Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

ABERTAWE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ABERTAWE. RHYBUDD I FAMAU.—Dydd Mercher, yr wythnos ddiweddaf, yn Waun Wen, llosgodd merch fechan chwech oed mor drwm fel y bu farw prydnawn dydd Gwener. Aeth y fam allan ar neges, gan adael dwy fechan, o ba rai yr oedd y drancedig yr hynaf yn y ty, wrthynt eu hunain, a'r tebygolrwyad ydyw iddi hi geisio cyneu canwyll, ac i'w dillad gym- eryd tan wrth hyny. TRYSORFA GWEDDWON Y WEIG FACH. —Deallwn f d y boneddigion a ffurfient bwyllgor y drysorfa uchod yn bwriadu cyfarfod heb fod yn hir, a thaer ddy- munir ar bawb ag oeddynt yn bwriadu cynorthwyo i anfon eu tanysgrifiadau i J. Jones Jenkins Ysw., trysorydd, neu Ariandy Abertawe. Mae y gweddwon uchod wedi dyoddef caledi mawr eisioes. Hyderwn y bydd i ddarllenwyr y DAMAN gymeryd y peth at eu hystvriaeth, ac i ddal ar y cyfle hwnw o wneuthur elusen a'r weddw a'r amddifad. Y GYFRAITH IAWNOL.—Pa hyd y bydd gweithwyr Cymru hsb weled angen am gyfrafth er gosod cyflogwyr dan rwymau i dalu iawn i weithiwr pan yn cyfarfod a damwain drwy esgeulusdod rhywun nen rywrai pan yn dilyn ei orchwyl dyddiol ? Pe dygwyddai damwain i ddyn wrth deithio gyda'r rheilffordd, mae cyfraith Lloegryn gorfodi ycwmni i dalu iawn am y golled. Yn ein byw nis medrwn ddweyd y rheswm paham na chaiff y gweithiwr iawn pan yn colli llygad, braich, neu glun wrth ddilyn ei alwedig- aeth, Yr hyn a alwodd ein sylw at hyn yn awr ydoedd fod Thomas Francis, gynt o Gwmafon, wedi llosgi ei lygad, ac yn debyg o fod wedi ei golli, yn ol barn y meddyg yn morthwylfa gweithiau alcan Cwmbwrla. Nid ydym yn amheu am foment na fydd i'r boneddwr caredig, J. Jones Jenkins, Ysw.. ofalu yn dyner am ymgeledd iddo ef a'i deulu hyd nes yr adferir-ef; ond wedi hyny, bydd colli llygad yn goMed anadferadwy, a dylid, yn 01 ein barn ni. Ijniaru ychydig ar y gofid, trwy roddi iddo iawn mewn rhyw ffordd neu gilydd. CYMDEITHAS HEDDWCH Y GWEITH- WYR—Mae swyddogion y gymdeithas uchod wedi anfon rhybudd allan i'w haelodau gan ddymuno arnynt anog y gweithwyr Cymreig i anfon deisebau i Arglwydd Derby, gan ddatgan eu teiml- adau yn eglur ar bwnc y rhyfel gwaedlyd presenol. Mae llywodraeth Iarll Bea- consfield wedi rhoddi gwys allan ar fod i'w haelodau seneddol gyfarfod ar lawr St. Stephan, Llundain, ar y 17eg o'r mis nesaf, ac nid ioes un dewin yn gaflu rhag- wybod eu hamcanion Barna rhai mai eisieu cael arian i'w gwario ar arfau go- gyfer a gyru ein brodyr a'n tadau i golli eu bywydau ar faes y gyflafao waedlyd with gynorthwyo y Twrc. Os oes gan Benjamin a'i deulu ariatocrataidd arian lawer yn dwyn llogau mawrion gyda'r Twrc, rhy ddrud, mewn gwirionedd, fyddai i m aberthu, bywydau ein milwyr dewrion er sicrhau iddynt hwy gyfoeth nad yw ond diddinf'yn ngwyneb colli bywydau dynol sydd yn fwy o werth na'n daear ni a'i holl berlau drudfawr i gyd. Gan hyny, os amean mab Jacob fydd ein gyru i ryfel, codwn ein Ilefau o bob cWr o'r wlad, canys Trech gwlad nac arglwydd.' Mae ein gweinidogion Ymneillduol yn gwneud lies mawr ar adeg etholiadau seneddol, trwy areithio a dysgu y werin mewn materion gwleid- yddol. Byddai yn sicr o fod yn lies an- rhaethol i achos Rhyddfrydiaeth pe b'ai rhai o honynt yn dechreu yn awr mewn pryd, a dynoethi gweithredoedd y Wein- yddiaetk Doriaidd bresenol, fel y byddai yn sicr o gael ei rhoddi yn ei hargel wely ar ol yr etholiad cyffredinol nesaf, os caiff fyw i weled hyny. Gan nad oes cangen o gymdeithas heddwch y gweith- wyr wedi^i sefy^lu yn Nghymru, an bod ni, yr yafydig aelodau sydd yma, mar Wasgaredig, orerlwn mai budHol fyddai i'-n cymdeithasau dyngarol gymeryd y peth at eu hystyriaeth, ac anfon deisebau wedi du harwyido dros y cymdeithasau gan y swyddogion. Dylid hefyd yn mhob capel a Haa, a phob cynulliad cyhoedtius arall gyfodi ein lief i'w herbyn. Yn awr, Gymry rhyddfrydol, at ein dyledswydd. Heb son am gostau na wyr neb pa Mat, mae bywydau cysegredig ein cyd-ddynion yn gofyn hyn. Os yw yr Iddew am ryfel, aed i ryfela ei hun. OYMBEITHAS Y TRETHDALWYR YN ABERTAWE.—Mae cymdeithas lewyrchus wedi ei dechreu-yma gan y trethdalwyr, a thebyg y ceir yr hen Farnwr Falconer yn gadeirydd am y term cyntaf, a Mr. Smith, eyfreitfeiwr, yn is-gadeirydd. Bydd yn si o fod yn un llesiol iawn. Ond yr hyn f'yd-:l r:/je-dd yw, fad plsilwJTmwyaf penbiooth hon bob amser yn erbyn i'r gweithiwr gael cymdeithas i wylio ei luddianau, a bod yn rhaid iddynt hwy gael undeb yn erbyn y rats. Synwn at yr hen Eakoner o bawb, ac nis gailwn anghafio y riots yn nghyfarfod y Music Hall pan fu y Dr. Rogers yn canmol ei hun am wellhau esgeiriau pobl Ystaly- fera, gan anghofio dweyd pa faint ai yr un neu y ddau cant ar bumtheg o bunau yn flynyddol a dderbyniai am hyny o swyddfa y gwaith. Dyma y working men's friend a geir mor ami yn cynghon gweithwyr i beidio byw yn gymdeithasol, a hwythau ar yr un pryd yn gwybod nad oes iddynt gynorthwy o un man arall. Bljsvyddyn newydd dda i bawb. LEWYS AFAN.

EISTEDDFOD MAESTEG.

Y ilEISTEI ^LOFAOL A'U GWEITHWYli.

EIN HEISTEDDFODJSCL

Advertising

PENCLAWDD.