Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

YR HUGUENOTS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR HUGUENOTS. YR oedd cydymdeimlad dwfn yn Uoegr a'r canoedd o filoedd o Bro- testaniaid oedd yn dyoddef yn Ffrainc, ac a'r rhai a ddiangasant am eu byw- ydau i'r wlad hon. Cyfodwyd 36 o leoedd addoliad iddynt yn Llundain yn unig. Nid oedd poblogaeth Llun- dain y pryd hwnw yn gymaint ag un rhan o bedair a'r hyn yw yn awr. Sefydlasant yn Canterbury, Norwich, Southampton, Bristol, Exeter, &c., ac yn yr Iwerddon mewn amryw dref- ydd. Yn lie gofidio uwchben effaithiau cigyddol cyfraith erledigaethus y brenin, yr oedd y Pabyddion yn llawen- ychu yn y gyfraith felldigedig a'i heffeithiau. Yr oedd v Canghellydd Le Tellier, wrth'roddi ei sel wrth y gyfraith, yn ei hen ddyddiau, yn defn- yddio geiriau Simeon, Yn awr y gollyngi dy was mewn tangnefedd, canys fy llygaid a welsant dy iachawd- wriaeth." Un o nodweddion Pabydd- ion yw gwyrdroi yr ysgrythyrau, a'u deihyddio allan o'u hystyr dwyfol, yn rhyfygus a chableddus, fel ffordd i eneinio eu gweithredoedd anfad hwy a geirian y nefoedd. Mewn pregeth angladdol, ar amser claddedigaeth y dyn hwn, sef Tellier, defnyddiodd Bossuet ei ddoniau areithyddol i ganmol y brenin am wneud y gyfraith erledigaethus. Nid yw dysg na dawn dynion yn sicrhau rhyddid i eglwys Dduw oddiwrth er- ledigaeth. Yr oedd Madame de Mainteuon, gordderchwraig y brenin, fel gwraig Herodias yn erbyn loan Fadyddiwr, yn cynllunio dinystr y Protestaniaid, er mwyn boddloni yr offeiriaid Pab- aidd, i'r dyben o'u tueddu hwynt i sancteiddio ei chysylltiad godinebus a'r brenin, yr hyn a wnaethant. Fel y mae y mawrion annuwiol yn mhob oes yn arfer siarad yn ddiystyr- 11yd am y rhai a erlidiant, yr oedd y dynion uchel yn llys y brenin, yn arfer y geiriau "lladdwch hwynt o'r ffordd," fel digrif ymadrodd ysgafn. Yr oedd boneddiges o'r enw Madame de Sevigne, yr hon oedd yn byw yn Brit- tany, yn nghanol Cymry Ffrainc, yn dweyd mewn llythyr at gyfaiH, Y mae crogi y Protestaniaid sydd yma yn gysur mawr i mi. Y maent yn awr yn myned i ddienyddio ugain neu ddeg ar hugain, o honynt." Mewn llythyr arall, dywed am y daith flin- edig a gafodd ei mab-yn-nghyfraith wrth ymlid yr Huguenots ar hyd y mynyddoedd ac yn en hogofeydd." Cysurodd un o'i chyfeillion boneddig hi, gwr mewn awdurdod, trwy ei hys- bysu hi, ei fod ef wedi alltudio 76 o honynt i'r rhwyf-longau cospawl. Dywedodd boneddiges arall fod y brenin wedi "defnyddio ei awdurdod i uno y Protestaniaid a'r Eglwys Babaidd, yr hyn a wnai les mawr idd- ynt hwy a'u plant, ac y dygai hyn fen- dith y nefoedd ar y brenin Yr oedd y French Academy yn canmol gweithred y brenin yn erlid yi Huguenots. Gall crefyddwyr cyd- wybodol fod yn eithaf sicr, pe cyfodai erledigaeth, yr ymunai dysgedigion a llenorion annuwiol a'r erlidwyr. Y maent yn gwneud hyny yn awr yn y ffurfiau o erlid gwir dduwioldeb a gan- iata deddfau y wlad. Yr oedd dynion dysgedig yn des- grifioyr erledigaeth fel peth gogon- eddus a holl orwychder iaith. Can- molid ef ag atbrylith y beirdd. Gal- went ef yn wyrth o ddaioni! Yr oedd tynu i lawr dai addoliad y Protestaniaid yn boddloni chwaeth y mob. Yr oeddynt-fel y dorf yn am- ser y croeshoeliwyd Crist-yn ceisio boddloni y mawrion, trwy chwilio am guddfeydd yr Huguenots. Yr oedd cynygion yr awdurdodau o wobrau arianol am eu dal, yn eu denu i wneud eu goreu i'w rhoddi yn llaw eu gelyn- ion. Yroedd yr erledigaeth yn boblog- aidd gyda'r milwyr, y rhai a osodid yn nhai y Protestaniaid i fyw a bod, er mwyn eu gorfodi i fod yn Babyddion. Nid oedd tal y milwyr gan y llywodr- aeth yn un uchel. Yr oedd yr erledig- aeth, gan hyny, yn dwyn byd da hel- aethwych beunydd iddynt hwy. Defn- yddient bob peth a gaffent yn nhai y Protestaniaid fel eu heiddo eu hunain. Yr oedd yr erledigaeth yn fanteisiol i'r rhai oedd am brynu meddianau am lai na'u gwerth mewn amser o lwydd- iant. Yr oedd tir 11a wer Protestant yn cael ei gymeryd oddiarno, a'i werthu i ryw un a'i prynai. Yr oedd cybyddion fel hyny yn edrych allan am fargenion da er mwyn cyfoethogi eu hunain. Yr oedd y Protestaniaid yn cymeryd eu hysbeilio yn llawen o'u meddianau er mwyn Crist, fel y Cristionogion yn amser Paul, "gan wybod fod gan- ddynt iddynt eu hunain olad gwell yn y nefoedd, ac un parhaus." Yr oedd y Jesuitiaid wrth eu bo dd yn yr olwg ar yr erledigaeth. Yr oedd- ynt yn llanw eu lleiandai a'u hysgol- ion a phlant y Protestaniaid, y rhai a orfodid i dalu am eu haddysg gan offeiriaid y Jesuitiaid. Rhoddwyd capelau y Protestaniaid, y rhai a dyn- wyd i lawr, yn meddiant y Jesuitiaid, er mwyn iddynt hwy eu troi yn ysgol- dai a lleiandai at eu pwrpas eu hunain. Daeth rhan o'r ysbail a gymerwyd trwy yr erledigaeth oddiar y Protes- taniaid i feddiant Bossuet Fawr. Cymeradwywyd yr erledigaeth gan iai o'r Jansenists, gan fod yr urdd hono yn un Babyddol. Meddyliodd y Pabyddion nad oedd ond un grefydd yn Ffrainc, set y grefydd Babaidd, wedi iddynt hwy yru yr Huguenots o'r wlad. Goddefid yr Atheistiaid am nad oedd ganddynt un grefydd. Y mae dynion annuwiol Atheistaidd yn fwy cymeradwy o lawer gan Bab- yddion na Phrotestaniaid. Hawdd deall pa fodd y mae hyn. Dyn di- dduw, diofn Duw, yw y Pabydd. Y mae yr Atheist ag yntau yn blant i'r un tad. Gallesid meddwl fod y milflwydd- iant wedi gwawrio ar yr Eglwys Babaidd yn Ffrainc. Yr oedd yr orsedd o'i phlaid yn y modd mwyaf erlidgar. Yr oedd enwogion o'i mewn hi yn y pwlpudau-Bossuett Bour- daloue, Flechier, a Massillon, pregeth- au pa rai sydd yn adnabyddus i lawer Cymro. Ond er hyn i gyd, cyn pen can mlynedd, yr oedd yr Eglwys Babaidd wedi colli ei dylanwad ar bobl Ffrainc. Cyfododd Deistiaid ac Atheistiaid allanofynwes yr Eglwys, ac aethant yn uwch yn eu dylanwad na'r offeiriaid Pabaidd. Aeth y bobl i gredu fod Voltaire, Rousseau, Diderot, a Mirabeau, yn fwy dynion na Bossuet, Bourdaloue, Flechier, neu Massillon. Ac er fod y Jesuitiaid yn llanw y pwlpudau a moliant i'r brenin am ei greulonderau tuag at y Protestaniaid, cafodd weled effeithiau niweidi@l yr erledigaeth mewn miloedd o ffyrdd am ddeng mlynedd ar hugain wedi di- ddymu Edict Nantes, y weithred a roddodd y ffrwyn yn rhydd ar, war y bwystfil PabyddCl. Aeth y werin yn erbyn y llywodraeth. Cynorthwyodd Holland a Lloegr y werin wrthryfel- gar yn Ffrainc. Aeth pethau yn ddifrifol iawn ar yr erlidiwr coronog a'i lys. Ofnasant hwythau yn eu tro y cwpan erchyll a osododd Rhag- luniaeth o'u blaenan i'w yfed. Cyfod- odd Duw y Protestant enwog hwnw Gwilym III. yn ei erbyn ef. Wedi hyny Due Marlborough. Collodd frwydrau a thiriogaethau, tynodd Ffrainc i lawr o'i mawredd, a gosododd hi yn y llwch wrth draed Ewrop. Yr oedd wedi gyru miliwn o'r dynion goreu yn y wlad ymaith a'r erledig- aeth. Trodd y wlad yn anialwch. Arllwysodd ei drysordy. Nid oedd nebyn ymddiried ynddo. Gosododd y deyrnas mewn dyled. Gorthrymodd hi a threthi. Difethodd ei masnach hi. Collodd ei blant. Cystuddiwyd ei gorff a fistula angeuol. Gadawyd ef yn unig gan ei ordderch wraig, a bu farw yn nwylaw y Jesuitiaid; ac yn ol pob tebyg, yr oedd gwaed Protestan- iaid yn drwm ar ei gydwybod.

i BWRDD SIION CENT.

.— MASNACH GLO A HAIARN.

GLOFEYDD AMERICA.

GLOFA Y MAERDY, RHONDDA FACII.

-+ MARWOLAETH TRWY NEWYN I

Y BWRDD CYMODOL.

YR UNDEB CENEDLAETHOL.

CYFARFOD 0 GYNRYCHIOLWYR Y…

| LLECHAU (SLATES) AR WERTH