Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
OWAIN GLYNDWR.
OWAIN GLYNDWR. PEN 0 D VIII. AR Y MYNYDD. Wedi iddynt fyned trwy y mnr, aeth y mur yn ol i'w le drachefn, a'r eiliad yr aeth, dywedodd y foneddiges, Yr ydym bellach yn ddyogel—nis gall neb ein eanlyn-Bymudwch yn mlaen." Symudodd y ddau yn mlaen ar hyd y rodfa am tua chant neu gant a haner o latheni, ac yn y fan hono yr aethant yn erbyn mur neu graig gadarn. Nid oedd dim arwyddion fod nebwedi tram- wy y ffordd hono wedi y dilaw. Gdlid meddwl wrth edrych ar y graig nad oedd dim wedi eyffwrdd a hi wedi y cread. Aeth y foneddiges yn mIaen at ymur, ac wedi eyllu a gwrando am ychydig, gosododd ei throed fechan ar spring oedd yn rhedeg gy3a y llawr, ac agorodd y mur yn ddwy rhan, a chawsant ffordd rydd i fyned yn mlaen ar hyd y rodfa. Wedi iddynt basio, trodi y foneddiges a gosododd ei throed ar spring ar311, a chacodd y graig i fyny fel jr ydoedd In y dechreuad. 0 "Nid oes ond un yn y castell hwn," ebe hi, yn gwybod am y fjnedfa hon, a myfi ydyw yr un hwnw. Myr edfa ddirgelaidd ydyw ac nidun gyhoeddus." "Nid wyfyn h, dio rhyw lawer," oedd yr ateb, "pa beth ydyw os gwna ein harwain ni allan yn ddyogel." Nid wyfyn gwybod pa un a wna ein harwain al'an yn ddyogel ai peidio, ond gwnawn ei chynyg." .1 Aethant yn mlaen drachefn am ychydig, pryd y safodd y foneddiges yn sydyn gan droi ei chlust st y mur nen ochr y fynedfa, ac wedi gwrando yn astnd am rai mynydau, dywedodd, Awn yn groes ffordd yma," a'r eil- iad nesaf yr oedd y graig yn ymagor fel y tro blaecorol, a hwythan yn cael lie rhydd i fyned rhagddynt. Tu fewn i'r mur hwn yr oedd ystarell eang ac addurniedig, yn cael ei goleuo gan ddeg o lampau mawrion yn crogi yn y nen. Aeth bi yn mlaen ar ei chyfer yn agos i'r gongl bellaf, a chanlynodd yntau hi. "Eisteddwch yn y fan yna," ebe hi gan gyfeirio ai bys at rhyw beth tebyg i gadair farnol. Gafaelodd mewn cloch fechan oddiar y bwrdd, ac ysgydwodd hi ddwy neu dair gwaith, a chyn pen haner mynyd yroedd chwech o fonedd- igesau a chwech o foneddwyr yn gwneud eu hymddangosiad. "Pa beth a geisia y Dywysoges Elianor ?" ebe un o'r dynion. "Arlwyo y bwrdd hwn," oedd yr eteb a chyda Haw y mae genyf yr anrhydedd o gyflwyno i'ch sylw Cad- ifor, prif swyddog Owain Glyndwr, sef nn o ryfelwyr blaenaf yr ynys. Daeth yr oil foneddigasan a bonedd- igion yn mlaen, ao ysgydwasant ddwy- law a'r Cymro, a dywedodd pob un witho, Bendith y Forwyn fyddo ar eich ben." Cyn pen pum mynyd yr oedd y bwrdd wedi cael ei orchuddio a dan- teithion penaf natur, a phob un yo cyfranogi ar ei oren. Wedi i bawb gael eudiwallu, gafaelodd y dynion yn eu hofferynan cerdd, a chwareuasant amryw donan yn swynol dros ben, tra yr ydoedd y boneddigesau yn dawnsio. Yr oedd yco le rhagorol. Yn mhen tnag awr neu awr a haner dywedodd y fon- eddiges Yr wyf yn rhwym o symnd y bon- eddwr hwn allan, ond dychwelaf cyn y boreu. Pan dychwelaf, byddaf yn got- yn am eich cymhorth," Gyda hyny yr oedd yn cyfodi oddiar ei sedd Be yn cychwyn tua'r prif borth, yn cael ei chanlyn gan y swyddog Cymreig. Wedi myned allan i'r brif fynedfa,' gosododd ei throed ar y spring, a chawsant ffordd rydd i fyned rhagddynt. Wedi myned yn mlaen ar hyd y fyEedfa am tua dau cant o lath- eni, dsethant at far eilwaitb, a safodd y foneddiges fel y troion blaenorol. Wedi sefyll am ryw fynyd neu fynyd a haner, dywedodd y foneddiges, A welwch chwi y pecyn yna sydd wrth y mur ?" "Wrth y mur-yn mba le?" oedd yr ateb. Dyna ef ar eich cyfer." Pw!—gwelaf." "A gotweh ef a gosodwch ei gyn- wysiad am danoch." Gafaelodd ein gwron yn y bwrn, ac wedi ei agor, cafodd ei fod yn cynwys gwisg chwaer drngaredd. Taflodd y dillad am dano mor rhwydd ag y medrai, ac wedi gorphen dy wee odd, Yr wyf yn edrych yn noble yn awr. "Gosodwch eichdwyfraichynmhleth areich mynwes eto," ebe y foneddig- Es, "a thynwch y gorchudd sydd ar eich gwyneb yehydig yn nes i lawr. Dyna ef yn awr. Wedi i ni fyned allan, cerddwcb yn araf a phwyllog ar fy ol hi, a gofalwch na ddywedwch air wrth neb. Os dywed rhyw un ryw beth wrthych chwi, peidiweh a'i ateb—peidiwch a chymeryd arnoch eich bod yn ei glyw- ed. Yn awr dyma fi yn agor y porth, a chofiweh fy nghyfarwyddyd." Yna gosododd ei throed ar y spring, ac yn fuan yr oeddent yn syllu ar y ser yn chwareu uwch eu penau, a'r lleuad yn myned i'w gwely yn y gorllewyn pell. Wedi i'r eneth sefyll a gwrando am ychydig, cyehwynodd rhag ei blaen. Yr oeddent yn awr tu allan i ffiniau y dref, ac yn yrrfyl cornant fechan, a darfu iddyntddilyn hono i fyny hyd nes idd- ynt gyrhaeddyd y brif ffordd. Croes- iasant y brif ffordd, a dilvnasant lesh- wedd y mynyddifynyibwyntyr Wydd- fa. Wedi iddynt fyned can belled a Chroes Arthur, gosododd y foneddiges ei phwys i law rar gaieg o gryn faint, a dvwedodd. Dyna chwi bellach. yn ddyogel ac allan o berygl." le," oedd yr ateb, ac i chwi yr wyf yn ddyledus, nid am fy rhyddyd, ond hefyd am fy mywyd. Pa beth a dalaf i chwi ?" Dim--nid wyf yn gofyn dim." "Bendith y Forwyn fyddo ar eich pen ond y mae rhyw ddirgelwch rhy. teddol yn eich holl ymwneud mewn cysylltiad a mi nas gallaf ei ganfod na ei ddehongli." "Wel?" Pa beth yw yr achos eich bod yn teimlo y fath ddyddordeb ynwyf ?" Plygodd y foneddiges ei phen i'lawr, ac yn y cjflwr hwnw y bu am rai myn- ydan, ond yn sydyn cyfododd ei phen i fyny a dywedodd, Y mae calon merch yn dra gwahan- ol i eiddo boneddwr ieaanc fel chwi. Nis gall merch lywodraethu cynhyrf- iadau ei chalon, ond gellwch chwi wneud hyny, er fe ddichon mai gor- chwyl poenus fydd hyny lawer pryd. Os bydd i ferch ollwng ei serch i afael- yd mewn boneddwr ieuanc, nis, gall lywodraethu ei nwyd-y mae yn rhwym o redeg ar ol gwrthddrych ei serch, bydded y canlyniadau y peth a fydd- ont."
ENWOGION SIR GAERFYRDDIN.
ENWOGION SIR GAERFYRDDIN. Jones, Griffith, LLANDDOWROR. Ganwyd y dyn llafurcs a defnyddiol hwn o rieni cyfiifol yn mhlwyf Cilrhed- in, yn y flwyddyn 1683. Bu farw ei dad pan oedd ef yn dra ieuanc, fel y syrthiodd y gofal am ei ddygiad i fyny ar ei fam. Yr oedd yn aalwg i bawb a'i adwaenai fod rhywbeth gwahanol ynddo i blant ereill pan yn ieuanc iawn. Amlygai dueddfryd cryf am gyr- haedd gwybodaeth er yn faban braidd, a bu yn ffodus fod iddo fam yn awydd- us i roddi iddo bob chwareuteg, An- fonwyd ef i ysgol wledig mor faan ag y daeth i oedran cyfaddas, yn agos i'w gartref. Wedi treulio rhai blynyddau yn yr ysgol hono, anfonodd ei fam ef i athrofa Caerfyrddin, lie y cynyddodd yn dra chyflym mewn gwybodaeth o'r Groeg a'r Lladin. Yr oedd yn wan- aidd iawn o ran ei iechyd yr amser hwnw, yr hyn oedd yn anfantais iddo ar un llaw, ac yn fantais fawr iddo ar y ilaw arall. Yr oedd yn anfantais iddo i efryda yn galed, ond yr oeld yn fantais iddo tuag at gadw ei feddwl oddiwrth oferedd. Yr oedd ei lesgedd yn ei anallncgi i gymeryd rhan yn ofer- ddifyr.on ieuenctyd yr ces hono pe ewyllysiai, ac felly tueddid ei feddwl i ymneijlduo i fyfyrio a da? lien, &c. Ystyriai y swydd offeiriadol y fwyaf bwysig ac urddasol o bob swydd, a thueddwyd ei feddwl i ymgyssgru i'r swydd anrhydeddus hon. Wedi treulio ei amser yn athrofa Caerfyrddin, a chadw ei gymeriad yn loyw yn ystod yr amser hwnw, darfu i'r Esgob Bnll ei urddio yn ddiacon. Medi 19eg, 1708, pan oedd yn 25 oed. Yn mhen y flwyddy i'r mis, cafodd ei gwbl urddo gan yr un esgob yn nghapel f Abeimarla s. Ymddygodd or esgob yn hynod o garedig tnag ato, a rhoddodd iddo lawer o gynghorion gwerthfawr, yr hyn a barodd i Mr. G. Jones goleddu parch mawr i'r gwr hwnw eyhyd ag y bu ef byw. 0 Ar y 3ydd o fis Gorphenaf, 1711, rhoddwyd iddo berigleriaeth Llandei- lo, Abercowyn. Yn mhen pum mlyn- edd ar ol hyny cyflwynodd Syr John Phillips, o Picten Castle, sir Benfro, berigloriaeth Llanddowror iddc—Gor. 27ain, 1716. Yr oedd erbyn hyn wecti cyrhaedd cryn boblogrwydd, ac yn troi mewn cylehoedd parchus ac anrhydedd- ns. Priododd Mr. Jones a merch Syr Erasmus Phillips, brawd Syr John Phillips, o Picton Castle. Bu Mrs. Jooes farwyn y flwyddyn 1755, yn 80 mlwydd oed. Yn ychwanegol at Llandeilo Aber- cowyn a Llanddowror, pregethai Mr. Jones jn ami yn Llanllwch, yn agos i Gaerfyrddin. Yr oedd Llanllwch yr amser hwnw dan ofal Mr. Datydd Jones, perthynas agos i Griffith Jones, a diamheu mai hyny oedd yr achos ei fod yn pregetha yn achlysurol yn y lie hwnw. Tra yr oedd yn pregethu un tro yn Llanllwch, bendithiwyd ei weinidog- aeth i argyhoeddi Miss Bridget Vanghen, o'r Derllysg, yn mhlwyf Merthyr, yr hon wedi hyny a briododd Arthur Bevan, Ysw., o Lacharn, a bu yn gymhorth mawr i Mr. Jones i gario all-in y gwaith da a fa o les i holl Gymrn. Arferai y foneddiges hon fyned o Lacharn bob Sabboth i Landdowror neu i Landeilo Abercowyn, i wrando ar Mr. Jones yn pregethu, ac er ei bod yn fynych ynoael ei gwawdio am hyny, eto, glynodd wrth y gorchwyl yn ffydd- lon tra bu efebyw. (I'w barhau).
IARLL BEACONSFIELD
IARLL BEACONSFIELD (MR. DISRAELI). Y mae llawer o bethau yn ngwaith Mr. Disraeli, yr hwn a elwir Alroy," yn profi ei iod ef yn ddynwaredwr, ae yn lien-ysbeiliwr. Eglur yw ei fod wedi ceisio dynwareda Shakspeare. Ac eto cyhudda efe nofelwyr a beirdd yr oes bon o fod yn ddynwaredwyr a'i fod ef yn wreiddiol Dywed Richard III. yn Shakspeare Teyrnas am geff- yl. Dywed Alroy "Teyrnas am ddracht o ddwfr;" dywed Macbeth teflwch gyfferi i'r cwn dywed Alroy "ttflweh ddygwyddiadau i'r ewn." Pe na buasai Mr. Disraeli wedi beio pawb o'r beirdd diweddar am ddynwarediad, Hl'laasai^waith efyn benthyca llwythi 6tethan o Shakspeare yn ymddangos inor wrthun. Ond beth na wna chwarea- wr ar esgynlawr chwareuiy i dynu sylw dynion ato, heb roddi pwys yn y byd ar gysondeb ag ef ei han ? Digon Digon tebyg y gellir ystyried Disraeli yn wreiddiol pan y mae yn gollwng ei hun i gyfeiriad annatnriol mewn rhamant- usrwydd. Fel enghraifft, gesydddyn mewn cariad, i ddesgrifio ei serch, ac i cldweyd, dyma deimlad fy mywyd i, nid bywyd cyflredin, bywyd 11 awn o deimlad dwfn, a meddwl gwreiddiol yn crei." Un o'r teimlaiau mwyaf an- hunanol yw cariad. Nid yw yn ceis- io yr eiddo ei hun." Ac y mae ei nerth gymaint fel na aU fod mewn safle i fesur a phwyso a desgrifio ei hun, fel y gwna arsvr Disraeli. Disgyna efe i iseliaith dynion heb ofni Daw. Tynga ei arwr ef yn enw y nefoeid," er fod Crist wedi dweyd am beidio tyngu i'r nef, canys gor- seddfa Daw ydyw." Proffesa Disra- eli barch i Grist! Ymhonwr balch yw ei arwr ef. Medd- ai efe, Dyma fi yr hero. a meddwl genyf i gynllunio pob peth, a chalon genyf yn galla beiddio yn orwuch- naturiol! Gellid meddwl fod yr arwr yn siarad iaith Disraeli am dano ei hun. Dywed, Nis gallaf amheu fy muddugoliaeth. Rhan o fy moiolaeth i yw buddugol- keth. Ganwyd fi i fod yn ogoneddus, fel y ganwyd pren i ddwyn ffrwyth, neu i ymledi allan mewn blodan. Y mae nefoedd a daear yn ymuno i wnend fy ffortan i!" Beth ond gwallgof- rwydd chwyddedig yw y fath fyfyrdod- au rhamantas ? A meddylier mai cynyrch meddwl Prif Weinidog Lloegr ydynt! Gyda ei holl chwyddiadau, ysbeiliodd efe yn ddigywilydd feddylian Burke. Dywedodd Burke, Art is man's na tu-e." Defynyddiodd Disraeli y geir- iau hyn air yn ngair yn y "Revolution- ary Epic," Sonia Burke am ddynion fel gwybed yn yr haf," felly y gwna Disraeli. Dywed Burke am blant yn darnio ei rhieni oedranns, ac yn eu rhoddi yn nghrochan swynwyr er mwyn iddynt gael cyiff newydd." Ysbeilia D israeli y gydmariaeth hon yn grynswth. Y mae l.en-ladrad yn nodweddu yr oil o'i gyfansoddiadau i raddau helaetb, ra ar yr un pryd yr hoaa efe iddo ei hun wreiddiolder a ffiesrwydd eithr- iadol Er yr holl chwydd honiadcl, ac er i'r franosod "peacock's feathers" o'i hamgylch, aeth yr Epic i'r llwch. Dirmygwyd y llyfr gan ddifaterwch y cyhoedd sydd yn darllen. Aeth y dail fel waste paper i feddiant siopwyr Mawr yn ddiau oedd siomiant yr awdwr. Ni enillodd y goron yn yr ymdrechfa. Ond ni thorodd ei galon. Penderfynodd wthio ei hun i'r Senedd i fod yn "Statesman!" Ymosododd ar Arglwydd Russell. Dywedodd yn ei gylch fod "gwin drwg yn gwneud finegr da, fod awdwr, yn y ddegfed radd o lselder, yn bolitician yn y radd uwchaf." Desgrifiodd efe Palmerston fel plentyn llygredigaeth wedi ei eni yn Downing Street, yn swyddwr o'r ail radd am again mlynedd gyda'r Toriaid, ac wedi hyny yn weinidog gyda'r Whigs." Efe a ganmolodd Syr Robert Peel yn 1833; ond rhegodd ef a'i holl egni yn mhen pedair blynedd ar ddeg wedi hyny, ac y mae yn awr yn ceisio efelychu Palmerston Dywedodd yn ei gyfarchiad wrtli droi at y Toriaid mai creadur yr oes yw statesman, plentyn amgylchiadau, un wedi ei greu gan yr amseroedd. Wrth gymeryd swydd nid yw efe i wneud ymchwiliad beth yw ei olvgiad- .19 au ef ei hun ar unrhyw fater, ond beth a etyb ddyben. Ni ddylid manylu ar opiniynau ac ymddygiadau dynion cy- hoeddus, a'u cydmaru ynaiil amser a'r llall mewn gwlad rydd Dyledswydd dynion cyhoeddus yn achlysurol yw mabioysiadu golygiadau gwahanol i'r eiddynt eu hunain, oblegyd fod yn rhaid eV bobl gael Arweimoyr. Y mae yn angenrheidiol i opiniynau a rhag- farnau y boblogaeth ddylanwadu ar statesman sydd yn ymddyrchafu i nod- edd. Yr wyl, gan hyny yn chwerthin am ben v gwrthdadleaon yn erbyn dyn a fa yn bleidiol i olygiadau gwrthwyn- ebol i'r rhai a broffesa yn awr." Byddai yn anhawdd i un Jesuit ym- resymu yn fwy penderfynol o blaid yr egwyddor anysgrythyrol, fod y 11 dyben yn c)fiawnhau y moddion," "gwnawn ddrwg fel y del daioni." Dyma Brif Weinidog Lloegr, yr hwn a ymresymodd fiynyddoedd yn ol o blaid unrhyw anghysondeb mewn barn a gweithred, ar faterion gwleidiadol yn ein llywodraethwyr Seneddol! Ni bu syniadau mwy erves i'r Beibl mewn ar- graff. Er fod BeaconsfieSd yn proffesu parch i'w henafiaid Hebreaidd, ymres- yma yn erbyn y deddfau nefol a wnawd yn amodau eu cyfamod hwy a Dn iV. Dywedir yn nghyfraith Moses, "N a ddilyn luaics i wneuthur drwg; ac nac ateb mewn ymrafael, gan bwyso yn ol llaweroedd i wyro barn." in a chyd- nabyddwch wynebau mewn barn; gwrandewch ar y teiaf, yn gystal ag ar y mwyaf; nac ofnwch wyneb gwr; oblegyd y farn sydd eiddo Duw." Pan fyddo ymrafael rhwng dynion, a dyfod i tarn i'w barnu yna cyfiawnhant y cyfiawn, a chondemniant y beins." "MeJldigedig yw yr hwn a wyro farn y dyeithr, yr ymddifad, a'r weddw. A dyweded yr holl bobl, Amen." Exod. xxiii. 2. Deut. 1. 17; xxv. 1; xxvii. 19. Y mae egwyddorion Beaconsfield yn hollol groes i'r ysgrythyrau canlynol, "Brenin trwy farn a gadarnha y wlad," Diar. xxix. 4. "Gwnewch uniondeb i'r gorthrymedig, gwnewch farn i'r ymddifad," Esay. i. 17. Mwy tebyg yw ei olygiadau ef i'r rhai a gondemnir gan Esay y prophwyd, o dan gyfarwyddyd yr Ysbryd Glan, Esay lix, "Nid oes a slwoam gyfiawn- der, nac a ddadleu dros y gwirioeedd; y maent yn gobeithio mewn gwagedd, acyn dywedvd celwydd. Nid oes cyf iawnder yn en llwybrau. Barn a dreed yn ei hol, a chyfiawnder a safodd o hirbell; canys gwirionedd a gwympodd yn yr heol, ac nniondeb ni all ddyfod i mewn, a'r hwn sydd yn cilio oddiwrth ddrygioni a gyfrifir yn ynfyd. Agwel odd yr Arglwydd hyn, a drwg oedd yn ei olwg nad oedd barn. Yn ol y gweith- redoedd y tal efe." Yn ol fel y dywed Jeremiah y proff- wyd, yr oedd llwyddiant gwladwriaeth- ol pobl Israel, yn ymddibynn ar eu bod yn gwneud yr byn oedd yn iawn ynddo ei hun, yn gwbl annibynol ar 11 ragfarn- au" y lluaws. Jer. v. 5—7 xxi. 12, &c. Gwel hefyd Micah iii. 1— 9. Hab. 1. 2-4 Math. xxiii. 23; Diar. xxi. 7, 15; a xviii. 5. "Gwae y rhai a ddywedant am y drwg da yw ac am y da drwg yw; gan osod tywyllwch am oleuni, a golen- ni, am dywyllwch," &c, Esay v. 20. a Meddylier mewn difiif, fod gwr mewn oed a synwyr, digonol i ystyried ei hun yn un eymwys i arwain plaid yn y Senedd, yn ymresymu o blaid rhagrith mewn seneddwr arweiniol, o blaid iddo fod yn meddwl un peth ac yn gwneud peth gwrthwynebol iddo, i foddloni dynion! Pa ryfedd os aiff llong y wladwriaeth yn erbyn y creig- ian o dan lywyddiaeth cadben a broffesa godi ei hwyliaa i ateb i bob gwynt, heb edrych ar y cwmpawd ? Gwnaeth Disraeli hyn er mwyn cyf- iawnhau ei hun wrth droi at Doriaeth oddiwrth Radicaliaeth, wedi ceisio bod yn aelod dros High Wycombe. Ystyriai efe fod potl a deimlant duedd cydwyb- od effro, i fod yn gyson a hwy eu hun- ain, mewn eyfiawnder a gwirionedd, yn wrthrychau gwawd! Er hyny i gyd meddylied y darllcn- ydd fod y dyn hwn yn beiddio dweyd, yehydig amsir wedi hyny, wrth ethol- wyr Taunton, "If there is any thing on which I figure myself, it is my con- sistency Dyma ddyn agoedd wedi taeru ychydig eyn hyny nai oedd yn iawn i ddyn gadw at yr nn opiniynau os byddai rhagfarn y bobl yn gofyn am iddo eu newid, yn tystio wrth bobl Taunton, os oedd rhyw rinwedd mwy na'i gilydd yn ei neiili-oli ef, mai ei "gysondeb" ef ag ef ei hun oedd y rhinwedd hwnw!! Nid oedd yn bosibl i un haeriad fod yn fwy gwrthwynebol i ffeitbiau adnabyddus i bawbna'rfath ddywediad. Rhaid fod y dyn a allai ei wneud, nid yn unig yn amddifad o egwyddorion creaduriaid moesol cy- ffredin yn mhlith plant dynion, ond yn bresaidd ei deimladau tu hwnt i bob diroadaeth. Anhawdd meddwl ycreda dynion yn yr oeeoedd dyfodol fod pobl Prydain Fawr wedi rhoddi mwyafrif, o dros gant yn y Senedd, wrth gefa boneddwr o'r fath yma, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dywed yr enwog George Herbert "y mae llondllaw o fywyd daynwerth pwsiel o ddysg." Atdyna athrylith edmygedd, ond rhinwedd moesol yn unig a wobrwyir a pharch. Anghenfil yw y dyn sydd a phen goleu a chalon mor dywyll a'r fagddn. Nid mewn athrylith yr ymddirieda dynion, ond mewn gwiriuuetUl a chyflawudci. Dj- wedodd Burke am un boneddwr mai "ei rinweddau ef oedd ei gyfoeth." Pe buasai rhinweddau moesol Sheridan yn ogyfusych ai dalent ef, buasai yn frenin ar y boblogaeth, a buasai ei enw yn peraroglu yr oesoedd hyd derfyn amser.
BEIRNIADAETH EISTEDDFOD GADEIRIOL…
BEIRNIADAETH EISTEDDFOD GADEIRIOL GOSEN, RHYMNL "Beddargraff John a David Thomas, meibion William ac Ann Thomas, Hill- street, Rhymo."—Derbyniwyd naw hir- athodiad, sef Un o'r Twyn, Cwynfanwr, Llais Teimlad, Hiraethus, Abel, Gwan- iar, Cofianydd, Canoldref, a Bardd yn ei amser. Nid oes un o'r toddeidiau yma yn meddu ar deilyngdod uchel fel bedd- argraff i'r ddau wr ieuanc. Er nad oes rhyw lawer i'w diweyd am eu nodwedd- ion personol, eto dylasid gwneud rhyw grybwy Iliad am yr hyn oeddynt. Meddai John chwaeth uche) at gerddoriseth, ac yr oedd wedi astudio cryn dipyn yn y cyfeiriad hwnw, ond y mae pob un o r toddeidiau yn fud ar hyn. Hefyd y mae Cofianydd, Uno'r Twyn, ac Abel ynwallus mewn orgraff a chynghanedd. Y mwyaf clasurol a chyfan ydyw Bardd yn ei amser a Chwynfanue. Beddargraff y diweddar John Davies, Tredegar Road, Rhymni."—Derbyniwyd 20 o englycion, yn cael eu harwyddo a's ffagenwau John Jones, Ap Deigryn, Wyf yn byw ar fin y bedd, Brython, Cymro. Llwydwedd, Un a'i adnabu, Hiraethlawn, Shon Tadur, CyfailJ, YweD, Cof, Vice- roy, Planigyn, Adwaenydd y brawd an- wyl, Galarwr o gol hiraeth, Gwas Galar, Hen Bererin, a Jeremiah. Grillwn feddwl fod y rhai hyn yn rhann i dri dosbarth yn naturiol. Mae y dos- barth isaf yn cynwys beiau cynghanedjiol, ac yn hytrach na manylu ar y pentwr hwn, caiff eu hawdwyr y drafferth o chwilio am y gwallau. Y cyfansoddiad- au hyn ydynt eiddo John Jonep, Ywen, Hiraethlawn, Un a'i adnabu, Brython, Wyf yn byw ar fin y bedd, Shon Tudor, a Viceroy. Yr ail ddosbarth ydynt eiddo Ap Dei- gryn, Planigyo, Galarwr o gol hiraeth, Cymro, Llwydwedd, Cyfaill, Adwaenydd y brawd anwyl, a Cof. Mae y rhai hyn yn englynion rheolaidd o ran cynghanedd, ond heb fodo deilyngdod uchel fel beid- argraffiadau i John Davies. Yn y dosbarth blaenaf mae Hen Ber- erin, Gwar Galar, a Jeremiah. Wele eiddo Gwar Galar: Didwyll a diwyd f doedd—y gwr do 3th, Ha*ddgar, d&'i alluoedd; Wele'i ravd-addolwr oedd, Yn jf;d gwin or nefosxid