Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

AT GREFFTWYR A GWEITHWYR CYMRU…

MERTHYR—PERFFORMIAD Y 'CREATION.'

LLANELLI.

RHYFEL, BARA, A MASNACH.

BWRDDD YSGOL BEWELLTY.

EGLWYS Y GADLYS, ABERDAR.

DRUDANIAETH TAI YN .NHREORCI.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DRUDANIAETH TAI YN NHREORCI. Er ys ychydig ddyddiau yn ol galwyd cyfarfod yn nghyd o holl denantiaid rhan neillduol o'r lie uchod, i'r dyben o alw sylw perchenogion tai at sefyllfa isel y dosbarth gweithiol, yn nghyd a'r lleihad dirfawr sydd wedi cymeryd lie yn nghyf- logau y gweithwyr i'r hyn oeddynt pan sefydlwyd aidrethoedd tai yn y lie. Pasiwyd yn unfrydol yn y eyfarfod uchod fod pob ty-ddaliwr oedd yn bre- senol fi siarad a pherchenogion eu tai, dangos iddynt yr anmhosiblrwydd oedd iddynt dalu ardreth mor afresymol uchel ar adeg pan y mae yr enillion mor lleied, a gofyn am ostyngiad, sef fod y tai sydd yn £1 10s. y mis i ddyfod i lawr i 21 6s. a'r rhai hyny sydd yn £1 3s. i fod yn £1 Ond y mae yn debyg na wnawd un sylw o'r cais teg a rhesymol hwn; gan hyny, dymunol fyddai i'n cyfeillion gorthrym- edig ail gyhoeddi cyfarfod, dyweder yn Ysgoldy Dnol y Gweithwyr, Treorci, y nos Sadwrn olaf yn Mai, i'r dyben o roddi ail gynyg am ostyngiad; ac os na cheir cydsyniad, y mae cynllun ar droed i fynu gwrandawiad. UN YN TEIMLO DROS Y TLAWD.

FERNHILL-PETHAU O'U LLE.

BRAWDLYS GWANWYN MOR, GANWG.

[No title]

Advertising