Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

CWMAFON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CWMAFON. MRI. GOL.,—Marwaidd iawn y mae sefyllfa pethau yn parhau yma, a dim un argoel am fywiocad o un man. Y mae pob wythnos ar ol wythnos, a mis ar ol mis yn ein gadael heb gyfnewidiad neill- dnol yn cymeryd lie. Marweidd-dra sydd yn gordoi y lie, yr hyn sydd yn peri di- galondid i bawb yn ddiwahaniaeth. Y mae yn JST^iuvmafori lawer o deuluoedd yn bresenol yn gallu dweyd beth yw bod mewn eisieu bara beunyddiol, a 11awer hefyd wedi gweled amser da pan oedd sefyllfa pethau yn wahanol i'r hyn ydynt yn awr. Yr oeddynt yn gallu dweyd yr amser hwnw beth oedd enill 10 a 15 punt y mis, a hyny am flynyddau yn olynol. Ond pa le y maent erbyn heddyw I Y maent wedi cael eu gwastraffu ar ddiod- ydd meddwol, &c.! Gwelir y cyfryw rai heddyw yn cerdded yr heolydd heb le i gael tamaid o ymborth. Pe buasai y dynionyna wedi cadw yr arian a watraffent ni fuasent yn y sefyllfa druenus bresenol, ond gallasent weithio yn erbyn y llifeir- iant ofnadwy yma sydd yn gordoi ein gwlad. Drwg oedd genyf weled ar dudalenau y DARIVN yr wythnos ddiweddaf fod pres- wylwyr Bryntroedgam yn dyoddef cy- maint o herwydd sefyllfa isel masnach, ond gobeithio y bydd i'r cwmwl du hwn basio heibio ar frys, ac y bydd i bawb gyf- ranu tuag atynt yn ol eu gallu er rhoddi ymwared buan id: lynt. Nid wyf yn credu fod neb wedi gweled amser tylotach nag „ yw hi yma yn brssenol. Yn awr mae y ,• gweithwyr yn gweled yrangenrheidrwydd o undeb. "Mewn undeb y mae nerth," a phe buasai yr Undeb yn ei grym yma yn awr, gallasent sefyll yn erbyn y gostyng- iad sydd yn debygol o'u goddiweddyd; y peth mwyaf tebygol yw y byddant yn -syrthio fel brwyn o dan y gorchymyn. ■ Wel, gyfeillion, cyn bod y dialydd yn dyfod y mae i chwi ffoi, ac nid ar ol iddo ddyfod, a ehyn daw yr amser tylawd y ,mae i bawb ddarpar, ac nid wedi hyny. >■ Gobeithio y gwelir gwawr yn tori yn fuan ar fasnach. fel yfbydd yn debyg i'r hyn ag oedd flynyddoedd yn ol, a'r hen weithiwr tylawd gael ei godi i safle uwch nag y mae ynddo yn bresenol. Tybiwyf fy mod yn clywed holl weithwyr y cwm yn dolefain yn druenus, gan waeddi, "0 na fuasai yr amser da a welsom yn ein cyrhaedd yn awr, neu pe buasai rhywun wedi agor ein llygaid yn gynt i weled a datguddio i ni y airgelwch o'r amser gwael yma." Tyb- lwtf hefyd fy mod yn clywed llawer o hen feddwon yr ardal yn gwaeddi, "O na buasai yr arian geny" n a wastraffoasrn ar cjdiodydd meddwol." Ond y mae yn rhy f 'ddiweddar, gan fod yr adeg wedi myned 1 Eeibio, ac ni ddaw byth yn ol. f Y prif, beth sydd mewn golwg gan 1 wyr y lie yma yn bresenol yw yr Eis- teddfod sydd i fod yma dydd Llun y Pasg nesaf. Beirniad y gerddoriaeth yw D. c Rosser, Ysw., Aberdar, a beirniad yr ad- roddiadau yw Dewi Afan, Cwmafon. Wrth bob argoelion bydd yn Eisteddfod lewyrchus a llwyddianus dros ben. Y prif ddarn corawl yw "Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel," gwobr o ddeg gini. Yn awr, wyr y gan, deuwch allan os ydych am gystadleuaeth. Y mae am- rywjgorau yn y cylchoedd hyn yn bwriadu cystadlu, a gobeithio y byddant i gyd yn Ilwyddianus, ac y bydd i bawb a fyddo yn aflwyddianus ymddwyn yn dawel, ac 1 nid gwneud ystwr ar ol dyfod allan, gan ddweyd na chawsant chwareuteg. Cred- wyf y bydd pawb yn sicr o gael cvfiawn- • der. Llwydd i'r pwyllgor i gael Eistedd- i fod lwyddianus. J. MORGAN. 1,

V\. FFUGCHWEDL Y LLWYNOG.…

ABERTAWE.

HELYNTION CWMAFON.

L'ERPWL.

PRIODAS GWILYM L'ERPWL.

GLOFA Y BRITHDIR, GER CASTELLNEDD.

Advertising

PORTH, CWM RHONDDA.