Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

o WAIN GLYNDW R.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

o WAIN GLYNDW R. PENOD ill. YN YR ALLT. Dalient eu golygon ar y ddaear, ac lid oedd gair yn pasio rhyngddynt. recedd. y tan erbyn hyn yn dynesu yn gyflym. Yn y man agosaf, nid oedd nwchlaw dau car to latheni rhyngddynt ag ef ac yr oedd ei drwet yn ofnadwy ar ei waith yn dyfod yn mlaen. Yr oedd yn ymddangos megys mor omam- au eiriae, a'i donau yn ymrolio yn bar- haus a diddiwedd. Yr oedd pob un yn awr wedi rhoddi ei hun i fyny, ac yn barod i dderbyn ei dynged. 0 dan y llwyn yr ydym wedi nodi yn barod, yr oedd y tad a'i ferchrhwng eifreich- ian ac yn sisial rhyw beth, ond yn rhy ddystaw i neb fedra eu deall: di- chon mai gweddio yr oeddent. Pan oedd y tan o fewn i gant nen chwech ugain Hath atynt, dyma Cadifor yn gwaeddn, "Y mae gobaith-canlynwch fl." Nid oedd eisiau dweyd yr ail waith. Yr oedd pob un ar ei wadnau mewn eiliad ac yn symud yn mlaen. Biys- ient i lawr trwy yr anialwch i bwynt yr afonig fechan sydd yn ymarllwys i'r Alun, ychydig tu isaf i'r Fynachlog, yr hon ar ol gwlawogydd sydd yn hynod ddofn, yn neillduol mewn manau. Pan daetbant at hon, neidiodd Cadifor i mewn yn gyntaf, a dilynwyd ef gan y lleill, ac yn mlaen a hwy trwy ei chanol. Yn fuan yr oeddent yn sefyll o dan «. gwmwl o dan, a bu rhaid iddynt soddi eu per, au yn aml o e, an y dwfr. Yr oedd y cw mwl tanllyd yn ymestyn am fwy na chant o latheni, a bu rbaid iddynt deithio yr holl ffordd yma mewn rhyw gyflwr a sefyllfa ofnadwy. Weithian yr oedd torthau mawrion o dan yn dysgyn ar eu penau, a phrydiau ereill yr cedd y dwfr yn rhy boeth iddynt i fyned trwyddo. Wedi iddynt gyr- haeddyd yn mlaen tna haner y ffordd o dan y ffwrnais boethlyd, bu yn rhaid iddynt sefyll. Yr oedd y dwfr yn rhy boeth, ac yn rhy fas i fyned yn mhell- ach. Felly, darfu iddynt lechu mewn pyllyn dwfn, a chadw eu penan o dan y geulan. Ni fu bodau dynol yn y fath'gyfiwr gresynus wedi dyddiau Adda. Yr oedd y co-d mawrion haner llosgedig yn cwympo yn groes ar y nant; ac yn eu rhostio yn y fan hono yn fyw. Cyn hir aeth y dwfr yn rhy boeth iddynt i aros ynddo ac felly bu raid iddynt i neidio allan o hono, a thynu yn mlaen fel y gallent. Yr oedd ei boethder yn annyoddefol. Llosgai eu dillad oddiam danynt, a chwympai darnau mawrion 0'11 gwallt oddiar eu penau, ond er gwaethaf pob peth, daethant allan yn lan a dyogel; ac wedi iddynt gyrhaeddyd glan yr Alun, dywtdodd Cadiior, Dyna yr ymdrechfa galetaf eto," ac yr oedd pawb o honynt o'r un farn. Fel yr ydym wedi arwyddo yn barod, yr oedd ein gwron yn awr mewn sefyll- fa eithaf beryglus. Yr oedd mewn gwlad agored, ac yr oedd Sais braidd yn llechu o dan bob llwyn, a phob un o honynt yn lied awyddus am gael golwg arno. Yr oedd dau cant o farc- iau aur ar ei ben yn swm go lew, ac yr oedd llawer Cymro yn ogystal a Sais yn falch i gael gafael ynddo. Wedi chwythu ychydig, a dyfod dipyn ato ei hun, dywedodd Glyndwr, Yr ydym yn rhwym o symud o'r fan yma. Y mae-hwin yn rhy agored. Meddyliodd yr ellyll)n am ein Uosgi yn llweh; ond diolch i'r Forwyn yr ydym wedi dianc. Y maent yn ofnad- wy o ffyrnig. Gadewch i ni weithio ein ffordd i lawr tua Sychartb. Di- chon nad oes yno neb yn gwylied ar hyn o bryd. Gadewch i ni gerdded yn ddau a dau, a chadw yn y pellder o 20 neu 30 o latheni oddiwrth ein gilydd." "PnrioB," ebe Cadell. "Gallwn feddwl fod fy mhen ar dan." Fel yr ydym wedi dangos yn barod, yr oedd yn awr yn nos-yn tynu yn mlaen tua dau o'r gloch yn y borau, felly gallent deithio wyth neu naw milldir cyn y hyddai yn ddyddhau. Ffwrdd a nhw yn ol y gorchymyn, yn ddan a dau ac ymdrechent gadw yn y pellder oddiwrth eu gilydd ond beth bynag, nid oeddent wedi myned uwchlaw tri neu bedwar cant o latheni cyn bod y rhes flaenaf o honynt yn tafia en hnnain i ffos ddofn oedd yn dilyn yr heol am gryn bellder, a gwnaeth yr ail a'r trydydd yr un modd, ac felly hyd y rhee olaf. Gwir na wyddai y rhesi olaf paham yr oeddent yn ymgnddio, ond credent fod y rhai blaenaf wadi canfod IlEU glywed rhyw beth. Cyn pen pom mynyd daethant hwy than i ddeall fod rhyw beth allan o le yno. Clywent ddynion yn siarad yn eithaf amlwg, a gwyddent hefyd fod y swn yn dyfod yn nes atynt bob eiliad. Yr oeddent yn gorwedd fel meirw yn y nba—nid oeddent gymaint ag anadlu. Yn fnan yr oedd y dynion yn mlaen:ar eu cyfer; ac adnabyddodd ein gwron yr haid flaenaf ar unwaith. Nid oedd- ent yn neb amgen nag Arglwydd de Grey, Arglwydd Talbot, Hywel Sala, larll Caer, y brenin Harri, a thywysog Cymru, fel y gelwid of. Y gair cyntaf a ddeallodd Glyndwr o'u siarad ydoedd y brenin yn dywedyd wrth Arglwydd Grey, Y maent yn sicr o fod yn llndw erbyn hyn." Y mae y brenin yn iawn," oedd yr ateb. Ni welais y fath dan yn fy mywyd. Buasai yn Ilosgi holl ddyn- ion y cread cyn pen mynyd." Eithaf gwir. Dyna ben ar hwna beth bynag, a gallwn ddywedyd fod un bradwr yn llai yn y byd." Y mae eich Mawrhydi yn iawn," ebe yr un person drachefn. Cafodd well twymfa nag a gafodd erioed o'r blaen yn ei fywyd." Felly aethant yn mlaen dan ym- ddyddan a'u gilydd, a chanlynidhwynt gan ddeugaio neu haner cant o filwyr, a phob un o honynt a chleddyf noeth yn ei law. Wedi i'r osgordd fyned heibio, cyfododd Glyndwr a'i ferch du cuddfan, a gwnaeth y lleill yr un peth, a chychwynasant ar en taith heb gyf- newid cymaint a gair a'u gilydd. Teithient yn gyflym, a chyrhaeddas- ant Caer Estyn erbyn saith o'r gloch. Wedi i drigolion y pentref ddeall fod ein gwron yn eu mysg, darfu iddynt ymgasglu o'i gwmpas wrth y degau, a gwrandawent ar ei helynt gyda bias a dyddordeb anghyffredin. Yr oedd efe yn y rhan hon o'r wlad megys tywysog neu frenin byehan-yr oedd pawb a'u coel arno. Yr oedd ei haelioni a'i garedigrwydd i'r trigolion wedi enill eu calonan, fel yr oeddent yn barod i wneud pob peth o fewn ea gallu drosto. Pan yr oedd yn ymadael a'r pentref y boreu dan sylw, canlynodd ngeiniau o'r trigolion ef, heb yn wybod ar ben bywyd i ba Ie yr oeddent yn myned, ac hefyd os oedd eu gwasanaeth yn ofyn- ol a'i peidio. Ei brif was, yr hwn 'a ofalai am ei diroedd a'i gyfoeth ydoedd y Cadifor yr ydym wedi son am dano amryw weithian. Fel y deallwn, yr oedd y boneddwr ieuanc hwn yn rhyfel- wr medrns-wedi dilyn Richard II., allan i Ffraine a'r Iwerddon ac yn y lie olaf y daeth i gysylltiad a'n harwr. Enw y swyddog a ofalai am fusnes y castell ydoedd Cadell, ac yr oedd yntau hefyd yn rhyfelwr o'ifebyd. Yn fuan wedi iddynt ddyfod i Gaer Estyn, clyw- odd lolo Goch am eu dyfodiad, a de- chreuodd hwylio ei danau er eu croes- awi adref.

ENWOGION SIR GAERFYRDDIN.

FYCHAN, WILLIAM,

CROMWELL.

EISTEDDFOD CAERYNAIOUI