Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

KARL Y LLEW; NET MARCHOG Y…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

KARL Y LLEW; NET MARCHOG Y LLAW GOCH. PENOD VII. ,PEOFGDD Karl fod Hector yn geffyl ardderchog. Dilynai ar y llwybr drwy yr holl amser heb fod ein harwr yn gym dim arno. O'r diwedd arosodd y baedd, a throdd tuag atynt. Arosodd Hector hefyd, a gollyngodd Karl y fwyell. Cwympodd y baedd a'i ben wedi hollti. Disgynodd Karl, a rhy- feddai at faintioli ei ysbail. Ni welodd un fwy erioed. Cyn hir trodd ein harwr ei feddwl at bethau ereill. Yr oedd y fan He y safai yn dywyll ac yn ddigon unig ar y goreu, ond pan edrychodd i fyny, gwel- odd ei bod yn tyvvyihi. Yr oedd yr haul weal myned mor bell fel nas gallai ddywedyd yn mha gyfeiriad yr oedd wedi machludo. Rbaid iddo adael ei ysbail yn y fan lie yr oedd, a dychwelyd ato yn y boreu a rhai o'i filwyr gydag ef, a chymeryd y rhanau gorea o hono yrnaith. Wedi iddo wneud ei fedcwl i fyny, neidiodd i'r cyfrwy, a throdd i ddychwelyd yn yr nn ffordd ag y daith. Yr oedd yn ddigon hawdd troi yn ol, a gallodd ddilyn y llwybr yn rhwydd am beth amser. Yn mhen tipyn aros- odd Hector—arosodd am fod craig sytb o'i fiiten. Gwelodd Karl beth oedd yn bod. Yr oedd wedi colli y ffordd. Credai y gallai gael gafael ynddi yn rhwydd, ond yr oedd un peth arall yn eu rhwvstro. Yr oedd wedi myned yn dywyU iawn. Earyenodd am y ser, ond yr oeddynt wedi eu cuddio gan gymylau, neu wedi eu can allan gan y goedwig. Pa beth a wnelai ? Pender fynodd aros yn y fan lie yr oedd dros y nos. Yn ffodus, yr oedd fiynon: yn tarddu gerllaw, lie yr oedd < xhagorol j'w gael, ac wedi iddo ei a'i '71 geftyi vied, parotodd ei him i orphwys. Gorweddodd Karl a'i ben ar wddf Hector. Kid yw dyn icuane yr hwn sydd yn iach yn hir iawn cyn syrtbio i gysgu pan yn lluddedig, os bydd y meddwl yn dawel; ond nid oedd Karl yn gofidio dim hyd yn hyn, Gwyddai y cawsai afael yn y llwybr yn y boreu. üysgodd ein harwr yn drwm, ac ni ddaeth dim i'w aflonyddu hyd nes y cafodd freuddwyd rhyfedd. Breudd- wydiai ei fod wedi rnyned i goili mewn coed wig dywell, ac wrth geisio gwneud ei ffordd allan, dyrysai yn fwy fwy o hyd. Tra yn myfyrio ar ei sefyllfa, tywynodd cylch o oleuni clir o'i ilaeu, allan o ba un y daeth merch ieuanc wedi ei gwisgo ag amwisg o arian, gyda gwyneb mor brydferth. na welodd ein harwr ei debyg erioed. Yr oedd golwg angylaidd ami. Nis galiai Karl feddwl am ddim i'w gyferbynu a hi. Gwenodd y ferch ieuanc, ac mewn llais o'r fath bereiddiaf, ceisiodd ganddo godi a'i dilyn hi. Yna, wrth y goleuni o'r cylch, gwelodd lwybr agored o'i hoi. Neidiodd ar ei draed, a dihunodd. Rhwbiodd ei lygaid, ac edrychodd o'i amgylch. Yr oedd yn ddvdd, a gwrfch- ddrych ei freuddwyd wedi diflanu. Gwelodd fod craig uchel o'i flaen, yn cael ei gorchuddio gan goedydd mawr- ion. Safai ei geffyl wrth ei ochr. Dygwyddodd fad ganddo fara a chig mewn cwd bychan oedd yn hongijfn wrth y cyfrwy, ac wedi iddo fwyta, marchogodd ei anifail a dechreuodd ar ei ffordd. Yn mhen tipyn, pan gafodd Tg beth yn debyg i lwybr, gahvodd yn ntmel ar ei gyfeillion. Ond ni chafodd ateb. Yn mhen tuag awr, daeth i le agored yn y fforest, a gwelodd fod yr haul yn uchel yn y ffurfafen. Ond beth oedd yn bod ? A oedd y bydysawd wedi dyrysn yn ystod y nos, a'r haul yn codi yn y gorlievvin yn He yn y dwyrain ? Nis gallai hyny, fod. Beth ynte ? Rhaid ei ef yn myned yn y cyfeiriad chwith. Credai ei fod, ac yr oedd yn parotoi i droi yn ei ol, pryd y dychrynwyd ef gan lef yn y pellder— lief o ing-ac yn sicr Mais menyw ydoedd.

PENOD VIII.

[No title]

LLUEST Y MYNYD D.

1 EISTEDDFOD LLWYNYPIA

----._----+._--YMFUDIAETH.