Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

CONCWEST AR Y TORIAID.~

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CONCWEST AR Y TORIAID. Y mae y Toriaid wedi colli y dydd yn Nhyyr Afglwyddi. Erys hyn fel ffaith awgrymiadol iawn yn Nghroniclau Senedd y wlad hon tra y pery amser. Y mae y fuddugoliaeth yn hynod ar lawer ysiyr. Nid buddugoliaeth yn Nhy y Cy- flredin oedd hi. Digon tebyg y bnasai mwyafrif yno o blaid y Toriaid a'r Weinyddiaeth Doriaidd. Gall y wlad ddiolch am hyn i dafarnwyr ac offeiriaid Eglwys Loagr, y ddwy blaid a ymunasant o dan rith o grefydd, am fod gobaith eu helw hwynt mewn perygl oddiwith lwyddiant Rhyddfryd- iaeth, yn ei ymdrech i sobreiddio y wlad ac i symud beichiau ymaith oddi ar gydwybodan. "Drygfyd a erlyn bechadnriaid," sydd wirioaedd anffaeledig. Pa ym- dvonlt Kynag a vneir bløÏd anghyf- iawnder, pa nifer bynag fydd yn ei bleidio, beth bynag a all-fod nerth, awdurdod, dylanwad, a mawredd y nifer hyny, pa cyhyd bynag y parhao en pleidgarwch yn y modd mwyaf effeithiol, cyfyd llywodraethwr mawr y byd-y Dnw oyfiawn-ryw offer) nol- deb effeithiol i wthio anghyfiawnder oddiar ei orsedd yn y pen draw. Pa ryfedd fod y Salmydd, o dan gyfarwyddyi yr Yabryd Gton, yn dy- weyd Nao ymddigia o herwydd y rhai drygionus, ac na chynfigena with y rhai a wnant anwiredd; canys yn ebr- wydd y torir hwynt i'r llawr fel glas- wellt, ao y gwiwant fel gwyrddlysiau. Nac ymddigia o herwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gwr sydd yn gwneurhur ei ddrwg amcanion. Nac ymddigia er dim i wneuthnr drwg. Canys torir ymaith y drwg ddynion. Caliys eto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol; a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim o hono. Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef; canys gwel fod ei ddydd ef ar ddyfod. Gwelais yr annnwiol yn gadarn, ac yn frigog fel y lawryf gwyrdd er hyny efe a aeth ymaith, ac wele nid oedd mwy o hono a mi a'i ceisiais ac nid oedd i'w gael." Er fod Ty yr Arglwyddi yn cael ei ystyried yn mhell tu ol i'r oes mewn rhyddfrydigrwydd, y mae wedi dangos ei hnn yn fwy rhyddfrydig na Thy y bobl, am fod y bobl wedi profl en hun- ain, naill ai mor llygredig, nen mor gaeth yn en pleidleisiau, ag i ethol mwyafrif at bwrpas tafarnwyr a Thori- aid. Priodol yw golyn sut y bu i'r Ty uch-if, yr hwn sydd yn ddiarhebol am ei Doriaetb, i basio penderfyniad rhydd frydig yn erbyn y weinyddiaeth Dori- aidd, yn enwedig gan fod y faddugol- iaeth yn dwyn perthynas a iawnderau Ymneillduwyr yn y Ty, lie yr eistedda esgobion, i wylied pob cynyg, er mwyn cadw gorfaeiiaeth o freintiau crefydd- ol yn nwylaw Eglwyswyr. Fwnc rhyddid Ymneillduwyr i gladdn eu cyfeillion yn mynwentan y plwyfau oedd y pwnc mewn dadl. Digon tebyg fod yr Arglwyddi wedi deall fod y pwnc yn un sydd yn peri cynhwrf, heb gynyrchu dim ond atgas- rwydd yn y wladatuag at yr Eglwys yn ngwycvb hi yn honi hawl i gadw get U^Yiuneillduwyr yn nghau ad uwch ) B<; iclan eu cyfeillion. Y mae cad • -,P,Iwys mewn bri yn mhlith y ;< er pwysig yn ngolwg mawrion y wlad, yn enwedig yn awr pan y mae gwarth mawr yn cael ei dynn arni gan. y Pabyddion sydd o'i mewn. Nid rhyfedd, yn ngwyneb hyn, fod yr Arglwyddi am ddystewi yr Ym- neillduwyr ar fater y claddu, rhag i hwnw a Phabyddiaeth yr eglwys, gyda eu gilydd, gyflymu dadgysylltiad yr Eglwys oddiwrth y Wladwriaeth. Y mae yn beth hynod na buasai yr ystyr- iaethau hyn wedi dylanwadu ar wein- yddiaeth Doriaidd Arglwydd Beacon- gfield, nes rhagflaenu y codwm a gaf- odd, yn y mwyafrif a roddwyd yn ei herbyn ar y mater. Ond yn ami iawn, J mae yn eithaf eglnr fod rhyw ddall- ineb barnol yn sjrthio ar ddynion sydd wedi gwyro oddiwrth lwybr cyfiawnder. Y mae en hymdrechion hwy eu hunain yn paiotoi ac yn cyflymu eu dinystr, heb fod. un gelyn oddiallan yn ymyr- aeth a hwynt. Yr oedd oymaint o areithio ac ys- grifenu wedi bod ar y pwnc claddu, fel nad oedd eisiau rhoddi rhesymau ar y naill oohr na'r llall. Yr oedd dadl bwysig wedi bod y llynedd yn Nhy yr Arglwyddi ar y mater, fel yr oedd wedi cael ei osod gerbron y Ty gan larll Granville. Ac er iddo ef golli y dydd y pryd hwnw, o ran nifer y pleidleisiau, eto, rhaid fod ei resymau ef wedi cael eu hystyried trwy y flwyddyn gan bob plaid yn y Ty. Pan yr oedd mesur claddu y llywodraeth mewn pwyllgor yn y Ty fis yn ol, oafodd adran larll Harrowby, yr un ffafriol i Ymneillduwyr, 102 o bleidleifiiau o'i blaid ac yn ei erbyn, 102 o bleidleis- iau, y rhai a roddwyd gan y Toriaid. Yr oedd y nifer mawr nchod o'i blaid y pryd hwnw, yn Nny yr Arglwyddi, yn y pwyllgor, yn ddigon i argyhoeddi y weinyddiaeth y buasai yn ddoeth iddi fabwysiadu yr adran. Ond ysgolhaig penbwl yw y Tori. Gwialen yn upig sydd yn gym doethineb i'r tipyn ym- enydd sydd ganddo. Er cael mis i gynllnnio, nid oedd y Toriaid wedi gwneud un parotoad go gyfer ag adran larll HORROWBJ-, pan y dygid of drachefn ger bron. Nid oeddynt wedi llnnio un arall yn ei Ie, nac wedi parotoi rhesymau i argy- hoeddu J Ty yn ei erbyn, nac wedi ei fabwysiadu; a'r canlyniad in, i larll Harrowby, nos Lun, Mehefin ISfed, gael 127 o bleidleisiau o blaid ei adran, a'r Ilywodrseth Doriaidd ddim ond 111 yneierbyn; mwafrif o blaid yr ad- ran 1611 Cafwyd y mwyafrif hwn er fod '<cAtp y weinyddiaeth Doriaidd wedi bod ar waith yn egniol YN ceisio sicr- han mwyafrif. Yr oeda mwy o 34 yn bresenol nos Lun, y 18fed cyfiaol, nag oedd wr y 1799 1D y mis cyn hyny. Oblegyd hyny yr oedd y Toriaid yn dra hyderus y bnasent yn oael y fuddugol- iaeth. Ond trwy fod y fuddugoliaeth wedi myned yn eu herbyn, y maent mewn penbleth. Nid oeddynt wedi cynllunio gogyfer a'r posiblrwydd o golli y dydd. Gofvnasant am wyth- nos i ystyried beth a wnant. Nis gallant gymeryd y wyneb i ofyn i Dy yr Arglwyddi i ail ystyried ei ben- derfyniad ar fater sydd wedi cael ei lwyr ddymu a'i nithio yno o'r blaen. Y llwybr goreu i'r Weinyddiaeth yw ymostwng i benderfyniad y Ty. Ac os gwna hi hyny, rhaid iddi wnend hyny yn Nhy y Cyffredin, a bydd y mesur yn gyfraith rywbeth yn debyg i fesur Mr. Osborne Morgan. Os tyn y llywodr- aeth y mesur yn ol, dengys ei boa wedi ei ddwyn i mewn yn rhagrithiol, wrth broffesu ei bod am sicrhau heddwch trwy hyny. Byddai yn hawdd newid adranau y mesur i ateb adran Iarll Harrowby. Y mae yr adranau hyny yn y mesur a amcenid i roddi awdurdod i un'o bob ugain o'r trethdalwyr i geisio tir newydd i gladdu ynddo, os na chaent gladdu fel y mynent yn y mynwentydd plwyfol, yn myned yn ddibwrpas os bydd adran larll Harrowby yn cael ei wneud yu gyfraith, oblegyd y mae ei adran ef yn cynwys fod caniatad i Ym- neillduwyr ddefnyddio ffurf o wason. aeth grefyddol uwchben beddan eu per- thynasau yn mynwentydd yr Eglwysi, neu i'w claddu heb y fath wasanaeth. Cyn y bydd yr erthygl hon yn y wasg, bydd y weinyddiaeth wedi pen- derfynu, y mae yn debyg, beth a wna. Ostyn hi y mesur yn ol, bydd yn | gadael yr Eglwys yn agored i gael ei thrin gyda ehasineb gan filoedd am flwyddyn yn ychwaneg. But bynag y gwna, y mae hi wedi colli y dydd ar bwnc pwysig i Ymneillduwyr. Beth bynag, y mae yr hyn a ddywed- wyd yn Nhy yr Arglwyddi yn dangos fod Ymneillduwyr wedi myned yn uchel yn ngolwg mawrion y wlad. Dy- wedodd Arglwydd Dynefor ei fod ef yn 4tedrych ar Ymneillduwyr Cymru yn wir frodyr Cristionojgol, oblegyd clyw- odd gan frawd offeiriadol, yr hwn sydd yn meddu hawl i siarad ar y mater, y buasai pob] Cymru yn baganiaid oni buasai fod gweinidogion Ymneillduol wedi llafurio yn eu mysg." Cydnabyddodd Esgob Rhydychain nerth y gwrthwynebiad sydd gan Ym- neillduwyr i wasanaeth claddu yr Eg- lwys, ac i'r Eglwys o'i herwydd, gan eu bod yn gorfod dweyd uwchben pob corff fod ganddynt "ddyogel obaith am eu bywyd trygywyddol." Cytun- odd Archesgob Canterbury ag ef yn hyn. Eglur yw fod Ymneillduaeth yn dy- lanwadu yn fawr ar Eglwys Loegr.

BLAENDULAS.

Family Notices

Advertising

ABERAFON,

RHYMNI.

TRIOEDD CWMPARC.

Y CRWYS A'R CYLCHOEDD.

HIRWAUN.

DALIER SYLW -_ EVANS* QUININE…