Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

OWAIN GLYNDWR. PENOD VIL /\…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

OWAIN GLYNDWR. PENOD VIL T FONEDDIGES. "A ddarfu i chwi fy ngweled o'r blaen ?" gofynodd Cadifor. U A gaffi glywed yr achos fod boneddiges o'ch safle chwi yn teimlo y fath ddyddor- debynwyf?" Plygodd y foneddiges ei phen i lawr am rai mynydau, ac ni ddywedodd air, ond ynmhen ychydig, cyfododd ei phen i fyny a dywedodd, "Cofiwch mai eich genedl eich hun sydd wedi eich bradychn i ddwylaw eich gelynion. Yr oeddwn yn edrych arnynt, ac y maent wedi derbyn cant o farciau aur am eu caredigrwydd. Yr ydych yn wir newynog." "Yr ydych yn iawn," ebe y swydd- og—" felly yr wyf yn teimlo." A fedrwch chwi ddyfod i lawr ?" Medraf. Yr wyf yn teimlo fy hun yn lied dda—ychydig o boen syddyn fy mhen." Yr oedd yn ei ddillad ei hnn, ond yr oedd wedi cael ei ddiarfogi yn 11 wyr- nid oedd cymaint a chyllell logell yn ei feddiant. Cyn pen pum mynyd yr oedd yn eistedd wrth fwrdd wedi cael ei ar- lwyo o ddanteithion peaaf natur, a gwnaeth gyfiawnder a hwynt. Wedi iddo ddiwalla ei hun, trodd at y fon- eddiges gan ddywedyd, Yr wyf bellach yn teimlo fy hun yn gryf a gwrol i sefyll fy mhrawf." "Y Forwyn a fyddo gyda chwi," oedd yr ateb. Ymorphwyswch ar y Forwyn a'r holl Seintiau. Dyma fi yn eich gadael-y maent ar ddyfod. Ni fyddant nwchlaw pum mynyd eto. Byddwch ddewr a gwrol. Cyn y byddwch yn ymadael a gaf fi glywed yn mha le yr ydwyf. Yr wyf yn gwybod fy mod mewn rhyw amddi- ffynfa Saesneg, ond nis gwn yn mha Ie." "Yr ydych yn awr yn Nghastell Caer-yn-arfon. Yr wyf yn rhwym o fyned," ac yna diflanodd trwy y drws. Cyn pen dwy fynyd wedi iddi fyned, yr oedd y drws yn cael ei agor, y dan filwr yn dyfod i mewn. "Gwelaf fod y cadfridog Cymreig yn mwynhau ei hun yn noble iawn," ebe un o'r milwyr ar ei waith yn dyfod tros y troth wy.»s. "Gweddol," yr ateb. "A oes rhyw beth a fynoch chwi a mi ?" Dim rhyw lawer, ond yn unig eich hysbysu fod y llys milwrol yn eistedd, a bod yn rhaid i chwi ymddangos ger ei fron. Dyna yr oil." "Parion. Dyma fi yn barod." Cyfododd a cherddodd yn gryf a gwrol tna'r porth, yn cael ei ganlyn gan y ddau filwr a chleddyfau noethion yn eu dwylaw. Wedi myned allan o'r ys- tafell, dywedodd un o'r milwyr, Ffordd yma, os gwelwch yn dda," Ac arweiniasant ef yn mlaen trwy ryw haner dwsin o ystafelloedd, ac yna daethant i'r llys, yr hwn oedd ystafell eang a gorwych. Yn y gongl bellaf yr oedd math o fainc fechan addnrniedig, ac yn eistedd yn gylch o'i chwmpas yr oedd denddeg o ddynion. Ychydig nes yn mlaen yr oedd mainc arall, nen yn hytrach math o eisteddle eang, ac ar yr eisteddle yma yr eisteddai y barn- wyr a'r dadlenwyr. Maine y brenin ydoedd y gyntaf a nodwyd, ac nid oedd yn gyfreithlon i neb i eistedd ami ond y penadur ei hun. Yn mhen rhyw bum mynyd wedi i'r Cymro fyned i'r llys, cyfododd dyn bychan ar ei draed, acwedi pwyntio a'ilaw at.y carcharor, dywedodd, Y dyn hwn eich arglwyddiaeth sydd fradwr ei wlad, ac wedi cyflawni uchel- drosedd. Nid wyf yn meddwl fod ei achos yn werth i ni alw tystion yn mlaen i brofi ei euogrwydd. Y mae ei achos yn ddigon eglur yn barod." Drwg genyf glywed," ebe dyn tew a thrwehus a eisteddai yn agos i ganol y fainc. Yr wyf wedi clywed mai efe a achosodd y ffrwydriad erchyll yna ddygwyddodd y nos arall yn y castell hwn." "Y mae eich harglwyddiaeth yn iawn," ebe y dyn bychan. Efe oedd wrth wraidd y fusnes o'i ddechren i'w ddiwedd, a deallwyf fod ganddo law yn y gyflafan erchyll hono a gyflawn. wyd yn Rhuthyn er ys ychydig fisoedd yn ol." "Yr wyf am iddo gael pob chwaren- teg i amddiffyn ei hnn," ebe y barnwr, "A ydych chwi yn enog o'r pethan a ddygir yn eicl^herbyn ?" gofynodd y barnwr gan syllti yn difrifol yn wyneb y carcharor. Nid wyf yn gwybod," oedd yr ateb. Yr wyf yn meddwl fod genyf law yn ( ngwrthwynebn bob Saia a ddaw ar fy ] ffordd." t CI Aellwch ohwi nodi rhyw reswm I dros wrthwynebn pob Sais ?" gofynodd j y barnwr drachefh." Gallaf." u Wei?" "A* mae lladron a llofruddion ydynt." « Cymerweh chwi bwyll—ystyriwch chwi y peth naw waith cyn ei ddweyd. A ydych chwi am hysbysu y llys fod pob Sais yn lleidr ac yn llofrudd ?" Ydwyf—yr wyf am hysbysu y llys fod pob Bais yn galw am dair llatho- gordyn am ei wddf." Oni wyddoch chwi nad ydychiddianc o'r llys hwn a'ch pen ar eich ysgwydd- au?" Gwn. Yr wyf yn gwybod na fydd i chwi ymddwyn yn wahanol i bob Sais arall—dyna arfer y Saeson. Ond y mae un beth yn dywyll i mi, a dyma fe: Gan eich bod yn penderfynu fy Uof- ruddio gam neu cymwys, paham na chyflawnwch y weithred yn down right, yn lie ymdroi a throsi o'i chwmpas ?" Dyma y ffordd yr ydym yn cael tipyn o ddifyrwch," ebe y bamwr-Ilyr ydym yn hoffi poenydio ein gelynion; ond gan eich bod chwi mor awyddus am gael golwg ar eich perthynasau, cewch eich dymuniad yfory am ddeg o'r gloch. Ysgrifenwch y wys farwol, Donald, fel y gallwyf ei harwyddo cyn ymadael." Ychydig fynydau oedd yn ddigon i gael y wys yn barod, ac wedi i'r larll ei harwyddo, dywedodd, Bydded i chwi, Jackson, ofaln, fod i hon gael ei dwyn i weithrediad boreu yfory am ddeg o'r gloch. Symndwch y carcharor i'w gell." Pan oedd y Cymro gwladgarol yn ymadael o'r llys dywedodd, "Nis gellwch ladd ond fy nghorff. Bydd fy ysbryd yn eich dilyn bant a bryn wedi i mi farw. Yr holl Seintiau a'ch boenydio. Yr wyf yn marw yn ferthyr dros fy ngwlad a'm cenedl, ac yr wyf yn falch o hyny. O'r cwn nffernoll Pe buasai genyf gleddyf, cawsech weled a theimlo fod gwaed Cymro yn rhedeg trwy fy ngwythieu- au." Erbyn hyny yr eedd allan o'r llys ac yn nrws ei gell. Hyrddiwyd efi mewn a chauwyd y porth ar ei ol, a chlywodd un o'r milwyr yn dweyd ar ei waith yn troi ei gefn, M Pan y byddot ti yn dyfod allan oddiyma byddi yn dyfod allan i wnend rhwyd o dy gnawd." Yr oedd ei gell yn berffaith dywell: nid oedd rhithyn o oleuni yn dyfod i mewn iddi. Nid oedd angau a marw yn effeithio dim ar feddwl y Cymro dewr, ond yr oedd cyflwr ei gydgenedl a'r chwildroad oedd yn y wlad yn agos a'i yru yn wallgof. Yr oedd ef gyda hwynt yn y dechreu, ond yn awr yr oedd yn rhaid iddo ef farw a'u gadael. Pa beth oedd y foneddiges hono ? Credai mai hi oedd dechren a diwedd ei ofidiau a'i drallodion. Yr oedd yn credu erbyn hyn mai hono oedd wrth wraidd y cyfan oil, ond dyna, nid oedd o fawr bwys: yroedd ei amserar ben: dim ond ychydig oriau, ac yna byddai iddo ef ganu yn iach i'r anialdir. Carai gael golwg ar ei hen feistr, a ffarwelio a'i gydswyddogion cyn marw, ond yr oedd hyny yn anmhosibl. Nis gallai gael y naill na'r llall o'r pethan hyn-yr oedd bellach yn ddyogel. Rhyw bethau fel yna oedd yn rhed- eg trwy ei feddwl, ae nis gallai gaelllon- yddwch am fynyd awr. Yn mhen ychydig, clywai ei ddrws yn cael ei agor, a swyddog yn dywedyd, A ydyw yr hen frawd mewn hwyl at ymborth? Dyma fe—estynwcheich llaw." Estynodd ei law i gyfeiriad y swn, a derbyniodd ddarn bychan o fara a chwpanaid o ddwfr. Ymwelaf a chwi boreu yfory eto," ebe y swyddog ar ei waith yn can y drws." Pa amser ydyw ?" gofynodd y car- charor. « Y mae wedi myned yn nos," oedd yr ateb. Wedi llyncu yr ychydig ymborth a gafodd, taflodd ei hnn ar ei wely caled, ac ymdrechodd gysgu, ond methodd- yi oedd ei feddwl yn rhy derfysglyd. Yr oedd yn gorwedd ar ei wely, a thybiai ei bad yn tynu yn mlaen tua chanol nos, pan yn sydyn clywodd drwst tu arall i fnr ei ystafell. Start- iodd ar ei wadnan a gwrandawai yn astad. Yn fuan olywodd rhyw beth megys pe byddai y mur yn symnd allan o'i lee Syllai a gwrandawai4 ond ni j chadwyd ef yn hir mewn pryder. Erbyn- ei fod ef wedi sefydla ei olygon ar y mar, yr oedd hwnw yn ymagor, a goleuni tanbaid yn ymddangos, a llais mwyn a ewynol yn gofy* yn ddysfcaw, A ydych yn gyeums yn eich gar- trefnewydd?" "Nid cysfcal," ebeefe,^an eylln ar I gwrthddrych prydferth oedd yn sefyll ger ei fron. "Paratowch i'w adael, ynte," ebe y foneddiges, (canye y foneddiges yr ydym wedi son am dani amryw weith- ian yn barod ydoedd). "Canlynwuhfi,»' ebe hi. Heb siarad gair, allan ag ef trwy dwll yn y mnr ar ei hoi, ac yn fuan yr oedd yn sefyll ar rodfa hyfryd.

ENWOGION SIR GAERFYRDDIN.

IARLL BEACONSFIELD