Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

AT GREFFTWYR A GWEITHWYR CYMRU…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AT GREFFTWYR A GWEITHWYR CYMRU YN GYFFREDINOL. .Yewn canlyniad i ymgais egniol ar ran Cwmni Glo a Haiarn Powells Dyfiyn. a chwmniau ereill yn nyffryn Aberdar, i ail sefydlu yr Hen Oriau Gweithio, a di- ddymu cyfundrefn y Naw Awr, y mae oddeutu 200 o wahanol grefftwyr allan o waith trwy wrthsefyll y cyfryw. Yn gymaint a bod ymgais cyffelyb ar ran y meistri mewn lloedd ereill wedi methu dinystrio cyfundrefn y Naw Awr, y mae yn ymddangos i ni eu bod wedi credu mai Aberdar, yn ei sefyllfa bresenol, oedd y lie i wneud hyny, trwy fod y rhan fwyaf o'r gweithwyr, ar yr adeg bresenol mewn sefyllfa haner newynog. Eta, ni bydd i ni roddi i mewn heb ymgais egniol, er nad yn barod i frwydu mewn unrhyw ddull, yn gymaint ag nad oeIJ gan yr wyth- fed ran o honom unrhyw gymdeithasau i'n cynorthwyo. Yn anmharod fel hyn, yr ydym yn apelio atoch am gynorthwy, fel y gallwn wrthsefyll yr ymgais hwn o ddinystrio cyfundrefn y Naw Awr, a theimlwn yn hyderus y derbyniwn eich cydymdeimlad. Yn ymddiried y rhoddwch i'n apel ystyriaeth ffafriol, ac y derbyniwn gyn- orthwy digonol i wrthsefyll ymgais ein meistri. Y gorphwyswn, yr eiddoch yn ddiffuant, PWYLLGOR AMDDIFFYNOL Y NAW AWR. Alfred Floud, Ysgrifenydd, George Usher, Trysorydd. Pob arian i'w hanfon at ac yn enw y Trysorydd, a phob gohebiaeth at yr Ysgrifenydd, wedi eu cyfeirio i ystafelly Pwyllgor, Temple Bar, Aberaman, Aber- dare. «— —»

MERTHYR—PERFFORMIAD Y 'CREATION.'

LLANELLI.

RHYFEL, BARA, A MASNACH.

BWRDDD YSGOL BEWELLTY.

EGLWYS Y GADLYS, ABERDAR.

DRUDANIAETH TAI YN .NHREORCI.

FERNHILL-PETHAU O'U LLE.

BRAWDLYS GWANWYN MOR, GANWG.

[No title]

Advertising