 2. Pa un a oes chwe mis o rybudd i'w roddi i'r meistri am derfyniad y cyfryw ai pcidio. Cynelir y cyfarfod yn y Nelson Inn, Llanfabon, ddydd Llun y 24ain cyfisol, am ddeg yn y boreu, pryd y dysgwylir i bob glofa gael ei chynrychioli, ac i'r cynrychiolydd ddyfod a phenderfyniad ei lofa ar y pynciau hyn gydag ef.
Y WLADFA PATAGONAIDD.
Y WLADFA PATAGONAIDD. Oddiwrth y newyddion diweddaraf o'r Wladfa, cawn fod y minteioedd di- weddaraf wedi cyrhaedd yn ddiogel. Dywed rhai o'r llythyrau fod cryn lawer o drafferth wedi ei gael i fyned i fyny yr afon, trwy tod y llong wedi methu myned. Achwynai y gwladfa- y n wyr hefyd fod cymaint wedi cael eu hanfon allan ar unwaith, yn enwedig trwy fod eu cynanaf wedi troi allan yn fath fethiant. 4
MYNED YMAITH GYDA CHWAER Y…
MYNED YMAITH GYDA CHWAER Y WRAIG. Y mae newyddiadur o Liverpool yn rhoddi yr hanes canlvnol am ddau a redasant ymaith o Abermwc: Yr oedd engineer o'r enw Richard Rees yn p:'e- swylio yn Abertawe, ei wraig a'i theuiu o Llanelli. Oddeutu 15 mis yn ol aeth Mrs. Rees yn lied afiach, a chytuaodd hi a'i gwr ei bod hi i fyned am dymor at ei rhieni i Llanelli, ac yntau i gy- meryd gofal y plant. Cvmerwyd chwaer y wraig, Eliza Stephens, i ofaiu am y ty, yr hon sydd rai blyn- yddoedd yn iau na'i chwaer. Buont fyw yn nghyd am rai misoedd, ond ihy w chwech wythnos yn ol, anfono id Rees y plant at en mam i Llanelli. Cyrhaeddodd Liverpool ddydd Mercher yr wythnos cyn y diweddaf, ond trwy fod cenad pellebrol wedi cyrhaedd yma o'i flaen,cyrnerwyd efi fyny,tra yr oedd ef a'i gariadferch yn aros yn Union street. Daeth heddgeidwad o Llanelli yma; yr h wn a aeth a Rees yn 01 gydag ef. Gadawyd Stephens ar ol, trwy nad oedd un gyhuddiad yn ei herbyn. +
NODION O' R WEST.
NODION O' R WEST. Y STRIKE YN Y GLO CAREG. YMDIJENGYS nad yw yr annealldwr- iaeth uchod wedi terfynu, ao, oddi wrth yr hanes a gawn, nad oes rhyw debygolrwydd mawr y daw i derfyniad boddhaol bnan. Deallwn mai asgwrn y gynen yma yw, fod y meistri a'r gweithwyr yn gwahaniaethu yn eu hesboniad o ddyfarniad y pwyllgor unol yn Caerdydd. Cymera y meistri fantais ar y rhan flaenaf o'r adran gyntaf yn unig, ac wrth hyny yn dadl- eu eu hawl i gael safon yr huriau wedi eu gosod yn y gwahanol lofeydd yn bum punt y cant yn uwch nag yr oeddynt yn y flwyddyn 1862, yn anni- bynol ar unrhyw lofa neu wythien arall. Mater arall mewn dadl ganddynt yw,;—Pa un ai i'r glo mor ynte i'r glo tai y perthynant. Dywed y meistri ei fod yn ddewisedig iddynt wrth ba un o'r dosbarthiadau hyn yr ymlynant, tra y mae cynrychiolydd y gweithwyr, Mr. W. Abraham (Mabon), yn gwadu hyn yn hoilol; fod y mater wedi ei bender- fynu yn Nghaerdydd, i ba ddosbarth y perthynant. ac o ganlyniad y safon ond yr oedd yh anhawdd gan y rhan fwyaf o honynt i dderbyn y dystiolaeth hon o eiddo Mabon, am mai cynrych- iolydd y gweithwyr ydoedd, heb iddynt gael tystiolaeth o'r ochr arall. Yn herwydd hyn, ymddengys i Mr. Abra- ham fyned a gosod y pwnc o flaen Mr. D. Davis, Maesyffynon, ac iddynt anfon Ilythyr unol at un o'r meistri sydd yn yr undeb, yn egluro y cytuudeb. Mae y llythyr eel y canlyn Y mae glo- feydd Cross Hands, palifornia, Cow dor, a Hendereforgan wedi eu gosod gyda dosbarth y glo mor, a pha gyfnewid- iad bynag a gymer le mewn canlyniad ymchwiliad y cyfrifolygwyr yn y glo mor, o'r huriau a delir yn bresenol, bydd i'r un cyfnewidiad gymeryd lie yn yr huriau a delir yn bresenol yn y glofeydd a nodwyd. Arwyddedig, D. DAVIS, Cadeiydd. W. ABKAHAM, Is-gadeirydd. Cawn hefyd fod copi o'r un llythyr wedi ei aufon i weithwyr Hendreforgan. Y mae i'w obeithio y caiff y mater ei benderfynu ar ol yr eglurhad hwn.
! IGLOFA CAWDOR, BRYNAMAN.…
GLOFA CAWDOR, BRYNAMAN. Deallwn fod awdurdodau glofa y Cowdor, Brynaman, wedi anfon at Mr. Daniel—ysgriienydd undeb y meistri, a hwnw drachefn wedi anfon at Mr. W. Abraham, goruchwyliwr y gweith- wyr yn y cyfryw ddosbarth, fod eu gweithwyr yn gomedd gweithio dan y cytundeb newydd. Y gwir am yr helynt hwn yw, fod glofa y Cowdor yn segnr er's pedwar mis, a'r gweithwyr wedi eu chwalu, fel nad oes gwreithwyr i'w cael ar unrhyw delerau. Ataliwyd y gwaith o herwydd gwaelder y fasnach lo, a hyny heb unrhyw anghydfod, ond yn awr dywedir na weithia y gweith- wyr.
GLOFA Y WAU.K.
GLOFA Y WAU.K. Y mae yn llawen genym ddeall fod gwreithwyr a meistri gwaith y Waun, Brynaman, wedi setlo yn ol telerau y bwrdd, (yn ol gytundeb dyddiol hyd nes y delo y dyfarniad allan), a bod y lofa yn gweitbio er dydd Linn.
I BISHWEL, GOWER ROAD.I
BISHWEL, GOWER ROAD. Cawn fod gweithwyr y lofa uchod wedi cael cynyg ar gyfnewid y tal, o fod yn bymthegnosol i fod yn fisol, a'u bod wedi penderfynu, yn ngwyneb iddynt ganiatau i'r tal gael ei gyfnewid o fod yn wythnosol i bymthegnosol, fod yn well ganddynt sefyll yn erbyn y cynyg zn presenol na'i dderbyn ar nnrhyw deler- au. Mae i'w obeithio y bydd i'r Ysgrif sydd yn cael ei pharotoi i ddyfod o flaen y Senedd, gael ei chario yn gyf- raith y tymhor nesaf, fel na fydd lie i gynyg rhyw gynygion o'r fath. Diau mai myned yn ol i'r hen amser gorth- rymus a thruenus gynt i'w pob cam yr eir yn y cyfeiriad hwn. ♦
GADAEL GWAITH YN DDI.RYBUDD…
GADAEL GWAITH YN DDI- RYBUDD YN TREHERBERT. DYDD Llun diweddaf yn Ilys yr hedd- geidwaid, dygwyd i fyny nifer o lowyr am adael eu gwaith heb roddi rhybydd o hyny. Yr oedd y dynion wedi Ilaw- nodi y cytundeb sydd wedi cael ei dynu allan gan bwyllgor y Scliding Scale, yn ymrwymo i roddi mis o ryb- udd cyn gadael gwaith, gan hawlio y cyfryw hefyd oddiwrth y meistii. Modd bynag, yr oedd hen annealldwr- iaeth wedi ei adael heb ei gymhwyso, ac ymadawodd y dynion yn ddisymwth. Fel amddiffyniad, dadleuwyd nad oedd- ynt wedi deall y cytundeb newydd yn dda. Ar awgrymiad yr ynad, cytun- odd y cwmni i beidio sefyll am iawn, ar y dealldwriaeth fod y gweithwyr yn dychwelyd at eu gwaith. »
AMERICA. GWRTHRYFEL YR INDIAID.
AMERICA. GWRTHRYFEL YR INDIAID. DERBYXIWYD newyddion brawyclius yr wythnos o'r blaen o orllewin Texas, yn rhoddi ar ddeall fod y Comanche Indiaid wedi troi allan ar anturiaeth ryfelgar yn erbyn y sefydlwyr gwynion a'r Indiaid heddychol. Ymgynallodd 300 o honynt oddiamgylch bwleh San Rogero, 40 milltir o Rimalo. Dywed ihysbysiad o Fort Clark fod mintai o Indiaid a Mexicaniaid wedi croesi yr afon. islaw San Felipe, ac ymosod ar Pond's Ranch, gan ladd tri o ddynion, a Uadrata 600 o anifeiliaid corniog, Cymerodd cyflafan erchyll leyn Atiokis, pryd y llofruddiwyd pedwar o berson- au—dau ddyn a dwy fenyw, y rhai a gladdwyd ar y maes. Yr oedd y cyrff wedi eu rhostio fel nad allai neb eu hadnabod. Safai merlyn a chyfrwy arno yn agos i'r lie ac yr oedd ci bychan yn gorwedd gerllaw, yn ymyl yr hwn yr oedd rhych-ddryll heb ergyd ynddo. Gosodwyd y borfa ar dan i ddinystrio y llwybrau, fel nad allai neb erlyn y ll,)fruddion. Anibuir milwyr i'r lie o Fort Clark.
IJERUSALEM, COED-DUON.
JERUSALEM, COED-DUON. DYDD Iau,wythnos i'r diweddaf, cafodd plant Ysgol Sul Jerusalem, te a bara brith, yn ngbyda llawer o ddanteithion ereill, yr hyn oil a rhoddwyd gan fon- eddiges haelfrydig iawn ac athrawes gyson yn yr Ysgol Sul. Wedi i hawb wneuthur cyfiawnder a'r corif, cawsom wledd i'r meddwl. Wedi ethol Sir. J. A. Lloyd, i'r gadair, cawsom araeth fer a phwrpasol, yna awd yn mlaen a'r gwaith. Adroddodd amryw o blant ddarnau da, a'r adroddiad gyda,'r eyfan yn ardderchog: Canodd y cor yn gampus dan arweiniad Ivlr. J, Jenkins (Gwentwr). Adroddwyd y 55 benod o Esay yn gampus gan foneddiges sydd yn dri-ugain-a-deg oed; yna cawsom gynghorion da gan Mr. Jeremiah. Wedi talu'r diolebgarwch dyledus i'r foneddiges ac ereill, yma- dawodd pawb wrth eu bodd. Gou.
[No title]
MA E strike glowyr Goglcdd Cymru yn I ymeaogu. At lowyr IIafodybwch, mae yn agos i fil o lowyr glofeydd Wynn- stay allan.