Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Y TRYDYDD DYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y TRYDYDD DYDD. Y tyst cyntaf i'w alw heddyw oedd M. W. Pickard, Wigan, yr hwn a adroddodd y modd caredig yr oedd y perchenogion wedi caniatau iddo fyned i lawr i'r lofa, ac i archwylio y lledrosto ei hun. Nid oedd wedi gweled yr arwydd lieiaf yn un man am y fault yr oedd cymaint o siarad wedi bod am dani. O'r farn fod Williams a Rogers wedi eu lladd gan gwymp o'r nenfwd, wedi ei achosi gan awyr cy- fyngedig; hefyd, fod y dwfr yn rhwym o fod yn rhymus iawn cyn y buasai wedi gymud ceryg o bump i ddeg tynell o bwysau. Ei fod o'r farn, pe buasai Oat- ridge wedi tyllu twll o hyd cyffredin, y buasai hyny wedi rhoddi mantais i gilio. Pe buasai parotoadau y gyfraith wedi eu cario allan, yr oedd o'r fam y buasai y He yn hollol ddyogeL Ystyriai ef fed abseaoldeb y rheol hono yn esgeulus- dod dibryd. Y nesaf i'w holi oedd Mr. Wales, yr archwyliwr. Dywedai ef, wrth sylwi ar dystiolaeth Chas. Oatridge, ei bod yn amlwg fod y 9fed reol o Reolau Cyffred- inol Cyfraith Rheoleiddiad Mwnglodd- iau wedi ei hesgeuluso. Nid oedd efe yn tueddu i ddiystyru yn hollol yr hyn a ddywedir yn nghylch 3 fault; ond er hyny, ei farm ydoedd fod y glo wedi ei weithio y ddwy ochr nad oedd fault o saith llath yn ddigon o nerth yn erbyn grym mawr o ddwfr. Dylesid, pan oedd heading Oatridge ryw ugain llath o'r fan y mesurwyd yn Rhagfyr, ac heb fod un arwydd am y fault, droi yr heading arun- waith yn gul, a thyllu yn ol darpariad- au y gyfraith gael eu gwneud; ac i'r ffaith fod hyn wedi ei esgeuluso yr oedd ya priodoli y gorlifiad, ac mewn canlyn- lad colliad y bywydau. Darilenodd heIyd rheol y 30ain, yr hon sydd yn rhoddi hawl i weithwyr i archwilio y gIofeydd er eu dyogelwch eu hunain. Blin oedd ganddo feddwl fod y rheol hon yn cael ei hesgeuluso gan y gweithwyr, ar ran pa rai yr oedd wedi ei pharotoi. Pe byddai i'r gweithwyr gario allan y rheol hon, byddent bob amser yn gyfarwydd a sef- yllfa y glofeydd y gweithient ynddynt, a phan y caent rhywbeth allan o Ie, neu rywbeth yn tueddu at berygl, beth fyddai yn hawddach iddynt ei wneud na nvsbysu archwiliwr y dosbarth o hyny, a chai y mater sylw uniongyrchol. Yn teimlo yn sier fod gweithwyr y Tynewydd yn gwybod am y gronfa ddwfr oedd yn mhwll Hindes a phe buasai yr unrhyw yn wybyddus i mi, buasai y mater wedi cael ei archwilio, a'r perygl yn debyg o fod wedi ei ganfod. Yn un o'm had- roddiadau blynyddol, meddai, wedi cyf- eirio at fod y rheol hon yn cael ei hes- feuluso yn gyffredinol, ac yr wyf yn resenol yn cymerydy fantais o alw sylw difrifolaf holl lowyr Deheudir Cymru at yr angenrheidrwydd o gario allan y rhan bwysig hon o'r Gyfraith am 1872. Wedi cryn ddadleu ar y cwestiwn hwn rhwng Mn. Wales, Leresche, Pickard, a'r crwn- er, dywedai Mr. Wales ei fod o'r farn pe buasai y gweithwyr yn gofyn am weled y plans, fod y meistri yn rhwym o gan- latau hyny. Wrth barotoi y mate] i sylw y rheith- wyr, aeth y crwner drwy yr oil o'r tyst ielaethau blaenorol ag oedd yn ymwneud yN uniongyrchol a'r pwnc, a gosododd y mater o'u blaenau yn y wedd ganlynol: A ydych yn ystyried y dylai fod y swyddogion yn gwybod am yr hen waith yn mhwll Hindes ? A ydych yn ystyr- ied fod yr hen waith hwnw yn cynwys dwfr'neu nwy? Ac os felly, a ydych yn ystyried fod v rheol wedi ei chario allan ? Brachefn, beth oedd sefvllfa heading Oatridge ? Dvwed ef ei fod' yn 10 llath o led. ac heb dyllau. Cadarnhawyd hyn gan M. Thomas ac ereill. A ydych yn ystyried fod hyny yn unol a'r Gyfraith? Os nad oedd, ofnwyf nad ellwch ddyfod i un penderfyniad ond fod y Gyfraith wedi ei thori, ac yn euogo esgeulusdod a dyuladdiad. Os felly, rhaid i chwi ben- derfynu pwy yw y person cyfrifol am hyny. O'r tu arall, os nad ydych yn ystyried fod yna un euogrwydd, ond fod y trychineb yn ddamwain bur, ac na allai un rhagofal ei hatal, felly pa mor tin bynag oedd y canlyniadau, nid oedd ond damwain. Yr wyf yn gosod y mater yn eich dwylaw, mewn llawn ymddir- ledaeth y gwnewch gyfiawnder ag ef.

Y RHEITHFARN.

[No title]

PATAGONIA.—ATEBIAD I ' PIO.'

[No title]

Y BWRDD CYMODOL.

CHWIFF GLOWYR YSTALYFERA.

,..'DYF^RYN TAWE.I

LLITH YR HEBOG GLAS.

EISTEDDFOD FAWREDDOGI DOWLAIS.

[No title]

Advertising

TREFORRIS.

YB AIL DDTDD.