Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
21 erthygl ar y dudalen hon
"JOHN PLOUGHMAN'S TALK."
"JOHN PLOUGHMAN'S TALK." GAIT Y PARCH. C. H. SPUEGEOAT. GAFAEIID MEWN CYFLEUSDERAU. Y MAE rhai dynion heb fod yn effro pan y byddo y tren yn cychwyn; ond ym- lusgant i'r orsaf bron mewn pryd i weled fod pawb wedi myned, ac yna, agorant eu Ilygaid gan ddywedyd, H vVel, anwyl, a yw y tren wedi myn'd ? Rhaid fod fy oriawr wedi sefyll ryw bryd yn y nos Deuant i'r dref bob amser ddiwrnod ar ol y ffair, ac agorant eu nwyddau yn mhen awr wedi i'r farchnad ddarfod. Y maent fel cyniton buwch bob amser ar ol. Y maent mor ddiwerth a hen almanack y mae yr amser y fgallent fod o ryw ddefnydd wedi myned heibio; ond, yn anffodus, nis gellwch eu taflu ymaith fel hen almanack. Y maent fel yr hen fon- eddiges draws hono y gadawyd tal blyn- yddol iddi, ac a benderfynai fynu gael ei lawn werth o hono; ni fyddant feirw ac nid ydynt o un dyben yn fyw.. Dynion diymdrech a ymesgusodant eu diogi yn fynych drwy ddweyd, "nad ydynt ond ychydig ar ol;" ond y mae ychydig yn rby ddiweddar yn llawer rhy ddiweddar. Aeth fy nghymydog i gauad y ffynon wedi i'w blentyn foddi ynddi, a rhedai i ymofyn dwfr am ei fywyd wedi i'w dy losgi i'r llawr; un o'r dyddiau nesaf bydd am wneud ei ewyllys pan y bydd yn rhy wan i ddal pwys yr ysgrif- bin, ac ymdrecha edifarhau am ei bech- odau ar ol colli ei synwyrau. Meddylia y cerbydau araf hyn fod yfory yn well i wneud pob peth na heddyw. Y maent bob amser yn dysgwyl eu llong adref, ac yn breuddwydio am amser gwell i ddyfod Pe arosai yr adar iddynt hwy osod halen ar eu cynffonau.-dyna wledd a gawsent i gymeryd adref i'w teuluoedd Ond tra y parhao pob peth i symud yn gyflymach na hwy, rhaid i'w rhai by chain gartref lanw.eu geneuau a llwyau gweigion. Fe dry rhyw beth i'r lan eto meddent yr hurtiaid paham nad aent eu hunain i'w droi i'r lan. Ni erys amser na llanw y mor i neb ac eto segura y breuddwyd- wyr hyn eu hamser fel pe bae ganddynt lease ar eu bywydau, a chraig o gyfleus- derau yn. eu haros. Gwelant eu camsyn- ied pryd y ca eisieu afael ynddynt, ac ni fydd hyny yn faith; y maent ar eu ffordd i bentref angen. Yr hwn ni tharawa yr haiarn tra fyddo boeth, a ga deimlo fod haiarn oer yn lied galed. Nid yw amser wedi ei gylymu wrth host, megys ceffyl wrth breseb; ond a heibio fel gwynt a rhaid i'r hwn sydd am falu ei lafur wrtho osod hwyliau ei felin i'r lan. Yr hwn a agoro ei enau nes y ca ei borthi a ga ei agor, nes y byddo wedi trengu. Nid oes dim i'w gael heb lafurio am dano, ond baw a thlodi. Yn yr hen amser dywedid fod Jack yn dyfod rhag ei flaen yn ei hurtrwydd." Teimlai Jack yn wahanol yn y dyddiau presenol pe buasai fyw; ond ni ddaeth Jack yn yr hen amser nac unrhyw amser arall rhag ei flaen wrth adael manteision i lithro heibio iddo yn ei ffolineb heb afaelid ynddynt: ni reda yr ysgyfarnog byth i enau own cysglyd. Nid gwiw gorwedd lawr a galw, Duw cynorthwya ni! Cynorthwya Duw y rhai hyny a gynorthwyant eu hunain. Pan y gwelaf ddyn yn achwyn fod yr amser yn dylawd, a'i fod ef bob amser yn aflwyddianus, yr wyf yn dywedyd wrthyf fy hun,—Yr hen wydd, ni eisteddodd ar y wyau nes oeddynt oil yn glwc, ac yn awr beia ragluniaeth am na ddeorant ganddo. Ni fu genyf erioed ffydd mewn ffawd, mwy na chredu fod ffawd yn cario dyn dros ffos os neidia yn dda drosti, ac y gosada ddarn da o facwn yn ei grochan os gofala am ei ardd a chadw mochyn. Y mae ffawd y rhan fynychaf yn dyfod i'r rhai sydd yn edrych am dano, a fy meddwl i yw ei fod yn galw wrth ddor pob un unwaith mewn bywyd; ac os na agora diwydrwydd y drwa iddo ymaith V-V a. ihyny a gollasant y cerbyd di- .c a adawsant bob cyfleusdra i lithro neibio iddynt, a droant i feio rhag- luniaeth am osod pob peth yn eu herbyn. "Pe buaswn i yn hetwr," meddai un, ipawb eu genu heb benau." "Pe i i'r mor i 'edrych am ddwfr, ei fod yn sych," meddai arall. Y mae pob gwynt yn wrthwynebol i hen long fethedig. Nis gall y doeth na'r cyfoethog gynor- thwyo I:) yr hwn sydd wedi hir wrthod cynorthwyo ei hunan.
UNDEB CYFFREDINOL Y GOFIAID…
UNDEB CYFFREDINOL Y GOFIAID A'R TARAWYR. CTKAIIODD yr undeb hwn ei gyfarfod haner blyryddol dydd Sadwrn, 22ain o lonawr, 1876, yn yr Eagles Bush, Melin- crythan, Castellnedd. Daeth yno gyn- nlliad da iawn o frodyr gofyddol, ac mae'n dda genyf hysbysn pawb gofiaid a thrawyr, fod sefyllfa undeb y gofiaid yn fwy gobeithiol y tro hwn nac un cyfar- fod sydd wedi bod o'i flaen. Yroeddyn ilawn tan nndebol drwyddo. Yn mlaen yw arwyddair nndeb y gofiaid. Chwi ofiaid sydd dipyn yn llwfr, deffrowch, na fyddwch yn fwy o slafiaid na rhyw grefft- wyr ereill yn eich ymyl. Am nnrhyw hys. bysrwydd pellach, ymofyner a'r Ysgrif- $uydd CyftrecUiiQl.
LLANGOLLEN.
LLANGOLLEN. TREF fechan brydferth ar lan yDyfrdwy, yw Llangollen. Amgylchynir hi gan fynyddoedd cribog y Berwyn, a chreigiau bythol yr Eglwyseg. Saif y dref yn y pellder o dair railldir o Glynceiriog. lie yr huna'r cerub-fardd anf&rwol Cyn- ddelw ei hun olaf. Deg milldir yn uwch yn y dyffryn mae Corwen. Os trown ein golygon i'r dehau, canfyddwn y Cefn- mawr, yn y pellder o bedair milldir a haner, lie mae gweithiau haiarn a glo. Yn agos i'r lie hwn mae Wynnstay, palasdy ardderchog Syr W. W. Wynne. Mae Llangollen yn nhymor yr haf yn gyrchfan llawer o bobloedd, obobgradd, lliw a llun. Yn y tymhor hwn, anaml iawn mae diwrnod yn myned heibio, heb fod llu mawr o breswylwyr Le'rpwl, Manceinion, Caer a'r Amwythig, a lle- oedd mawrion ereill, yn talu ymweliad a'r lie. Iechyd i ben a chalon dyn yw cael treulio awr neu ddwy ar ben y myn- yddoedd amgylchynol. Gallem feddwl weithiau fod natur wedi bod ar ei goreu i wisgo dyffryn Llangollen a phrydferth- wch. Ceir y rhamantus a'r swynol yma. Gall y bardd hedegog ac eryraidd, a'r 11 pathetic gyd fyw yma, gan fod y golyg- feydd mor amrywiog. Gall y daearegwr 0 ■esehaustio ei ddoniau yma os myn, gan fod y dyffryn mor gyfoethog o adnoddau at hyny. Ceir yma y Silurian and Ca/r- boniferous rtclcs at ei wasanaeth. Gall yr hynafiaethwr fwynhau ei hun yn gam pas yma, gan fod y gymydogaeth yn Hawn o hynafiaethau dyddorol iawn, yn neillduol gydag hanes Castell Dinas Bran, Llys Pengwern, Plas Newydd, Vale Crucis Abbey, a Cholofn Eliseg, a llu ereill, ychydig o banes pa rai fydd at eich gwasanaeth, os yn dderbyniol genych. Si adawn hanes y lleoedd dyddorol yna hyd rhyw amser eto. Nid yn unig mae Llangollen yn bryd- ferth mewn ystyr naturiol ac allanol, ond mae felly mewn ystyr foesol a chrefyddol. Nid yw y bcblogaeth ond tua 3,000, eto mae yma chwech o gapeli ymneillduol, heblaw yr Eg!wys Sefydie- dig. Mae gan yr Anibynwyr un capel yn y lie y Methodistiaid Calfinaidd un, y Wesleyaid ddau, a'r Bedyddwyr ddau. Llangollen yw Athen Bedyddwyr Gog- ledd Cymru. Mae yma GoJegperthynoI iddynt o dan ofal yr ysgolhaig Hebraeg a Groeg dihafal-y Proff. H. Jones, M.A. D.D., Awdwr y "Beibl a'iDdeongl- iad," Y Weithred o Fedyddio," &c. Ei gyd-athraw yw y boneddwr ieuanc a gwir ddysgedig, y Proff. Gethin Davies, A.C. Mae yma tua ugain o ddynion ieuainc gobeithiol ac ymroddgar o dan eu gofal. Llangollen hefyd yw cartrefle y bardd athrylithfawr, y cyfaill dihoced a diymhongar Taliesin o Eifion, yr hwn sydd yn cipio y llawryf buddugoliaethug o'n Eisteddfodau fel y myno braidd. Trueni fod bardd mor wych a hwn mor anaclnabyddus yn y dehau. Byddai cael cyfrol o'i weithiau yn dreat i'r genedl, ac yn esiampl i'r would be bards sydd ar hyd a Aled ein gwlad. Cofus genyf pan yn A., i lu mawr o honom gychwyn dramatic, society i'r dyben o ddysgu rhyw ddarnau ar lun dramas, i'w hadrodd ar hyd y cym- ydogaethau, fel y buasem drwy hyny yn cefnogi talent Gymreig; ond er ein galar, erbyn chwilio, nid oedd genym yr un darn a fuasai yn debyg o dynu mwy na rhyw gant neu ddau o fobl i'n clywed. Ond yn awr gyfeillion, os ydych am cklrama gwerth ei hadrodd, dyma yr un fuddugol yn Eisteddfod Freiniol Pwll- heli, gan Taliesin o Eifion i chwi. Mae y copyright yn eiddo yr awdwr, ac mae efe yn foddlon ei chyhoeddi, fel y byddo at eich gwasanaeth. Gair ar hyn eto. Carwn dynu sylw Etna, Ieuan Dar, Cynonfryn, Daronwy, Darlwyn, Eos Brychan, David Dyer, ac ereill at y pwnc.
Y CYFÁRFODYDDADLONIÁDOL.
Y CYFÁRFODYDDADLONIÁDOL. Cynelir dau gyfarfod o'r natur hyn yn y lie hwn bob bythefnos, pryd y cymerir rhan yn y gwasanaeth gan y Proff. Davies, Meistri Clarke, Evans, Hughes, Pugh a rhai o fyfyrwyr y coleg. Mae yn clreat i wrando y Proff. Davies yn canu solos caboledig Handel, Braham, Sulli- van, &c. Yn ddios y mae efe yn un o ganwyr goreu ein gwlad. Terfynaf yn awr gan ddymuno llwyddiant i'r DARIAN, a'i holl staff yn ohebwyr ac yn ddarllen- wyr. CADFRYN.
MOUNTAIN ASH.
MOUNTAIN ASH. DEFNYDDIWYD pob noswaith o'r wythnos ddiweddaf yn Brynsion, capel y Wesley- aid, i gynal cyfarfodydd adfywiadoL Y cynorthwywyr oeddynt y Parchn. R. Roberts, iferndale a R. Evans, Dowlais; yn nghyd a'n gweinidog ieuanc parchus, sef y Parch. E. Lloyd. Cafwyd cyfar- fodydd bendithiol a, Ilwyddianus iawn. WESLEYAD.
MAESYRHAF, CASTELLNEDD.
MAESYRHAF, CASTELLNEDD. DARLITII.- NOS lau, Ion. 27, bu y Parch. J. R. Kilsby Jones yma yn traddodi ei ddarlith ar y diweddar Barchedig D. Williams, Llanwrtyd. Fel ag yr oedd enw gwrthddrych y testyn yn hysbys i'r darllenwyr Cymreig yn gyffredinol, felly y mae enw y darlithydd enwog ac ath- rylithgar,fel na byddai diraddio neu gan- mawl y ddarlith, yn cyfnewid dim ar farn neb sydd yn ei adwaen o barth i'w deilyngdod. Cawsoxa ddarnodiad cywir, darluniadol, a gwir ddifyrns o sefyllfa gymdeithasol ardaloedd Llanwrtyd gan mlynedd yn ol i gymaint felly,fel y gall- esid yn briodol enwi y ddarlith Adgof- ion a thraddodiau am Sir Frycheiniog gan mlynedd yn ol." Fel y dynesai yn mlaen,deuai holl nodweddion y patriarch lane i'r golwg yn naturiol, ac ni ahyder- wn fod y ddarlith wedi llwyddo i gyn- yrchu ymgais yn y gwrahdawyr i'w efelychu yn y gwahanol ragoriaethau a berthynai iddo. Llywyddwyd yn dda gan y Parch. J. Mathews. NEDDI,AB<
CWMBACH.
CWMBACH. NosFawrth, Ionawr y 2oain, rhoddodd Cor yr Aelwyd, o'r America, gyngherdd ardderchog yn Bryn Sion, Cwmbach. Da gan ein calonau weled y capel mor llawn o bobl, ac yn edrych mor siriol, a thalu y fath barch i'w hen gyfaill E. T. Davies, yn ei hen gartref, lie y bu yn canu am flynyddoedd cyn myned i'r America. Yr oedd E. T. Davies wedi enill iddo ei hun enw da cyn myned oddiyma fel cerddor; ond yn awr, yr ydym wedi ein synu wrth glywed y fath dalent gerddorol gan dri o'r un teulu. Canasant am ddwy awr o amser, nes synu pawb o'r gynulleidfa. Mae Lizzie fach (sef Eos Ohio) yn sicr o ddod yn un o brif cantoresau Cymru ac America, ac felly y mae hi yn awr yn ol ei hoed. Pwy sydd wedi clywed y fath contralto voice gan eneth 12 mlwydd oed ? Mae hon yn hynod yn y byd cerddorol. Yr oedd y programme yn hollol newydd i i ni yn Nghymru—cerddoyiaeth Ameri- canaidd oil. Llywyddwyd y gyngherdd gan y Parch. J. Morgans, y gweinidog. Cawsom un o'r cyngherddau goreu a fu ymaerioed. Bydd Coryr Aelwyd yn rhoddi cyfres o gyngherddau eto yn Nghwmrhondda yn fuan, cyn yr el Eos Ohio i goleg Aberystwyth at Proffeswr Parry. Pob llwyddiant i Gor yr Aelwyd yw dymuniad yr holl gwmbachiaid. —
EHYMNI.
EHYMNI. Nos Fawrth, y 18fed cyfisol, cyfarfu dwy gyfrinfa Iforaidd i gydnabod y brawd Lewis Davies, eu hysgrifenydd, am ei sel, ei weithgarweh, a'i barodrwydd i ledaenu egwyddorion Iforiaeth. Mae y brawd Lewis Davies wedi bod yn ysgrif- enydd Cyfrinfa Idwal Caerloyw er ys 18 mlynedd, yr hon sydd yn axosynnhy y brawd J. Jenkins, Bute Arms Inn, Pontlofcyn. Hefyd, y mae wedi bod yn ysgrifenydd y Gyfrinfa "Llyr," er ei chychwyniad yn nhy y brawd E. Lewis. Tredegar Arms, Rhymney: a nos Fawrth, y 18fed, cyflwynwyd i'r brawd Lewis Davies-oriawr a chadwen arian yn y Tredegar Arms. Cafwyd eyfarfod difyrus mewn canu ac areithio -o dan lywyddiaeth y brawd Edmund Williams, C.L.D., Pontlottyn. Cyflwynwyd yr anrheg gan Miss L. Jenkins, Bute. Darllenwyd yr anerchiad gan y brawd John Fisher, C.Y.D. Mae y brawd L. Davies wedi llanw swyddau uchel mewn cysylltiad a'r urdd yn y dosbarth ac yn y bwrdd. Y mae wedi bod a llaw yn agoriad llawer o gyfrinfaoedd newydd- ion yn nosbarth Rhymni.-DOIFAS.
I HIR WAIN.
HIR WAIN. PRTDXAWIT dydd Llun, y 24ain o lonawr cynaliwyd gwledd ardderchog yn neuadd Bryn Hyfryd, o fara brith a ffrwyth dail coed China, gan Gor Undebol Gwilym Cynon. Yr oedd parotoadau mawrion wedi eu gwneud ar gyfer y dydd apwynt- iedig. Prif ddyben y wledd ydoedd gorfoleddu ar ol y fuddugoliaeth a gaw- sant yn y Drill Hall, Merthyr, y Nadolig diweddaf. Cafwyd anerchiadau brwd- frydig gan rai o'r brodyr.—E. C. B.
----MERCHED Y GWElTHFEYDD.
MERCHED Y GWElTHFEYDD. NID ydym yn teimlo ein hunain yn gar- trefol wrth ysgrifenu y llythyr hwn, fel ag yr oeddem pan yn ysgrifenu y troion o'r blaen. Y mae rhyw anhwyldeb ryfeddol wedi ein meddianu, a hyny oddiar pan ddaeth y DARIAN am yr wythnos cyn y diweddaf i law. Er ein syndod, gwelsom fod ar y Bwrdd," i'w ymddangos lythyr o dan y pen- awd uchod; a chan ein bod yn sicr mai nidein heiddo ni oedd y llythyr hwnw, darfu i ni gredu ar unwaith fod rhywun am ollwng ei saeth atom; ac fel yr ydym bob amser yn eredu y gwaeth- af, darfu i ni feddwl y buasai y saeth hwn ynwenwynig, ac felly yn niweidiol neu yn angeuol i ni. Wedi ei derbyn a manylu ychydig drosti, methasom a gweled fod yr un bwled wedi ei chyfeirio atom o un man, a mawr oedd ein Ilaw- enydd am hyn, oblegyd nid dayw i neb i ymgecran a'u gilydd, yn enwedig ar faes y byd. Y mae y gweithfeydd yn farwaidd iawn y dyddiau presenol, ac nis gwydd- om pa beth a ddaw o honom os bydd i bethau barhau lawer yn hwy. Nid yw ein huriau ond saith swllt yr wythnoB, ac yn methu yn Itn lawer pryd ddyfod a'r ddau pen i'r llinyn i gwrdd, ac os yw ein meistri yn bwriadu ein gostwng eto, bydd yn angenrheidiol iddynt godi ty mawr yn gyfleus wrth y gweithfeydd i'n lletya ein porthi, a'n dilladu yn unig am ein gwasanaeth. Nid ydym yn cael gweithio yn bresenol ond rnyw ddau neu dri diwrnod yr wythnos, ac oni bai fod ein cymydogion mor garedig a rhoddi ini ambell ddiwrnod i olcbi a smwddo, &c., byddai yn rhaid i ni am- fyned allain i gardoia ein tamaid; oble- gyd ni cbawn ddim a,r goel gan neb, ac ni ymddirieda neb ynom, am nad oes genym yr un meichniydd y tucefn, fel i'w roddi yn iawn iddynt am eu gofyn- ion. Creda llawer nad ydym yn dda i ddim ond i weithio yn y gweithfeydd. Ond byclded hysbys i'r cyfryw rai nad ydym yn gwario ein harian am yr hyn nid yw yn fara," ond yn cynilo pob ceiniog ag a allwn i brynu defnyddiau angenrheidiol i'n dilladu. Nid ydym yn prynu ein hosanau wedi eu srwau vn barod. ^Na, yr ydym yn prynu y gwlan ac yn ei wau ein hunain; felly hefyd y mae llawer o honom yn ddigon galluog i wneuthur boneti, gwnau. a pheisiau, &c., heb fyned i'r draul i dalu ereill, ac oni bai ein bod yn gallu gwneud rhyw- beth heblaw gweithio yn y gweithfeydd, nis gallasem droedio yr heolydd mor lanwedd a thrwsiadus, ac heb geiniog o ddyled i neb fel agyr ydym. Peidied neb a diystyru merched y gweithfeydd mewn un modd. Y maent yn ddigon da i fod yn wragedd i grefft- wyr a masnachwyr, yn gystal ag i labr- wyr cyffredin; a phaham raid i Ehed- yddion lanau'r Cynon fyned mor belled a sir Aberteiii er chwilio am ddefnydd- iau i wneud nythod, pan y mae Ilawn cystal yn nes atynt; a chan ein bod yn gallu defnyddio y nodwydd yn bur dda, ni ddylai J- nac unrhyw deiliwr arall, ysgornio am ein bod yn gweithio yn y gweithfeydd. Gallem, er hyny, fod yn wragedd da ac o wasanaeth mawr idd- ynt hwy. Y mae D- yn fachgen ieuanc prydferth, ac yn bwriadu ym- fudo tua-r Wladfa yn y gwanwyn nesaf, i fod yn amaethwr mawr; a chan ei fod yn bwriadu myned trwy seremoni y modrwyau cyn myned, cynghorem ef i fyned o amgylch y wlad i chwilio am ferch neu forwyn rhyw am- fl.eiVhwr Rvdrl vn rlrtio-nTi Avfa.TOtrdr! drarod Mae yn ofynol myned tu allan i gyfflniau Morganwg cyn y gellir cael un dda, ac nid da i neb brynu cath mewn cwd. Yr eiddoch,— JONES.
Y FASNACII FEDDWOL.
Y FASNACII FEDDWOL. IrR oedd poblogaeth Prydain Fawr yn y flwyddyn 1874 yn 32,000,000. Yn yr un flwyddyn yr oedd nifer y rhai a wertbent ddiodydd meddwol yn 176,000 y rhai a dderbynient ar gyfartaledd £ 860 yr un. Yr oedd hyny yn £ 4 4s. 4c. ar gyfer bob person am ddiodydd meddwol, tra yr oedd yn ein gwlad ieddw un o'r ffauau xiflernol hyn ar gyfor bob 180 o'r boblogaeth.
FFRWYDRIAD ANGEUOL YN BRISTE.
FFRWYDRIAD ANGEUOL YN BRISTE. YN Bryste, ddydd Sadwrn diweddaf, fel yr oedd Mr. King, parchenog gweithfa matches, yn dangos y lie i Mr. Napp, Weston-super-Mare, cymerodd ffrwydriad le, a chollodd y ddau eu bywydau.
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Cyfeiried ein cyfeillion y Beirdd eu holl Gyfansoddiadau Barddonol yn y modd ac i'r cyfeiriad canlynol:— MR. D. W. JONES, (Dafydd Morganwg), Hirwaun.
[No title]
Hen Fwth fy Nhaclcu.—Dim rhith o gynghanedd. Beddargraff, gan Llew o'r Llwyn.—Dim cynghanedd. Geiriau yr Hunanol. Cywir. Ym- ddengys. Gartref, Y Gauaf.-Derbyniol a chymer- adwy. Martha Meredith.- Y mddengys. Bivoydrwydd.—Cywir a chymeradwy.
GWAHODDIAD Y GWLADFAWYR.
GWAHODDIAD Y GWLADFAWYR. Gymry, de'wch i Patagonia, Rhodd yw hon i feibion Gwalia, Cartref i chwi sy'n y Wladfa, Gymry, de'wch yn llu; Rhwystrau mawrion ortuasom, Senedd glir o Gymry dewrion, Ltwch Llewellyn waedda arnom, Gymry, de'woh yn liu; Annibyniaeth eto, Cymry svdd yn cyffro, Cenin gwyrdd a fyny fyrdd, Arwyddnod gwladol Cymro; Hiiiogaeth Gomer wyr i Japheth, Crueswch foroedd llydain, helaetb, Rhydd o'ch rhwymau tynion, diffaeth, Gymry, de'wch yn llu. Llwylhau Indiaidd sydd garedig, Hynaws ddynion, natur ddiddig, I'r rhan hon o dir Amerig, Alwant arnom ni; Awyr iach a'r croyw ddyfroedd, Tir cynyrchiol a'r mynyddoedd, A chreaduriaid fil o flloedd, Alwant arnom ni; Golud yn ei chelloedd, Amryw fath o fwnoedd, Gymry lion, tua Phatagon, 0 de'wch yn finteioedd; Estroniaeth yn wir ni fynwn, Gomeraeg yw iaitb y Brythwn, Molwri Ner a'n hiaith a gadwn, Gymry, de'wch yn llu. IOAN KARL.
-. Y DYDD.
Y DYDD. Teyrn anian trwy y nenau-'n gwl.^wio 'i Gwawl-donawg ffr-vdiadau. dhn- A'i get-byd IALN gynta'n gwau Dl'wy'r Ddwyrain draw aur ddorau. EMLYNFARDD,
CYNDDELW.
CYNDDELW. Am R. Ellis mae mawr wylo,—hiraeth A erys am dano; Drwy y glyn, a bryn, a bro, E roddir fawr air iddo. Trecynon, LLWYDRUDB.
ENG-LYNION
ENG-LYNION Ar briodas Mr. John Maddock a Miss H. 7_7_ -y.. ú enHnns-y aaau o Jbansamlet. loan wiwiwys, pan welodd-ei asen Oedd yn eisiau, gwenodd; Hwre, ei Hannah yn rhodd Uwch gofid yn iach gafodd. Trysorau pur, nef gysuron,-iddynt Fo'n foddus fendithion, A hoenus fywyd union Dan y ser, heb brudd-der bron. Hansamle.. DEWI CHWEPBOB.
ESIAMPL YR HAUL.
ESIAMPL YR HAUL. T ra'n eefyll yn gawraidd yn entrych y nefoedd, Yn frenin yr holl greadigaeth; Mae'r haul yn ei oego gadarnwyefe, fendithiawl, Yn ffrwythlon o wersi dysgeidiaeth; Yn foreu mae'n codi o ddyetaw du'r dwyrain, Yn siriot, yn eon, a chawraidd, Gan chwalu'r tywyllwch a goleu'r cymylau, Mewn balchder o'i ymdaith nefolaidd. Yn uwch mae yn rhedeg, goleuach, goleuach, A bywyd o'i amgylch wefreiddia, Seraphim y nefoedd, dysgleirdeb y bydoedd, Try'n daear yn wenau, yn ddawnsfa; Rhydd fywyd i bobpeth, ein daear addurna, Y blodau orwiegant brydferthweh, Y mensydd a'r bryniau, y llysiau a'r coedydd, Eiu daear dry'n Eden mewn harddweh. Ymbrancio wna'r defaid a holl lu y meusydd, 'N eu gwyddfod ddau,-osant boenusrwydd, Carlamant, lion neidiant, ymddengys eu bywyd, Pan wena yr baul yn ei danbeidrwydd; I Bendithiol i ddynion, ail yna eu hywyd, A'u gwenau ei wenau roesawant; Pob caion ganmola'i ddynesiad cynheeawl, Fel hoff gy mwynaswr ei Ilesiaa-t. i Yn anhysbyddadwy, yn rwysgfawr symuda Uwchlaw gafaeliadau'r byd dynol, Heb drwst trwy'r eangderau y teithia ei gylch I'w wely yn mro'r gorllewinol; Ac yma wrth wisgo ei orchuid 'madawol, Sibrydodd am gofio 'i ddysgeidiaeth, Ac yna fe giliodd, a'r nos ymddangosodd, A'r holl fyd ga'dd brofi'r gwahaniaeth. Fel beuliauyntramwy trwy'r byd byddwn ninau, Ein llewyrch oleuo'n ysbrydol, Nos gwelir yn angeu fod baul wedi machlud O'n daear i wladfa'r llu nefol; Yn y boreu fel huan cyfodwn, ymsaethwn Belydrau gwybodaeth i waered, Ymchwalwn y rhwystrau, gwynebwnyn. wrol, Anrhydedd pob calon ymdreched. Fel heuliau epgynwn i entrych cymdeithas, Dysgleiried santeiddrwydd tanbeidiawl, Nes i'r byd yn ein gwres flaguro yn addfed Ddedwydd weh hen Eden yn hollawl; Ac yna fel heuliau pan ar ein terfvngylch Gawn fachIud yn gewri ymdrechodd, Oleuodd y byd, yr holl ddaear wel eisieu, Dyweda, haul eto fachlodd. Twyncarno, Rbumni. TOBEITHIOG.
BEDDARGRAFF
BEDDARGRAFF William Edwards, Ysgolfeistr, Gwmaman, Hwyliodd William, nesdringodd drwy angau Yn fywiol gerub i'r nefol gaerau; Ysgolor enwog, o ddysglaer riniau, Yn addurn ein gwlad bu hir flvnyddau, Hoff iawn gan lu ei goffbau,-mawl y sant, O'i ol hir hidlant mewn galar orBau. PEKLLANOO
LLINELLAU
LLINELLAU Ar farwolaeth Martha, merch Mr. Joseph Meredith, Goruchwyliwr Yswrio, Oak. street, Aberdar, yn 8 mlwycld oed. Ffwrdd o gylch yr aelwyd dyner, O mor fuan ca'dd ei dwyn, Cyn i donau chwerwon blinder Guro ar ei chalon fwyn I^ysglaer oedd ei mebyd borau, 0 dannawdd rhieni eu 'Roedd ei heulog ddifyr oriau ? "•< r Fel Paradwys iddi hi. J Heibio daeth awelon cystudd Yn eu Hawn gynhyrfus lid, Gan anadlu ar ei dwyrudd, » Ac ysbeilio 'i nefol wrid Rhodiai'r Hydref hyd y blodau, Syrthiai dail y coed mewn braw, Tra'n blodeuyn anwyl ninau Danynt yn y fynwent draw. Ar yr aelwyd hapua hono Galar ey'n teyrnasu mwy Nid yw Martha fechan yno Yn eu lion ddifyru hwy; Or) d mae liawer adgof gloew Yn adseinio'i thyner lais, Ac yn dal ei swynol ddelw Ar yr aelwyd yn barhaus. Er nad allai neb o'r teulu Fyn'd i'w hebrwng drwy y glyn, Yr oedd angel wrth ei gwely Yn ei gwylio y pryd hyn Ac ar ymohwydd afon angau Taflu wnaeth ei marwol boen, Melus gadael pob cystuddiau I gael gwisgo bythol hoen. Eneth fechan,'r oedd yn hynod Ffyddlon gyda'r Ysgol Sul A daeth yno i gyfarfod Ceidwad ar y llwybr cul^ Llawar gwaith y bu yn canu ■' •. „ Am y wynfa gyda'r plant; Cana heddyw gyda'r lesu, A phereiddiach yw ei thant. Gwynwn ni, tra mae'n hanwylyd Yn mwynhau trag'wyddol hedd, Ao yu rhydd o bob rhyw adfyd ) Yn y byd tu draw i'r bedd; Peidiwch griddfah, hoff rieni, A dybidlo dagrau'a Ili'- } Rhodiwch hyd y llwybrau hyny Sydd yn arwain ataf fi." EFBLYCHIAB.