Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

OW AIN GLYNDWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

OW AIN GLYNDWR. PENOD IV. YR HELYNT Y* DECHREU. Bhoddodd y bobl dair banllef, hyd nes ydoedd y creigiau cyfagos yn ad- saiD, ae wedi hyny symudwyayn mlaen, a chyrhaeddwyd Castell Sycharth yn iach a dyogel. Yr oedd Arglwydd Grey ar y pryd yn Llundain, ond yn mhen yehydig ddyddiau clywodd ef a Harn am y fnanes-am y gyflafan ofn- adwy oedd wedi bod yn Rhuthyn. Wedi galw ei gynghoriaid yn nghyd, danfoEodd Harri yr Arglwyddi Grey a Talbot i Gymru, i'r dyben o osod pen ar rhebeldod Glyndwr. Yr oedd Glyn- dwr ar y pryd yn parotoi ar gyfer rhyfelgyrch arall. Yr oedd yn bwriadu ymosod ar Gastell Caernarfon, yr hwn ar y pryd oedd yn orlawn o Saeson, ond cafodd ei atal ar yr adeg hono. Fel pob penadur arall, yr oedd gosgordd o filwyr yn gwylied ei gastell ddydd a nos, a phob un o honynt ar berygl bywyd, yn rhwym o wneud ei waith yn onest a didwyll. Un noson, dyma un o'r gwylwyr yn dyfod i mewn gan hysbysu ei iod wedi sylwi ar ddau ddyn yn pas;o yr heol yn ol ac yn mlaen amryw weithiau, ac yn syllu yn fanwl ar bob peth o gwmpas y castell. "Os bydd iddynt basio eto," ebe ein gwron, cymerwch hwynt i'r ddal- fa, a dygweh yma. Gadewch i mi wel- ed pa beth ydynt." Yn fuan wedi i'r milwr ddychwelyd, a dechreu cerdded yn ol ac yn mlaen, gwelodd y dynion yn pasio drachefn, a gwaeddodd, "Pwy sydd yna?" ond cyn body gair olaf wedi slipio dros ei wefns, yr oedd saeth yn gweithio eu ffordd yn groes trwy ei galon, ac yntau yn syrth- io fel careg i'r llawr. Wedi i'r milwr syrthio, daeth y ddau ddyn yn mlaen i front y castell, agorasant y glwyd, a safasant ar gyfer y prif borth, gan edrych fel yn hamdaenol o gwmpas. Nid oeddent wedi bod yno uwchlaw bum mynyd cyn eu bod yn neidio i fyny oddiwrth y ddaear, ac yn disgyn fel coed ar eu penau. Bu un o honynt fyw am rhai mynydau, ond bu y llall farw ar unwaith. Bu faTw fel careg- yr oedd saeth wedi gweithio ei ffordd trwy ei galon. Cadell a Cadifor oedd wedi cjflawni y weithred hon. Yr oeddent yn canfod y dynion yn dyfod i mewn trwy y porth, ae yn sefyll o flaea y palas, ond pan y daethankryn ddigon agos, gollyngasant ddwy saeth gwenwynig atynt, ac yr ydym wedi gweled y canlyniadau. Yr oeddent yn ddau swyddog o radd uchel yn myddin Arglwydd Grey. Wedi sylwi yn fanwl ar eu cyrff meirw, startiodd rhyw beth i feddwl ein gwron fod ei elynion yn agosach ato nag oedd yn feddwl, ac felly danfonodd yspiwyr allan i bob cyfeiriad. Tua naw o'r gloch boreu tranoeth, dychwelodd saith o'r gwylwyr, gan hysbysn fod byddin ofnadwy o fawr yn llechu yn Rhuthyn, yn cael ei Ilywyddu gan Grey a Talbot. Hys- bysai y cenadwyr fod y fyddin yn ym- ddangos yn hynod effro a bywiog, a'u bod yn barnu ei bod ar gychwyn i ryw Ie. Parodd y newydd hwn i'n gwron adfywio, a meddwl am y dyfodol. Gal- wodd ei brif gynghorwyr yn nghyd, a chynaliaeant y peth a elwir cynghor rhyfel amo. Yn y cynghor hwn, barn- wyd nas gellid gwrthsefyll y gelyn-ei fod yn rhy gryf a beiddgar i wneud dim ag ef; ac felly mai gwell oedd en- cilio i'r hen loches, sef mynyddoedd yr Eryri. Nis gellid gwneud hyn chwaith ar unwaith. Nis gellid symudmiloedd o ddynion ac anifeiliaid heb rhyw dipyn o amser. Cedwid gwylwyr allan yn mhob cyfeiriad, ac yr oedd y rhai hyny yn rhwym o hysbysu cyflwr y gelyn bob chwarter awr. Beth bynag, cyn 12 o'r gloch y diwrnod hwnw, yr oedd Glyndwr yn derbyn y newydd fod y fyddin wedi dyfod allan o'r dref, a'i bod yn gwynebu tua'r south. Deall- odd ef mewn mynyd pa beth oedd ei dyben yn y eyfeiriad hwnw ac felly dechreuodd parotoi ei wyr i gychwyn yn ddiymaros. Gosododd hwy i deith- io yn fan fyddinoedd-rbyw 30 nen 40 yn inheb byddin, a chycbwynai y rhai hyny yn miaen yn bob yn ddan. Clud. odd ei holl eiddo o'r palas gydag ef, a chlndodd hefyd lawer iawn o ddefnydd- iau ymborth o bob parth o'r wlad ac erbyn nos tranoeth yr oedd efe a'i wyr yn gwersyllu yr ochr ddehenol i Garn-' edd Dafydd, yn yr Eryri, sef hen loches y gwroniaid gynt. Daeth Grey a Talbot gyda eu byddinoedd mewn rhwysg- fawredd tua Sycharth, ond nid oedd .-A.. yno ddim yn eu haros ond y muriau moelion Gwersyllasant yno dros y ncs, a boreu tranoeth, gyda thoriad gwawr, dechreuasant ar eu taith ym- lidiadol ar ol y gelyn. Yr oeddent yno ddim yn eu haros ond y muriau moelion Gwersyllasant yno dros y [nos, a boreu tranoeth, gyda thoriad gwawr, dechreuasant ar eu taith ym- lidiadol ar ol y gelyn. Yr oeddent erbyn hyn wedi deall ei fod wedi dianc i'r mynyddoedd, ond yr oedd yn rhaid cael gafael ynddo—yr oedd ei ben yn werth dau cant o farciau aur; ac yr oedd hyny yn swm go lew.

PENOD V.

ENWOGION SIR GAERFYRDDIN.

..' CROMWELL. ;•} .4