Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

FFUGCHWEDL Y LLWYNOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FFUGCHWEDL Y LLWYNOG. Aethum yn cldefosynol iawn i ben y pwll boreu dydd Gwener, fel yr oeddwn wedi addaw; cyfarfyddais a'r b08! gofyn- ais yn serchus yn mha le yr oeddwn i ddechreu. Ewch lawr i'r pwll, meddai, a chwi gewch weled, gyda gwen ddiflas: I lawr a mi yn bur wangalon. Ofnais fod ,a rhyw un o qlir- y cynffonwyr wedi fy ad- nabod. Wedi cyrhaedd gwaelod y pwll, gofynais i rhyw un yn mha le yr oeda deep yr engine ? Wn i ddim, meddai, ai nid deep y D-c-n-d yr ydych yn feddwl ? Dyna yr unig enw wyf fi wedi glywed ar y deep sydd yn gweithio yn bresenol. Gyda hyny dyma y boss i lawr fel gwall- gofddyn, gan ddechreu gyru pawb at eu gwaith, a gollwng allan y geiriau mwyaf bombastaidd a gly wais erioed, nes oedd- wn wedi myned i syndod llwynogaidd wrth glywed y fath iaith. Wedi i'r oil fyned at eu gwaith, gofynais yn grynedig iddo yn mha le yr oeddwn yn cael myned i ddechreu. Ewch lawr i'r deep, meddai, a gofynwch i'r tanwr am y talcen segur sydd -.twr yn y Danube. Teimlais y gair Danube yn myned trwy fy esgyrn, gan feddwl mae lladdfa neu foddfa oedd l fod. Ond lawr a mi, beth bynag, cefais afael ar y tanwr Tichbornaidd. Dywed ais fy neges wrtho. Ni ddywedodd air am amser. Dewch y ffordd hyn, medd- ai, yn mhen ryw chwarter awr. I mewn a ni i rhyw heading hyd nes cyraedd y talcen. Dyma fe, meddai. Edrychais drosto yn fanwl, ond ni welais fawr lo o'i fewn-dim ond rubbish yn ei orchudd- io oil. A oes dim am glirio y lie, medd- wn wrtho; mae wedi bod yn segur am hir amser os wyf yn deall yn iawn I Rhyngoch chwi a'r overman: nid yw yn perthyn i mi o gwbl, meddai. Gyda hyn dyma y boss yn dyfod atom. Gofynais iddo os oedd yn talu i mi am glirio areparo y talcen. Gadewch i mi weled beth ellwch wneuthur yn gyntaf os ydych yn hollol gyfarwydd, bydd i mi roddi ychydig o allowance i chwi; ond os nad ydych, cewch dalu am eich dysg, trwy ei glirio am ddim. Penderfynais ddechreu ar ei air, a lien wais naw dram o rubbish y turn cyntaf. Tranoeth, sefais dri phar o goed, a saith post mawr o dan y top uchaf, ac yr wyf yn benderfynol o weithio yn y blaen hyd yr arian, er cael gweled egwydd- or y boss Os na chaf fy moddloni, bydd i mi ei ddarlunio yn ei liw a'i lun priodol, fel y gallo pob dyn ei adnabod yn rhwydd can' Mod ato i 'mofyn gwaith, fel na ullofrwilo neb ar ol y Llwynog. Yr wyf wodi clywed fod gwell gwaith yn y hnac sydd yn y pedair. Gresyn na fuaswn wedi cael ciywed hyny yn gynt gan fy mod yn bur gyfarwydd a'r boss hwnw-bu ef a minau yn cario hosanau gyda'n gilydd flynyddau yn ol; ond ni ddarfu i mi ddychymygu mae efe oedd yn Mhen y Baedd y noson y bum yn gofyn am waith. Ond nid yw yn rhy ddiwedd- ar etc, os na fyddaf yn leicio fy lie yn y man lle'r ydwyf. Yr wyf yn bwriadu gollwng y gwynt o bob boss a ddaw i gyffyrddiad a mi, er eu dwyn ychydig atynt eu hunain. Clywais fod Mr. P. wedi dyfod ato ei hun yn bur dda, ac o fewn ychydig latheni i fod yn Gristion. Gwnaf ddynion neu lwynogod o rai eto os nad wyf yn camsynied, cyn y bydd i mi gymerydy goes o'rlle hwn eto. Rhaid dal pechod pob dyn o flaen ei wyneb (fel y daliwn ni y llwynogod fowls a gwydd- au o flaen ein cenawon i'w dysgu i'w parchu yn deilwng, ac fe wyr pawb erbyn hyn beth yw y parch hwnw) fel y gallo ei adnabod yn ddidrafferth, ac nid ergydio atynt o hirbell, fel y gwna pregethwyr y dyddiau hyn. Rhaid i mi ddweyd y gwir heb hidio am wen na gwg neb, er mai y tal a gaf am hyny yw, fy erlid o fan i fan, pan mai ereill wrth ddefnydd- ie sebon meddai yn cael cyflog dda, a byw yn haelaethwych beunydd. Ond yr wyf yn benderfynol o sefyll o blaid yr hen egwyddorion hyny sydd wedi ei morteisio ar greigiau y gwirionedd er myned yn ddiffau. Clywais am ryw ddyn, o ryw bris, mewn rhyw lofa, yn myned. i rhyw le, He yr oedd rhyw beth yn groes I elfenau bywyd yn lletya, a chollodd ei fy wyd wrth hyny. Dyma wers bwysig eto am iod yn fwy gwyliadwrus wrth osod dyn- ion mewn swyddi sydd a holl fywydau y lofa yn ymddibynu ar eu dwylaw. Rhaid i bob glowr fod yn fwy crafi'us, gan edrych pa fath ddynion sydd yn tra-uw- Aisdodi arnynt. Un noson yn ddamweiniol daethum i gyffyrddiad a dyn or enw Brigham Young, Treorci. i -n f p-ct .lie iawn yr olwg arno o hirbell, ond fel y dynesais ato, yr oedd yn myned yn fwy salw, yn debyg i nwyddiau y Ct.Mp John. Gwisg- ai yn drwsiadus, ac y mae beunydd yn cario gwen deg ond gwenwyn dani. Clyw- ais fod y rhyw deg yn bwriadu ei an- rhegu a phar o f Me whiskers, am fod Hwydrew amser wedi anharddu y thai gwreiddiol. Cafodd anrheg o'r blaen yn myd machlud haul o set o geryg malu Olid beth bynag a geir, rhaid i amser gael ei ffordd. Y mae eisiau nodi y brawd < hwn, fel y gallo y wlad ei adwaen, bydd hyny yn rhatach na myned i'r draul o dynu ei <ddarlun. Yr wyf yn dechreu dyfod yn gartrefol yn y He hwn, ac nid wyf yn meddwl ym- adael oddiyma cyn y bydd i mi droi pob eareg. Y mar* ma hen ffowls hyfryd i'w cael, a byddaf yn sicr du coginio, fel y gallo y gwanaf ei stumog eu derbyn yn rhwydd. Y mae llawer hen glacwydd wedi tewycliuar lafur y gweithiwr diwyd, ond bydd i mi ddangos lliw eu crwyn yn bur fnan. Bhaid tynu at y terfyn rhag i fy llith fyned yn rhy faith. Cofiwch Mri. Gol., am argraffu digon o'r D ARIAN yn y misoedd dyfodol. Y mae petbau rhyfedd i ymddangos, na feddyliodd un boss erioed fod y Llwynog yn gwybod dim am danynt. Yr eiddoch hyd y tro nesaf, gynffon a chlustiau. LLWYNOG.

HELYNTION TREFORIS.

PORTH, CWM RHONDDA.

GLOFA Y BRITHDIR, GER CASTELLNEDD.

. EISTEDDFOD GENEDLAETHOL…

Advertising

IARLL BEACONSFIELD