Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
UWCH DEML GYMREIG CYMRU, U.A.T.D.
UWCH DEML GYMREIG CYMRU, U.A.T.D. Cynaliodd yr Uwch Demi uchod ei chweched eisteddiad blynyddol eleni yn Nghalfaria Hall, Aberdar, ar y 24am, 25ain, a'r 26ain cynfisol, dan lywyddiaeth yr U.D.B.D. Parch. Morris Morgan, Aberdar. Yn fuan wedi y seremdniaii agorfadol, cyflwynwyd gradd anrhydeddus yr U.D. i'r holl ymgeiswyr teilwng. Yr oedd nifer fawr o swyddogion yr "w Urdd ac ymwelwyr wedi ymgynull yn nghyd, fel yr oedd yr eisteddiad drwyddo yn ddyddorol iawn. Yn mhlith ereill, yr oedd yn bresenol y brodyr canlynol Mallins, U.D.B.D. Lloegr; W. L. Daniel, U.D.B.D. U.D. Seisneg Cymru: a Evans, U.D.I.D. Cymerodd etholiad y swyddogion am y flwyddyn ddyfodol le yn eisteddiad nos Fercher fel y canlyn -U D.B.D., Parch. Morris Morgan; U.D.G., Brawd Plenydd, Pwllheli • A.C.T.Plant, Parch. D. E Davies, Pwllheli; U.D.I.D., Parch. B. Young; U.D.Ysg., Brawd E. B. Wil- liams, Aberdar; U.D.D., Cadben Tho- mas, Caernarfon: U.D.G., Parch. T. Rees, Merthyr; U.D.R., Parch. J. Mor- ris, Llangollen. Cynaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus nos Lud a nos Fa wrth, pryd y cafwyd anerch- iaclau grymus gan amryw frodyr. Dar- Uenwyd papyrau galluog ar yr achos gan y brodyr O. N. Jones, Bethesda, a W. Rees (Deincodyn), Cwm Rhondda. Amlygodd yr U.D. hefyd ei gofid dwys yn ngwyneb colli o'n plith y Brawd Pro- ffeswr Peters, Bala, a'r Chwaer Mason (Creurwy), Aberdar, yn ystod y flwyddyn aeth heibio, ai chydymdeimlad a pher- thynasau galarus yr ymadawedig ei bod h§fyd yn mawr gvmeradwyo y dysteb goffadwriaethol lr blaenaf. Priodol crybwyll hefyd fod y dreth i'r U.D. wedi ei chodi i 2g. yr aelod. Nod- weddid yr holl eisteddiad a theimlad hynod frawdol a gweithgar, yr hyn a sieryd yn obeithiol am ddyfodiad yr Urdd. Yr U.D. nesaf i'w chynal yn Mhorthmadog. D. WILLIAMS.
[No title]
Dydd Mawrth diweddaf, darfu i chwe mil o seiri coed o bob math strikio yn Manchester a Salford am godiad yn eu cyflogau.
GORLIFIAD GLOFA TY-I " NEWYDD.…
GORLIFIAD GLOFA TY- I NEWYDD. A [GAN OHEBYDD O'R LLE.1 NID oes amheuaeth na ddysgwylia dar- llenwyr lluosog y DARIAN rywbeth yr wythnos hon eto oddi wrthyf yn nghylch sefyllfa fy nghydweithwyr sydd yn awr dan arolygaeth feddygoL Nid oes genyf ddim i'w ddweyd, ond fy mod yn ymwel- ed a'r lie yn ddyddiol, ac yn sicr fod gwedd bob un o honynt yn gwella. Y mae yma luaws o ddyeithriaid yn dyfod yn ddyddiol, ond yr oedd yr ymwelwyr yn lluosocach dydd Sul nag un diwrnod arall. Y mae casgliad glowyr Cwm Rhondda tuag at drysorfa gynorthwyol y ddam- wain yn cael ei wneud ac y mae gweith- wyr Llwynypia wedi rhoddi esiampl dda p yn hyn, y rhai a gyfranasant swllt yr un yn ddieithriad, a'r bechgyn chwecheiniog. Deallwn fod hyn i gael ei wneud gan holl lowyr y cwm. Y mae'r teimlad sydd wedi ei greu at y dyoddefwyr a'r colledwyr trwy y gorlifiad yn anhygoel, ac nid oes amheuaeth na pharotoir yn helaeth ar gyfer y gweddwon a'r amddi- faid. Y mae yr arian sydd wedi eu casglu yn rhai miloedd eisiow, tra y dy- wedir na roddir heibio casglu nes cyr- haedd y swm o ddeng mil o bunau.
CAFFAELIAD CORFF J. HUGHES.
CAFFAELIAD CORFF J. HUGHES. Prydnawn dydd Llun diweddaf, daeth- pwyd o hyd i gorff John Hughes, tad y bachgen David Hughes a achubwyd, a'r hwn a weithiai gyda'i dad ar adeg y gor- lifiad. Y mae y dwfr wedi lleihau yn fawr yn y gwaith, a'r ymchwilwyr wedi gallu myned rhagddynt rhyw gan' llath o dop y drift. Deuwyd o hyd i gorff John Hughes, trwy fyned i mewn i'r gwaith trwy y twll yr achubwyd ypump sydd yn fyw trwyddo. Ychydig latheni 0 weithfa Hughes, deuwyd o hyd i ddwy tram wag, penau y rhai oeddynt ychydig o'r dwfr, a rhwng y ddwy tram yr oedd y coffff yn nofio ar wyneb y dwfr. Nid oedd am y corff ond crys, llodrau, ac es- gidiau, a llewis ei grys wedi eu torchi i fyny, yr hyn a brawf fod y dyn, druan, wrth ei waith pan y rhuthrodd y dwfr ar ei draws, Gwnawd ymchwiliad pellach am y mab colledig, ond gorfuwyd rhoddi i fyny o herwydd dyfnder y dwfr.
TORIAD Y DWFR I MEWN!
TORIAD Y DWFR I MEWN! Wedi dyfod o hyd i gorff Hughes, aeth yr ymchwilwyr rhagddynt i heading Charles Otrich, yn yr hwn le y tybid yr oedd y dwfr wedi tori i mewn o Bwll Haines, a chawsant brawf digonol mai oddiyma yr oedd y gorlifiad wedi dyfod. Yr oedd yno flocyn mawr o lo, amryw droedfeddi o drwch, wedi ei wthio allan o ganol y fating. Yr oedd yr agoriad yn ddwy lath o led, ac yn dair troedfedd o uchder. Nid oedd Charles Otrich ond newydd adael ei waith cyn i'r dygwydd- iad dychrynllyd gymeryd lie.
UNDEB CENEDLAETHOL Y MWNWYR…
UNDEB CENEDLAETHOL Y MWN- WYR A'R GORLIFIAD. Dydd Sadwrn diweddaf, cyfarfyddodd Cynghor Gweithiol Undeb y Mwnwyr yn Leeds, pryd y galwodd y llywydd, Mr. Alexander Macdonald, A.S., sylw at or- lifiad Glofa Tynewydd, ac er nad oedd glowyr y cyfryw ddosbarth yn perthyn i r Undeb, eto, ei fod yn credu y dylent anfon un i lawr i wylied yr achos ar y trengholiad. Fod llawer o chwedlau hyllion ar led o barthed y ddamwain, a'i fod yn credu y dylent geisio dyfod o hyd i'r holl wirionedd o barthed iddo, a hynv er gocheliad yn yn y dyfodol. Amlygodd y cyfarfod ddymuniad cyffred- inol ar i'r llywydd fyned i lawr; ond wedi iddo amlygu nad allai fyned, pen- derfynwyd ar Mr. Pickard.
LLUNIAU Y PUMP ACHUBEDIG.
LLUNIAU Y PUMP ACHUBEDIG. Y mae lluniau y glowyr.achubedig i'w gymeryd gan Mr. Downey, arlunydd i'w Mawrhydi, heddyw (dydd Mercher). Fe gymerir yr arluniau yn y wisg oedd am danynt yn y pwll pan y torodd y dwfr, a'r wisg a fu am danynt yn ystod eu deg diwrnod carchariad dan y ddaear. Dywed y meddyg am gyflwr meddyliol y dynion pan y daethant o'u caethiwed, ei fod yn anghredadwy o dda ac ystyried eu bod wedi bod heb ymborth am ddeg o ddyddiau ac yn rhyfeddach fyth, fod pulse a thymeredd yr oil o honynt bron a bod yn ei sefyllfa briodol. Fod yr oil o honynt wedi yfed dwfr yn helaeth yn ystod eu carchariad; a bod dirwisgiad yr awyr oedd o'u ewmpas yn fwy na chy- maint arall ag arfer, yr hyn oedd wedi bod yn atalfa treuliad i ryw raddau.
ANTHEM GOFFADWRIAETHOL
ANTHEM GOFFADWRIAETHOL GAN PROFF. PARRY. Porth, dydd Mercher. Y mae anthem wedi ei chyfansoddi gan Proffeswr Parry, Aberystwyth, sef an- them o folawd am ryddhad caethion tmddaearol Pwll Tynewydd, yr hon sydd i'w chanu mewn cyngherdd yma ar y 24ain o'r mis pre.senol; ac ar yr un pryd, y mae'r Feibl Gy rdeithas yn bwriadu cyflwyno bobo Feibl hardd i'r glowyr achubedig. A .py^aliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Aberdar, nos Fawrth, er codi tanysgrif- u' w-iv yr achos, 0 dan lywyddiaeth D. E. Williams, U.H., Hirwann. Darllen- wyd llythyrau odcfiwrth Mr. T. Whitt) Evans, Uchel Gwnstabl, ac oddiwrtl;1 y Parch. J. Wynne Jones, periglor Aber- 1 dar, yn dådgaii" êu cymdeimlad a'r mud- r -yn-eynwy-s- pumi.- post odd! wrth Mr. J; H; Wrigley, Southampton. .Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan Dr. Price, y Parch. J. Farr, David Rosser, Ysw., y Parch. M. Morgan, Mr. W. Mor- ris, y Parch. J. Davies, a Major Powell.
EGLWYS LOEGR A'R WASG GYMREIG.:,
EGLWYS LOEGR A'R WASG GYMREIG. Y MAEyr hyn a elwir Gravamen' wedi cael ei anfon at Archesgob Canterbury, fan ryw nifer o swyddogion uchel yn jglwys Loegr, yn nghylch y Wasg Gy- mreig. Dywed yr anerchiad pwysig fod 'yr Eglwys yn Nghymru yn dyoddef colled enbyd oddi wrth y ffaith fod y Wasg Gymreig, yr hon sydd yn cyhoeddi papyrau crefyddol a haner crefyddol, ac yn meddu dylanwad mawr ar y lluaws— v dosbarth gweithiol o'r boblogaeth— bron yn hollol wedi cael caniatad i ddis- gyn i ddwylaw y rhai sydd yn proffesU gelyniaeth tuag at Eglwys Loegr.' Dei- syfa yr anerchwyr ar yr Archesgob i wa- hodd esgobion yr Eglwys yn Nghymru i geisio terfynu y drwg hwn Ar yr anerchiad dyeithrol hwn yr ydym yn sylwi, yn 1. Mai enw y Parch. H. T. Edwards, Deon Bangor, sydd yn mlaenaf yn rhestr yr enwau a osodwyd wrth yr anerchiad. Y mae hyny yn ddigon i esbonio ei hy- nodrwydd. Mae yr anerchiad, a'i enw ef wrthi, yn un o'r cynyrchion dyeithrol sydd wedi cael eu cyhoeddi ganddo ef am flynyddau. Anhawdd i neb feddwl ei fod ef yn compos mentis: y mae ei ys- grifell wedi gosod pethau o flaen y Uy- mry, y buasai llawer gwallgofddyn o dalent yn cywilyddio eu hanfon allan. 2. Y mae amadifadrwydd o ymenydd, yn ei le, yn mhob brawddeg o'r anerchiad. Y mae hyn yn amlwg wrth sylwi fod yr anerchiad yn dweyd am 'ganiatad' i'r Wasg ddisgyn i ddwylaw Ymneillduwyr! Gallasai y dyn penfeddal weled yneglur, pe buasai ganado ymenydd, mai can- iatad'masnach mewn papyrau yn unig yw y caniatad.' Nid yw yr Ymneilldu- wyr ddim wedi gofyn i neb am ganiatad' o rywogaeth arall. Ac os na all Arches- gob Canterbury derfynu y 'caniatad' masnachol i bapyrau ymddangos, y mae yr anerchiad, fel pethau ereill, yn debyg o fod mor aneffeithiol i ateb pwrpas y rhai a'i hanfonodd, fel y bydd yn sicr o fod yn brawf ychwanegol fod yr Eglwys yn Nghymru wedi colli ei dylanwad ar y boblogaeth. 3. Nid oes neb wedi ceisio rhwystro llwyddiant y Bywysogaeth, a phapyrau ereill perthynol i'r Eglwys. Fel y dy- wedodd y Parch. J. Griffiths, offeiriad Merthyr, amser yn ol, nis gall yr Eglwys wneud ei chyhoeddiadau yn boblogaidd yn Nghymru. Os yw yr Eglwys yn rhy anmhoblogaidd yn Nghymru i feddianu y Wasg, a'i gwneud yn llwyddianus o'i phlaid hi, nid bai yr Ymneillduwyr yw nyny. 4. Beth pe bae yr Eglwys yn gwario miloedd o bunau yn y flwyddyn ar ne- wyddiaduron yn rhegi Ymneillduwyr, fel y Dywysogaeth a'r Western Mail, a oes rhyw ddyn yn ei synwyrau a feddyliai y gwnai hyny y papyrau yn boblogaidd 1 ►nid oes ugeiniau o filoedd o arian Pab- yddol ac Eglwysig wedi cael eu gwario i wneud y Western Mail yn boblogaidd yn erbyn Ymneillduaeth Cymru? Onid yw lief y Gravamen yn dangos fod y mil- oedd hyny wedi eu gwario yn ofer 1 5. A oes rhyw debygolrwydd y gwna yr Archesgob gynyg prynu y Faner, yr Herald Oymreig, y DARIAN, a phapyrau Ymneillduol ereill? Pe bae efe yn gwneud hyny a wnai eu meddianwyr eu gwerthu ? Pe byddai iddynt eu gwerthu, ac i'r papyrau hyny droi I regi Ymneill- duaetn, a gogoneddu ynfydrwydd hon- iadol Deon Bangor mewn cysylltiad a'i Eglwys ef, pa cyhyd y byddai pobl Cymru yn debyg o dderbyn y papyrau hyny ? Oni byddai deddf Adam Smith, o supply i gwrdd a demand, yn sicr o beri i bapyr- au ereill gael eu eyhoeddi i foddloni y mwyafrif mawr o Ymneillduwyr? Ewy ond dyn gwallgof a feddyliai roddi terfyn ar ryddid Ymneillduwyr i gefnogi pa- pyrau yn ateb i'w hegwyddorion eu hunain ? Yr ydym yn llawenychu gweled y Gravamen, am ei fod yn profi pa mor an- mhoblogaidd yw Eglwys Loegr yn Nghy- mru, yn ol tystiolaeth gwr y mae cariad at yr Eglwys wedi ei wneud yn debycach i ddyn gwallgof nac i ddyn yn y llawn feddiant o'i synwyr.
AT LOWYR GLO TAI SWYDD FYNWY…
AT LOWYR GLO TAI SWYDD FYNWY A DEHEUDIR CYMRU. GYDWEITHWYRI--IF ewn cyfarfod o gy- nrychiolwyr o amryw lofeydda gynaliwyd yn yr Angel Inn, Maesycwmwr, dydd Llun, yr21ain cynfisol, barnwyd yn ddif- rifol fod gwir angen dyfod i ddeall ein gilydd arnom fel agi gydweithredu mewn inodd effeithiol yn etholiad nesaf aelod- au y Bwrdd Cymodol. Gyda'r amean hwnw mewn golwg, penderfynwyd a gan- lyn :— 1. Fod cyfarfod o gynrychiolwyr glo tai swydd Fynwy a Deheudir Cymr* i'w gynal yn y Nelson Inn, Llanfabon, dydd Mawrth, Mai 15fed, 1877, i ddechreu yn brydlon am 11 y boreu. • 2. Tuag at gyrhaedd yr amean uchod, dyrnunir ar i bob glofa enwi person neu bersonau (dim mwy na dau), i'w cynyg trwy fwyafrif pleidleisiau yn y cyfarfod uchod, LiocL yn^aelodau i gynrychioli ja gwylied ein inferesi fel gweitnwyr glo taf ar y Bwrdd. Dymunir ar i'r holl weithfeydd anfon cynrychiolydd i'r cyfarfod a flais eu cyd- weithwyr ar y mater. Arwyddwyd ar ran y cyfarfod,J ohn Jenkins, Llanfabon,. llywydd: Phillip Mathews, Deri, is-lywydd; Phillip Jones, Abertileri, agent; John Lewis, Deri, ys- grifenydd. 1
Y RHY FEL.
Y RHY FEL. BRWYDRAU WEDI EU HYMLADD -2,000.0 RWSIAID WEDI EU LLADD. YN ein rhifyn diweddaf, hysbysasom fod cyhoeddiad y rhyfel rhwng Rwsia a Twrci wedi cymeryd He, ac nad oedd genym bellach ond dysgwyl clywed am frwydrau a dychrynfeydd rhyfel o bob cyfeiriad yn y gwledydd annedwydd sydd yn caeleu cynwys yn yr anneall- dwriaeth Dwyreiniol presenol. Dywed un gohebydd fod ymladd wedi dechreu yr un^ diwrnod ag y cyhoeddwyd y rhy- fel i'r fyddin Caucasaidd groesi y ter- fyndir mewn pedwar o leoedd, ac i'r ,blaenfilwyr Tyrcaidd gael eu cyffroi gan ddyfodiad disymwth y Rwsiaid, ac wedi ychydig. yinjadd, iddynt gael eu trechu ac encilio. Modd bynag, lladd wyd pump neu chwech o'r Tyrçiad; ac un Rwsiad. Dywed yn mhellach i gant o filwyr Tyrcaidd gael eu cymeryd yn garcharor- ion, yn cynwys un swyddog. Gyda go- lwg ar fynediad y milwyr Rwsiaidd i Roumania, dywed un gohebydd fod catrawd neu ddwy wedi gadael Bessar- abia, ac wedi cymeryd meddiant o Ga- lata. Nid oedd dadl nad o Asia yr oeddym i gael yr hanes cyntaf o barthed dechreu y rhyfel rhwng Twrci a Rwsia, a hyny o herwydd nad yw y pellder o Batoum (lie y dechreuodd Rwsia weithredu) i'r ter- fyndir ond rhyw ugain milldir, tra nad yw Alexandropol yn haner can' milldir o Kars. Y mae bob un o'r ddwy golofn hyn o'r fyddin Rwsiaidd, y rhai sydd o dan y Grand Duke Michael, wedi dyfod i wrthdarawiad a'r Tyrciaid, ac yn ol yr hysbysiadau o Caercystenyn, wedi cael eu gorchfygu. Yn agos i Batoum, dy- wedir fod y Rwsiaid wedi colli 800 o ddynion, neu, yn wir, yii ol ereill, 2,000, mewn un ymdrechfa. Os ydyw hyn yn arddangosiad o'r hyn y mae'r Tyrciaid yn myned i'w wneud, nid hir y byddant cyn penderfynu pwnc yr annealldwriaeth. Nid yw yn debyg, modd bynag, fod corff y cartrodau yn y gwrthdarawiadau hyn, dim ond yn unig blaenfilwyr y naill a'r Hall. Y mae y Tyrciaid yn dyfod a byddinoedd i gyf- arfod pob un o'r colofnau Rwsiaidd hyn, a gallwn ddysgwyl clywed yn fuan am frwydrau gwaedlyd. Er, yn ol pob tebyg, nad yw Kars mewn sefyllfa gadarn, eto nid yw yn debyg y gall Rwsia ei chymeryd heb beth drafferth. Y mae yr hysbysiad wedi cyrhaedd fod brwydr wedi dechreu cael ei hymladd o flaen Kars gyda'r wawr dydd Sul. Dywed gohebydd o Odessa fod y dref wedi ei chyhoeddi mewn sefyllfa o war- chaeaeth, a bod y boblogaeth mewn cyffro mawr; llawer^ o honynt wedi ymadael o'u hanedd-dai, ac wedi dianc i r wlad. Dysgwylir y bydd i Hobart Pasha wneud ymgais i danbelenu y lie. Modd bynag, y mae mewn sefyllfa gadarn. a bama rhai nad all y Uynges Dyrcaidd ei ni- weidio. Y mae yr holl longau masnachol tramor wedi gadael y porthladd., Dywedir fod teimladau brwd iawn yn holl drefydd Arabia, bod ymrestru a pharotoi i ryfel yn myned yn mlaen yn mhob lie, a bod gwirfoddolion yn cynyg eu hunain yn Iluoedd. Dywedir hefyd fod Scheriff Micca yn anfon i'r Sultan 4,000 o wyr arfog, a bod milwyr yn cael eu dysgwyl yn fuan i Gaercystenyn o'r Aifft.
DIWEDDARAF.
DIWEDDARAF. Y mae llygaid pawb yn bresenol ar Kars, lIe y tybir fod brwydr fawr yn awr yn cael ei hymladd rhwng byddinoedd y Grand Duke Michael a'r Tyrciaid dan Ahmed Muktar. Y mae y galluoedd rhyngddynt yn rhifo dros gan mil o wyr. Ail dechreuwyd ymladd yn Herzegov- ina, a dywedir fod y Tyrciaid wedi eu trechu lladdwyd 15. Dywed Newyddiadur o Roumania fod typhus fever yn ddychrynllyd yn mhlith y milwyr Tyrcaidd ar y Danube, a bod o 80 i 100 yn marw yn ddyddiol. Dywedir fod y Rwsiaid dan Colonel Komaroff, wedi cymeryd Artevin fod y trigolion wedi rhoddi derbyniad croes- awgar i'r milwyr, gaR roddi i fyny eu harfau iddynt.
[No title]
MAESTEG.—Araf iawn yw masnach y lie hwn. Dydd Sadwrn, yr 28ain cyn- fisol, gosodwyd rhybyddion i fyny, mewn gwahanol fanau. o weithfeydd y Meistri Brogden, yn hysbysu y bydd pawb yn rhydd yn mhen y mis. CAERDYDD.—Nid oedd yr allforion glo o'r porthladd hwn yn ystod yr wythnos a aeth heibio lawn cymaint agyn y ddwy wythnos flaenorol: eto y mae r llongau sydd wedi cyrhaedd y porthladd yn llawer llawnach. Nid oes ychwaith unrhyw gyfnewidiad wedi cymeryd lie yn nihris y glo.
Advertising
Mor o g&D yw CAPEL A1N0N, TONYREFA^ CYNELIR Eisteddfod n y lit* LLLN, Mei 7frd, 1877, pryd y y cystadlenwyr buddngol ar y gwahanol t, PEIP DDAKHA?. I'r Cor a gano \n ortn Y GwHtbjn, 0 o'r Cerddor Cj mreifr • I'r Cor a gano yn oreu Glan Elai, 0 ø Lyfr iosaa Harries, J< nee a Howtll.. ,5 Am y Bryddeet oreu ar Y Fam Llywydd: D. DAVIES, Yew., Cilely Arweinydd: Mr J P. WLLI.IAJCS, Ciltly Colliery. tAit, Beirniad: Parch vv. HABBIBS, Heol Aberdar. n Acoompanist: Mrs. JONKS, Tonjrrefai*^ T cyfarfod} dd i ddechrwu am ddan a ch* I' gloch Mynediad i mewn, b pbot. oed, 60 Programmers i'w cael am y pro gan yr Yagrifenydd, LEWIS EVANS, .s. ryuveoed, Tonyrefail, LlantrWjjV Dan Mwdd Dnwa'i dangnef.' 101 gamwaitb' EISTEDDFOD TOMAMI didi. 10. BYDDED hypbyn y cvn lir yr Eisteddl^.aj(i dydd LLUN 8ULGWYN, Ma! pryd y gwobrwyir yr ymgeiewyr budd kthyddiaeth, Barddooiaetn, AreithydQÎIMI-1I roddiadeeth, a Chaimiade-th. eithy 10 Llywydd^-WX. WILLIAMS, Yøw., Gro" HOUE-1. V BeirniaidY Rhyddiaeth a'r Farddo -DEW 1 WTN o ESSYLLT, Y Ganisdaet R. 8. HVGHES. R.A M., a Mr. D. JW JOKES. 1E8TVNAU TCHWANEGOL. Am y &% oreu, y geirion fw cael gan yr Isgrif Am r Hir h Tho'daid Beddargraif goreu i'r di«edd»r D Hovella, Coedy- .1' meibion 0 Ceir pob many lion ar y programme, y r geir am y pris arfero! gan > r Ysgrifenydd,^ EVAN LEW 16, Copdymeibion, P NATIONAL SCHOOLS, pFirtIJ BACH DISTRICT. TICKET FOB THE vfl) GRAND PiilZE DKAWU1' ID aid ol (Le above inetitntioES. jL THE Drawing v ill take place in rbiw Nationhl Scboe), on ThrteMjjt 6th of July, 1877, in the presence ol the £ 2 of the neigbbonrbood Ibe following Prizes will be given, and On" Hundred OS FIRST PRIZE, X20 STEbLtfh A 0, 1 2. Harmonium 7100 3. ^uit of Clothes or Cli.th 2 J* | Paieley Shawl «. 2 I 5. Hair-seated Chair 8 I 6 Woollen Shawl 1 I 7. Barometer 1 ? d 8. Pair of Blankets 1 jj j 9. Lady's Dress 1 • j 10. Lady's Jacket 1 J f 11. 61bs. Beet Tea 0 f t 2. One Meerschaum Pipe 0 }? t If 0 V> a 1 '• » 9t 99 •* .A 9 14. 2ib8. Best Tobaooo 0 J* ( 15. One Ham 0 1* t 16. One Quilt W « 0 17- Single Olo'ster Cheese 0 18. Pair of Sheets 0 ? I 19. One Best Brier Pipe. 0 0 TICKETS, SIXPENCE EACS. A The Drawing, which will be on the pli.0 Art Union, will take place in the Natiozat Troedyrbiw, on Thmsd.-y, July 6th, I jot the Winning Nuniters will be publimbedi Western Mail' on Monday toijowlngt A the TABIAN July 12th 1 Treasurer: Rev W. GRBBN, B.D., Troedyrhiw, near M«rthyr.. 10 per cent. coicBiipsiou allowed to ag^wir Apply Rev D. OOWBX, Mr. W. T. Mr. O. Bowen, Troecyrhiw Mr. W. Penlrebuch. &o. y A GRAND EISTEDDrO" WILL BB BBLD AT WHITLAND, J On Wednesday, the 20th day of JSOA I PKINCIPAL PHIZES. For the Choir nit lets thau F fty, 1 that shall beat render Ar Don o flaan A Prize of A5 fis. will also be given by W. R H. Powell, Esq., to the leader of the successful ch. ir. For the Chuir, not less than Thirty, < that shall best render Of alia a Batt e- < Seng* i To the Choir of the eame congrega- tion, and not less than Twenty in num- ber, that shah beat render Y Blodeuya f Olaf,'prize «. » To the Brass Band, not less tban j Ten, that shall best perfi rm Pcpe'B f Ode,'arranged by Pope, prize f For the beat rendering of any En- ¡ glish Comic Song • For the best Es ay on Priestcraft, War, and Pauperism, arb incompatible 6 vith Christianitv.1 prize For the best Essay 00 The beet j) mofe of Cultivating Root Crops and Iit Sheep Farming in the three Counties 1 f For»the best Pr ddett (Poem) on a ) « The S a,« prize For the best Lecture on the Advan- tages of the United Counties Frie. dly Benefit Society, to be written and sent to the adjudicator. The successful f composition to be read at tho Eistedd- „ 6 J fod, and not to exceed ^0 minutes ug -0 Programmes are n w ready, atd post-free at l £ d. from the Secrftary, A Mr. REE- DAVIES, AFI" Tycoch, WbjtlV Mor o gan yw Cymru gyd* PENYGR0ES, LIANDY^%Ojl B'YDDED hyfbjs y cynelir yn y lie uchod y dydd Llun ? -^1, A wst, 1877, dan ta*dd rhai 0 brif foced* ardal, pryd y g^ otrw»ir • r ymareis^y' ianus mewn Rhjddiaeth, Barddoni«etlJ, A yddi eth, s Cbaniadaeth. j,# | Bydd y mariylion i'w cael efr njewv dylodol. WK. Licwis Ysg., ee, if' Lamb, Peuy-,roef? iO j
[No title]
gwell na dall yn arwair y dall. Nid hwn yw y too cyt taf i'r di&fol gymeryd *rno l geryddu pechod. I Y mae yn dweyd rhywbeth wedi hyny am fardd a llenladrad, er yn yniwl fel arfer. Y mae yn wir na wyr y Llwynog ond ychydig am farddoniaeth, ond y can- euon hyny sydd wedi eu cyhoeddi genyf, nid wyf yn meddwl fod Nero wedi eu gweled hyd y nod mewn llyfr Saesonig. Son am hnllxdrad, y mae y Llwynog er's blynyddau wedi clywed am Imlladrad cenedlaethol, beth bynag a olygid wrth hyny fe allai y gall Nero wbonio. Lleidr eilw leidr gyntaf. Fel llawer ereill, yr wyf wedi bod yn ystod yr wythnos a aeth heibio yn y Porth, ac wrth fyned yn ol ac yn mlaen yno, yn gorfod myned trwy Cwm c. Yr oeddwn yn ofni ac yn crynu, a'm cyn- ffon ar y pryd mor isel ag oedd bosibl iddo fyned. Cefais gipolwg ar y byr yr oedd fel Adda yn yr ardd, ond yn edrych yn ddigo n anfoddog—yn debyg i Adda cyn cael gwraig, debygwn Ond wrth droi fy llygaid tuag ato, a cheisio myned rhag blaen ar yr un adeg, bron nad aethom dros fy mhen a'm clustiau yn • y baw drewllyd yn yr heol, a hyny yn ymyl tai y one pouh I men. welodd Llwynog y fath le a hwn erioed Wrth fyned yn mlaen, a gweled y lie, o'r hwn yr oedd y gwragedd a'r plant yn gorfod cario yr hyn a alwent yn ddwfr glan arno, braidd nad oedd dagrau cydymdeimlad dros y ddynoliaeth ddarostyngol yn tarddu o'r ffynonau dysglaer sydd ych- ydig uwchlaw trwyn y Llwynog. Nid elai ond ychydig gost na thrafferth i gael y rhoddhon o eiddo natur sydd yn tarddu dan y graig yna-man y bu y Llwynog ganwaith yn disychedu ei hun-i le cyf- leus a glanwedd. Pan ar gyfer y pwll isaf, cyfarfyddais a chreadur mawr menywaidd, yn ddigon o faint, barnwn i, i fwyta pedwar o lwynogod y man lleiaf, ac wrth feddwl beth allasai y fath glamp o annibendod fod, penderfynais nad allai fod yn ddim amgen nag ystorfa clecs, canys clywais ei bod yn perthyn yn nes na nai i brif gynffonwr y lie. 0 ie, i'r Porth yr oeddwn yn myned, ac i'r Porth hefyd yr aethym, ac nid hir y bum nes oeddwn yn nghanol y lluaws ar ben y pwll y dygwyddodd yr anffawd ynddo. Anffawd a ddywedais, ie, y mae wedi bod yn anffawd i rai, ond mor wired a hyny, yn ffawd i ereill. Beth sydd ? Y mae swn cwn yn fy nghlustiau—ond swn o bell ydyw, ac os nad wyf yn camgymeryd eu lIeisiau, cwn v Cap ydynt. Rhyfedd y fath stwr Yr helwyr oil allan, ac yn tynu o amgylch rhyw haner cadno arall sydd am fyned yn boblogaidd yn y byd gafferyddol a gwyr yn dda os ydyw am fod felly, fod yn rhaid iddo gyhoeddi ei hun yn anti- Llwynog. Y mae swn cavnyn fiwsic i'm clustiau, ac unwaith y clywaf eu lleisiau, nis gallaf ond gwrando a dawnsio. Y mae yn rhaid ymollwng a chael jig. LLWYNOG O'R GRAIG.