Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

--.......--.--..--.o-,."-",.-.....,,,,-,.,'C'''-'-----''''''''…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-o-C' L'ERPWL. MULTUM IN rARVO. MAWTI y gwabaniaeLh sydd yn L'erpwl yn awr i'r peth ydoedd 100 mlyncdd yn ol. Y n nheyrnasiad Siarls yr II, yroedd Caerodor i Waterfordyn llawcr p wy si caf B w rdei sdrefi n a L' erp wl, me^ n ystyriaethau trafnidiol, gwladwriaeth- 'ol, a gwyddcegol. Y mae ffeiriau a nfarchnadoedd yn cael eu cynal yma er mor forau a'r flwyddyn 916 cy- nelir marchnad y llafur ar ddyddiau Mawrth a Gwener, er ys canrifoedd lawer, yn ol yr hen M.S.S., yn yr hen Amgneiddgell. Yn yr hen amseroedd, 10 diwrnod cyn ac ar ol pob ffair, crogid mynegfys, o faintioli llaw gwr, o flaen Neuadd y dref, er arddangosiad i'r ymwelwyr masnachol fod eu personau yn ddiberygl tra yn masnachu yn ffair L'erpwl. Yn y flwyddyn 1,112, yn nheyrnasiad Henry I, yr anrhydedd- wyd L'erpwl ar freinlen i'reiniol gyntafj ac, ar gyfrif rhagorolrwydd tymeredd a flynianc y trigolion, efe a roddes un arall i'r dref yn y flwyddyn 1,126. Yn y flwyddyn 1,338, gorchymynodd y Brenin Edward HI i'r L'erpwliaid ddarparu Hong rhyfel iddo, tra yr oedd Caerodor yn darparu 24ain, a Hull 16eg. Ond erbyn heddyw mae un o gwmnioedd agerlongawg L'erpwl yn meddu mwy o longau na Hull a Chaer- odor yn un crynswth. Y n y flwvddvn 1,361, ymweloddpla ofnadwy a'r dref, ac a ysgubodd v ran fwyafo'r trigolion i'r farn yn ddisymwth. En yma bla dychrynllyd arall yn 1,542, ae un arall yn 1,858. Gwerthid gwyddan tewion yr amser hyn am 8 ceiniog yr un, a chwrw am un geimog y chwart. Yn y flwyddyn 1,574, gwnawd deddf nad oedd gwyr gweddwon, egwyddor-weis- ion, na gwasanaethyddion i fod allan ar ol naw o'r gloch y nos, heb fod ganddynt orucbwylion neillduol i'w eyflawni. Rhai blynydcloedd yn ol, yr oedd angen helaethu yr heolydd o gwmpas Eglwys Sant Pedr, ac er dwyn y gorchwyl oddiamgylch yn foddhaol, angenrhaid ydoedd pwrcasu cyfran o'r I fynwent lle'r hunai'r meirwon. Wedi cael deddf seneddol i gyfreithlonÏr hel- aethiad, ymosododd aeloiau'r gorffor- iaeth ar ddangos eu bawl o amgylch ogylch Eglwys Sant Pedr. Dywedodd Matt. Howard, a David Street, wrthyf, i ganoedd o esgyrn dynol gael eu cludo o'r fynwent liw nos i'r Smithdown Lane Cenietry, er eu hail gladdu, a bod profion diymwad ar gof a chadw i lawer o'r gyriedyddion dclwyn canoedd o bwysi o esgyrn eu cydgreaduriaid i faelfa'r prynwr cadachau, a'u gwerthu yno am arian cwrw Creodd yrhysbysiadaeth uchod gyth- iwfl hydreiddiol yn L'erpwl ar y pryd, ac y mae yn hynod genym feddwl pa fodd y gallasai un dosbartli o ddynion ymwerthu mor eithafol i gythreulig- rwydd mor derfynol a chiaidd. Y mae ped war dosparth yn ymwneud a L'erpwl, ac y dylai'r byd gwareiddiedig gadw rhagddynt hyd y mae'n ddichonad- wy, sef y carters, y flatment, cynllwyn- wyr conglau'r heoiydd, a' chanibalydd- ion y Landing Stage, a phe gofynid i ni pa un o'r dosbeirth uchod ydyw'r un mwyaf twyUodrus, brad-lofrudd- iog, rhagrithiol, a mwyaf diymddiried, atebem yn ddiofn mai Anthropophra- gists y Landing Stage ydyw hwnw. Daw hwn atom fel blaidd yn nghroen dafad. Mae yn wen o glust i glust; dirmyga bawb a phobpeth ond "ein ty ni a dywed mai gwladgarwch a dyn- oliaeth sydd yn llywodraethu ei eg- wyddorion, tra ar yr un pryd mai arian i'w gynal ef mewn segurdod, glythineb, a pbuteindra ydyw ysgogydd dibaid ei awyddgarwch am letywyr." Y mae yn ein bryd er ys llawer dydd i ddi- noetbi cyfundraethau twyllodrus a chribddeiliog y pseudophilanthropists ar dueddau'r Mersey, a phan ddygir i'r golwg weithrcdiadau gwyr y tywyll. wch, bydd yn hawdd i'r greenhorns idd eu hadnabod pan ddeuant i'r dref, ac yna gwelir rhagor rhwng dyuwared- aeth a gogwyddiadau difrycheulyd naturiaeth. Y mae gelyniaeth marwol yn bodoli rhwng y cyfarthgwn ysglyf- aethus ar chwareufa'r ymfudwyr drwy hyny y maent yn cynhyrfu neioedd a daear er ymddial ar y naill y llall. Nid oes dim yn rhy ffiaidd ganddynt ddweyd a gwneud er pardduo a thor- fynyglu eu gilydd ac wrth gwrs, mae yr anwybodus o'u castiau dichellddrwg yn rbyfeddu at eu taerineb a'u gofal- garwcn ymddangosiadol, a thrwy hyny enilla yr oil o honynt eu hedmygwyr. Yn wir, meddaf i chwi, maent yn enill eu gwobr." Dywedodd tri bachgenyn o sir Cer- edigion wrthyf, dro yn ol, iddynt fod yn aros efo un o'r artificial benditti uchod, ac ymddangosai ynteu yn frwd- frydig iawn am eu boddhau yn mhob modd ond pan aeth y Dyfedwys allan i brynu dillad, a phethau ereill, erbyn eu taith forawl, buan y cyfnewidiodd y bandit Judasaidd ei gyweirnod o'r boddhaol i'r anfoddlonrwydd a'r ys- tyfnigrwydd mwyaf ysgymun. Beth a ddarfu iddo, tybed ? Wei, dim ond gobaith ei elw wedi darfod Yn gy- maint ag i'r ymfudwyr fagu digon o wrolfrydedd i fyned i brynu darpar- iaethau teithiawl, yn annibynol ar gwmni'r bandit ymherodrol, collodd ynteu yr usual pinmony, a phan aeth Braggadocio i hebrwng ei gwsmeriaid arwrol i'r Landing Stage, gwyddai iddo sugno cymaint a allasai o'u gwaed, am ba achos anerchodd hwynt yn Herodanllyd i'r pen, ac ar ddiwedd ei epilogue, dywedodd wrthynt am fyned i'r d 1! Dyna un adnod fechan o Dalmud oadgyrchoedd bytheirwyr y Landing Stage. Tra yn aros ai L'erpwl a'i neillduol- rwydd masnachol, ni a roddwn dipyn ychwaneg o'i hanes. Yn y flwyddyn 1871, poblogaeth y dref oedd 493,346, ond erbyn heddyw y mae yma dros bum' can' mil o drigolion yn byw a bod. Y mae'r Gorfforiaeth yn werth 3,000,000 o bunau, heblaw y cyllid dir- fawr a ddeillia iddynt oddiwrth ystad y Porthladd. Yn ystod yr 80 mly- nedd diweddaf, y mae treuliau adeiladu y porthladd wedi cyrhaedd y swm aruthrol o dri chan' miliwn o bunau! Ond nid yw'r swm anhygoel uchod ond bagatelle wrth ei gyferbynu a threuliau adeiladoedd mawrion Caerludd, yr hon ddinas a gynwysa yn agos i bum' mil- iwn o eneidiau dynol. Gwel y craffus ein bod yn dweyd yr ansoddair (dynol,' am mai yr un gair sydd yn yr Hebraeg am enaid a bywyd. Y mae yn ein bryd i ddwyn allan drama ar gynllwyn- ion y Landing Stage yn fuan, pan y chwareua cludyddion y Buggy ran fawr yn yr arddangosfa. Daw haiarn- eiddiwch y banditti bosyddol i'r dra- rnatis persorwe, ac nis arbedwngar na gelyn yn y chwareuyddiaeth. Y mae ysgythriadau gormesol a gwaedlyd am- bell I Boss dideimlad, braidd yn rhy arw i uffern i'w ddyoddef. Pwy ryfedd ynte fod meibion llafur yn ymochain daa eu triniaethau croch-daranllyd ac ysgorpionaidd! Nid yn ngwlad an- thropophagy yn unig mae cael gafael ar Negro driver. Na, y mae gan y Fungous ei generalissimo yn L'erpwl fel yn ngwlad y Pagan, ac mae'n hawdd eu hadnabod drwy en hysgrechiadau rheglyd ac awdurdodol. Y mae yn ddichonadwy i wr fod yn 'Boss' heb ymollwng i gieiddiwch drelaidd a gor- phwyllog, a chofied y giwdawd ddir- wasgol mai arddangos eu hynfydrwydd diorchudd y maent wrth ffrewyllu cnawd eu cydfforddolion, ac mai absen- oldeb barn uniawn a chymwysderau llywodraethol ydyw yr achos o'u hym- osodiadau erlidgar a Pharoaidd. Y mae Bosseiddiwch banditte porthladd L'erpwl yn waeth na ffrewyllau pryn- wyr a gwerthwyr dynion yn nghonglau budraf y Pagan, ond mae'n ffiaidd meddwl fod ambell un o'r andrasiaid uchod yn dyweyd eu bod yn Gristion- ogion! Baw swyddi y Bossyddion-yw gyru Dyngaredd yn deilchion, A lledu pob trallodion, Ar sail irau yr isel fron. Byw i suddas mae'r Bossyddion,—a gwarth Ydyw gwisg eu calon Meirch angau yn mraich ingon, Fu'n tewhau y fintai hon ATHAN FAEDD.

TWYLLO Y CYHOEDD.

CYFLOGAU GLOWYR YN BELGIUM.

EISTEDDFOD IFORAIDD ABER.…

Y DIWEDDAR ASAPH GLAN TAF.

Y DIWEDDAR MR. THOMAS DAFYDD…

[No title]

Advertising