Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

KARL Y LLEW; NEU MARCHOG Y…

PENOD VII.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PENOD VII. Yr oedd Henri IV., o Germani eto yn ei ieuenctyd pan gododd y pendefig- ion Saxsonaidd mewn gwrthryfel, a'i yru o Gastell Goslar, gan ei hela o fan i fan, hyd nes o'r diwedd y gorfu iddo encilio i le gwyllt ac anial o'r enw Harts, lie y bu -dri diwrnod heb ym- borth. Nid oedd Henri ond pum' mlwydd oed pan fu farw ei dad, ac ymddiriedwyd rhaglawiaeth yr ymer- odraeth i'w fam, Agnes o Auquitine, a chymerwyd ynteu i'w addysgu gan Archesgob Ilanno, ac wedi hyny at yr Archesgob Adalbert o Bremen. Yny cyfamser, yr oedd y pendefigion anes- mwyth wedi dymchwelyd awdurdod ei fam, ac fel hyny, tra yr oedd yn fach- genyn, yr oedd ei ddigofaint yn fawr at yr arglwyddi tymhorol hyn, a mag- wyd y teimlad yn gryfach ynddo wedi iado fyned o dan ofal yr Archesgob Adalbert. Pan oedd yn bymtheg mlwydd oed, symudodd y pendefigion hyny ag oeddynt wedi para yn ffyddlon iddo a gosodasant ef o dan ofal Adal- bert, a choronwyd ef yn Ymerawdwr yn mhen blwyddyn. Yr oedd y flwyddyn gyntaf o deyrn- asiad Henri yn mhell o fod yn hapus, er nad oedd ungwrthryfeluniongyrchol wedi cymeryd lie. Yr oedd wedi dewis yr hen ddinas Saxonaidd Goslar fel ei gartrefle, a thra yno cododd y pen- defigion gogleddol, yn nghyd a byddin fawr, yr hon a gasglwyd ganddynt, yn ei erbyn, ac a'i yrasani i ffwrdd oddi- yno, tel y dywedasom o'r blaen. Wedi iddo grwydro tri diwrnod a thair nowsaith yn nghoedwig Harts, daeth i gyffyrddiad a mynyddwr caredig, yr hwn a'i arweiniodd i ardal deyrngarol ar lanau y Rhine,. He y dechreuodd godi byddin ar unwaith. Wedi ei danio gan ddygasedd at y gwrthryfelwyr, yr oedd ei enaid mewn llawn gwaith, a chatodd Iawer yn barod i ymuno dan ei faner, a'i gydnabod fel eu blaenor. Teithiodd i Bavaria, gan ychwanegu at nifer ei fyddin fel yr oedd yn myned, a phan teimlodd ei fod yn barod, trodd tua'r gogledd, yn nghyfeiriad Saxony. Clywodd y Saxon- iaid am ei ddyfodiad, a chyda byddin fawr parotoiasant i ymladd ag ef.

LLUEST Y MYNYD D.

Advertising

- CALLINEB ANIFEILIAID.