Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

YR ARCH-DDERWYDD A'l YS-GRlFAU…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR ARCH-DDERWYDD A'l YS- GRlFAU YN Y." GWLADGARNVR." PWY yw yr ar ch-gy f eil i ornwr hwn sydd yn tywyllu cyngor ag ymadroddion twyllodrusP yr hwn a fynai gablu apostol- ion y Goruchaf, a gosod lesu Grist yn watwar ? Pwy yw hwn a fynai i'r byd gredu ei gabldraeth ef yn He geiriau awdurdodol Duw ? Pa le mae y Duw a ddadgnddiodd i'r arch-dderwydd y fath dryblith dienaid? A oedd yr arch- dderwydd a'i dduw mewn cyngrair pan osodai Duw'r Nefoedd fryniau Ponty- prydd ar eu sodion: a phan greodd efe y maen chwyf ? Onid oedd y Bont-gam. wedi ei gosod ar ei gwadnau, a dyfroedd y Taf yn ymarllwys tua'r eigion o dan ei bwa ardderchog cyn agoryd o hono ef ei lygaid ? Ond pa les ydyw holi y Derwydd am ei ddaw a-fagddu; pa fwyaf y mae yn ddweyd am dano, mwy a-fagdduol mae yn myned bob tro. leuenctyd Morgan- wg, ymogelwch rhag athrawiaeth bar- dduol gau-broffwyd crefydd y cerig- athrawiaeth yn ol dictatorship y tywysog a-fagdduol, a chyhoeddedig oddiar or- sedd gaddugawl, cyfansoddedig o dy- wyllwch paganeiddicl cyd-grynhoedig pob oes a gwlad. Os yw yr arch-dder- wydd yn dewis chwilio a chyhoeddi dych'mygion paganaidd v cynoesau, ac os ynyw cael ynddynt rai pethau yn ffugio crefydd y Beibl, bydded felly: ond y mae ceisio profi drwy hyny fod iclea fawr yr efengyl wedi ei benthyca oddiwrth y cyfryw chwedlau, a thrwy hyny osod yr efengyl ei hun yn chwedl wag, y mae hyn yn gabledd yn erbyn yr Ysbryd Glan. Y mae ymgais y Derwydd i ddangos hynafiaeth crefydd y meini, at y cyfnod y mae y Beibl yn rhoddi hanes am dano, ac mai ilygriad o grefydd bur y meini," yw y grefydd luddewig yn un o'r darnau mwyaf her-feiddiol ac ynfyd a ddarllenais erioed. Gwyr pob dyn meddylgar, sydd wedi darllen hanes y crefyddau paganaidd, fod ynddynt lawer o bethau yn efelychu crefydd y Beibl. Ond beth mae hyny yn ei brofi ? fel y mae adlewyrchiad y lleuad a'r ser ar y ddaear, yn brawf o fodolaeth yr haul yn y ffurfafen, felly y mae llawer llinell yn nghrefydd y pagan, yn brawf diymwad o dywyniad nerthol haul dad- guddiad dwyfol, yn ffurfafen bore'r byd. Jihoddodd Dirw daadguddiad llawer hel- aethach o hono ei hun i'r byd ar y dechreu, nag y tybia rhai. Syniad anghywir am y byd yw ei fod wedi cynyddu yn raddol mewn gwybodaeth, yn ol system; Darwin o ymluniad corffor- ol, o Adda hyd yn bresenol. Dywedir llawer am ddoethineb y Groegiaid, a dysgeidiaeth Athen; ond priodol iawn y dywedai un dysgawdwr—"Aristotle was but a rubbish of an Adam; and Athens the verdimenbs of Paradise." Nid yaym i edrych ar y creadur ardder- chog Drif, yr hwn a addurnwyd yn ei greadigaeth a delw Duw, yn foesol a deallol (moral and intellectual), ei fod, er iddo bechu, wedi disgyn ar unwaith mor isel fel y gellir edrych ar Adda a'r cynddiluwiaid, fel rhyw lebanod anwy. bodus. Yr oeddynt yn berchen cyrff, abl i ddal allan bron mil o flynyddoedd; ac mae y crybwyllion yn Genesis, er yn fyr, eu bod mor fore a theulu Cain, yn enwog mewn amryw gelfyddydau, yn brawf eu bod hefyd yn berchen meddyl- iau cyfartal. Os oeddynt yn berchen meddwl teilwng i dderbyn argraii gan ysbryd Duw yn y celfyddydau, onid yw yn rhesymol credu, ac onid oes profion hefyd wrth law, bod yr Arglwydd wedi dysgu yr hen fyd drwy Adda, Enoch, a Noah, am drefn cadw dyn, a dyfodiad 11 had y ivraig, i ysigo pen y sarff." Oni ddywedir am Grist, fr hwn yr oedd ei fynediad ef allan o'r dechreuad, er dydd- iau tragywyddoldeb;" ac onid yw y Derwydd wedi profi y pwnc yn ei erbyn ei hun, drwy ddyfynu y geiriau o'r Dad- guddiad, "yr Oen yr hwn a laddwyd er dechreuad y byd." Yr oedd wedi ei ladd yn nghyfrif Duw cyn bod am ser; a pharodd y cyhoeddiad i'r hen fyd o'i ddyfodiad, fod yr adsain yn disgyn y iy yma i'r diluw,gan wasgar gyda phenau teuluoedd y ddaear o Sinar. Rhaid i bawb addef fod pen teuluoedd y ddaear yn ymadael o Sinah, er yn llygredig, yn y cymeriad o fod yn addoiwyr y gwir Dduw, a'r addoliad hwnw, yn ol y dull patriarchaidd,yn cynwys aberthu. Rhaid gan hyny eu bodyn cario i lawr gyda hwy i ganol yr oesau, idea fawr yr efengyl am ddyfodiad Duw yn y cnawd. Pe cymerem ein safle ar ben twr Babel, ac edrych i lawr oddiyno ar dynged cenedl- oedd hyd ddydd Crist, cawn weled ar un Haw, yr Arglwydd yn cyfyngu ei ym- weliadau neillduol, am ganrifoedd, i un teulu, ac wedi hyny am tua dwy fil o flynyddoedd i un genedl. Ie, y mae yn galw cenedl i fod er mwyn preswylio yn en mysg, a darpar y gwersi angenrheid- iol i'r byd cyn dyfod. y Messiah. Ar y llaw arall, yr ydym yn gweled y cenhedl. oedd yn disgyn yn raddol i ganol tywyll- wch ac ofergoeledd; ac er fod llawer yn eu plith, megys Job, Melchisedec, ac ereill, yn wir addolwyr y Tad am gan- rifoedd, eto priodol yr ymadrodd gan Esaiah, "Tywyllwch a orchuddia y ddaear, a'r faigddu y bobloedd." Mae tynged trigolion y ddaear yn debyg i'r adar ar yr ynys. Un bore teg ar ynys yn nghanol un o afonydd mawrion y ddaear, pan oedd yr adar yn ymbyncio ar gangau y coed, ac yn ymgystadlu mewn dedwyddwch, wele darth yn ym- dayrchafu o'r afon, gan orchuddio yr ynys er dychryn i'r holl ednogiaid. Wedi eu brawychu a'r fath drychineb, hwy a alwasant gynghor o'r holl adar, er cael allan beth oedd yr achos. Taerai rhai fod yr haul wedi marw, ac na chaent fwynhau ei fendithion byth mwy. Dy- wedai y Dallhuan nad oedd yr un rhin- wedd yn perthyn i'r haul-y gallai hi fyw hebddo, ond y carat weled y lleuad yn codi. Yr Eryr a gynghorai fod yn rhaid iddynt wrth wres yr haul, ac mai ar y lie yr oeddynt yn aros yr oedd y bai. Ar hyn dyma yr Eryr, yn nghyd^a lluaws o'r adar mwyaf synwyrol, yn cychwyn ar eu hadenydd; a buan yr oeddynt wedi esgyn drwy y niwl tew a chael eu hunain yn mwynhau gwres ad- fywiol yr haul. Wedi disgyn o honynt ar gopa craig uchel, a llongyfarch eu gilydd am eu llwyddiant; dechreuasant ystyriedj tynged yr ynys, a chynllunio pa fodd y gwaredent yr adar oedd ar ol. Gan fod yr Eryr y mwyaf nerthol o hon- ynt, a'u bod eisioes wedi cael prawf o'i ddoethineb, eianog a wnaethant i esgyn mor agos ag y medrai i'r haul, er deisyfi arno wasgar y niwl oddiar yr ynys. Pan oedd yr Eryr ond prin wedi cychwyn, er mawr lawenydd yr adar, wele y niwl yn cilio; a hwythai a ddisgynasant ar frys, er uno a'u cyn-gymdeithion mewn cyd- gan o fawl i frenin y dydd am ei ddaioni tuag atynt. Gyda bod yr adar yn parotai ar gyfer y cyngherdd, dyma yr Eryr yn dychwelyd o'i esgynfa uchel; hwythau yn llawen o'i weled a'i dewisasant yn conductor y gerddorfa. Ond gyda bod yr adar yn cadarnhau y cynygiad drwy Jiapio eu hadenydd, clywent swn dyeithr- ol o wawdiaetb, megys un yn gwaeddu- hiv-hiv hw liw-lno. Ar hyn dyma yr holl gerddorfa a'r Solo Singers—Mr. Black- bird, Mrs. Thrush, a Mrs. Nightingale yn troi i edrych beth oedd yn bod, pryd mewn atebiad i'r conductor, Robin Goch oddiar bincyn gerllaw add ived,ti'n ddi- t, y grifol-Syr, pob peth yn dda, dim ond Mrs. Dallhuan yn canu Sol-fa" 1nodd Goodyhoo." Parodd hyn gymaint chwerth- yn nes bu galed ar yr adar allu canu am y diwrnod hwnw. Yr oedd yn amlwg erbyn hyn fod MT 's. Dallhuan wedi ym- ddigio, nid yn unig wrth ei chyd ednog- iaid, ond wrth yr huan ei bun, fel na fynai gymaint ag edrych arno; ac o'r pryd hwnw allan, cauai ei llygaid neu ymgnddiai mewn ceubren y dydd, ond deuai allan y nos i wneud lleisiau gres- ynus. Mae yr uchod nid yn unig yn ddangoseg o ddynolryw yn gyffredinol, ond hefyd yn ardebiad tarawia.dol o ryw ddallhuanod o bechaduriaid, y rhai sydd wedi ffromi wrth eu cydlafurwyr,ac wedi pechu yn erbyn goleuni fel nas medrant edrych ar Grist a'r efengyl. (I'w barhau.) DISGYBL.

--__----LLYTHYR 0 BATAGONIA.

--------_._----CYMDEITHAS…

. MASNACII GLO A HAIARN.

' D EALL YN NGHYLOH ILEDR.'

LLYWYDDION NEWYDDION I LOFEYDD.

[No title]