Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

."DVDD GWENEB.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

"DVDD GWENEB. Y peth cyntaf a wnaed wedi cyfarfod y boreu hwn oedd hysbysu fod telegram wedi ei dderbyn oddiwrth Mr. J. H. P. Leresche, y cyfreithiwr apwyntiedig ar ran y llywodraeth. Yr oedd y boneddwr hwn eisieu gohirio y trengholiad hyd yr Slain o Fai, er iddo ef ei chaelyngyfleus i fed yn bresenol. Wedi peth siarad, penderfynwyd myned yn mlaen y diwr- nod hwnw gyda'r rhan mwyaf dibwys o'r tystiolaethau, gan adael y pethau pwys- icaf hyd nes y byddai cyfreithiwr y llyw- odraeth yn bresenol. Y tyetion cyntaf oedd Thomas Morgan, yr hwn a ddywedodd ei fod yn gweithio yn heading George Jenkins am bedwar vr gloch prydnafrn. Ei fod ef a'r lleill oedd gydag ef wedi gwisgo yn barod i ^rned tua thref, ac yri myned rhagddynt i grfeiriad y drifft. Pan oddeutu can' llath o'r lie y gweithient, iddynt gyfarfed a gorlifiad dwfr, yr hwn a ymddangosai i fod yn tua llathen o ddyfnder. Iddynt fyned trwy awyrffordfl i weithfa Edward Williams, lie y cawaant Williams a Caff sio yn parotoi i adaeL Drwedasant eu bod wedi clywed swn fel tanchwa, ac mai hyny oedd y cwbl a wyddent am yr hyn oedd wedi dygwydd. Gan gadw eu goleu, ceisiasant eu pump wneud eu nordd i hen awyrffordd yn y drifft. Iddynt ddeall nad allent fyned allan fel hyny,.trwy fod y dwfr wedi llanw y lie o'u blaenau. Iddynt ymgynghori a'u gilydd, a chofio fod awyrffordd-neu le yr oedd Mr. Thomas wedi bwriadu gwneudawyrffordd. Yr^ddynt weddio a chanu yn nghyd, a (;, eucnocio. Yn fuan wedi iddynt gnocio, iddo gael ei ateb o'r ochr arall. Iddyut weithio gy- maiut ag a allent eu hunain, ac erbyn pump y boreu iddynt gael foa y rhai a weitLient yr ochr arall wedi dyfod at eu hochr i'w cyfarfod. Fod y dwfr wedi dvfod o fewn 30 neu 40 o latheni atynt. Cyn tori y twll trwyodd, i'w meistr, Mr. James Thomas, ddweyd wrthynt am roddi allan eu goleu. Pan torwyd y twll, i'r gwynt ruthro gyda thwrf mawr. I'r dwfr yr adeg hono ddyfod o fewn deg llath iddynt, a'u bod yn taflu ceryg iddo er dyfod i ddeall pa mor agos yr oedd. Fod gwaith y dwfr yn dyfod yn nes atynt wedi eu brawychu yn fawr, ac i'w fab fyned yn hynod ofnus. I'r dynion o'r tuallan encilio, canys er nad allent ddeall eu gilydd, dywedodd efe fod yr ymchwilwyr wedi rhedeg ymaith. Iddo roddi dwy jacket yn y twll, ac yna iddynt ddeall eu gilyd i I'w fab ddywedyd fod y dynion oedd wedi dyfod i'w hachub wedi eu gyru ymaith gan y dwfr. Na wrandawsai ei fab arno ef i fod yn dawel, ond iddo fyned a gain er gwneud twll trwyodd. Iddo arnyny gael ei daro i'r twll gan nerth yr awyr, a'i ladd yn y fas. I'r rhai oedd o'r tu allan wneud tyllau i'r awyr fyned drwyddynt, ac eangu yr agorfa. Iddo ef a'r lleill oedd gydag ef, gyda'r eithriad o'i fab, gael eu dwyn allan yn ddyogel. Ei fod yn credu fod oddeutu 14 yn y pwll ar y pryd. Mewn atebiad i Mr. Wales: Nid oedd efe erioed wedi clywed am gronfa o ddwfr a allasai orlifo y lofa. Ei fod wedi gweithio yn y Tynewydd am bym- theg mlynedd, a chyn hyny yn hen bwll y Cymer, yn y wythien dair. Nad allai efe ddweyd pa bryd y terfynwyd gweith- io yno. Mewn atebiad i Mr. Pickard Ei fod yn ymwybyddus pan y cafodd ei achub, ac yn adnabod pawb o'i gwtapas. Nad oedd efe erioed wedi tybio fod cronfa o ddwfr yn mhwll Hinde. Ei fod yn gwybod fod y cyfryw bwll wedi stopio. Fod pwll Hinde yn arfer cael ei alw yn 0 Lofa y Cymer, ac yn perthyn i Mr. In- sole. Fod yr hyn a elwir yn awr yn Pwll Hinde, yn cael ei alw yr amser hwnw yn pwll uchaf y Cymer. Ei fod wedi hyny wedi ei is-osod i Mr. Hinde, ac yn cael ei alw er hyny yn Pwll Hinde. Ei fod yn deall fod y ddau bwll yn gy- sylltiedig, canys pan yr oedd efe yn gweithio yn un, yr oedd yn gallu clywed y glowyr yn gweithio yn y Hall. Y tyst nesaf ydoedd Moses Powell, yr hwn a ddvwedndd ei fod vn bvw vn v Porth, ac yn lowr. Ei fod yn gweithio yn stall George Jenkins, a'r llanc David Hughes yn gweithio gydag ef, a John Thomas a David Jenkins mewn oddeutu ugain llath iddynt. Ar yr lleg o Ebrill, oddeutu pedwar o'r gloch, eu bod oil wrth waith-George Jenkins ag ef yn gwneud twll yn y top, er gwneud y ffordd yn uwch i'r ceffyl fyned i fyny. Iddynt deimlo fod yr awyr yn gryfach nag arfer, ac ar y cyntaf nad allent wneud allan yr achos o hyny. Meddyliasant mai drws No. 8 oedd yn agored. Iddo ddweyd wrth Jenkins am droi yr aing, trwy eu bod ar orphen y twll. 1Jenkins ddweyd ei fod yn sicr fod rhywbeth y mater: fod yr awyr bron yn chwythu eu canwyllau allan. Iddo gymeryd y ganwyll a'i dodi 0 gyrhaedd rhediad yr awyr. Iddynt fyned yn mlaen a thyllu, ond i David Jenkins, yr hwn oedd o'r tu ol iddynt, waeddi fod rhywbeth yn sicr o fod. Iddo ddweyd fod dwfr o gwmpas yno. Iddynt adael ar unwaith, a rhedeg yn ol oddeutu 20 llath, pryd y cawsant eu hunain mewn dwfr. Iddynt geisio eu goreu fyned yn 01 trwy y dwfr i'r drifft: ac iddynt trwy gryn drafferth gyrhaeda gweithfa Tho- mas Morgan. Ceisiasant agor y drws, ond methasant. Yna iddynt fyned i fyny yr awyrffordd i weithfa Thomas Morgan, ac wrth ddyfod i lawr yr awyrffordd i'r talcen, iddynt gyfarfod a'r dwfr drachefn oddeutu dwy dreed- fedd o ddyfnder. Iddynt fyned yn ol drwyddo, ac iddynt gael eu hunain yn myned yn ddyfnach. I'r dwfr fyned yn drech na hwynt. Yna, iddynt fyned i heading David Jenkins, iddynt gael fody dwfr i'r top, ac iddynt orfod dvchwelyd. Fod y bachgen Hughes yn ei law. Fod gweithfa Thomas Morgan oddeutu 40 Sath o hyd, ac i'r dwfr eu canlyn nes dyfod mor agos a 24 llath iddynt. I'r swn ddarfod pan y daeth y dwfr mor uchel a hyny; ond ei fod cyn hyny fel taranau. Y diwrnod canlynol, iddo dafiu ei got ymaith, a cheisio myned trwy y dwfr. Yr oedd y stall oddeutu 12 llath o led yn y wyneb, ac wedi ei gobio hyd at rhyw dair neu bedair llath. Iddynt fyw mewn rhyw bedair llath o le wrth 12. Yr ail ddiwrnod, pan y ceis- iasant fyned allan, cawsant fod y dwfr mewn naw modfedd i'r top, ac nad oedd gobaith dianc. Nad oedd yanddynt ym- borth, ac wedi gadael eu dillad uchaf yn eu gweithleoedd. Eu bod wedi cadw eu goleuni i mewn nes dyfod i'r stall, lie y daethant o hyd # i oddeutu tri phwys o ganwyllau, y rhai a berthynent i Thomas Morgan a'i ddau fab, y rhai a weithient yno. Iddynt eu llosgi bob yn ddwy nes iddynt fyned at ddeg. Yr oedd 16 o honynt yn y pwys, ac un yn para am oddeutu dwy awr a haner. Cyhyd ag yr oedd y canwyllau ganddynt, fod rhyw ddychymyg am amser ganddynt. Nad oeddynt wedi ceisio bwyta canwyllau. Tra yr oeddynt yno, iddynt sylwi i'r dwfr gilio oddeutu wyth llath, a'u bod wedi rhoddi nodau pwrpasol i nodi ei enciliad. Ar yr ail ddydd, tra yr oedd efe yn gwylied y dwfr, iddo weled y dwfr yn cilio yn sydyn gymaint a dwy neu dair llath. Iddo alw allan ei fod yn myned yn oli ond iddo dychwelyd yn fuan. Ei fod yn credu yn awr i'r enciliad sydyn hyny gymeryd lie pan y rhyddhawyd Thomas Morgan a'i gyfeillion. Iddynt gael tramaid o lo yn y weithfa, yr hon wedi ei dadlwytho, a ddefnyddiasant fel eu gwely. Eu bod yn gorwedd ar eu hochrau oil, ac yn rewid ochrau ar bryd- iau. Iddynt ei chael yn hynod oer, ac mai dyma yr unig ffordd oedd ganddynt i gynesu. Eu bod yn myned yn fwy sychedig bob dydd, ac yn yfed oddeutu tri pheint o ddwfr yn ddyddiol, gan fyned i lawr ar y llawr i'w yfed. Fel yr oedd y syched yn cynyddu, yfent hwythau fwy. Ac fod y dwfr ar y cyntaf yn fudr a drwg, ac yn ymddangos i fod yn llawn o lwch glo, ond wedi hyny daeth yn well i'w yfed. Iddynt fyned mor sychedig, nes eu bod yn yfed tua dwy waith yr awr. Nad oeda dim yn annaturiol yn eu teimladau, ond y sych- ed, ac na theimlasant ddim oddiwrth ddwyseidd-dra yr awyr. Nad oedd wedi effeithio ar eu penau, llygaid, na chlust- iau. Iddynt glywed, y gweithio am Thomas Morgan a'i gyfeillion,—pellder, fel yr oedd efe wedi clywed, o 122 o latheni. Mor gynted ag y elywsant y dynion yn gweithio tuag atynt, idaynt gnocio yn ol. Iddynt glywed cnocio y noson gyntaf, ond iddynt fod amser maith wedi hyny heb glywed cnocio. Nad oeddynt wedi gweithio o gwbl, dim ond cnocio. Eu bod wedi ateb y cnoc- iadau yn ddyddiol. Eu bod yn myned yn wanach o hyd. I'r ymchwilwyr ddy- fod mor agos o'r diwedd nes gallu gwaeddi arnynt, ac iddynt hwy eu hateb. O'r diwedd iddynt dyllu twll trwyodd hyd atynt, ac iddynt glywed yr awyr yn rhuthro drwyddo. Iddynt aros yn y tram am oddeutu awr pan oedd yr awyr yn myned allan. Nad oeddynt wedi gallu cysgu ond ychydig, oddigerth John Thomas a David Hughes, y rhai a gysg- asant y rhan fwyaf o'r amser. Pan y gwelsant y dwfr yn dynesu, iddynt ddweyd wrth y rhai oedd o r tuallan ei fod yn dyfod atynt, ac wedi deffro y tri ereill, iddynt stopio y twll a bhap. Cariodd yr awyr y cap trwyodd, ond iddynt geisio yr ail waith a llwyddo. Wedi hyny, i dwll arall gael ei dori, pryd y gwaeddas- ant eu bod yn eu boddi, a llwyddasant i stopio hwnw drachefn. Fod y dwfr er- byn hyn wedi cyrhaedd y tram, yr hon oedd o fewn chwe' Hath i'r facing. I'r dwfrbarhau i godi; gorchuddiwyd y tram, a gorfu iddynt hwy fyned i'r pen yn lan. Pan y cawsant eu gwaredu, eu bod mewn naw modfedd o ddwfr. Mr. John Thomas, surveyor o dan Mr. Morris, a ddywedodd mai o dan ei ofal ef yr oedd holl waith 8urveyo Mr. Morris er's 17 mis. Fod y lofa yn cael ei mr- veyo yn chwarterol, a'i bod wedi ei surveyo diwrnod y cymerodd y ddamwain Ie. O'r 14eg o Ragfyr hyd yr lleg o Ebrill, fod headina Charles Oatridge wedi myned rhagdao 67 o latheni. Nad oedd yno ddim fove-holes nac arwyddion dwfr. Mewn atebiad i Mr. Wales Nad oedd efe wedi clywed erioed fod dwfr o flaen heading Oatridge Mewn atebiad i Mr. Pickard Ei fod yn gwybod eu bod yn dysgwyl cyfarfod a fault, a'i fod yn bwriadu aros wrth y fault. Ei fod yn dysgwyl y buasai y fault wedi ei gyfarfod cyn myned mor belled, ond nad oedd yn meddwl eu bod yn myned mor ages i'r boundary. Y di- wrnod nesaf iddo ei gael allan, pan yn rhy ddiweddar; ond ar y pryd, nad oedd efe wedi sylwi^pa mor agos i'r boundary yr oeddynt. Na ddarfu i'r goruchwyliwr erioed ofyn, ac na ddarfu iddo yntau ei hysbysu beth oedd y pellder. Ei fod wedi ei nodi ar y plan, a'i adael yn y swyddfa. Mae hyny jn unig oedd ei waith ef. William Thomas, glowr, a ddywedodd ei fod yn gweithio mewn talcen yn ar- wain allan o eiddo Oatridge; nad oedd efe wedi gweled dim o'r dwfr ei hun. Mai efe oedd wedi gweled Williams a Rogers olaf yn fyw, a'u bod wrth eu cimaw pan yr oedd efe yn dyfod allan oddeutu dau o'r gloch. Gohiriwyd y trengholiad hyd y 15fed cyfisol.

Y GWEITHWYR YN TROI YN GAFFJSRS.'

-,-AT EGLWYS Y GADLYS, ABERDAR,

AT LOWYR CWM RHONDDA.

BWRDD YSGOL CILYBEBYLL.

LLANELLL

[No title]

HANES RHYFEDD.

GWELLHAD HYNOD.

Advertising

GOR] JFIAD Y TYNEWYDD.-r-…