Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
o BLAENLLECHAU.
o BLAENLLECHAU. NosFercher, 26ain cynfisol, ynyr Assembly Hall, cafwyd datganiad ardderchog o'r < 41 Twelfth Mass (Mozart) gan gor Libanus, TTreherbert, dan arweiniad Mr. T. Phillips, yn cael ei gynorthwyo gan y Treherbert String Band, d&narolygiaeth Caradog, Aeth pawb trwy eu gwaith yn ganmoladwy. Dat- ganwyd y chortisei; yn chwaethus drcs ben. Chwareuai y string band yn rhyfeddol o dda o'r dechreu i'r diwedd. Cynrychiolwyd y cor yn y quai tetts, duete, a'r solos, gan Miss Jones (LEnos Rhondda), Mr. Evans (Eos Dar), Rachel Evans, ac K. Thomas, Treher- bert. Cafwyd datganiad pur chwaethus gan y pedwar hyn. Teimlem fod y soprano yn dyoddef i raddau dan effeithiau anwyd l ond hawdd ydyw genym gydymddwyn a hi pan yr ystyriom nad oedd ond newydd ddychwel- yd o res gyngherddau Dr. Parry, pan yr oedd cyngherdd yn cael ei chynalbobnos; nid hawdd oedd cadw o fewn terfynau tonydd- iaeth pan, yr oedd y llais yn cael ei or- lwytho fel yma mor ami. Cymerwyd y tenor solo gan Eos Dar yn dda iawn, yn en- wedig yn yr unawd, "Bow down here," Ac. Datganodd hwn yn chwaethus iawn. Da genym weled y cyfaill hwn yn esgyn grisiau enwogrwydd mor gyflym. Pob llwydd iddo, medd bechgyn y Maerdy a Blaenllechaa. Ar derfyniad y canu, cynygiodd Mr. Thomas, arplygydd, fod diolchgarwchgwresocaf y gyn- nlleidfa i'w roddi i'r cor am ymweled a Blaen- Uechau, er nad oedd y gwraudawyr mor lluosog ag y dymunasid. Awgrymai Mr. Thomas fod dyledswydd arnom fel Cymry i gefnogi mwy o ddatganiadau fel yma, ac i godi ein harchwaeth i safon yn uwch. Eil- iwyd y cynygiad gan Mr. Bevan, yr hwn a ddywedodd fod y perfformiad yn dreat i drigolion Blaenllechau, ac yn anrhydedd i'r eantorion; dywedai hefyd nad oedd haner digon o sylw yn cael ei dalu i weithiau fel y "Twelfth Mass." Cafwyd anerchiad byr gan Caradog fel cynrychiolydd i'r cor dy- wedai fod yn hapus ganddo glywed fod y gynulleidfa wedi cael eu boddlom mor dda. Dywedai fod Cymru, Gwlad y Gan, yn ol yn mhell iawn o gefnogi offerynau chwareu gyda oratorios, ac y dylem ni fel Cymry godi safon yn uwch mewn cerddoriaeth. Hefyd i gael y string band yn fwy ymarferol yn ein plith. Dywedodd fod y Treherbert String Band yn cael ei wneud i fyny o weithwyr i gyd, ac nad oedd arno, gywilydd fod yn eu plith: eu bod wedi chwareu y Twelfth Mass yn ddiwall o'r dechreu i'r diwedd, er o dan anfanteision lawer. Cynghorai bech- gyn Ferndale i ymaflyd yn y gwaith hwn yn ddiymaros. Diweddwyd trwy ganu yr Anthem Genedlaethol. ELFEDYDD.
EISTEDDFOD LLANGADOC.
EISTEDDFOD LLANGADOC. Dydd Mawrth, yr wythnos ddiweddaf, cyn- aliwyd eisteddfod fawreddog mewn pabell a adeiladwyd i'r perwyl mown cae gerllaw y dref uchod. Cafwyd ymgynulliad lluosog trwy y dydd. Beirniald:- Y gerddoriaeth, Mr. Robert Rees (Eos Morlais) a Mr. D. Buallt Jones; y farddoniaeth, Mr.* D. Buallt Jones; rhyddiaeth, y Parchn. John Lewis, Caerfyrddin; Aaron Roberts, M.A., ficer Llangadoc; a W. N. Lewis, Cefngornoth, Liangadoc; celfyddydwaitb, &c., Mrs. John Peel, Llangadoc: Mrs. Ellip Llwyndowy. Misses Lloyd, Glansefin; Mrs. Roberts 81 Miss Edwards, Persondy; a Miss Lewis, Cefngornoth. Arweinydd y dydd ydoedd y Parch. J. Thomas, Llanymddyfri. Agorwyd yr eisteddfod trwy gael anerchiad an gan y beirdd, ac yna awd yn mlaen yn y drefn a pnlyn :Baritone Solo, 10 yn cystadlu; gwobr 5s.-goreu, Griffith James, Cwmgi- edd. Beirniadaeth ar y cadeiriau: arddang- oawyd dwy gadair, a rhanwyd y wobr o £1 Is. rhwng Evan Davis a Jonah Rees, Llangadoc, y cyutaf a gafodd 15s. a'r olaf Car Cystadleuaeth coiau y plant, "LIef o Macedonia;" c6r Pantycelyn yn cyuyg, a chafodd y wobr. Am y par hosanau goreu; buddugol, Margaret Hairis, Cross Inn. Deu- awd, "Y Ddau Awenydd, gwobr 5s.; chwech parti yn cystadlu-goreu, D. Evans a'i gyf- fill. Am y llinellau goreu air Wraig y Meddwyn, gwobr 5s.; 17 yn ymgynyg— buddugol, David Price, Cwmllynfell. Am y gwneuthnriad goreu o'r basgedi bytatws, gwobr 2s. 6c.; tri yn ymgynya;—enillydd, William Harris, Liangadoc. Pryddest ar Lynoedd y Fan, gwobr 10s.; 14 yn ymgeisio -goreu, D. C. Hams (Caeronwy.) Dar lien cerddoriaeth ar y pryd, gwobr 2?. 6c.—goreu, Lewis Lewis, Gwynfe. Cystadleuaeth canu corawl cynujleidfaol, "Llanddewi, gwobr JE2 2S. dau o gorau yn ymgynyg, sef Llan- ddeusant, dan arweiniad Mr. Evans, ysgol- feistr, a LlaDymddyfri, dan arweiniad Mr. W. Pnillips, (Gwilym Cynon), yr hon wobr a enillwyd gan y blaenaf, yn nghanol ban- llefau o gymeradwyaeth. Terfynodd hyn gyfarfod y boreu. Dechreuwyd y cyfarfod prydnawnol trwy chwareu Ymdaith Gwyr Harlech" gan sein- dorf bres Llwynhendy. Yna cifwyd anerch- isd byawdl gan Gsdben M. P. Uoyd, Glan- sefid, sylwadau yr hwn oedd yn addysgiadol a buddiol iawn ar haneb ymgynnlliadau eis- teddfodol. Am y chwareu goreu ar y Cor- nopean, gwobr 10ft. 6c.; dau yn cystadln- buddugol,David Griffiths, Llwynhendy. Am y wlanen ioreu, rhoddwyd y wobr o £ i ig. i Jphn Thorn s, Llanddeueant. Soprano Solo, "Eiateddai Teithiwr B1 in," gwobr 5s.; dwy yn cynyg—goreu, Ann Jones, St. Pedr. Caer- fyrddin. Cystadleuaeth y trsethawd ar •'Hants Llangadoc," gwobr X2 2s.—goreu, Bpriah Evans, ysgolfeistr, Gwynfe. Triawd, Fair Flora Decks, gwobr 10s 6?,; pedwar parti yn ymgeisio-buddugol, James Davies a'i barti, Caerfyrddin. Cystadleuaeth y sein- dyrf bres, gwobr 92 29. j dau yn ceisio, sef Llwynhendy a Llanymddyfri; enillwyd y wobr gan y blaenaf. Cystadleuaeth y prif ddarn, "Worthy is the Lamb," gwobr £ 21; tri chor yn ymgeisio—Lladddeussnt, dan ar- weiniad Mr. D. Evans, ysgolfeistr; Llan- ymddyfri, dan arweiniad Mr. W. Phillips (Gwilym Cynon); a Llandilo, dan arweiniad Mr. Silas Evans (Cynou)—bnddugol, cor Llanymddyfri. Canu "Dewch i'r Gad, gwobr £ 1 Is.; dau barti yn cystadlu—Bryn- aman, dan arweiniad Thomas Powells, a Glee Parti Bethel; enillwyd y wobr gan y blaenaf. Cystadleuaeth eOlawl ar "Requeim leuan Gwyllt;" dim ond cor Llanddeusant yn unig a gystadleuodd, a chawsant y wobr o £7 7s. Yn yr hwyr cynaliwyd cyngherdd ardderchog, pryd yr oedd torf luosog wedi ymgasglu yn nghyd. Y r oedd y canu yn dda iawn. YMDEITHYDD.
SALEM, ABERDAR.
SALEM, ABERDAR. GWYL DE.—Cynaliodd Ysgol Sabbothol y He uchod ei gwyl de flynyddol dydd Llun, Mthefin 24ain. Yr oedd pawb o'r plant yn lied brysur yn y boreu yn parotoi ar gyfer yr orymdaith oedd i gymeryd lie tua chanol dydd, ae erbyn yr awr benodedig, sef un or gloch, yr oedd rhai canoedd wedi ymgrynhoi at eu gilydd, a phob un a'i wen am y ilona. Aeth yr orymdaith yn drefnus tua'r Park, lie y bu y plant yn cael eu diwallu a ffrwyth- au, &c. Wedi treulio rhyw haner awr ddifyrus, dychwelwyd yn ol i'r capel i gael pryd odea bara brith. Cyfranogodd rhyw chwe' chant o'r blasusfwyd, a phawb yn cy- tuno i ddweyd ei fod yn ardderchog. Yn yr hwyr, am haner awr wedi saith, cafwyd gwledd i'r meddw). Cymerwyd y gadair gan y Parch. T. M. Howells, gweinidog y lie. Cymerwyd rhan yn y gyngerdd gan gor a gobeithlu y lie ac ereill. Gwnaeth pawb eu rhan yn ganmoladwy, a phawb o'r dorf yn cyfaddef eu bod wedi cael gwledd o'r fath oreu. Boed llwydd i'r yegol fyned rhag ei blaen. RHYDDERCH.
TREBOETH.
TREBOETH. GWAEEDIGAETH RYEEDD.Boreu dydd Llun, Mehefin 24ain, tra yr oedd Miss Jenkins, o Bryn Dwr, a J. G. Hopkins, yn myned mewn cerbyd ar draeth mor Abertawe, brawychwydyceffyl a gwylltodd, a ffwrdd ag ef dros y banciau nes taflu'r ddau allan o'r cerbyd. Dranoeth rhoddodd y foneddiges enedigaeth i ddau faban. Y mae y fam a'r ddau faban yn dod yn mlaen yn rhagoroL BAKES.
EISTEDDFOD MYNYDDISLWYN.
EISTEDDFOD MYNYDDISLWYN. Cynaliwyd eisteddfod mewn pabell eang yn y lie hwn ddydd Iau diweddaf, yr hon a adeiladwyd yn afeos i'r eglwys blwyfol. Y llywydd oedd Mr. John Jeremiah, a'r beirniaid oeddynt Eos Morlais, Abertawe; a Gwilym Elian, Groes Wen. Y buddugwyr ar ganu oeddynt Lewis Jenkins, Cosd-duon; Mr. Wigley, Maesycwmwr, a'i gyfeillion;, Miss Jenkins, Coed-duon; cor plant Coed- duon a chor yr un lie, dan arweiniad Mr. Jenkins, a gymerodd y wobr am ganu yr., Adgyfodiad.' Am y brif wobr gerddorof am ganu Requiem Dr. Parry i Ieuan Gwyllt, nidoeddycora gystadleuodd yn deilwng, acni ddyfamodd y beirniad ond tair punt o r deg iddynt: yr arweinydd oedd Mr. John Jenkins. Mr. Lewis Jenkins a'i gyfeillion a enillodd aw y triawd 'When shall we meet again.' Y buddugwyr ar y farddon- iaeth a'r traethodau oeddent John Thomas, Coed-duon; P. C. Davies, Rhyw; George Long, Bryn; Alaw Dulais, Maesteg Edward Thomas, Bargoed; a Rees T. Williams, Treherbert. Yr oedd yr eistedd- fod yn rhagorol o ran ei threfniadau a'i swyddogion, ond nid mor boblogaidd ag yr oeddid yn dysgwyl.
CWMBACH.
CWMBACH. Nos Fercher diweddaf cynaliwyd cyfarfod eyhoeddus dan lywyddiaeth y Parch. Jonah Morgan, i'r dyben o anrhegu Miss Mary Shelby, yr hon sydd wedi pasio ei haroliad ychydig wythnosau yn ol i fod yn ysgol- feistres heb fyned drwy y seremoniau coleg- awl, ar ei hymadawiad yn ysgolfeistres i Cap Coch,aphar o chandeliers a writing desk rosewood ardderchog. Cyflwynwyd yr anrhegion gan Miss Dina James a Miss Howells, a chafwyd diochgarwch gan ei thad drosti. Canodd plant yrysgolion chwech o ddarnau dan arweiniad Misses James, Howells, a Morgan, yr deilwng o'r boneddig- esau. Canodd Mr. Wm. Da-vies Fathers Cottage. C&n, Cymrn hoff,' gan Miss J. Lewis. Canwyd yr Anchor's Weigh'd' gan Morgan Evans. Hefyd canwyd y 4 Gipsy's Warning' gan Mr. T. H. Roberts. Cafwyd amryw adroddiadau da hefyd gan Miss Shelby. IOAN CYNON.
YR AMDDIFAD DIGARTREF. A
YR AMDDIFAD DIGARTREF. A wyf ar hyd y byd, Heb yr un cyfaill mewn un man; Wrth Dad y trugareddau gyd Yn unig ddysgwyl f enaid gwan. Bu genyf unwaith dad a mam, Mor serchog oeddent hwy bob pryd; Y rhai a'm gwylient rhag cael cam, A cbadw i mi gartref clyd. Ond O! ymadaw wnaethant hwy A dwys ofidiau'r ddaear hon, A'm calon fach sydd dan ei chlwy' With feddwl am eu cwmni lion. Fy nghanlyn mae holl blant y wlad, Gan wawdio'm gwisgoedd carpiog, tlawd; Fel saeth yn brathu'm calon fad I mi'r amddifad yw eu gwawd. Am danynt hwy mae gwisgoedd drud, A biodyr lu yn gwenu'n lion; r, wlad 'rwyf fi yn wrthddrych Did, A chaf fy nghuro gan bob ton. Paham y cwynaf, er fy mod Yn wrthddrychfgwawdiaeth dynolryw, Mae cyfnod gwell na hwn i dd'od, Mae Tad 'r amddifad eto'n fyw. O! Dduw fy lor, pa bryd y caf Ollyngdod o'r anialdir bliu, I'r wlad lie mae trag'wyddol haf, I syllu ar d'ogoniant cuni Dych'mygaf weithiau wel'd fymam Yn edrych dt os ganllawiau r nef Ar ei amddifad bach dinam, Gan waeddi amaf, 'Dyma'th dref.' Cwmbach. PERINFAB.
- CLIQUE Y BONT.,
CLIQUE Y BONT. Lwe i bawb o Glic y bont" I enill faint a fynont. Creu hoff HAUL yn flPurfafen Caerffili, A'i hynod awen a wnaeth ein Dewi; A'i Haul ei hunan a wnaeth 6i loni Yn ei Gabair, gan ei gyfiawn godi I le braf ar binacl bri-ardderchog, A'i awen galonog yn y goleuni. Yntau Brynfab gyrhaeddodd urdd Rabbi Gwych a rheolaidd yn mysg Chwareli A'i awen wrol, myhodd flaenori Yn aur lanerch Y Qadair eleni; Yn hawdd iawn enillodd hi—fel campwr, Hwn yw'r arwr a GWRON" Eryri. Bu'r ddau enwog ar dyddyn Barddoni, Yn Dunio awenwaith yn llawn yni; A chawsant gyflog i'w cyfoethogi, 911 Cyn ymadael o'r Cyiihaua Medi; Wedi'r enill trwy daeml,-daeth i'w rhan Y drud arian a'r (Jadeiriau Deri. DAFYDD MORGANWG. Clecian eu bysedd mae'r Clic yn bwysig Ar wychaf awdwyr rhai derchafedig, Hynod addas awenyddion diddig, Yn eu bri ydynt yn wobrwyedig; Dwyn haul odiaeth wnaeth Dewi'n weledig, Yn fyw o hynodion Nefanedig, Cawr hoff hwylus Caerffili, ga hwn fod Mwy a'i osod yn ben bardd a miwsig. Wele Brynfab, gwr arab eryri, Ar y gwron gwnaeth yntau rhagori, Yn beraidd lluchiodd rhwng beirdd y llechi Ei fywiol odiaeth eurog fwledi, Curodd ef y cewri—a chadd i'w rhan Y Cwd hardd arian mewn Cadair Dderi. DRYw.
NWYFIANT.
NWYFIANT. Ardeb yw nwyfiant o irder-anian, Enaid mewn ymarfer; Hwn er da enyna Ner I danio'r fynwes dyner. Ag yni y bywiog enyn,—nwynant Yn ufiaeth y plentyn; A'i swydd fyw a'i sedd a fyn Ar agweddj dewr hogyn. I fynwes yr heinyf fanon-nefoedd Yw nwyfiint a'i swynion Chwiliaw IIoniant i'w chalon 0 hyd yw dyhewyd hon. Nwyfianto'n cylch gawnhe%d--yn treiddio At wreiddion celfyddyd, Fel asbri nefol ysbryd, A'i swyn byw yn synu byd. Mae nwyfiant yn llawn mewn afon,—nwyf- Nofia ar ei glasdon; [iant Nwyfiant i ferwi neifion, Chwal i'w aig pan ddychwel hon. Yr haul fry ar ael y fron-yn Hefin Grea nwyfiant hylon; Yn allu i ledu blodion, A rhoddi lliw i'w gruddiau lion. Y nefoedd! gwlad lawn o nwyfiant,-a Goludoedd gogoniant; [gwlad Yno nwyf ac yni wnant—ar g'oedd I gyneu miloedd i ganu moliant. Pentre, Ystrad. J. GRIFFITHS.
YMWELIAD A LLANSTEPHAN.
YMWELIAD A LLANSTEPHAN. Llanstephan, mae'th gastell henafol, Dy goedydd, a'th fryniau yn heirdd, A'th demlau crefyddol, prypferthol, A'th b'lasau yn swyno y beirdd; O'th fewn mae cerddorion yn arllwys I'r Duwdod eu moliant ar dan; Mae'r nefoedd yn hoffi yr eglwYB Foliana yn ddidwyll ar gan. Dy gastell fu gynt yn amddiffyn Yn ffyddlon ran belaeth o'n gwlad, A syrthiodd i ddwylaw y gelyn— Y Norman oedd orlawn o frad; Ond wele'n Tywysog Llewelyn Yn tynu y castell i'r 11awr; Nid erys, er ymdrech y gelyn, Un darn ond y prif borth yn awr. Mae'th diroedd prydweddol, LlanstephaD, I mi fel paradwys yn hardd; Wrth ganfod dy dlysni, rhydd anian Gusanau i ti, ac a chwardd; Osydyw dy wyntoedd di weithiau Yn codi eu lleisiau yn groch, Mae iechyd yn canlyn eu llwybrau I dynu ei lun ar y foch. Dy gastell sydd heddyw'a adfeilion A dringaf mor hoenus a'r hydd, I weled teg longau yr eigion Yn nofio yn hwylus bob dydd; Tu arall i afon Caerfyrddin Caf wel'd y gerbydres ar hynt, Yn myned fel pe bae ar edyn, Yn diane rhag ffrewyll y gwynt. Wrth rodio o amgylch y pentref, Neu sefyll ar draethell y mOr, Canfyddaf y cyfan mewn tangnef Yn dadgan daioni yr lor; Mor ber ydyw arogl y blodau A blanodd Haw Duw er mwynhad, Y gwynt wrth gosanu eu bochau Gyfrana i'r cleifion iachad. Mae'r olwg gaf arnat, Llanstephan, Yn rhoddi dedwyddweh i'm bron; D'wed pawb a edmygant waith anian, "O! fangre hyfrydol yw hon," Pe byddwn yn berchen ar arian, Mi dreuliwn fy oes ynot ti; Rhad Duw fyddo arnat, Llanstephan, I gadw'th enwogrwydd a'th fri. Pontyeats. CEILIOO Y RHEDYN.
Y CWRW.
Y CWRW. Deifiol hylif i dafod-y medjiwyn, Sy'n meiddio mewn pechod; Anwn wna hwn yn hynod, O'r tyneraf, fwynaf fod. Llanelli. APELLI.
Advertising
C. SCHWERER, Watchmaker, Jeweller, Silversmith, Optician, &c., &c., 18, Commercial Street, Aberdare. SCHWERER'S "Watchea to snit all classes of purchasers. SeH WERERIS Watches of the best English and Forpiga make. SCHWERER'S Gold Patent Livers from Ale 188 SCHWEREttS Silver Patent Livers at æf 4s. 16 6a, up to J67 7S. SCHWEREWS aold Geneves £4 4s, £ 6 5s.. up to til) Ila SCHWERER'S Watches are always ready for use, being skilfully timed and adjusted. Purchasers cannot do better than sand to me for a Watch, which will be supplied or forwarded to any address on receipt of P.O.O. SCHWERER S Eight-Day Clocks, Ordinary Clocks, Timepieces, &o of the best and newest designs. SCHWERER'S Silver Goods in great variety. SCHWERER'S Electro-Plate of the newest and b*st description. SCHWER&R'S great stock of Spectacles, com- prises all kinds on Gold Steel, and Shell Framea SCHWERER repairs all kinds of Watches, Clocks, JewellerPlate, 40., in the beat style. SOHWERER begs respectfully to thank the Pnblio for their put patronage, trusting a continuance of the same. Os ydych am Oriadur o'r fath ereu, ewoh at C. SCHWERER, Commercial Street, Aberdare, Y mae Cymdeithas Adefladu Merthyr a Dowlais. YN barod i Toddi bsnthyg, ar Mortgage, ar y 1. Rhybydd Byraf, aymiau o AI00 i -810,000, fw talu yn ol yn Gyfranau Misol neu Chwart -rol. Y mae i tenth) cwyr yn y Gymdaithaa hon foutefe. ion arbenlg na ohe-ir mewn Cymdeithasau ereill, neu gan bersonau unigol. Telir y treuliau c/freithfol gan y Gymdeithas, a dyogelir annibyniaeth y Ben- thycydd, oyhyd ag y parheir i dalu yr ad-daliadau addawedig. aran y Cofrestrydd dan Gyfraith y Cym- deithasau Cyfeillgar. Cedwir y dirgelwch manylaf. Dymuna y Cyfarwyddwyr hysbysu eu bod yn bared i dderbyn symiau o arian fel arion benthyg ar y telerau canlynol o elw £ 4 y cant i'w galw"ar ddau fis; Z41 y cant ar bedwar mis; a A6 y oant ar ohwech mis. Am hysbrarwydd pellsch ymofyner a Mr. E. ROBBBTS, yn Swyddfa y Gymdeithas, 34, Victoria Street, Merthyr. CYHOBDDIADAU CYNALAW. Y FFRAETHEBFDD: neu Grmhorth i Chwer- thini etf capgliad o Ff aethebau ac Ystoriau difyrus. Pris, mewn amlen hardd, la.; Iliain, Is. 6c. Y Cymhorth' hwn or merth o-ni i dir Nad oes bosibl peidio Chwerthin! wedi r trin tro, tro I'n hatal *Gymhorth' eto.- WatcynWyn. All argramad. pris 6c, yn y ddau nodiant, CMRU, GWLAD BIN TADAU: Can a Chydgall, gyda geir- fau Cymraeg a Seisnaeg. Derbynia y Gan hon gan- moliaeth uohaf ein prif gerddnrion. Can a Chydgan, pris 4o., HEN WALI& GWLAD Y GAN. Dywed un bardd^gerddor am hon, (Pa le bynag y olywaf eiohanu, y mae yn swyaofynghalon yn lan' Y trydjdd argraffltd, LLAWENYDD Y GWAN- WYN: Rh»n-fc n i T.T B. B pris 4c.; Sol-ffa, 2c. Gan Proff. W. A. Williams (Gwilym Gwent).— Y mae v dnrnyn hwn vn un rhagorol at wasanaeth ojngherdd*u ao eisteddfodau. .P81t archebion i'w hsnfon t D. L. JONES (Cynalaw), Argraffydd a L%rfrwerthydd, Briton Ferry. D.S -ArglEffir pob math o waith am brisoedd gwir resymol L 0 < 0 < Cd t:' r;r:. >- "d o f IPA o = COFFINAU BHADI DTMUNA ISAAC THOMAS, UNDERTAKER, 24 a 25, Seymovr Street, Aberdar, HYSBYSU y oyhoedJ ei fod yn parhau i gario yn mlaen yr alwedigaeth uohod fel arfer, Bef Gwneud Coffinau yn Bhatach na neb yn y Dywysogaeth, o'r quality goreu, yn nghjdag ymgymeryd a chladd- edigaethau yn gyfangwbl, sef rhoddi gwasanaeth ei HEARSES A MOURNING COACHES IS- BLENYDD- Y GOBEUON YN NGHYMBU. Y mae yn barod i roddi gwasanaeth y cyfryw yn rhatach yn mbob man ag y byddo 3n ciel y contract o wneud y Ctffinau. Hefjd, y map wedi dyfod i'r peoderfyniad y gall Walio Beddau (Brick Graves) wedi eu gwjngalchu a'u mournio yn hardd am y swm isel o 7p. 10s. f mae Mr. Thomas wedi gwneud 16,00!) o gofiSnau yn ystod y 16 mlynedd a beeiodd, yr hyn sydd yn siarad yn uchel am ei gymeriad fel Undertaker. Cwmtwrch, Ystalyfera, Swansea, ART UNION PRIZE DRAWING, WHICH, Will take place at the Co-op. VV erative Stores, Owmtwroh, on the 15th day of August, 1878, in the presence of several gentlemen of the neighbourhood, when Mr. David Mathias, Bockseller, will put down the following Prizes, viz :— VALUE. £ a d. 1. Peter Williams' Pictorial Family Bible 4 0 i 2. Y Parthsyllfdd (a We!sh Gazatteer of the World', two Vols. 2 2 0 3. Deongljdd Beirniadol Idrisyn 0 17 0 4. Damegion a Gwytthiau Cnat 070 5. Meddyg Anifeiliaid 060 6. Volume of Sermons, by the Rev. B. Evans, Pembroy 0 3 6 7. Gramadeg Terai ..026 8. Llwybrau Moliant 026 9. A Pair of Excellent Pictures 0 18 0 10. A Handsome Flannel Gown 1 4 0 11. A Grand Turnover 0 4 0 TICKETS, SIXPENCE EACH. The Winning Numbers will be published in the C Tarjan y Gweithiwr' for the fol- lowing week. Tickets may be had with Mr Rees Powell, Secretary, Owmfcwrch, Ystalyfera, Swansea, and Mr. David Ma- thias, Bookseller, Cwmtwrcb, Ystalyfera, Swansea. Teimla Mr. Ibthias yn ddiolohgar i bawb a anfono am Dooyn. THE ABBRDABB Harmonium <5L CheflionereOrgan WORKS. ESTABLISHED 1868. fii o 0 e:: o 0 ræ¡ z Ms. Harmonium, Manufacturer and Inventor of the Cheffionere Organ, WISHES to inform the Public that he HireB Harmoniums, Pianos, and Cheffionere Or- gans. All lovers of Jifustc can now easily have an Instru- nunt in their posietsion, Harmoniums from 94 4s. to £ 80. Cheffionere Organs from d610 10s. to JEM. Pianos from j615 to £66. Hiring System, List of Prices, and Testimonials on application. Note the Address "5, CANO. STaDT, and 6 & 7, GADLYS ROAD, ABBBDABE. GYMRU, DEWCB AT Y. CYZROI Feth Newydd yn Alerdar DTMUNA B. II. PHILLIPS HYSBYSU y Cyhoedd ei fod yn barod i hurio DODREFN TAI o bob math, o wneuthur- iad oaitrefol, trwy dalu Deg Swllt y Mis. Dyma grfle i bob un i gael ei dy wedi ei ddodrefnu yn hardd, heb weled eislau el atian. Dymuna B. B. PHILIPS hysbysu rr Cyhoedd ei fod wedi prynu 8TOC DewJdd a helteth o DDEFNYDDIAU COFFINAU, sef Trimmings, am Brisoedd Rhad, a thrwy hyny GAIL WHEUTHUR COFFINAU TN RHATACH NA NEB YN Y LLB. Cyfefrfad- B. H. PHILLIPS, 5, Canon Street, and 6 and 7, Gadlys Boa Aberdare. LLINELL YR ALLAN, Agerlongau Llythyrgodol Breiniol. YMAE y linell hon yn ovnyg manteision neill- duol, a dylai ymfudwyr i unrhyw ran o Ganada neu yr Unol Dalaethau, os ydynt yn Am achub arian ac amser, ymofyn a T. L. JONES, S""ddf.fr,¿()et'dare Times, Abardarj J. W. JONES, Diiled*<id, &o., 67, Oxford Street, Mountain Ash, OWEN MORGAN, Siberia Villa, Llanwyno Road, Potltypddd neu a ALLAN BROTHERS AND CO., James Street, Liverpool. BALSAM or HONEY! Gwellhad meivnpimi mynyd oddi- wrth Beswch ac Anwyd. OS ydyeh yn dyoddef nos a dydd oddiwrth Y beswch poenus, ac o'r braidd yn analluog i Siarad, cerdded, neu anadlu, dylech ddefn- yddio WiLLiAMs' BALSAM OF HONEY at Bes- wch, hen Anwyd, Byrder Anadl, Crygni, Poeri Gwaed, Croup, Influenza, Darfodedigaeth, &c. Y mae rhagoriaethau neillduol y Balsam £ n ei effeithiau iachaol yn rhyddhau cryn- oad yn y llwnc, yn galluogi y claf i boeri yn rhydd, ac i anadlu gyda rhwyddinebj tra yn gorwedd. Y mae yn gwellhau y doluriau a deimlir bob amser yn y fynwes oddiwrth beswch parhaus a thrwm, ac wedi ei gymeryd bydd ir dyoddefydd fwynhau bendithion cwsg esmwyth. Y mae yn rhoi gwaredigaeth lwyr o ddiffyg anadl, a rhyddhad o'r peswch sydd yn ei ganlyn. Rhag pesweh, anwyd, &c., y mae y feddyginiaeth oreu, yn hawdd ei gymeryd, ac yn hynod am ei effeithiau iach- aol a buan. I blant yn dyoddef oddiwrth y PAS, nid oes ei gyffelyb; y mae yn rhoddi gwellhad uniongyrchol. GWELLHAD RHYFEDDOL I BLENTYN. Gwnaeth un botelaid o ch Balsam of Honey les mawr i fy mhlentyn chwe' mis oed, yr hwn oedd yn grug o'i enedigaeth, ac yn rhy wan braidd i anadlu. Y mae yn awr yn holl iach. CHARLES MATHEWS. Cwmdows, Colly, near Newbridge. GWELLHAD HYNOD O'R CROUP. ,Garedig Syr,-Da genyf allu dweyd i'ch Balsam of Honey achnb bywyd fy mhlentyn, yr hon oedd ar y pryd yn dyoddef oddiwrth y Croup. Cafodd lawer o esmwythder drwy y ddos gyntaf, ac y mae eich meddyginiaeth wedi ei hollol iachau.—Yr eiddocb, &c., Llanelli. JOHN SHIPTON. GWELLHAD PWYSIG O'R PESWCH, HEN ANWYD, A CHRYGNI. Cefais lwyr wellhad o'r doluriau blaenorol trwv gymeryd eich meddyginiaeth werthfawr iwe^0^) a adnabyddir wrth yr enw WilliaiBS Balsam of Honey.' Dywedaf wrth ereill fyddo yn dyoddef felly, 'Dos a gwna yr un modd.'—Yr eiddoch yn serchog, Trealaw, Rhondda. PARCH. J. EVANS. Ar werth mewn costrelau Is. lie., a 2s. 9c., gan bob Fferyllydd. Y mae cryn ar- bediad wrth brynu y costrelau mwyaf. Darparedig yn unig gan— D. WILLIAMS, Fferyllydd, GADLYS, ABERDAE. NEWYDD DA I GLEIFION CWM- ABERDAR A RHONDDA. "I Anfona D. Williams, Chemist, Gadlys^ Aberdar, ddwfr cleifiion i'w alalysio yn ddyddiol i T. Davies, M.Y.C.S., Conwil, Car- marthen. AT DBIGOLIOES CWMBACH A'B CYLCHOBBD. DYMUNWYF yn garedig hysbysu fy mod yn barod, ar y rhybudd lloiaf, i dderbyn arcteb- ion (orders) am Goffinau (a phob Saerwaith), a siorhaf waith dA am y priai edd I h. tat. JOHN OWENS. 29, Rose Row, Cwmbach. IILIIIIMDAM Impurity of the BlooL Unless the blood be kept in a pure state tta eonstitatiiNi IIbJst be weakened and disease supervene. Thse, wondertnl PUls possess the power of removing or neutraking all COD- laminations of the blood and system generally. They quietly, sat certainly, overcome all obstructi ons tending to prodnoe ill nealth, and institute regular action in organs tiat are faulty from irritation or debility. The dyspeptic, weak and nervous may rely on these Pills as their best friend and comforter, as they act upon the main springs of life, and thus ave thousaadt from a premature grave. Complaints of Women & Children. The very mild and painless action of these iivahtabte Pillg recommends them to ev ery household as a remeiy for the find departure from health. Any mother, nurse, 0: young person guided by the directions which accompany each hoc of HoUoway*g Pills, has at once available for clocking disoais^ purifying the blood, and expelling from the s;stem all gross humours. They dte indeed, at all ages, th female's trifld friend. Disorders of the Liver w*1' "Hu- lency and Ino;" Loss of appetite and flatulenr of st6machic disease. These f jJutary power in all affections •f the stomach and bowels; th yery internal organ, overcor [ 41 impurities. Weak Stom € Di r' The wisest cannot j,; symptoms arising from < ¡ i be readily dispelled by t" stomach, liver, and f healthy tone which f link to the nouri*v i •stixur* ftnn cor The Pills a* Establishm IVery respf World, ir and 33s. Pull r cant P
TREDELARCH, GER CAERDYDD.
TREDELARCH, GER CAERDYDD. CynaJiodd eglwys Gilead, perthynol i'r Wesleyaid Cymreig, gwyl de fiynyddol eleni ar ddydd Merch,er, y 19eg cynfisol, ac am fod y tywydd mor ffafrio), yr oedd y te a'r cyf- arfod mewn cae ger y capel, yr hwn yn gar- edig a roddwyd at wasanaeth y cyfryw gan Mr. W. Charles. Cafwydy danteithion gan tanaaethwyr a chymydogion. Cyfranwyd o'r •wriedd gan dorf fawr. Yn yr hwyr, cafwyd cyfarfod dyddorol iawn. X cadeirydd oedd "W, Phillips, Yaw., Ynyscedwyn, Canton, gan yr hwn y cafwyd araeth agoriadol rhagorol. Canodd cor Bethel, Cherdydd, 'Toymasoedd y ddaear,' yn dda iawn, dan arweiniad Mr. J. Rees. Unawd gan D. P. Evans, Roath. Dadganu 'Arwain ni, 0! Fugail Tirion,' gan gor y lie. Cafwyd unawdau a deuawdau gan Misses M. Evans, Caerdydd; A. Evans, Roath Charles, a Mn. J. Rees, E. Farr, a J. John. Hefyd cafwyd amryw ddarnau gan y ddau gor. Terfynwyd y cyfarfod trwy ganu 'Dysglaer Wlad yr Head' gan gor y lie. R. S.
CWMPARC.
CWMPARC. Cynaliwyd cyfarfod blynyddol capel Soar, Cwmparc, dyddiau Sal a JLlun, y 23ain a'r 24ain cynfisol. Gweinyddwyd y Sal gan y Parchn. W. Thomas, Gwynfe; J. Davies, Talybont, Ceredigion; a J. H. Jones, Ton, Ystrad. Am 10 dydd Llun y Parchn. W. J. Morris, Pontypridd, a J. M. Evans, Caer- dydd. Am 2 o'r gloch, urddwyd Mr. J. R. Richards, Aberhonddu, yn weinidoe yr eg] wys uchod. Pregethwyd ar natur eglwys gan Proffeswr Morris, prif athraw y coleg, y Parch. J. Davies, Talybont, i'r gweinidog, a'r Parch. D. Evans, Pentre, i'r eglwys. Hol- wyd y gweinidog gan y Parch. D. Rees, Dowlais, a'r urdd weddi gan y Parch. J. Rees, Treherbert. Yr oedd yn bresenol heb- law y rhai a enwyd y Parchn. D. Thomas, Cymer; J. Edwards, Treorci; T. Davies, Tynewydd, Cwmogwy; a H. E. Jenkins, Blaenrhondda, yn Dghyda lIa wer o fyfyrwyr. Cafwyd cyfarfodydd gwlithcg, a chasglwyd tuag at y ddyled ar ddiwedd yr oedfaon. Chwareuwyd yr harmonium gan Mr. W. G. Reee, yr hwn v mae yn dda genym hysbysu sydd wedipasio i fyned i Goleg Aberhonddu. IOAN BRAWD IAGO.
PONTRYDYFEN.
PONTRYDYFEN. Nid rbyw lawer o ddyddordeb sydd yn cael ei deimlo yn yr ardal hon am gyhoedd- usrwydd ei gweithrediadau; er h; ny, gallaf ddwyn engreiflftiau i aylw y cyhoedd nid yd ym yn ol i ryw fan arall am ein mar te:s ion a'n cylfeusderau. Y n: ae, yr Alffredlbld wedi cynal eu cyfarfod haner-Wynyddol yma eleni yn ystafell y G> mdeithas Adeiladu, dan nawdd yr hen faro, sef Cvfrinfa Rhydyfen. Da genyf fel aelcd o'r Urdd Alffiedaidd, o ddosbarth Cwmafon, fod y fath ddealldwr- iaeth a'r cydgordiad yn ffynu yn mysg y gwahanol gynrychiolwyr, nes i bob peth droi allan yn anrhydeddus. BODDIAD.-Boddodd dyn 25 mlwydd oed, yn mhwll Betws Ddu, pan yn ymdrochi, dydd Mercher yr wythnos ddiweddaf. Tybir iddo fyned i'r dwfr yn ei chwye, ac iddo trwy hyny gael y cramp. Gadawodd ar ei ol dri a blant amddifaid heb na mam na thad i ofalu am danynt. ERYR ANAN.
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Cyfeiried ein cyfeillion y Beirdd eu holl Gyfansoddiaclau Barddonol yn y modd ac i'r cyfeiriad canlynol:— D. W. JONES (Dafydd Morganwg), Hirwaun. Jfy Meinwen.-Mae odliad y llinellau yn rhy wallus; a go gyffredin yw y syniadaeth. Balchder yr oes Bresenol.-Cymerwch ofal rhag i ferched Aberafan ddyfod ar eich gwarthaf am ganu mor wael i'r chignon. Peniliim Offfadwriaethol ar ol y brawd J. M. Rhy anghelfydd a. dibwynt. Mr. J. r., Argroffydd, 8fc.Efrydwch y cynghaneddion. Mae hwn dipyn yn wallus. Eiraeth Bachgen ar ol ei Fam.-Nid ydynt i fyny a'r safon. M^rwolaethfy Mam-yn-nghyfraith.—Mae yr odliad yn rhy wallus. Mae pob peth sydd yn werth ei wneud o gwbl yn werth ei wneud yn iawn. Yr Amddifad.—Nid yw gangenog a chwior- ydd yn cydodli, ac nid yw mam, a man yn cydodli ychwaith. Y Caret ar.—Nid yw yr englyn yn gywir, ond y mae gobaith am danoch dim ond i chwi ymdrechu. Y rhai canlynol i ymddangos yn eu tro:— Hiraeth Rhieni ar ol eu plentyn blwydd oed, Yr Afon, Y Diogyn, Adgofion, Fe ddaw fy angladd inau, Cof am fy Mam, Yr Eneth Amddifad, Bechadur Tyr'd at lesu.