Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

DYFFRYN GWENDRAETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYFFRYN GWENDRAETH. Y dydd o'r blaen, pan ar fy nhaith i Pontyeats, tynwyd fy sylw at hysbysiad oedd wedi ei osod i fyny ar goeden yn ymyl y ffordd, ger capel Nazareth, cyn- wysiad yr hwn oedd fel y canlyn Y mae nhw yn dweyd fod contract glofa'r Plasbach ar ben, ond fod ei effeithiau yn aros, ac i'w weled yn amlwg jfti y gostyniad sydd wedi cymeryd lie yn y lofa. Y mae yn ofynol i lofeydd y cwm gymeryd gofal o herwydd nid wrth ei big mae adnabod cyffylog, nac wrth ei ben mae adnabod llwynog coch Ponthendy. Y mae gair o eglurhad ar hyn yn angenrheidiol, er mwyn i'r darllenwyr ddeall yr achos o osodiad yr hysbysiad i fyny yn ymyl y ffordd. Er ys pedwar neu bump mis yn ol, bu pump o lowyr y lofa uchod mor fonedd- lgaedd a chymeryd y lofa idd ei gweithio ar gontrcust, a hyny yn groes i ewyllys eu cydweithwyr, am dri mis, heb i un cyf- newidiad i fod: ac yna, fod hawl gan y naill blaid fel y llall i roddi i fyny ar derfyniad yr amser Denodedig, os na fu- asent yn gweled eu ftordd yn glir i fyngd fa mlaen yn mhellach; ond ar derfyniad y tri mis, rhoddodd y meistri rybydd i'r glowyr am ostyngiad, ac i wneud ffwrdd a'r contactors, a hyny o herwydd eu bod wedi gwneud ychydig bres yn fwy na standard y lofa, wrth wneud cam a'u hun- ain—gweithio glo y dydd, a reparo y nos, a dewis y talcenau goreu iddynt eu hun- ain, a rhoddi y rhai gwael i ereill. Ac yn sicr i chwi, yr oedd cymaint o ddig- ofaint yn bodoli rhwng y gweithwyr a'r cynffonwyr, fel y penderfynwyd, un ac oil, fod yn rhaid i'r hen gorpws I ddyoddef heb ystyried fod y staff yn eu gwylio. Pa ryfedd fod y meistri yn ein gormesu, pan mae ein cydweithwyr yn troi yn fradwyr a chynffonwyr. Tro yn ei le fyddai gosod eu henwau gerbron y dar- llenwyr, ond ymataliwn y tro hwn, gan obeithio na fydd iddynt droi yn fradwyr i'w cydweithwyr mwyach. TWRCH.

AT WEITHWYR Y FFORFST FACH…

[No title]

TRIOEDD GLOWYR CWMDULAIS.…

[No title]

BLAINAU.

Ferndale Colliery Explosion…

Advertising

CYFARFOD Y GLOWYR YN LLAN.…