Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

L'ERPWL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

L'ERPWL. ESGOBYDDIAETH. MAE'E byd crefyddol yn un tryblith diderfyn "yn yr oes olan hon," ac yn herwydd yr anrhefnusrwydd a nod- wedda ei fydol gyfansoddiad, nis gall ddylanwadu, mewn modd ffafriol, ar feddyliau edmygwyr y byd anghref- yddol; o herwydd y tebygolrwydd di- anrwys sydd yn y ddau fyd, yr ydym yn sicr fod yr un Esgobaethol, wedi creu, ac yn parhau i greu, mwy o anghredinwyr na fedr uffern greu fyth I Pan sefydlwyd y Gyfundraeth Batriarchaidd, fel Torath Moshe," yn enwedig y Gyfundraeth Gristionog- cl,* yr arwyddair a gariai'r llumanau dwyfol ydoedd "Duw a digon," ond erbyn heddyw, mae cnawdolrwydd a gwanc diwall am gyfoeth ac urddau foydron, wedi dileu'r argraffwaith Slli- feidrol, ac wedi ei leoli a "byd a digon!" Y mae digon o waith pigo brychau yn nghyfansoddiadau ymarferion yr Aia- Eghydffhrfwyr, ond mae eu hanghyson- derau hwy yn buan ymddifodi yn ngwyddfod Alpiau mawrion gwrthnys- igrwydd a bydoledd y Gyfundraeth Esgobaethol. Nid trwy lu na thrwy nerth, ond trwy fy ngair I, medd Ar- glwydd ylluoedd," ydynt gyswyneiriaii y rhai a ganasant yn iach i hen bridd- feini'r Aifft a chamlasau. drewedig Babilon; ond dyweda Esgobion an- j rhydeddus Eglwys Loegr yn wahanol i'r hen broflwyd, canys Disraeli, y Frenines, y milwyr a'r llyngesoedd, Prydeinig ydynt amddiffynyddion eu cyfundraeth hwy. Pan fo marw esgob, er gan Arglwydd y Trysorlys rhyw gyfaill gwl eidyddol i'w godi i fainc yr esgobion; Did yw'r Prif Weinidog bob amser yn chwilio am sderau dealldwriaethol a duwiolfrydig; ond efe a ddetbola ei wyr eglwysig yn gyffredin o fysg ei geraint a'i ganlynyddion gwladwriaethol Y mae'r dean a'r chapter yn derbyn dyfyn oddiwrth y goron idd eu hys- bysu fod hwn a hwn wedi ei ethol i lanwswydd esgob, ac y maent hwythau, ar ol derbyn y wys yn offrymu gweddi ar ran yr ordeiniedig, ac yn dymuno am i Dduw ddewis y clewisedig! Y fath eithafrwydd cableddus yw y sere- moni fudr uchod ar ol i'r Prif Weini- dog ddethoPei ddyn, mae cyfraith yr Eglwys yn gorfodi ei ddeiliaid, mewn swyddiuchel ac isel, i geisio gan Dduw, nid i gadarnhau'r dewisiad, ond i ddewis yr un a ddewiswyd yn barod! A ellir condemnio gormod ar ymddygiadau mor wrth Gristionogol ? A oes modd i gabledd a rhyfyg gyrhaeddyd pwynt mwy niweidiol a chythreulig ? Y mae yn weddus gofyn am gyfarwyddyd Duw i chwilioam oruchicyliwrjBbry&ol, ond mae y dyn a wnel ddetholiad yn annibynol ar ei W neuthurwr, am ddyn i lenwi'r swydd uchaf yn yr Eglwys, yn creu ac yn diwel ystrywiau o'r fatb mwyaf damniol ar y ddaear: dyma lysgenadwrpenaf eang ymberodraethau, y diafol; dyma ddynsawd, yn gorymbil am i Dduw gydymffurfio a'i ddreleidd- iwch cynllwyniawl ef, a hyny er mWYll boddhau ei liunanfrydedd a'i fydol- rwydd trwstaneiddiol. Ni wrendy y nefoedd ar ymbiliadau'r ynfydion hyn, ac os na ddiwygia'r Eglwys ei chyn- lluniau yn ftian, fe ddaw corwyntoedd barnedigaeik Duw i'w llwyr ysgubo oddiar wyneb y ddaear. Nid yn unig etholir dynion anghymwys i lenwi'r swyddogaethau uchelaf yn yr Eglwys Wladwriaethol, ond y maent yn ymor- foleddu yn eu codiadau gweniaethus, ac yn defnyddio eu dylanwadau gwlad- wriaetho1 ac Eglwysig er mwyn bodd hau yr adran gyfundraethol a anwylir gan y gwr a'u cododd o'r llwch" a'u gosod yn ngbanol pob digonolrwydd. Mewn un peth yn unig y gwahaniaeth- a'r Perladon ysbrydol oddiwrth yr urdd bendefigaidd, seflyu eugwisgoedd, ond am foethusrwydd, glythineb, ehwareu- yddiaethau, a musgrellni enwadol, y maent yn dwyn gwir ddelwau hystyng- wyr beilchion yr urdd aristocrataidd yn Mhrydain Eawr. Y mae'r symiau mawrion a delir i'r esgobion yn bechadurus o annuwiol, pan gofiom am dylodi a phrinder cyf- logau ambell beriglor, rheithor, ac offeiriad, yn ein cymydau anmhoblog- aidd; mae'r anghyfartalwch arianol mor fawr yn nglyn a'r gyfundraeth hon, nes creu yr anhheimladrwydd a'r elyniaetb fwyafanghymodlawn rhwng y ddau ddosbartb ac nid yw yn un rhyfedd fod cyfeillion dadwaddoliad a dadgorfforiad yr Eglwys oddiwrth y Wladwriaeth yn ysgwyd eu clefyddan Ilym dau finiog uwch ben ei chyfan- soddiad. Mae'r Daflen Offeiriadol" am 1876, yn fwrn ac yn gabledd ar yr Eglwys Wladwriaethol, ond mae bydol- rwydd a thruenusrwydd ysbrydol y rhengoedd Eglwysig mor amlwg fel nas gall y Spiritual Lords amgyffred eu sefyllfaoedd anfrawdol a phechadur- us. Yr ydym yn wir foddlonH bob gwasanaethwr ysbrydol i dderbyn digon o dda'r byd hwn idd ei gynal yn anrhydeddus, ond yr ydym yn marwol gashau y gwyr a ysglyfaetbant frasdei a. Hufen y wlad, a gwario arian ar wagedd, tra tnae miloedd o'u cyd- greaduriaid yn byw mewn angen bara! Peidied y gwyr cnawdol uchad a dweyd wrthym eu bod yn ganlynyddion i Iesu o Nazareth, canys nyni a wyddom fod ei egwyddorion ef yn gwbl wrthgyfer- byniol idd eu cyflawniadau llwynogaidd hwy. Y maent, fely. Pabyddion, y Mahometaniaid, neu y Brahiminaid, yn honi rhyw fath o anffaeledigrwydd addoliadol, a dirmygant bawb a phob peth a ddygwyddo fod yn groes idd eu hopiniynau unochrog hwy. Nid enill y byd yn Gristionogion yw eu pwnc, ond enill pawb i dalu treth i awdnrdodaeth yr Eglwys Wladwriaethol, ac yn hyn o uffernwaith mae ganddynt eu hefelych- wyr yn mysg yr hollenwadan drwy y byd! Y mae Ardalydd Lorne a'i wraig an- rhydeddus wedi gwneud llawer'er xnwyn ychwanegu taliadau y dosbarth tylawd yn y rhan bregethwrol o'r Eglwys, ond nid oes gobaith y llwyddant i wneud llawer o ddaioni parhaol yn y cyfeiriad hwnw, gan fod yr arglwdddi ysbrydol yn derbyn y symiau gwarftras a ganlyn: -13angor, £ "4,200; Bath a Wells, £5,000: Archesgobaeth Canterbury, £15,000 Carlisle, £4,500; Caerlleon, £4,500; Chichester, £ 4,200; Durham, £ 8,000; Ely. £ 5,500; Exeter, £ 5,000; Caerloew a Chaerodor, £ 5,000; Henffordd, £ 4,200; Lichfield, 24,500; Licoln, £ 5,000; Llan- daf, £ 4,200; Llundain, £ 10,000; Man- ceinion, £4,200; Rhydychain, £5,000; Norwich, £ 4,500; Peterboroug, £ 4,500; Eipon, £ 4,500; Rochester, £ 5,000; Sal-, isbury, £ 5,000; Sodor a Man, £ 2.400; St. Asaph, £ 4,200; Tyddewi', £ 4,5TO f Wihchester, £7,000; Worcester, 385,000; Archesgobaeth Caerefrog, £ 10,0b0. '1 o Yma.e't' cynogau anhygoel uehod yn cyrjhaedd y swm mawr o £ 154,600 Y mae'r swm dirfawr yncael ei ranu rhwng wyth ar ugain o .esgobion, cofiweh! Y gofyniad yw, a,ydywlrtadau ysbrydol yn deilwng o'u cyflogau ? Wei, nac ydynt fawr. Pe meddent ar gynifer o lygaid a'r hen Argus, neu gynifer o freichiau a Briameus, tra nad oes gan- ddynt ond un meddwl, nis gallant ddyfod o fewn can' cyfudd i ofynion eu cyflogau mawrion os yw eu brodyr mewn iselaeh swyddi i'w beirniadu ar yr Un egwyddor ag y bernir hwy. Nid oes ond dwy esgobaeth wedi cael eu creu yn ein gwlad ni er ys 300 o flynyddau, a gobeithio yr atelia cywilydd —heb son am Gristionogaeth-yr Jar- glwyddi ysbrydol EVu cefnogwyr, rhag creu ychwaneg &'r llechloriau ffug- santetddiol hyn. Dywedodd Dr. Angus, Llundain, dro yn ol ,yn Accrington, idd- ynt hwy, arolj-gwyr y c-yfieithiadau awdurdodedig o'r ddau Destarrfent, gael trafferth fawr i gael gair Saegoneg bodd- haol am bishop. Paham hyny ? Oni wyddai Dr. Angus a'r 116ill- o'i gyd- ysgolheigion beth ydyw "ineddwl y Groegair basdarddol uchodP-'O, gwydd- ent, yn d^iau, ond ni fynai'r esgobion dderbyn y cyfleithiad llythyrenol, sef Archwi vr." Y mae rhywbeth urdd- asol a do hafedig yn y gair bishop, ond y m •; archwiliwr yn rhy ddof a phlentynaidd i gael ei gysylltuabodau morana-rferol o fawr! Pan sefydlwyd egwyddorioa pur Cristionogaeth, arfer- wyd symlrwydd mewn swyddi a pher- sonau, a gwnaed hyny yn anymddi- bynolar fam dysgedigion a doethineb y byd. Nid oedd Pedr am ddarnguddio meddwl gwreiddiol y gair Petros," na loan am gelu iawn ofeg Isannen Apos- tolon:" tanent Rwy bobpethallanynei. ffurf wreiddiol, er y gwyddent nad oedd eu pethau yn dygymod a thueddfrydau y byd; ond dyma Esgob Bath a Wells yn gomedd caelei alw yn archwiliwr," am mai overseer ydyw hyny yn ei lyw- odraeth ef, a gwaith hwnw ydyw edrych ar ol y trethi a'r tylodion. Y mae'r es- gobion wedi ymfoddloni i gyfnewid Mawr yw dirgelwch duwioldeb, Duw a ymddangosodd yn y cnawd," am Mawr yw dirgelwch duwioldeb, yr hwn a ym- ddangosodd yn y cnawd;" ond nis boddlonant roddi cyfleithiad llythyr- enol o'r gair bishop, rhag tramgwyddo'r werin anwybodus. Mae eu hymddygiad yn hyn o fonglerwch a chyndynrwydd, yn ddirmygedig o ffiaidd. Mae yn an- mhosibl eyfarfod a gweithred yn dangos mwy o anonestrwydd ac o hunanfrydedd llywodraethol. Ha wyr Israeliaid, pa hyd yr ymorfoleddweh yn ngweithred- oedd y tywyllwch ? Paham y darn- guddiweh y gwirionedd er boddhau'r byd ? Pregethwch yr efengyl yn ei phurdeb cysefin, ac yna deuwn i gredu fpd rhywbeth heblaw budrelw yn eich cymell i'ch swyddi. ATHAU FARDD.

LLYTHYR CARDI.

MOUNTAIN ASH.

AT MR. AP HERBERT.

CWMTWRCH A'I HELYNTION.

AT HOLL DRIGOLION LLAN,SAMLET.

CYFARFOD LLANCAIACH.

Advertising

EISTEDDFOD YITYPIA ETO. .4