Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

KARL Y LLEW; NEU MARCHOG Y…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

KARL Y LLEW; NEU MARCHOG Y LLAW GOCH. PENOD VI. Lodwig o Drosendorf, dyma'r dyn ieuane, Karl, am yr hwn y dywedais wrthych." Estynodd yr hen bendefig ei law yn mlaen, a chydiodd yn llaw ddeheu Karl. Karl," ebai, gyda tbeimlad dwfn, Duw a'th gad wo ac a'th fendithio." Ac yna cododd law y dyn ieuanc, a chusanodd hi. Nis gwyddai Karl beth oedd i'w wneud, a safai yn syn, pryd y teimlodd law ar ei ysgwydd, a chlywed llais Ixion. Da'wch, y mae amser yn ehedeg, a'r mynydau yn werthfawr. Atebaf fi am ddyogelwch y barwnig. Tra fydd yn aros yma, ni chaiff llygaid cyfeillion cywir eu tynu oddiarno." Ymadawyd yn deimladwy, aa yna aeth Manfred a Karl allan o'r ddaear- gell, yn cael eu dilyn gan Ixion, yr hwn a glodd y drws haiarn ar ei ol. Aeth- ant yn ol ar hyd y ffored y daethant, hyd nes y cyrhaeddasant y man hwnw lie yr oedd ffordd gul, naturiol yn y graig, ac wedi hyny yr oeddynt yn disgyn ar hyd llethr yn y llwybr, yr hwn oedd yn myned yn gulach, culach, hyd nes o'r braidd y gallent fyned trwyddo ond nid oedd yn hir, er hyny Yn fuan agorodd Ixioll ddrws arali yn y fgraig, ac wedi iddynt fyned trwy hwnw, yr oeddynt mewn ogof lydan, ac yn edrych allan ar y nefoedd serenog. Y ta allan i'r ogof arosodd Karl i edrych o'i gwmpas. Gwelai ei fod yn agos i droed y mynydd, a'r castell yn liylldremu yn dywyll wrth ei ben. Ychydig o ffordd gwelsant geffylau yn ngofal gwas ffyddiawn, a mawr oedd llawenydd ein harwr pan welodd ei anwyl Orpheus, a'i gleddyf a'i, ddagr yn hongian wrth y cyfryw. Esgynodd y tri yn mhen amser byr, ac wedi ffar- welio a'r gwas, troisant i'w ffordd. Yr oedd y lleuad yn uchel yn y nefoedd, yn llawn a chlir, a'r ffordd trwy y goed- wig i'w gweled yn egiur. Yn mhen tua dwy awr aroscdd Ixion, a gwelodd Karl yn union eu bod wrth y llwybr oedd yn arwain tua'r lie y cynelid Llys y Llaw Goch. Dy wed odd Ixion fod yn rhaid iddo ddychwelyd tuag at brif Gynghor y Llaw Goch, ond y byddai i'r dda-c ereill ddychwelyd i'w cartref. Treuliodd Karl y diwrnod hwnw yn edrych dros ei arfau, ac ni adawodd hwynt hyd nes y gwelodd fod pob peth yn iawn. Yn fuan wedi iddi dywyllu cyrhaedd- odd Ixion y lie, a chyda dengain o wyr arfog, ac yn marchogaeth. Wedi iddynt swpera, a'r milwyr fyned i orphwys mewn ogof gerllaw, dywedodd Karl, Yr ydych chwi, Ixion, yn tra- faelu mewn cwmpeini da." Os ydwyt yn siarad am y dynion a ddaeth gyda mi, yn sicr y maent yn gwmpeini da. Y maent yn perthyn i urdd uwchaf y Llaw Goch, a gellir ymddiried ynddynt. Daethant at dy wasanaeth di." "At fy ngwasanaeth i!" ebai ein harwr. Ie, Karl. Bwriadwyf dy anfon yfory dros y mynyddoedd i Bavaria. Y mae yr Ymherawdwr yn Munich yn parotoi ei fyddin i fyned i Saxony, ac yr wyf am i ti ei gyfarfod ef cyn y cychwyna. Cei lythyron genyf, a bydd y ffordd yn rhydd o'th flaen. Rhbid i ti geisio Henri yn gyntaf, ac wedi i ti ei gael, efe a'th gyfarwydda yn mhell- ach. Yr wyf yn gwybod y bydd i ti ufyddhau iddo." "Ymddirieda yn dda, ac ufyddha iddo," ebai Manfred. Gwnaf, yn sicr," ebai Karl. Ym- ddiriedaf ynoch chwi ac Ixion. Dilyna y gweddill wrth gwrs." Ar ol hyn, rhoddodd Ixion amryw gynghorion i Karl, ac wedi iddynt ym- neillduo am y nos, yr oedd gobeithion yn uchel, ond nid yn hollol glir. Yn gynar yn y boreu, arweiniodd Ixion i mewn i'r bwthyn y dyn oedd i weith- redu' fel is-gadben i Karl. Ei enw ydoedd Falkland. Dyn cauol oed, o edrychiad gonest, a serchus. Yr oedd yn filwr o'i febyd, yn gwybod ei ddyled- swydd yn dda, ae yn ddiofn yn y cyf- lawniad o hono. Eisteddodd i foreu- fwyd gyda Manfred, Ixion, a'n harwr, ac ymddyddanent yn nghylch y gorch- wyl oedd ganddynt mewn llaw. Der- byniodd Karl y llythyron oedd i gario i'r Ymherawdwr yn gynar. Yr 3edd y milwyr wedi eu galw i fyny I newn man cyfleus gsrllaw i'w dderbyn a phan ddaeth allan yn ei lawn arfog- aeth, rhoddwyd banlief o gymcradwy- aeth iddo. Anerchodd ynteu hwynt yn garedig. Ymddengys fod yr ym- ddiriedaeth Iwyraf wedi cymeryd lie rhyngddynt, a gwenai Ixion wrth feddwl am yr arwydd a welai. Cariwyd amryw arfau, yn nghyd a bwyd, dillad, a'r anifeiliad prynedig, pa rai oeddynt yn ngofal gweision. y rhai ni chyfrifid gyda'r milwyr. Pan oedd pob peth yn barod, daliodd Karl ei hen athraw, a derbyniodd ei fendith, acynaymadaw- odd wedi siarad ychydig o fynydau ag Ixion, yr hwn a ddyweodd, Duw a'th gadwo ac a'th fendithio." Yna cychwyrxodd ein harwr, gan gymeryd ei le o fiaen ei osgorddlu. Nid dynion cyffredin oeddynt, ac nid gwaith hawdd faasai eu trechu pan fyddai gal wad am iddynt ddangos eu nerth. Yn mhrydnawn yr ail ddydd, o dan arweiniad Falkland, croesasant y myn- yddoedd, a daethant i Bavaria. Yn mhen tri diwrnod wedi hyny cyrhaedd- asaot Regensburg; lie y clywsant fod yr Ymherawdwr yn y gogledd, ac efallai erbyn hyn yn Saxony, gan mai tuag 1 .1 1 z7, yno y cyfeiriodd ei ffordd i gyfarfod a'r gwrthryfel wyr. Penderfynodd Karl yn union beth oedd i'w wneud, a chymerodd y ffordd yn fuan a'i wyneb t'm Saxony. Dygodd chwech. diwrnod o deitbio ef i Oederan, ond yr oedd yr Ymherawdwr wedi gadael y lie wyth awr a deugain yn flaenorol i hyny. Yr oedd negeseuwyr wedi cyrhaedd yno a gwybodaeth fod y Saxoniaid, o dan arweiniad yr Arch Dduc o Saxe-Altenburg, ar eu ffordd o Dresden i Freiberg, ac yr oedd Henri yn dysgwyl eu cyiarfbd vr ochr draw i1!' Mulde. 'dor wired a mod i ru fyw," ebai f Earl, "rhaid i mi roddi benthyg fy nghleddyf i'r Ymherawdwr yn y frwydr yma. A wnaiff y milwyr yma fy nilyn?" "Maent yn fwy parod nag ydwyt ti yn feddwl," atebai lAilkiand, a buasent yn dy feio am beidio myned i gynorthwyo Henri." Os felly, dyma freichiau cryfj calonau ewyllysgar, a chleddyfau da dros yr Ymherawdwr. Yn mlaen, a'r nefoedd a ganiatao ein bod mewn pryd."

PENOD VII.

LLUEST Y MYNYD D.

Advertising

- CALLINEB ANIFEILIAID.