Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DARGANFYDDIAD RHYFEDD Gwellhad rhag y Dropsy, y Dwfr, Gwynt, a Gravel, &c., &c. MA-W, R yw y dyoddef oddiwrth y clefydau peryglus hyn, a mawr yw y siomiant sydd yn feunyddiol oddiwrth gyffyrau meddygol; ond yn awr, trwy y dargan- fyddiad. rhagluniaethol hwn, fe ellir cael gwellhad uniongyrchiol oddiwrth Boen yn y Cefn, Diffyg Dwfr, Chwydd yn y Cluniau, yn yr Ymysgaroedd, yn y Traed, &c., &c., Diffyg Anadl, Gwynt yn y Cylla a'r Perfedd, Curiad y Galon, Gwendid, Gravel, &c., &c., (yr hyn oil sydd arwyddion o'r Dropsy,) trwy gy- meryd Hughes' Patent Dropsy Pills," un blwch a brawf eu rhyfedd effeithiol- deb. Gellir eu cael trwy unrhyw fEeryllydd yn y Deyrnas am Is. I-lc., 2s. 9c., a 4s. 6c. JACOB HUGHES, Apothecaries' Hall, Llanelly. Wholesale:—London: Messrs. Hear- on, Squire, and Francis, Barclay & Sons, Sutton. Bristol: Pearces & Co. These Pills are Registered at Station- ers' Hall, London. Any infringement will be prosecuted. Un neu ddau all an o lawer o dystiol- aethau yn fy meddiant sydd fel y canlyn (A Copy.) Yr wyf yn dra diolchgar i chwi am eich meddyginiaeth effeithiol o'r enw I Hughes' Patent Dropsy Pills.' Y maent wedi fy llwyr iachau 'o'r Diffyg Anadl, Poen yn y CefR, Diffyg Dwfr, Chwydd yn y Cluniau a'r Traed, ac yr wyf yn gobeithio y caiff pawb wybod am danynt fel y gallont gael iachad.—D. DAVIES, Llanelli, Tachwedd 10, 1875. (A Copy.) Trwy gymeryd eich moddion effeith- iol chwi, cefais fy iachau o'r Dropsy, chwydd mawr dros yr holl gorff, Diffyg Dwfr, Peswch, a diffyg mawr ar yr Anadl, a churiad y Galon. Yr oeddwn yn bur annhebygol o wella, er cymeryd Ilawer o foddion, eto dim daioni. Yn fuan wedi cymeryd eich moddion rha- gorol chwi at Dropsy y Gwynt a'r Gravel, cefais ryddhad. Gwnewch y defnydd a fynoch 0 hwn. Yr eiddoch,— R. THOMAS, Llandybie." AERATED WATER WORKS, Clifton Street, Aberdare. WILLIAM DAVIES, MANUFACTURER of Ginger Beer, Lemon- ade Soda Water, Champagne Cider, Shrub, Peppermint, &c. All orders promptly attended to. MORRIS MORRIST 64, BUTE STREET, ABERDARE, ADDYMUN*A hysbysu y cyhoedd ei fod yn ymgymeryd a thynu Plans anedd-dai, yn nghyd a phob math o Adeiladau a Chyfriewidiadau angenrheidiol ell pasio gan Fyrddau I echyd. M. M. a hydera, gan y bydd iddo iddi y sylw buanaf i archebion o'r fath, ac na bydd iddo ofyn crogbris am ei waith, gael rhan o gefnog- aeth y cyhoedd yn y cyfeiriad hwn. [13 THOMAS DAVIES, Llyfr-rwymwr, Llyfr-werthwr, &c., Pentre- Ystrad, WRTH ddiolch i'w gyfeillion a'i gefnog- wyr lluosog am eu cefnogaetla yn y blynyddoedd a aethant heibio, a ddy- ■ muna hysbysu fod ei stock llyfrau, pabyr at bapyro tai, darluniau, &c., yn helaethach a rhatach yn awr nag y bu- ont erioed, a'i fod hefyd mewn ffordd bellach i wasanaethu y cyhoedd mewn pob peth ag y masnacha ynddynt ar delerau mor fanteisiol a neb yn y De- heudir. THOMAS DAVIES, PENTRE- YSTRAD. UNDEB CENEDLAETHOL Y MWNWYR. DYMUNIR ar bawb sydd wedi dechreu talu. i Gyfrinfa Rhif 11, Cross Inn, Tre- cynon, i bresenoli eu hunain yn ystafell y gyfrinfa, nos Sadwrn, Chwefror 5ed, er ymdrin a mater neillduol. Wrth orchymyn,—D. MORGAN, Ysg. MOUNTAIN ASH-PRIZE DRAWING. CTMEKODD "Prize Drawing" George Hodges le Ionawr 24, 1876, yn yr Harp z;1 Inn," Mountainash, a chafwyd y ffigyrau canlynol yn enillwyr:— 270 267 236 453 Bydded i'r cyfeillion sydd yn feddianol a'r ffigyrau uchod i anfon am eu gwobr- wyon i'r Harp Inn," Mountain Ash. BWRDD Y GOLYGYDD. Helynt Meddygon Mountain Ash. Er wedi cysodi llythyr Ashian, gorfu i ni ei roddi o'r neilldu o ddiffyg gofod hyd ein nesaf. Eisteddfod Llwynypia. Daeth llith Sylwedydd i law, ond nid oedd enw priodol gydag ef, yr hyn y mae ein rheolau yn gofyn. Gohebiaeth L'erpwl yn rhy ddiwedd- ar am yr wythnos hon hefyd eiddo Hen Goedwr, Ab Giedd, Pwy yw, Eos Wyn, &e. Pob gohebiaethau ac ysgrifau i'r DARIAN i'w cyfeirio Editor of TAIIIAN Y GWEITHIWR, Aberdare. Pob archebion a thaliadau i'w hanfon i Mills, Lynch, a Davies, Tarian y Gweithiwr" Office, Aberdare.
Mil, BRIGHT YN BIRMINGHAM.
Mil, BRIGHT YN BIRMINGHAM. Y MAE Mr. John Bright wedi bod yn areithio yn nghlywedigaeth ei etholwyr nos Sadwrn, Ionawr 22. Y mae yn hysbys i boliticiaid fod yr holl wlad wedi bod yn dysgwyl am ddadguddiad o bwys gwladwriaethol mewn cysylltiad ag egwyddorion, cynlluniau, ac amcan- ion Ryddfrydol oddiwrth Mr. Bright yn ei araeth yn Birmingham. Yr oedd llawer pwnc o flaen y wlad yn mha un yr oedd Toriaid a Rhydd- frydwyr yn cymeryd safleoedd gwrth- wynebol i'w gilydd. Yr oedd pwnc addysg y wlad mewn sefyUfa na wyddid yn iawn beth a fyddai nesaf. Yr oedd cefnogwyr addysg enwadol, y rhai oeddynt wedi brasau, a myned yn ym- hongar iawn, ar draul arian y cyllid, wedi dechreu troi ffrwd y trethi plwyfol trwy awdurdod byrddan ysgol, i yru olwynion enwadaeth yn mlaen i ateb eu pwrpas hwy. Yr oedd hyn wedi dechreu gweithio gydag haerllugrwydd a phenderfyniad a Chynghor Addysg y llywodraeth yn ei gefnogi. Yr oedd esgynlawr at hyn wedi cael ei osod i fyny gan y Weinyddiaeth Ryddfrydig. Rhoddodd y weinyddiaeth hono gyfle, yn mesur addysg 1870, i bleidwyr addysg enwadol, ar draul arian y wlad, i wthio eu hegwyddorion i fyrddau ysgol, ac i wneud y byrddau hyn yn wasanaethgar i'w hamcanion. Gosod- odd yr holl beiriant o sefydlu y byrdd- au hyn yn llaw swyddogion Toriaidd, mewn llawer ardal, yn wir yn y rhan fwyaf o ardaloedd gwledig. Ac o'r braidd v gall Ymneillduwyr gael mwyaf rif ar fyrddau lie y cyfrifant naw o bob deg o'r- boblogaeth, a hyny oblegyd ffurf y peiriant a wnawd gan Mr. Forster a Mr. Gladstone. Pan y gwnaethant ef, diystyrasant gydwybod- au Ymneillduwyr gyda llawer o ddir- myg. Gwelodd Ymneillduwyr trwy y deyrnas eu bod yn barod i'w rhoddi i ymladd goreu y gallent, o dan anfan- teision, a Thoriaid ac Eglwyswyr, yn mhob plwyf: Mewn llawer tref fel L'erpwl, Manchester, a-Llnndain ymae y Toriaid yn y byrddau ysgol wedi llwyddo i waddoli crefyddau ag arian y dretb blwyfol, mor belled ag y mae y crefyddau hyn yn cael eu dysgu mewn ysgolion dyddiol. Yn lie bod yr Ym- neillduwyr yn cael cymhorth y Wein- yddiaeth Ryddfrydig i rwystro y llyw- odraeth i ymyraeth a chydwybodau y deiliaid mewn materion crefyddol, ac i ryddhau yr Eglwys oddiwrth y wladwr- iaeth yn ol yr egwyddor hon, y mae y weinyddiaeth hono wedi gosod peiriant i fyny, yr hwn a ddefnyddir i ymyraeth a chydwybodau mewn ffurf newydd. Y mae yn wir fod Ymneillduwyr trwy ymdrechion wedi gwneud llawer, mewn llawer man, i rwystro y diluw gormesol. ar gydwybod. Ond a chymeryd y wlad yn gyffredinol, y mae yr ormes yn myned yn mlaen mor ddigywilydd a phe bae y byrddau yn gyfryngau gweithrediadau perthynol i'r Eglwys Sefydledig. Y mae dystawrwydd Mr. Rrigbt ar y mater pwysig hwn yn profi yn eglur ei fod ef wedi gorphen ei waith., a bod yn rhaid i ryw un arall o'i fath ef gyfodi i wneud gwaith Rhyddfrydol yr amser presenol. Y mae y pwnc uchod yn fwy pwysig tn hwnt i fesur na phwnc yr yd, yn mha nn y gwnaeth Mr. Bright a Mr. Cobden waith cawr- aidd nad anghofir mo hono byth. Ond y mae mater gormes ar gydwybodau, y rhai a berthynant i Dduw yn unig- mewn addysg grefyddol, yn cynwys holl bwysigrwydd gwerth enaid dyn am dragywyddoldeb, mewn cydmariaeth i ba un Did yw holl yd y byd ddim ond gwegi. Eglur yw nad yw Mr. Bright wedi arfer ei feddwl i edrych i mewn i hawliau cydwybod grefyddol yn eu pwysigrwydd anghydmarol. 0 gan- lyniad, nis gall gydymdeimlo" ag achwyniadau dyfnion Ymneillduwyr yn erbyn y fiiirf ffafriol i Eglwyswyr, yn mba un y rhoddodd Mr. Forster J gyfraith addysg. Diau fod Ymneillduwyr wedi llwyddo mewn llawer plwyf i rwystro yr Eglwys- wyr i gael eu ffordd eu hunain yn mhob peth. Ond lie y mae hyny wedi bod, mewn llawer etigraifft, y mae yr Ymneillduwyr wedi mabwysiadu eg- wyaaor yr iiigiwyswyr, trwy roaai rnan o'r addysg yir grefyddol ar gem y dreth blwyfol. Nid yw fod Ymneillduwyr yn gwneud gwaith Eglwyswyr yn y mater hwn ddim yn troi gormes yn rhyddid. Gormes yw gormes er iddo gael ei wneud gan fwrdd o Ymneilldu- wyr proffesedig, y rhai mewn gVi eith- red a wad ant eu hegwyddorion proffes- edig, y rhai a gynwysant y gwirionedd mai Crist yn unig yw brenin cyd- wybodau dynion mewn pethau crefydd- ol. Ni chyffyrddodd Mr. Bright chwaith a'r pwnc mawr cynhyrfus sydd yn ngenau pawb, sef dadgysylltiad yr Eglwys oddiwrth y wladwriaeth. I borthladd y pwnc hwn. y mae y Ritual- iaid a'r blaid Efengylaidd yn yr Eglwys yn tystio yr hwyliant eu llongau, os ua chaniata yr awdurdodau gwladwriaethol iddynt hwy gael eu ffordd eu hunain. Ac y mae yn eithaf eglur na bydd iddynt ei chael. I'r porthladd hwn y mae Hong Ymneillduaeth yn hwylio er ys blynjddau. Ond nid yw Mr. Bright yn dueddol at fyned i'r frwydr ar y mater pwysig hwn. Gorphwysed ynte oddiwrth., ei lafur mawr, a dy- weded fel Arglwydd Russell, Rest and be thankful." Cyfyd rhyw gawr i wneud y gwaith pan y bydd eisieu ei wneud,, a'r amser at hyny wedi dyfod. Hyd hyny nid oes dim yn fwy priodol i Ymneillduwyr, a phawb sydd am gadw tiriogaeth cydwybod mewn petlrm cref- yddol i'w berchenog, sef Daw, na dysgu y wlad yn mhwysigrwydd dadgysylltu pob gullu cyfreithiau dynol oddiwrth ddyledswyddau crefydd, credoau, ac addoliad. Nid oes dim crefydd yn y byd ond mor belled ag y mae ewyllys y dyn yn ymgymeryd a'i dyledswyddau hi. Yr ewyllys, y galon, y mae Duw yn ei geisio. Ac nis gall un gyfraith ddynol greu calon grefyddol. Gall osod ffurfiau allanol i fyny. Ond, heb y galon, rhagrith, nid crefydd, fydd y rhai hyny. Ac nid oes neb ond y rhai sydd yn deall hanfod crefydd yn y galon a all weled pa mor wrthun, annaturiol, anysgrythyrol, yw cysylltu gorfodaeth cyiraith gwlad a dim sydd yn perthyn i deyrnas Crist, yr hon nid yw o'r bvd hwn." Ni ch) farfyddodd Mr. Bright chwaith a phwnc rhyddid Ymneillduwyr i gy meryd y fiurf o greiydd a welont yn dda wrth giaadu eu cyfeillion yn myn- wentau yr Eglwysydd. Rhaid i'r pwnc hwnw gael ei drin yn eisteddiad nesaf y Senedd. Gallesid meddwl y buasai efe yn rhoddi rhyw olygiad arno a fuasai yn calonogi Ymneillduwyr; ond niwnaeth. Efallai ei fod am gadw ei nerth ar y mater hwn fel rhai ereill hyd nes y delo y dadleuon yn y Ty. Ni roddodd ei farn chwaith ar y $lave Circular. Gellid meddwl wrtho ef fod ) wlad wedi gwneud camsyniad mawr ar y pwnc hwn, y dichon y cir- cular fod yn un doeth ac angenrheid- iol, ac nad yw yn gefnogol i gaethwas- anaeth. Os felly, y mae miloedd o ddynion deallus wedi ysgrifenu a siarad yn y tywyllwch. Ond er anrhydedd i'r wlad hon a'i llywodraeth, er ei bod yn Doriaidd, gobeithio y profir yn y ddadl yn y Ty nad oes dim yn y circular yn gefnogol i gaechwasanaeth. Y mae yn anhawdd credu y gall hyny fod. Y mae dynion o ddeall mawr yn ei gon- demnio i'r pen. Ac os daw allan yn y ddadl fod y circular yn un drwg, ni bydd hoedl y Weinyddiaeth Doriaidd o fawr werth. Ni roddodd Mr. Bright chwaith fawr o eglurdeb ar bwnc Camlas Suez. Y mae hwn yn bwnc pwysig iawn yn awr. Hyderwn y rhydd efe nerth ei athrylith yn y Ty i osod y pwnc hwn, fel pynciau ereill, yn ei Ie. Y mae efe wedi rhoddi ei holl nerth yn ei araeth i wrthbrofi haeriadau larll Derby yn nghyich y mawrion sydd yn meddianu tiroedd yn y wlad hon. Y mae y ffeithiau a roddodd Mr. Bright ar y mater yn teilyngu sylw eto. Yr oedd yn fanwl ac yn effeithiol dros ben ar y rhai hyn. Ei gynllun ef i'r blaid Ryddfrydol yw, gosod eu holl nerth ar waith i sicrhau yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau sirol yn Haw pob trigianydd mewn ty (household suffraye.) Tybia .efe y gallai y blaid Ryddfrydol sefydlu undeb cryf a'u gilydd ar y pwnc hwn. Diau j cynyrchai frwydr iawr, ac y gwnelai les pe gellid ei gael. Ond y mae teimladau y blaid Hyddfrydol wedi I y crynhoi oddeutu materion ereill. Cy- merai gryn dipyn o amser i'w cynhesu hwynt at hwn i'r graddau y teimlant ddyddordeb mewn cwestiynau ereill. Ond gan eu bod yn gwahaniaethu cymaint ar bethau ereill, ac yn debyg o ymuno ar hwn, efallai mai cynygiad Mr. Bright, yw y goreu yn awr. Yr oedd yn beth boddlonus iawn i'w deimladau ef fod ei boblogrwydd yn Birmingham gymainL ag y bn erioed. Yr oedd y brwdfrydedd i'w glywed yn anrhaethol. Ond diau fod ei afiechyd am flynyddau wedi peri iddo geisio cadw ei hun mor ddigynhwrf ag y medrai. Digon tebyg ei fod yn teimlo nad yw yn ddigon galluog i arwain Rhyddfrydwyr mwy mewn unrhyw orchest fawr. Tosturi, cydymdeimlad, a pharch a ddyiai gael yn awr hyd ei fedd.
CWMLLYNFELL.
CWMLLYNFELL. CYNALIWYD oyfarfod llenyddol yn y lie uchod prydnawn dydd Llun, Iona.wr y 24ain. Llywydd, D. Thomas, Ysw., Cwmtwrch; arweinydd, Mr. W. Jones, Bryn beirniady canu, Mr. L. Williams, Cwmtwrch beirniad y farddcniaeth a'r traethodau, Mr. Benjamin Davies. Wedi cael araeth ffraeth gan y llywydd, aeth- pwyd yn mlaen yn ol y drefn a ganlyn: Canu Wyres fach Ned Pugh;' goreu, Isaac Griffiths. Beirniadaeth y ddau englyn i'r Diogyngoreu, J. Thomas, .Y Bwlchrhydypynau. Canu deuawd, Y Teiliwr a'r Cryddgoreu, Richard Rees a Samuel Jones, Adroddiad gan blant dan 12 oed, Fe ddaeth y Gath o'r Cwdyn goreu, Gwrthrych Twrch. Y traethawd ar Elfenau tyfiant y natur ddynolDavid D. Morgan a Thomas Edwards yn gydfuddugol. Canu y Solo Bass o Deyrnassoedd y Ddaear;' goreu, William Owen, Cwmtwrch. Araeth ar 'Goliah;' goreu, W. Evans. Beirniad- neth pedwar penill ar Falchder goren, John Joues, Cefn. Darllen ton ar y pryd yn nodianty Tonic Sol-ffa; goreu, Jonah Morgan. Araeth ddifyfyr; goreu, Thos. Williams (Eos Penygwrych.) Cann Galar Gwraig y Meddwyn;' goreu, D. Williams. Beirniadaeth yr HiraThodd- aidi'r' Enllibwr;' goreu, Gomer Gwilym Canu denawd, Edifeiriwch y Meddwyn;' goreu,K loan Williams a John Thomas. Dadl ddifyfyr; goreu, John Davies, a Jonah Morris., Canu I Y Forwyn Fy- nyddig;' goreu, Watkin Thomas, N ant. ybrain. Beirniadaeth yprif draethawd, 'Undeb;' goreu, Richard James. Cys- tadleuaeth gorawl, Comrades in Arms;' buddugol, Glee Party Barn Fan, dan ar, weiniad yr hen dad parchus Mr. John Williams. Terfynwyd y cyfarfod wedi treulio y prydnawn yn ilawen, a llawer -an wedi ychwanegu cryn gufydd at ei faintioli. B ARCUD.
BRITON FERRY.
BRITON FERRY. MAE fel pe byddai y darfodedigaeth wedi ymaflyd yn y cyfansoddiad masnachol y dyddiau presenol. Nid oes dim i'w glywed yn awr ond bygythion,' a rhy- buddion yn grogedig ar ddrysau ein swyddfeydd y bydd gostyngiad i gy- meryd lie y pryd a'r pryd. Mae ar ddrws swyddfa gwaith y Vernon rhybudd y bydd i bob cytundeb derfynu yn ystod pedwar diwrnod ar ddeg, yn dechreu lonawr 27ain. Y fath newydd gogon- eddus. Mae gweithwyr y lafa hon yn gweithio yn barod ar ddwy geiniog o ostyngiad na ddylasai fod, a bydd yu gampns wedi cael gostyngiad pellach! Dylaswn ddweyd mai haner glowyr y y lofa hon sydd yn undebwyr. Bydd genym air eto yn fuan ar weithrediadau y gwaith hwn.
GLOFA Y LAMBETH.
GLOFA Y LAMBETH. Y maent yn gweithio yn y lofa hon ar y gostyngiad. Anundebwyrgydynt oil, wedi bod yn rhai o fEyddloniaid yr Undeb, ond wedi cefnu yn nydd y frwydr, y gelyn wedi tori i mewn i'r rhengoedd undebol, ei gleddyf yn awchlym, a hwythau yn noeth a diymgeledd, Di- wygiwch ar frys.
GWAITIIHAIARN 13RITTON FERRY.I
GWAITIIHAIARN 13RITTON FERRY. I Mae y rhybudd am ostyngiad wedi dirwyn i ben yn y gwaith hwn—Is. 6c. i'r pudleriaid, a deuddeg a hauer ar y melinwyr, ac y mae y pydleriaid wedi penderfynu gweithio ar y gostyngiad, a'r penderfyniad yw, eu bod i enill yr un faint ag o'r blaen, ond fod mwy o waith i fod i'r pvdleriaid. Dyna gynllun ar- dderchog, onite ? Yn wir, yr oeddynt yn gweithio digon yn barod. Mae yr Undeb wedi bod yn flodeuog iawn yn eu plith un amser, ond erbyn beddyw y mae wedi ei resu gyda y pethau a fu. Deff- rowch, deffrowch, a sefydlwch Undeb yn eich plith ar unwaith. Arwydd yr Undeb bob amser yw cael llai o waith a mwy o arian, nid mwy o waith a llai o arian. GWILYM DDU O'R LLAN.
[No title]
Yn unol ag ewyllys olaf un Mr. Roger L. Jones, yr hwn oedd yn far- siandwr yn Liverpool, y mae y swm o ddau gan mil o bunau newydd eu dos- barthu rhwng gwahanol sefydliadau elusengar y dref. } t
I. Y CREFFTWYR.
Y CREFFTWYR. Y CREITTWYK Beth am y dosbarth hwn yn y cyfwng presenol ? Ai bodd- loni. ar safon y dosbarihiadau ereill sydd ifod, neu ynte chwilio am safon i ni ein hunain. Credwyf ei bod yn Hawn 1" yd i ni ddeffroi o'n cysgadrwydd a i iarad. drosom oin hunaid., i threfnu ein ae nid ymddiried i ddynion ereill, y rhai nad ydynt yn perthyn i ni o gwbl. Digon yw i bob dosbarthymddal ae amddiffyn eu hiawn- derau eu hunain yn y byd drwg pre- senol. Gellir ein cyfrif, ac f e'n cyfrifir o ran hyny gan yr ymchwilgar a'r meddylgar yn llai na fflantos yn yr oes oleu hon, yn unig am ein llwfrdra a'n difaterwch diail. Rhyfedd fod y dosparth pwysig hwn cybyd heb deimlo eu pwysigrwydd a'u gwasanaeth mawr i'r byd. Y mae pob dosbarth o weithwyr yn bwysig, ond credwyf mae y crefrtwr yw y pwysionr efe yw y dyn cyntef a geisir at bob gorchwyl. Os bydd eisieu sinco pwll, rhaid ettel y creffcwr y peth cyntaf. Os bydd eisieu reillrordd er cludo y nwydaau o fan i'w gilydd rhaid yw ei gael ef, nea osod llestr ar y don, rhaid ei gael ef at ei orchwyl cyn y gall nab arall fod o un gwasanaeth. A fEaith anwadadwy yw, mai anfuddiol fyddai y milwr er ei ddewrder, ac aneffeithiol fyddai ei am- ddiffyniad heb gael offerynau o gelfydd- ydwaith y crefftwr. Wei, ai rhesymol yw i'r dyn hwn fod islaw i'r labrwr cyfEred- in yn ei dal ? Atebai pob un rhesymol yn ddifloesgi, Na, rhy bwysig yw ei was an- aeth i fod felly. Pa fodd ynte y gwellir ei am gy 3 chiadau? Fel hyn, pob crefftwr o '.verth i roddi fyny ei waith, gan ym- aflyd yn y gaib a'r rhaw byd. nes del y tai dyladwy am dano, gan fod yn un Haw, fel y dewrion hyny H. enillodd y "nine hours system." PEIRIANWR.
CWMDAR, ABERDAR.
CWMDAR, ABERDAR. ARAF iawn yw y gweithfeydd yn y cwm hwn y dyddiau presenol. Nis gwn beth a ddaw olawer o honom os parha yn hir yn y dull hwn. Y mae yma ganoedd o ddynion yn gweithio o wahanol fanau heblaw y rhai sydd ynbyw yn y lie. Y mae arferion y gymydogaeth moddbynag yn gwella, a'r gorchestgampau annuw- iol i raddau wedi diflanu. Mae yma dair ysgol Sabbothol, a thair teml gan Syr Johu. Mae y Methodistiaid wedi codi capel hardd ur y Tonglwyd Fawr, at yr hwn y mae Mr. Mordecai Jones, perch- enog gwaith Nantwelyn wedi rhoddi yr holl geryg. Yn wir, y miie y boneddwr haelionus hwn yn teilyngu parch ac edmygedd y lie. GOIIEB.
Family Notices
GANWYD. Ion. 29, priod Mr. Davies, Oxford st., Mountain Ash, ar fab. PRIODWYD. Ionawr 29ain, 1876, yn nghapel y Gadlys, Aberdar, gan y Parch. William Harris, Heolyfelin, yn ngwydd y cofres- trydd, Mr. Thomas Rees, a Miss E. A Rees, y ddau o Aberdar. BU FARW. Ionawr 29,1876, yn 48 mlwydd oed, Mr William Gnbbings, 39, Gadlys st. Aberdar. Ionawr 30, 1876, yn 55 mlwydd oed, Mr. David Luke, Green Grocer, 29 Meirion st., Trecynon. Cafodd gystudd tnvm am flynyddau, ond yn hongiah wrthi o hyd i ymdrechu am fywiolaeth. Yr oedd yn ddyn gweithgar, bucheddus, yn Gristion didwyll, ac yn aelod ffyddlon yn nghapel Carmel. Dywedodd cyn ymadael, wedi fEarwelio a'r plant, ei fod yn berffiaith barod i fyned. Gadawodd weddw a thri o blant i alaru ar ei ol.— CLUDYDD. Nos Sul diweddaf, yn Pentre St. Clair, sir Gaer, Mr. Thomas Mills, yn 74 oed. Yr oedd yr ben wr yn Gristion gloeyw, yn gymydog a gerid yn fawr gan ei gymydogion. Tad oedd yr ymadawedig 1 Mr. D. Mills, Ysgrifenydd Dosbarth t5 Odyddol Aberdar, ac hefyd iMri George, James, a John Mills, Aberdar. Ionawr y 19eg, yn naw mis oed, unig fab Mr. a Mrs. W. Lewis, diweddar oruchwyliwr y Broadoak, ond yn awryn Glyncorrwg. Claddwyd ef y dydd Sadwrn canlynol yn mynwent Casllwch- wr, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. B. Jenkins y Periglor. Ionawr 22, yr eneth fechan hawddgar, Miss Mariah Rowlands, yn ddwy flwydd oed, anwyl blentyn Mr. a Mrs. Rowlands, Aberman. Dydd Mercher canlynol, hebryngwyd ei gweddillion marwol i Cemetery, Aberdar. Ionawr 30, Mrs. Rachel Thomas, Briton Ferry, yn 80 mlwydd oed, wedi cystudd maith. Bu yn aelod dichlynaidd gyda'r Mefhodistiaid Calfinaidd am fly- nyddau meithion.
Advertising
PELENI AC OJNTMENTHOLLOWAY.—Anhwyl- deratif y OwddJ. — Gellir p-wella pob math o'r dolunau hyn yn uuiongyrchol ac effeithiol trwy rwbio yr ointment hwo yn y gwddf ddwywaith yn y dydd, a thrwy gymerydymborth maethlawn a phriodol. Trwy y feddygiuiaeth syml hon gwellir holl ddoluriau y gwddf, o ba natur bynag y byddout, ac y mae ei ansoddion mor naturiol ac effeithiol, fol na raid ofni ei ddefnyddio ar unrhyw amgylchiad, Y mae yr ointment hefyd yn fyd- enwog am symud pob crygni, chwyddiant, ac aflendid o'r gwddf.