Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Y TRYDYDD DYDD.

Y RHEITHFARN.

[No title]

PATAGONIA.—ATEBIAD I ' PIO.'

[No title]

Y BWRDD CYMODOL.

CHWIFF GLOWYR YSTALYFERA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CHWIFF GLOWYR YSTALYFERA. MR. GOL.Nid oeddem wediarfaethu ysgrifenu pwt o lith i'ch colofnau am ychydig wythnosau, fel y crybwyllwyd yn y Chwiff ddiweddaf genym; ond wedi gwel'd rhyw fitw bach a ffugenwa ei hun yn Eryr Taren Gwyddon' ar eich rhifyn diweddaf, yn cyhoeddi 'Anath- ema Maranatha' uwch ein penau, vr ydym o dan orfodaeth ac yn rhwym o i wrthsefyll. Clyw, fab y tan, a glan- hawr simneuau'r fall! pwy roddodd drwydded i ti dynu wrth dy fwa pil- brwynaidd, a thaflu dy saethau ar an- tur fel yma ? Pa sawl cwd o erfiin a gefaist am ysgriblo dy lith ? Sawl pwn o flawd haidd gefaist am gymysgu y tipyn cawl yna sydd yn aros ar dy ym- enydd ? Syned trigolion y byd, a rhy- fedded plant y Betws, fod pastwn p idler o fath hwn yn d'od i ddangos ei hun ar golofnau newyddiadur. Mae'r creadur ffrothiog wedi ymddyrysu yn lan loyw. Ydi'r delirum tremens ar ei ymenydd ef, wys ? Bydded ei gyfeillion yn dyner o hono. Dodwch ychydig o'r dividend plas- ters am y tipyn stwc yna mae e'n gario rhwng ei ysgwyddau, neu fe ddaw rhai o swyddogion John Bull i'w glanio i fyny, a dodi label ar ei dipyn dynoliaeth, ac arno yn ysgrifeuedig y cyfeiriad canlyn- ol From G. F. Inn, Gwys Station, to Bridgend. Dos di yn mlaen, was bach, ond gwy- bydded dy fawrhydi nad yw'r Cofnodydd yn hidio blewyn am gatrawd o lilipwt- laid o dy fath di, a dichoi y cei wel'd a theimlo hyny cyn pen un dydd a blwydd- yn. COFNODYDD.

,..'DYF^RYN TAWE.I

LLITH YR HEBOG GLAS.

EISTEDDFOD FAWREDDOGI DOWLAIS.

[No title]

Advertising

TREFORRIS.

YB AIL DDTDD.