Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

KlSTRDOFOn GERDDOKOL AbER>AR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

KlSTRDOFOn GERDDOKOL AbER>AR. CynaiLwyd yr eisteddfod uchod ddvdd Llun di, o,!a-F yn Neuadd Ddirwestol Ab^rdiir. Oyimui-wyd y gadair gan y Parch. R. RJwh.>1ó!s, Aberaman, am 12 o'r glocb. Yr oedd y swyddogion ereill j hefyd yn eu Ileoedd, sef yr arweinydd, Evan Rees, Ysw., Middle Dyffryn a'r beirniad, Mr. J. Evans (Eos Myrddin), Dowlais. Wedi rhoddi ychydig o anerch- iad agoriadol, galwyd i ddechreu ar Miss Susanah Davies, Ystalyfera, i roddi y gan agoriadol, sef 'Dechreuwch yr Wyl.' Cyflawnodd y ferch ieuanc hon ei gwaith yn rhagorol. Y mae ei llais yn gyfoethog, ac os caiff chwareu teg, y mae dyfodol gogoneddus iddi. Cystadleuaeth y bechgyn ar Awelon fy Ngwiad,' gwobr 2s 6c. Cystadleuodd 15, y goreu oedd Edwin Nicholas, Ystal- yfera. Dywedodd y beirniad eu bod oil wedi canu yn dda, ond fod rhai o honynt yn mwrdro y geiriau, yn enwedig ar y gair paradwys.' ac ereill yn gwneud slur anmhriodol ar y cusenwch fy ngrudd.' Cystadleuaeth canu dernyn cerddorol ar y pryd i bedwar, gwobr 6s. Cystadl- euodd saith o bedwariaid, a'r goreu oedd y parti cyntaf, sef John Thomas, T. S. Thomas, Daniel Thomas, a David Phil- lips, oil o Aberdar, y rhai a ganasant y dernyn oil yn gywir ond y ban nesaf i'r olaf ond un gan y tenor. Cystadlu canu Adgonon Mebyd,' gan wrywod, gwobr 5s. Cystadleuodd 13, a rhanwyd y wobr rhwng David Evans, Blaenllechau, a W. Hopkin (Gwilym Bryn Cerdyn), Mountain Ash. Cystadleuaeth canu 'The Thames Boat Song,' gan barti rhwng 16 a 25, gwobr £1 5s. Dau barti a gystadleuodd, sef parti o Aberdar a pharti o Blaenllechau. Dywedai y beirniad na chlywodd efe well canu erioed na'r canu ar y dernyn hwn, ac nas gallai foddhau ei hun yn well na rhanu y wobr rhwng y ddau: arweihyddion, David Phillips a John Rees. Cystadleuaeth canu 'Cwynfan Pryd- ain,' gan bedwariaid, gwobr 12s. Cys- tadleuodd naw o bedwariaid, a'r goreu oedd y chweched, sef parti o Aberdar, yn gynwysedig o David Phillips, Eliza Morris, Hanah Harris a David Evans. Dywedodd y beirniad na chlywodd efe well canu er's llawer dydd na'r canu a gafwyd gan rai o'r partion ar y dernyn hwn, yn enwedig gan y chweched a'r nawfed. Cystadleuaeth canu 1 Gyda'r Wawr,' gan ferched, gwobr 5s. Cystadleuodd pedair, a hyny yn rhagorol, ond yr oreu oedd Miss Jones (Llino3 Rhondda), Tre- erci. Gwnawd gwobr o 7s. 7c. i Susan- nah Davies, Ystalyfera. Cystadleuaeth gorawl ar Molwch. yr Arglwydd,' sef Anthem Gwaredigaeth Glowyr Tynewydd, gan Parry, gwobr 25s. a b .ton Tiardd i'r arweinydd, gwerth £1. Cystadleuodd pedwar 0 gorau, sef cor Hirwaap, dan arweiniad Mr. W. J. Da- vies; dor Bethesda, Abercwmboi, dan arweiniad Mr. Thomas James; cor Blaen- llechau, dan arweiniad Mr. John Rees; a choi o Aberdar, dan arweiniad Mr. T. S. Thomas. Y buddugol oedd cor Blaenllechau. Cystadleuaeth y solo bass, Honour and Arms,' gwobr 5s. Cystadleuodd 10, a rhanwyd y wobr rhwng Richard Jones, Aberdar, ac Idris Thomas, Blaenllechau. Cystadleuaeth y prif ddarn corawl, Dated mae rhwymau,' gwobr iSlO, a darlun o'r cor, gwerth 30s. Cystadleu- odd tri o gorau, sef cor Blaenllechau, dan arweiniad Mr. John Rees; cor Abercwmboi, dan arweiniad Mr. Thomas James • a chor Aberdar, dan. arweiniad Mr. Jonn Thomas. Dywedodd y beirn- iad fod y tri chor wedi canu yn rhagorol, ond mai y goreu yn ei dyb ef oedd yr olaf. Cystadleuaeth deuawd, 'Y Glowr a'r Chwarelwr,' gwobr 8s. Chwech wedi canu, ond dim un yn gywir; ond y ddau oreu oeddynt Dan Thomas, Aberdar, a J. Rees, Cwmaman. Credwh i'r beirniad gyflawni ei or- chwyl er boddlonrwydd mawr, gan roddi beirniadaeth fanwl a rheswm digonol, yn ei farn ef, am yr hyn a wnai. Yn yr hwyr cynaliwyd cyngherdd, pryd y datganwyd Cantawd y Tylwyth Teg am y waith gyntaf, yr hyn a wnaed er boddlonrwydd y cynulliad. Nid oes genym ond gobeithio i'r antur- iaeth droi allan fel na bydd y pwyllgor yn golledwyr arianol.

.Y WALET.

PWLL Y SAINT, FFOREST-I FACH.-.

Advertising

ARAETH MR. MACDONALD.