Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

O'R WEST.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

O'R WEST. RHYDYDEFAID. Cymylog yw yr awyrgylch yn parhau yn nghymydogaeth y lofa hon: y strike yn parhau yn ei chyndynrwydd, ond fod rhyw ddwy neu dair o ddefaid duon wedi dyfod i lawr trwy y coed. Dydd Sadwrn diweddaf, gwysiwyd un o'r hen weithwyr ger bron ynadon Abertawe, ar y cyhuddiad o fod wedi arfer ei ddyrnan tuag at un oedd wedi myned i dori glo yn lie y rhai oedd allan, i'r dyben, medd- id,o geisio atal y cyfryw,a brawychu ereill rhag myned i'r gwaith. Modd bynag, er ffugio llythyron heb enwau, a darllen papyrau diberthynas, methwyd yn lan a gwneud case yn erbyn y cyfaill. Syrth- lodd Penlle'r Brain, a ffrwydrodd Bwm- bast; ond gwybod pwy aeth adref wedi bwy ta ei ewinedd sydd gwestiwn pwysig. PWLLYSAINT. Yn wir, nid yw pethau yn gwella dim yma ychwaith. Ar y dydd cyntaf o Dachwedd rhoddwyd mis o rybydd i weithwyr y lofa hon, ac ereill mewn per- thynas iddi. Wedi i'r rhybydd ddyfod i ben, cynygiwyd gostyngiad i ran o'r gwaith, a bygythiwyd atal y llall. Wedi bod allan am ychydig ddyddiau, cytun- odd y dynion lie yr oedd yr annealldwr- iaeth, ac ar yr hen bris, mae'n debyg; ond am y rhan arall, taflwyd pluen i'r dwfr, ac nid hir y buwyd cyn gwybod o ba natur oedd y pysgod. Dywedwy d fod un go ddyeithr wedi cymeryd un o'r leflau ar contract. Nid cynt nag v clvw- yd hyny na thyma unarddeg o wyr hur, fel nifer o wanc-gwn rheibus, yn rhedeg am y gweddill or gwaith ar couiract. Ac ystyried holl adnoddau dinystriol ac effeithiol contracts a contractors i ddaros- twng dynoliaeth y naill weithiwr at y Hall, gellid dysgwyl i ddynion fod yn bwyllog yn hyn; ond och ni! gwyr hur Pwlly- saint yn cymeryd y gwaith ar contract! y dynion a gawsant y fath brawf o effeith- iolrwydd cydweithrediad fel moddion i gynal a hawlio tal yn ol dyfarniad y Bwrdd. Y dynion hyn yn taro y cwbl yn ei ben, ac yn myned yn nig er drivers y naill ar y llall! y meistri yn rhoddi y pm, a dynion yn tynu eu gilydd i lawr y gwyr hur yn cymeryd y ddram i'w llanw, ac yn cropo y dramwr o honi, tra wedi llanw ugeiniau i'r un gwr pan oedd o dan y meistri; a'r cwbl yn cymeryd He o dan yr esgusawd plentynaidd fod rhyw ddyn dyeithr wedi dechreu cymeryd rhan o'r gwaith o'u blaen hwy, <bc. Oni bae fod eithriadau anrhydeddus yn mhlith y bodau hyn, teg fyddai gofyn, A newidia yr Ethiop ei groen, neu y llewpard ei frychni I'-Gou.

MR. HENRY RICHARD A'I ETHOLWYR.

ANERCHIAD I MB. LEWIS, LLYTHYR-'…

Advertising

Y LLWYNOG.

BWRDD ADDYSG ABERDAR A DEDDF…