Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
CYMWYSDERAU GWRAIG Y GWEITHIWR.
CYMWYSDERAU GWRAIG Y GWEITHIWR. (PARHAD O'R RHIFYN DIWEDDAF). 2.—ADDYSS-DEULUAIDD.—Cartref ydyw brenhiniaeth benyw. Yno y teyrnasa yn fanon rw)sgfawr. Y mae cysur a hapus- rwydd y teulu yn dibynu bron yn hollol arni hi. Cylch dyn ydyw dylanwadu ar y cyhcedd tsgyn y pwlpud a'r esgynlawr. Nid ces gan y feny w un hawl yno byddai yn anweddus i'r urddas a'r gwylder a beithynant i'w natur; ond, maeeithriad- au yn hyn. Ond dyger hi o fewn cyIch y teoln, ac y mae yn ei lie priodol ei hnnan, lie y bwriadodd y Creawdwr' iddi fod yn ymgeledd gymhwys i'r dyn. Ond ym- drechwn ddyweyd beth sydd yn acgben- iheidiol mewn benyw erbod yn gymhwys i fodyn wraig Gweithiwr.' 1. Glanwedd-dra.—Qwyr pawb beth ydyw glanwedd-dra, nen fel y gelwir ef yn gyffredin 'Glanweithdra.' Golyga fod yn rbJdd oddiwrth aflendid o unrbyw fath —purdeb. Os na fydd gwraig yn lan- p Wgod yn ei pherson, ac yn ei thy, a'i har- ferloa, Lid ocS gen>m faffr o ffydd yn ei chiefydd. Y mae taedd crefydd i "naud y ddaear yn fwy tebyg i'r nef, a'i thri, golion yn debycach i breswylwyr y lie dedwydd hwnw ac os na fydd ein cre- fydd yn ein dysgn i ryddhau ein person- an a'n cartrefi oddiwrth fudreddi ac aflen- did, yn gystal a'n calonau oddiwrth bech- od, y mae genym bob rhea wm i amheu ei dilysrwydd a'i gwirioneddolrwydd. Dyma ddarlun o fenyw lanwedd a thaclus: Nis gwelwch mo honi unrhyw ran o'r dydd a dwylaw neu wyneb budr, a'i gwallt dyrysbleth yn syth i fyny, a chap ar ei phEn, am liw yr hwn y mae genych gryn amhenaeth. Nis gwelwch byth mo honi ag arSedog fudr o'i blaen, a'i gwn yn yr un cyflwr anymunol, gydag ychwanegiad o rwyg hir ynddo, a'r crychiadau wedi datod. Os bu ihwyg yn ei gwn, sylwch mor daclns y pwythwyd ef i fyny. Nis y gwelwch hi byth a thyllau yn ei hosanau, a'i hesgidiau o dan ei sodlau. Os bydd iddi wr a phlant, gofala am danynt hwyth- au yr un modd. Sylwch ar grys y gwr, ni ddymunwch ei weled yn wahanol. Ni fydd byth un botwn yn eisieu, na thwll yn sawdl ei hosan. Edrychwch ar y gwelyau, a'i hystafelloedd cwsg hefyd; nis gall dim fod yn fwy glanwedd a thaclus y maent hefyd yn berffaeth awyredig. Nid a byth i lawr yn y boreu heb egor fienestri yr ys- tafell. Ni chewch b j th y grib nen frws ar y bwidd y byddai arnoch arswyd eu defnyddio. GeUwch chwilio y gegin a phob rhan o'r ty, a chewch fod yr un glanwedd-dra drwy bob rhan o hono. Ni fydd canol yr ystafell, neu gareg y drws, yn lanach na rhanau ereill. Y mae yn lanwedd o egwyddor, ac nid er mwyn ymddangosiad. Dyma ei bwrdd drachefn; gall fod ei bwyd yn brin, ac yn gyffredin, ond y mae pob peth o'i amgylch yn ber. ffaeth lan. 2. Trefn.-Anaml y gwelwn wraig lanwedd nad yw hefyd yn drefnns. Y mae ganddi ei le i bob peth, a chewch bob peth bob amser yn ei Ie. Nis gall fod cysnr mewn teulu os na chynelir trefn fanwl, a phrydlondeb cyson yn mhob peth. Trefnusiwydd ydyw ffarf anghyfnewidiol y llywodraeth yn nheulu pob gwraig dda. Y mae trefn mewn myn'd i'r gwely, a threfn gydag amser cocli yn y bore. Yrun modd gyda phrydian bwyd ni ehaiff- y gwr a'r plant, neu y tad a'r brodyr, fel y dygwyddo fod, bjth achos dysgwyl am eu pryd, bydd pob peth yn barod i'r foment. Ceidw yr un trefhusrwydd yn ei holl orch- wylion teuluaidd. Ni chaniateir i waith un diwrnod ymyraeth a gwaith y dydd dyfodol, ac ri chaniateir chwaith i'r un gwaith anhwyluso trefia gyffredin a chylch dyledswyddau y teulu. Y mae pob peth yn myned yn mlaen yn nheulu gwraig dre fnns mor rheolaidd a'r cloc, o fore dydd T.afn hyd n03 Sadwrn. Y mae trefn yn elfen yn y llywodraeth ddwyfol. Trefia ydyw prit ddeddf y nef; ao fel ydywed- odd un, pa fwyaf trefnus y aelom, tebycaf yn y byd i Dduw y.b).ddwo.' 3. 2Xwydrwjdd,Q wneir i fyny gJBW teulu o gynifer o elfenau gwahanol, fel y rhaid i fenyw, pa sefyllfa bynag a lanwo, fod o angenrheidrwjdd yn ddiwyd, onide nis --gtdl mewn modd yn y byd, gyflawni y dyledswyddau. Gwyr pob gwraig dda, feadylgar, pa beth sydd ganddi i'w gyf- lawni, ac ni orphwyso nes y bydd wedi ei orphen. Ni eistedda byth i Jawr i ddar- llen chwedl, a'r fasged yn llawn o grysau a hosanau i'w trwsio. Ni eistedda with y,tan a'i ibreichiau yn mhleth tra y byddo pethall ,ciniaw neu de heb eu codi ffwrdd, neu yr aelwyd heb ei hysgubo. Bydd withi o fore hyd tos, nes y gorphena ei gwaith. Gellir dywedyd am dani fel y dywedodd y bardd Aeiericanaicld am y ( Village Blaasmith': i- Each morring.sees some task begin, Each evening-sees to close Something attempted, something done, Has earned & night's icpcso." Pan orphenir gwaith y dydd, cymer y Beibl, neu ryw lylr da arall, a bywioga ei meddwl ag ei ac wedi cyflwyno ei henaid i ofal Duw, gorwedda i lawr igysgu gyda chalon ysgafn a dedwydd. 4. Cymldeb,—Y mae hon yn elfen an- hebgorol i gymeriad 4 gwraig gweithiwr.' Ond ni ddylid cymysga cynildeb a chy- bydd-dod. Y mae yr olaf yn bechod cas, ac fel y cyfryw condemnia yr ysgrythyr ef; y mae y blaenaf yn ddyledswydd ar- benig. Pan y cauo benyw ei chalon a'i Haw, ao y byddo yn fyddar i gri yr am- ddifad, y weddw, a'r tlawd, ac a adawo i bob "apeliad o blaid crefydd fyncd heibio yn ddisylw, y mae y fenyw hono yn an- heilwng i foa yn aelod n ewn cymdeithas; a'r hon sydd yn wasfcraffus yr un modd— yr hon fyddo yn difrodi rhoddion gwerth- fawr Rhagluniaeth, sydd yn cyflawni pechod mawr yn erbyn y Rhoddwr hael- frydig. Y mae cynildeb yn rhedeg rhwng y ddau eithafion nid yw yn pentyru 4 llaw y cybydd, nac yn gwasgaru a llaw wastraffas. Nid oes nn wraig mor hael ar wraig gynil. Y mae yn gynil er mwyn haelioni. Ni chaniata i ddim gael ei was- traffa yn ei theulu, na bwyd na dillad f os bydd rbywbeth na fydd angen am daco, rhoddir ef i'r tlawd ac nid yw dim a reddir i'r tlawd, In cael ei ddifrodi. Ond uwchlaw pob peth, y mae yn cynilo yn ei phethau ei hunan. Ni phryna byth wisg neu fonet os na iydd ami ei heisiau mewn gwirionedd, a gwna i'r hen rai barhau oyhyd ag y gall. Dewisa roddi ychydig heibio erbyn divtmod gwlawog, rhag y dygwyddo afiechyd iddi hi neu rai o'r teulu, gan ddwyn ami diaul fawr oddi- wrth y meddyg. Nid a byth i ddyled,y mae arni arswyd rhagddo bydd yn blino ddyqd a nos, a gwel gell dywel, l carchar yn ei harop, er yn 6yfodi yn y pellder. Nid oes un wraig mor onest a'r un gynil; gwell ganddi fyw ar fara a dwfr na syrthio i ddyled. Dyma y nodweddion, gredwD, sydd yn angenrheidiol mewn gwraig gweith- iwr.' 5. Gtoarchod Gartref.—Dyma rin- wedd Yl dylai ac y rhaid i bob banyw, ei feddu, onide nid yw yn gymhwys i fod yn t wraig gweithiwr,' ac ni all ofalu am ei theulu. Nid wyf yn dywedyd na ddy- lai fyned allan a gofaln am ei hechyd. Y mae hyny yn ddyledswydd; ond myaed o amgylch o dy i dy i chwedleua, gan siarad a thrin amgylchiadau ei chymydog- ion, beio un a chondemnio y Hall, gwas- garu hadan ymiafaelion drwy gymdeifhas, a gwahanu cyfeillion oddiwrth en gilydd. Pa fodd y gallwn amlygu ein casineb at y fath ymddygiad? Gyda galar y rhaid addef fod rhai merched yn enog o hyn yn yr oes oleu a Christicnogol hon. Y mae gan fenyw briod neu ddibriod ddigon o waith gartref, ac nid oes amser i'w hebgor, onide, defnyddied ef at ryw ddibenion nwcb, a mwy cymeradwy. Y mae bywyd yn rhy fyr i'w wastraffu rhaid i ni brynu yr amser. Anfonwyd ni i'r byd i wneud rhywbeth. Nid oes genym un fynyd i'w golli; daw y nos yn fuan ar ein gwarthaf -DOS angau, a gelwir arnom roddi cyfrif am y ( talentau.'
CHWAREU TEG I MR. GLADSTONE.
CHWAREU TEG I MR. GLADSTONE. ERTHYGL IV. Ni feddylia neb fod papyr newydd Rey- nolds, yr hwn a elwir y 'Reynold's News- paper yn Dory. Gwyr pawb ei fod yn 'Radical' mawr. Gwyr pawb hefyd mai papyr Rhyddfrydig yw Baner ac Amserau Cymru.' Prin yr ystyrid fod Dafydd Mor- ganwg, nac unrbyw ddyn arall, yn gwybod y gwahaniaeth rhwng Rhyddfrydwr a Thory, pe dywedai efe mai papyrau Toriaidd ydyw papyr 'Reynolds' a'r 'Faner.' Gwelodd golygydd y 'Faner' yn iawn i gyhoeddi erth- ygl 'Reynolds,' wedi ei chyfieithu, ar Mr. Gladstone, yn Mehnfin a, 1878. Dengys yr erthygl hono beth oedd golygiadau Rhydd- frydwyr blaenaf y deymas ar olygiadau a chynygion Mr. Gladstone ar faterion o natur eglwysig. Fel y canlyn y dywedodd 'Rey- nolds,' yn ol cyfieithiad ei eiriau ef yn y 'Faner,' dyddiedig uchod :—" Y mae Prif Weinidog y Goron, fe ymddengys, wedi dychwelyd at ei gariad cyntaf, (sef Toriaeth Eglwysig), a phe buasai cynrychiolaeth Prif Ysgol Rhydychain yn awr yn wag, gallasai yr hen bleidleiswyr ail ethol campwr mor bur i'r hen Fam Eglwys. Y mae yr oil o'r hen egwyddorion a ddadleuid gan Mr. Gladstone agos i ddeng mlynedd ar hugain yn ol, pan y cyhoeddodd efe ei lyfr, 'Y Wladwriaeth yn ei pherthynas a'r Eglwys,' mewn gwirionedd yn cael eu dal gan Flaenor GweinyddiaethRyddfrydig 1870 (!!)—y Wein- yddiaeth a ddadgyeylltodd ac a ddadwaddol- odd yr Eglwys yn yr Iwerddonl Addefa y Prif Weinidog fod yr Eglwys yn Nghyihru yn y lleiafrif, lawn cymaint ag ydoedd yn yr Iwerddon, ao nid yw yn honi dweyd nad yr un Eglwys Seisnig ydyw, a bod yn rhaid x'r mwyafrif Cymreig o Anghydffurfwyr fed yn dftvelt vn nae geQir cyn^eryd eu nachos hwy o dan yslyriaeth ar wahan. Nid oes un cyfyng-for yn gorwedd rhwng Lloegr a Chymru j ac y mae hyny with gwrs yn gwneuthur gwahaniaetih duwinyddol an- ferth! Nid yw y Cymry heddychol wedi defnyddio nerth anianyddol Ffeniaeth! Pe buasai dysgyblion Rebecca wedi parhau i ddinystrio toll-byrth hyd oni fuasai yr un cwrs o weithredu wedi ei estyn at adeiladau a meddianau yr Eglwys, yna, end nid cynt, hwyrach, y eawsai ei benderfynu i foddlon- rwydd Prif Weinidog y Goron, fed symnd- iad Eglwys adgas wedi dyfod yn angenrhaid gwleidyddoL Eto dywed Mr. Gladstone fod yn rhaid cynal i fyny y sefydliad truenus, cybyddlyd, atafaelgar, ac anghyfiawn hwn!" Mewn erthygl olygyddol yn yr un rhifyn o'r Faner,' sef yn yr un Mehefin 8, 1870, o'jf' Faner,' set yn yr un Mehefin 8, 1870, dywedir,—' Oddeotu tair wythnos yn ol, fel y cofia ein darllenwyr, ymwelodd dirprwy- aeth o Eglwyswyr a Mr. Gladstone, i ddweyd wrtho pa fodd yr oedd Ymneillduwyr y Dywysogaeth yn teimlo tuag at ysgolion yr Eglwys; gyda'r amcan o ddangos iddo fed Meiur Addysg y Llywodraeth, fel y dygwyd ef i mewn yn sicr o weithio yn esmwyth yn Nghymru, ac o ganlyniad, nad oedd eisiau gwneuthur unthyw gyfnewidiad ynddo! Y mae yn ymddangos fod eu hadr^ddiad wedi boddloni Mr. Gladstone!! Teimlodd Mr. Evan Mathew Richard. yr aelod anrhyd- eddus dros Sir Aberteifi, fod yr adroddiad yn gwneud cam mawr ag Ymneillduwyr; ac ysgrifenodd lythyr at Esgob Llandaf.' Yn y llythyr hwnw, fel y dengys yr erthygl uchod, dangosodd Mr. Richards fod y ddir- prwyaeth Eglwysig wedi gwneud camsyn- iadau mawrion iawn. Yn ngwyneb fod Mr. Gladstone yn gosod crefydd yn yr ysgolion ar draul arian y wlad, cytunodd Mr. Disraeli, blaenor y Toriaid, ag ef! Darsgoscdd hyny yn ei araeth yn Mehefin, 1870. Dywedcdd y pryd hwnw:- The Right Honourable Gentleman (Mr. Gladstone) tells us that he for one, would not be content with religious education ia our elementary schools, if it merely consisted in reading chapters of the Holy Scriptutes without comment. Why, there are but few of us who read chapters in either the Old or the New Testement, who do not rEquire to hear considerable comment upon them. Therefore, nothing would be more unfair than that the children of this country, with- out any previous religious instruction, should be told by Parliament that they must find adequate religious instruction in merely reading passages from the Holy Scriptures. I am, therefore, not at all surprised to hear that the Right Honourable Gentleman (Mr. Gladstone) is not inclined to sanction such a course!" Dyna benaeth y Toriaid a phenaeth y Rhyddfrydwyr proffesedig, in Nhy y Cy- ffredin, yn cytuno a'u gilydd i sathru dan draed egwyddor fawr rhyddid cydwybod, fel yr edrycha Ymneiliduwyr ar y rhyddid hwnw. Yn ngwyneb hyn, dywed gohgydd v 'Faner' yn v rhifyn am Mehefin 22,! 1870, Y mae cryn lawer o deimladau gwrthwyn- i'r Mesur m cael eu dangos gan Ym- neiliduwyr o bob enwad. Y mae yn dda genym hysbysu fod ein cydwladwr galluog, Mr. H. Richard, wedi dwyn y cynygiad a nodasom yn ein rhifyn diweddaf o dan sylw y Ty nos Lun diweddaf.' Yr oedd hwnw yn gynygiad gwrthwynebol i fesur Mr. Gladstone. A oedd Mr. Richard ddim yn Rhyddfrydwr trwyadl y pryd hwnw? Yn ol ymresymiad ein cyfaill Dafydd Morganwg, Tc-riaeth yw ceisio dangos fod Mr. Gladstone allan o'i le ar y pwnc o Addysg! Fel hyny, yr oedd Mr. Richaid yn Dory am ei fod wedi dweyd pethau cryfion iawn yn erbyn Mesur Addysg Mr. Gladstone! Nid oes un dyn o dan lywodiaeth rheswm a feddylia hyny am foment. Ond os nad yw Mr. Richard yn Dory, er ei fod wedi condemnio Mesur Addysg Mr. Gladstone, yna nid Tor- iaeth ynom ni yw bod yr un fam a Mr. Richard ar y mesur hwnw. Traddododd Mr. Richard araeth yn Nhy y Cyffredin o blaid gwelliant ar y Mesur Addyfg a gynygiodd Mr. Dixon ar ddydd Mawrth, sef y 5ed o fis Mawrth, 1872. Dy- wedodd fel y canlyn;— All the attempts made by the Noncon- formists, or on their behalf, when the bill was under discussion, to amend it, in what appeared to them a more just and liberal sense, or to bring it at least more to harmonise with their principles and wishes, had been rejected or defeated by the Government. When we went to a division, in one instance, at least, we were defeated, not by the votes of the Liberal party, but by a combination of officials, and those faithful friends of the Administration (of Mr. Gladstone) who think it almost an unpardonable sin to vote against the Government, with all the force of the enemies of the Government (the Tories), on the other side of the House. I ventured, to tell the Vice President of the Council, on one occasion, that he would, no doubt, carry his bill triumphantly through the House, as the Ministers might carry any thing by using the votes of their enemies to defeat the wishes of their friends, but, that one or two more such victories would have a most disastrous effect on the future fate of the Liberal Patty. The Right Hon. Gentle- man (Mr. Forster), besides failing to solve the educational difficulty, will I think, dis solve the Liberal Party, by alienating and disgusting one of the largest sections of that party, which had been faithful to it through all its changing fortunes, and which had never shrunk from bearing its share in the battles in which the Liberal Party had been engaged. And unless the Right Honourable Gentleman (Mr. Gladstone) at the Head of the Government, interpose his authority, to prevent that catastrophe, I see nothing for it but that the Liberal Party will be utterly disorganised in consequence of the Education Act which has been passed." Dyna eiriau Mr. Henry Richard, yn Nhy y Cyffredin ac y maent yn cyd-daro yn hollol a'r golygiadau a roddasom 111 mewn ffordd o hanes yn ddiweddar, am achos dinystr y blaid Ryddfrydol, yn yr etholiad diweddaf, yn agos bum' mlynedd yn 01; ac y maent yn gwbl groes i syniad Dafydd Morganwg mai nid mesu)? addysg 1870, fu yr achos i Gladstone golli ei boblogrwydd, yn enwedig yn mhlith Ymneillduwyr!" Cydmared y darllenydd eiriau Mr. Richard a geiriau Dafydd Morganwg, a gwel fod Mr. Richard wedi dweyd,—" Mentrais ddweyd wrth (Mr. Forster) ar un schlysur y byddai efe yn sicr o gario ei fil yn fuddugoliaethus trwy y Ty, oblegyd y gallaLy Weinyddiaeth (uq Mr. Gladstone) gano t&Rhyw beth trwy ddefnydd:o pleidleisiau gelynion i siomi dymuniadau eu cyfeillion,' ond y byddai un neu ddwy yn rhagor o'r fath f addugrliaetbau, yn sicr o gael yr effaith fwyaf dinystriol ar dynged dyfodc.l y Blaid Ryddfrydol.' Os na wna Mr. Gladstone ddefoyddio ei awdur- dod i ragflaenu yr anffawfP, nid wyf yn gallu gweled dim ond y bydd y JtJlaid Ryddfrydol wedi cael ei dadwneud mewn canlyniad i'r Mesur Addysg,' yr hwn sydd wedi cael ei basio." Yn ngwyneb y fath dystiolaeth, yr hon a wnawd gan Mr. Richard ynNhy y Cyffredin yn mhresenoldeb Mr. Gladstone, fel arwein- ydd y Ty, hyderwn y bydd i Dafydd Mor- ganwg weled ei fod we3i gwneud camsyniad dirfawr. Byddai yn anrhydedd i'w ddeall ef i gydnabod hyny. Nis gall y taera mwyaf fflamllyd gorfawreddog byth newid ffeithiau. Yn yr un ddadl ag y dywedodd Mr. Rich- ard y pethau uchod yn y Ty, dywedodd Mr. Leatham, un o'r Ryddfrydwyr galluocaf yn y Ty,- "Can you wonder that the attempt to extort money for schools where these doctrines may be taught has kindled aflame in the bosom of Nonconformists which no mere pleas for btime, nothing short of the repeal of this clause, will ever quench? This is what is called the revolt of the Non- conformists. Now if that revolt be a reality, one thing at least is clear—that an adminis- tration which came into office so largely by Nonconformists suppojt has gloomy pros- pects before it." Dyna dystiolaeth arall i ddangos fod mesur addysg 1870 wedi gwneud Gladstone yn anmhoblogaidd, yn enwed;g yn mhlith Ymneiliduwyr." A wrandawodd Mr. Gladstone ar laig yr Ymneiliduwyr y pryd hwnw yn y Ty? Naddo. Pleidleisiodd R. Davies, Sir Fon Edward Miall, E. M. Richards. Syr J. Stepney, E. J. Sartoris, T. L. D. Jones- Parry. Watkin Williams, J. Osborn Mor- gan, Arglwydd Kensington, H. H. Vivian, R. Fothergil, S. Holland, Hon. C. R. D Tracy, L. L. Dillwyn, a Ryddfrydwyr ereili gyda Mr. Richard i ond rhojdodd Mr Gladstone ei bleidlais yr un ochr a Mr" Disraeli, blaenor y Toriaid. A thrwy nerth y Toriaid cafodd Gladstone fwyafrif o 225 yn erbyn y Rhyddfrydwyr uchcd. Nifer y Rhyddfrydwyr oedd 98; nifer y Tori id, a Gladstone yn eu plitb, oedd 355. Ond yr oedd y 98 uchod yn sicr o deimlo fel pobl Israel yn erbyn Rehobcam. A phan y daeth y cyfle, dywedasant, 0 Israel dos i'th beb- yll," a rhanwyd y frenhiniaeth. Nis Gallwn gredu fod Dafydd Morganwg wedi chwilio hanes mesur addysg Gladstone gyda man- yldra.
| CYWYDD Y RHEW A'R ElRA.…
CYWYDD Y RHEW A'R ElRA. Canu'n lew, cyn fy rhewi, Ym Mair, y fydd oreu i mi; A chywydd newydd a wna' I'r aruthr rew a'r eira rif maes dur, ac i'r mis du, Byr grinwellt, a bair grynu, Och ym nid wyf iach yma, I ganu'n ddoeth ag yn dda « Gwell y rhed Awef ledpai, j Wres Mehefin, a min Mai; Pan fo ton per Aderyn Hyd y dail, hydo dyn; Dyna nghydwas dan fedwen, Yn gwynfydu'n gwarsgu Gwen A'i laip, mewn neuadd lafwerdd, A gaid, ag enaid i'r gerdd. Nid fel hyn, barnwr, y bydd Y gauaf yn dragywydd; Eira gwyn yn oeri gwedd, A'r lluwch yn cuddio'r llechwedd; Pob Ile'n cer, pob llwyn yn wyn, A diffrwd fydd y dyffryD, Clo ar ddwfr, nid clauar ddydd, A durew hyd daearydd, A bwyd adar byd, ydoedd; Dan glo Daw, yn galed oedd; Aed a'r agoriad adref, I Yn iawn, i'w gadw yn y nef. Ion. 6, 1751. LLEWELYN DDU.
ATALIAD Y WOBR GORAWL YN NHREHERBERT.
ATALIAD Y WOBR GORAWL YN NHREHERBERT. MRI. GOL.Dymunwn gael rhyw gyfran fechan o'ch gofod i alw fylw eich darllenwyr at y pwne sydd yn ffarfio penawd ein hys- grif. Dygwyddcdd i ni fod yn bresenol yn yr eisteddfod a gynaliwyd yn y Neuadd Gy- hoeddus yn Ntreherbert y Nadolig diweddaf. Galluogwyd ni, gan hyny, i ffurfio barn am y p&th a welsom ac a glywsom, a'r peth mwyaf nodedig o'r ell ydoedd ataliad y wobr oddi- wrth y tri chor a gystadleuodd ar yr anthem Y mae gorphwysfa eto'n ol." Wedi i'r cor- au ganu, galwodd Mr. Jeiikins y pwyllgor yn nghyd, achanlyDiad yr ymgyngloriadihono ydoedd y cyhoeddiad canlynol gan y beiin- ud :-Mae y tri chor wedi bod yn anffpdus, wedi methu cadw y pitch gyda'r harmonium. Ceir gwybod yn y prydnawn gan y pwyllgor pa un a gain* y corau ganu eto heb offeryn ai peidio. Daeth y prydnawn, ac hyebyswyd nad oedd y corau i gael canu, na chael beirn- iadaeth. Canodd dau o'r corau, a chollasant y pitch, a'r cyfeilydd yn goifod atal chwareu. Canodd y cor arall, a chadwodd y pitch, fel y cydnebydd pob cerddor yn yr eisteddfod, oddigerth y beirniad, a'r pwyllgor fe ddichc n. Dywed y beirniad fod y cyfeilydd wedi atal chwareu gyda'r coiau, ond anghofiodd ddy- wedydd ar ba faint o honynt y dygwyddodd yr anffawd hon. Ai teg hyn ? Darfu i ar- weiDyddyr ail gor (Bethel, Cwmparc), ofyn i'r cyfeilydd a'r cerddor galluog a phrofiadol oedd yn.troi y dalenau iddi, pa fodd yr oedd y cor wedi canu o ran pitch, ac atebiad unfryd- ol y ddau ydoedd ei fod yn wir dda, gydag eithrio un man, sef y diweddeb sydd yn ar- wain i'r hen emyn yn yr anthem. Dywed- asant hefyd fod y cor wedi canu mewn strict metronome time," a bod y datganiad yn dda iawn. Yn awr, ai tybed nad ydyw gwraig dalentog Dr. Frost yn gwybod pa un a ydyw cor ag y bydd yn cyfeillo iddo mewn pitch ai peidio drwy ystcd darn mor faith a'r anthem dan sylw ? Tybed hefyd fod yr ar- weinydd mor ofnadwy o ddideimlad fel ag i beidio clywed y cor allan o'r pitch drwy ystcd y dam1 Tybed hefyd fod y corau "ereill yn cyfaddef foa yr ail gor wedi cadw y pitch a hwythau wedi ei golli 1 Yn sicr, y mae dygwyddiad o'r fath hwn yn peri i ni gredu fod rhybeth tu ol i'r Hen yn nglyn a'r fusnes, a bod mwy a fyno maint y cynulliad ag enill y wobr nag oedd a fyno teilyngdod.. Esgus eleff ydoedd addaw I gwybodaeth yn y prydnawn,' er mwyn tynu y corau yno ac ereill i'w gwrando, ac yna eu insultio drwy omedd iddynt i ail ganu na chael beirniadaeth. Wrth gwrs, yr ceddys yn ofni mai felly y byddai yn y b ireu, oblegyd yr oedd yr agwedd ddifrifddwys, ya nghyd a'r devotion sobr oedd yn t i gwynebau y pwyllgor yn yr ymgyrghorfa yn cyfleu ar- wyddion amlwg fod yno ymdrechfa galed rhwng five pounds versus cynulliad bychan yn dylanwadu yn erwin ar eu calonau pur a di- lychwyn. Qs mai cadw y pilch gyda'r hurdy-gurdy o harmonium oedd yn cyfeilio ydoedd hobi fawr y beirniad, paham na fu&sai yn rhoi beirniadieth a precedence i'r cor a'i cadwodd oreu ? Neu pa beth bynag oedd ei hobi, a pha beth bynag oedd ei st •udard, paham yn enw pob tegweh na chawsai y corau feirn- iadaeth ? A oedd arno ofn comitio ei hun 1 Os oedd yr ail gor wadi colli y pitch i glust y beirniad, 'does bosibl mai yr un glust oedd ganddo yn gwrando y corau ar y prif ddarn. Clywsom amryw o arweinyddion profiadol yn dweyd fod %ihh yr ail gor yniawn; ond y mae yn rhaid i ni gredu y beirniad, wrth gwrs, a chasglu o ganlyniad mai haid o idiots oedd yr holl gerddorion oadd wedi ymgasglu i wyl Treherbert y Nadolig diweddaf. A gawn ni gan y beirniad fod mor garedig a'n hanrhegu a'i feirniadaeth drwy y DARIAN ar y corau a gystadleuodd sr yr ail ddarn ? Hyd hyny, yr eiddocb, &c., SYLWEDYDD.
Y GWRHYD.
Y GWRHYD. MRI. GOL.Nid yn ami, os byth, y gwelir enw y rhanbarth hwn o'n daear ar y maes llenyddol. Yn tier byddai rhai yn teimlo dyddordeb pe yr ymddargosai ei enw yn aVr ac yn y man yn eich colofnau. Er nad yw y boblogaeth yn fawr, y mae yma lawer o amaethwyr yn fechgyn sobr ac o chwaeth bur. Hei ati, fechgyn, y tymhor hwn. Rhoddwi h gam i'r maes llenyddol pan y Pen y Gwrych yn gwisgo ei gas gau tfol, a'r rhew wedi selio gwynebpryd anian. Treul- iwch ambell un o nosweithiau hirion y gauaf yma i gyfansoddi ambell lith, awd!, neu gan. Yma, fe! yn mhob araU, fe geir yr anianawd hono sy'n rheoli dynolryw yn mhob oes yu troi allan me" n effeithiolrwydd paphaus. Y maent yn gwra ac in gwreica, yn priodi, ac yn rhoi i bricdas yma o byd. Dydd Sadwrn, Rhagfyr 2lair, rhwymwyd Mr. T. D. Wil- liams â. Miss Hannah Evans, y ddau o'r lie hwn, mewn glan briodas, ac mai hyn y can- odd yr awen iddynt:— Here, here, boy-91 hwre drwyvr byd,—e un- H&nnah a'i hanwylyd; [wyd Heddyw clywch, daeth diwedd clyd rh I garn Ty'n y Gwrhyd. • Tom anwyl! 'rwyt am enJd-yn wr gwraig, Dyma'r gris mewn bywyd, A'r cam oreu i gymeryd Am orhapus feltts fyd. 1 Thomes bach! gwel, clyw, facbgen,—eto'n Wyt ti'n falch o'th fargen? [fyr, 'Rwyt yn falch, a balch dros ben Efo Hannah dy feinwen. Ei dala ddyddiau'r Nadofjgl-was mwyn, Oedd dro smart meleinig Oedd well hwyl na gwyl o gig I gael Hannah 'a galenig. Dyna drio! ei dwyn o dre',—dwyn y chmce Dyna cheaJe, ondte fe, Yn y llanc ei dwyn o'i lie Ar hen Fair, yn o fore? A hen Evan a'i ofid,—gu hynod Gwyna'n awr yn enbyd; Ei dwyn o dre'! bydd e' o hyd Yn wargam dan yr ergyd. Hawyr bach! mor hir y bu—draw o beli Drwy y baw'n trabaeddu, I welld gwedd 'i anwylyd gu, Ac i'w swycol gusanu. Wedi'r rhwysg i ddcdi y ring,-ni raid O'r hen garwr sweeping, Fin y nos mewn ofn neu ing, Bwtian o Graig y Betting, Treorci. D. PRICE.
YSTRADGYNLAIS..
YSTRADGYNLAIS.. Nos Wener, Rhagfyr 20fed, cynaliwyd cy- ngherdd yn ysgoldy y Bwrdd yn y lie uchod. ilanwyd y gadair yn ddeheuig, fel arferol, gan H. Walters, Ysw., Cynlais House. Ym- gasglodd tyrfa yn nghyd, fel yr oedd yr ysgol- dy wedi ei orlenwi. Yr oedd y mynediad i mewn yn rhad. Cafwyd anerchiadau gan y cadeirydd a Mr. E. Foster, dau o aelodau y Bwrdd Ysgol. Gwasanaethwyd yn y cyfar- fod gan Mri. G. James, E. Alexander, James Davies, Miss J. Prosser, ac ereill. Chwareu- wyd ar yfife gan Mr. Wm. Jones, ar y crwth gan Mr. Jtzereel Jones, ac ar yr harmonium gan Mr. Jenkins, yr ysgolfeistr. Cafwyd cyf- arfod adloniadol dros ben, ac aeth y cantor- ion drwy eu gwaith yn anrhydeddus. Can- odd plant yr ysgol, o dan arweiniad Mr. Jen- kins, amryw weithiau yn ystod y cyfarfod. Rhoddwyd boddlonrwydd neillduol drwy y dadganiad o't' Mulligan Guards' gan oddeu- tu dwsin o blant yr ysgol. Wedi talu di- olchgarwch i'r cadeirydd am lywyddu mor dda, i Mr. Jenkins am ei lafur gyda'r plant, ac i'r boneddigesau am osod yr ysgol i edrych mor hardd, terfynwyd y cyfarfcd dyddorol hwn drwy ganu Hen Wlad fy Nhadau,' yr alaw yn cael ei chanu gan Mr. Phillip Tho- mas. Hyderwn y cawn gyfarfod tebyg yn fuan eto. DARLLENIADAU CEINIOG.- Y mae y cyfar- fodydd yma wedi myned mor ami yn y lie hwn yn bresenol, fel y mae un yn rhwystro llwyddiant y llall. Yn ddiamheu y maent yn gwneud cryn lawer o ddaioni mewn llawer o ystyriaethau. Y mae llawer o ddjpion ieuainc yn cael mantaisi ganu, areithio, &c., ynddynt, ond yr hyn sydd yn gwneud fwyaf o niwed i lwyddiant y cyfarfodydd hyn yw gosod dynion anghymwys i feirniadu yn y cyfryw. Os bydd dynion yn llanw y gadair yn dda, nid ydyw hyny yn un prawf eu bod yn gymwys Cfeimiadu. Gobeithio y bydd diwygiad yn hyn.-T.
MARWOLAETH Y PARCH. D. PRICE,…
MARWOLAETH Y PARCH. D. PRICE, SILOA, ABERDAR. O! newydd oer, anhawdd yw—canu dim, Cwyno dan y cyfryw Wasgfa 'rwyf, os caf i ryw Fodd, mi ganaf heddyw. Fi ganaf dan leddf gwyno,—ac wylaf, Mae'm calon yn teimlo Am Price anwyl, anwyl, O! Ddu alar, mor hawdd wylo. Siloa wyla o alar,—blin yw Heb ei blaenor hawddgar; A rhaid yw fod Aberdar A'i chQingerdd yn dchwyng&r! A Chymru wlych ei hamrant 'Nawr ar ol ei siriol sant. Ni welodd neb anwylach—gweinidog A nodwedd ddysgleiriach Na Price he ff, pur ces ic ch, Parod i'r gwyulyd purach. Arweinydd llawn o riniau-ydoeià hwn, Dydcanwr calcnau; A'r cywir fyth er cryfhau lawn hyder mewn eneidiau. Ah Price enwog, per hcsanah-heddyw, Yn haeddi mt Calfaria; Uno a'r coa i'w lor da Ydyw hanfod ei vynfa. Y plant a v ylant o'i ol, A'r weddw gywir haeddol, Dawdo er du slar, Och! y bedd eu serch hwy bar. Dinas. CARW CYNON.
JERUSALEM, RESOLFEN.
JERUSALEM, RESOLFEN. Cynaliwyd c\ h rfod cystadleuol yn y oaMl uchod dydd Nadolig, Rhag.. 25ain, 1878. Beirniaid y canu, &c., Mri. John Hopkins, Glynnedd, a H. Thomas, Resolfen. Yn absenoldeb Mr. Jones, meddyg, cymerwyd y gadair gan y Parcb. D. G. Morgan, gweinid- I og y capel. Dechreuwyd y cyfarfod cyntaf am ddau o'r gloch. Ar ol cael anerchLd byr gan y cadeirydd, dechreuwyd trwy ganu can 'Naaol g' (Mynyddog); Wm. Thomas yn arwain, a'r gynulleidfa yn uno yn y gvdgan. Chwareu 'Worms' (Lyfr Stepens a Jones), ar y Flute;, goreu, D vid Herbert. Adrodd Y Llwynog a'r Gynn'on,' i r *i dan 15eg oed; goreu, Wm. Hc.pkin. Gofyniadau ar y pryd goreu, Daniel Herbert. I'r tri a ganont un- rhyw catch goreu, D. Duncan (Dewi Nedd), a'i barti. Am yr araeth oreu ar y Morgrugyn yn cghyda'r gwersi sydd yn deilliaw oddiwitho dau yn cynyg, a rhan- wyd y wobr rhyngddynt. Canu Gyda'r Wawr' (Songs of Wales); goreu, Miss A. Harries. Canu y Sleighing Gleegoreu, Morgan Barries a'i barti.
CYFARFOD 6 O'R GLOCH.
CYFARFOD 6 O'R GLOCH. Cymerwyd y gadair gan Dr. Joneii, ac nid ydym yn petruso dweyd iddo ei llanw hi yn mhob ystyr. Wedi cael anerchiad dyddorol a phwrpaso! gan y cadeirydd, caf- wyd can agoriadol gan Rees Heroert, a'r gynulleidfa yu uno yn y gydgan. I blant dan 15eg oed a gano y solo alto Dacw Gymru yn y Golwg'; goreu. D. Davies. I'r hon dan 15eg ced a adroddo yn oreu Ei byd el hun i'f hanes dwy chwaer yn cyistadlu, a gwobrwyd y ddwy. Chwareu 'St. Nicholas,' (Lyfr Stephens a Jones), aryr harmonium Wm. Herbert. Fe allai na fyddai allan o le i ni nodi mai bachgen lleg oed ydyw W Herbert, a'i fod hefyd wedi euro ei a&d yn yr ymdrech hen. Credwyf na ddylai im fel hwn gael bod yn ddisylw, o heiwydd y mae, eisioes wedi dangos medr a thalent mewn cerddoriaeth. Beirniadaeth yr ysgrif ar Ddyncydfuddugol, DI. Herbert, a Thos. Davies. I'r pedwar a ganont 'Pa fwyn beror- iaeth; goreu, M. Harries a'i barti. Adrodd 'Pobol y drws nesafrhanwyd y wobr rhwng tri. Canu ton ar y pryd; goreu, Dewi Nedd ari barti. Araeth ar y pryd goreu, Wm. Herbert. I'r hon a gano yn oreu Anwyl yw Gwalia fy Ngwlad cyd- fuddugol, T. Pergrin a S. Davies. Araeth ar y pryd; goreu, Dewi Nedd. Cana y Baban Egwan goreu, Rees Herbert a i barti. Wedi myn:d trwy y ffurf arferol o ddi- olchgarwch, ymadawodd pawb wedi cael eu llwyr foddlcni. N CYMRO. O.Y.Dylaswn ddweyd mii Mr. Evan Phillips oedd ysgrifenydd y cyfarfod hwn, a'i fod wc di gwneud ei waith yn ganmoladwy, c.
EISTEDDFOD Y GORON (CROWN…
EISTEDDFOD Y GORON (CROWN HOTEL), ABERDAR. Cynaliwyd yr eisteddfod uchod Rhagfyr 24:iin, 1878. Cymerwyd y gadair gan Dr. T. Walter-, yr hwn a roddodd araeth fer a phwrpasol ar yr achlysur. Cafwyd c&n agoriadol gan Gwilym Gwenallt. Wedi hyny galwodd yr arweinydd, Mr. Griffith Thomas (Gwilym Hydref), ar Hywel Mor- ganwg, beirniad y farddoniaeth, i ddarllen ei feirniadaeth ar y tri Thriban Morganwg goreu i'r 'Gwlithyn;' goreu, leuan Glan Mellte. Canu 'Merch y MeLnldd;' goreof Miss Elizabeth Thomcs, Aberamam. Wedi hyny galwodd yr arweinydd ar y beimiad i roddi ei feirniadaeth ar y gan oren i'r I Gauaf;' cydfuddugol, Brythonfryn a Gwil- ym ab loan. Beirniadaeth Tytilio ar y traethawd ar Ffyddlondeb goreu, R. PL Jones (Cadlenydd), drape*, Aberdar. Canu Y Cymro Dewr goreu, Samuel Evans, Heolgeryg. Adrodd Nos Sadwrn y Gweith- iwr goreu, Thos. Jones, Llwydcoed. Beirn- iadaeth yr englyn ar Gariadgo>eu, D. Bowen, Aberdar. Wele yr englyn Cariad, beth ydyw ? coron,—natur dyn Yn oer danio'r galon At fwynhau tu fewni hen Awenau Duw a dynion.' Canu deuawd 'Y Ddau Forwr; goreu Samuel Evans a'i frawd, Heolgeryg. Beirn- iadaeth y, cywydd ar y 'Fantais o roddi addysg foreuol i blantgoreu Gwilym ab loaD. Canu 'Maid of Athens;' neb yn deilwng. Beirniadaeth Tysilio ar y traeth- awd Rhagoriaeth y Ffan ar y Flue; goreu, Gwilym ab lean. Canu Y baban diwrnoa oed; goreu, Llewellyn Jones, Cwmbqch. Beirniadaeth y penillion i beleni Mr. T. W. Evans, Fferyllydd, Aberdar goreu, Bryth- onfryn. Araeth Ddifyfyr; goreu, John Col- lings (Morgrugyn Gwent). Cystadleuaeth ar unrhyw gatch neb yn deilwng. Cafwyd cyfarfod difyrys a dyddorol dros ben, a chynulleidfa barchus wedi dyfod yn nghyd. Y mae yn mhwriad Cymreigyddion y Goron i gynal cyfarfod o'r un natur ar ddydd Gwyl Dewi Sant. Rhwyddhjnt i chwi feirdd a cherddorion. Mewn hyder y cawn weled eich gwynebau ar y dydd a noa- wyd uchod. 'E ddaw awen Gwyl Ddewi-i gierau. Y Gorcn a'i gwersi; Lie bydd sain a'i hadsain hi Yno'n llawn er ein lloni. Blwyddyn newydd dda i chwi oIL
Advertising
YN AWR YN BAROD, ARTHUR OWLETS7* .Bugeilgerdd Newydd, Testyn EibteddfodS Caernarfon, Awst 1877, yn nghyda DarnatK Barddonol ereill, gan Thos. Drew (SY DrywW, Hirwaun. I'w Gael gan yr Awdwr^ Baglajn Terrace, Brecon Rd., pris Tair Ceiniog^tswaf- y Post, Tail Ceiniog a Dimai. i
. UTAH A'R MORMONIAID,
yn ofni cymundeb gyda gwabanol ranan y Weriniaeth fawr Americanaidd, fel yr "D haerid en bod. Pa saw 1 canwaith y ey- hoeddwyd yn newyddiaduron America a?r Hen Wlad, fod y Mormoniaid yn elynol i wceuthuriad rheilffordd y Tawelfor, ae y buasai cwblhad y cyfryw reilffordd yn rhoddi terfyn at Formoniaeth ? Dywedid i y buasai miloedd o anfoddogion oedd yn", cael eu caethiwo i ewyllys Brigham a'r Apostolion yn cilio yn ebrwydd ar ddy- fodiad y march tan i'r dinasoedd Mormon- aidd, ac yn eu plith luaws o fenywod ra wrthryfelent yn erbyn deddf amlwreieiaeth; > ond profodd yr hen esboniwr amser mai ofer a chyfeiliornus fuodd daroganaa eu gelynion. Darfu ifr Saint eu hunain ,gwblbau oddeutu can milltir o'r Union Pacific, gyda rhoddi pob cynorthwy galln- adwy er prysuro ei chwblhad buaD. Bu g)obl Utah yn enillwyr trwy ddyfodiad y rheilffordd hon i'w plitb, gan i bob nwydd- AU mascach o'r Talaethau .ostwng i haner a thwarter ell prisian blaenorol, mewn •canlyniad. Meddylier am y manteision a'r rhwjddineb a ddwg y march tan i'r ymfadwyr Mormoniaid o'r Talaethau a gwahanol wledydd Ewrop. Yn y dyddiau gynt yr oedd ta'th o Brydain i Utah yn eymeryd o wyth i ddeg mis, ond yn bres- enol gall yr ymfndwyr ar ol cychwyn o Liverpool gyraedd Utah mewn pymtheg nea ddeunaw diwrnod; dyna beth ydyw chwildroad mewn teithio. Traethaf yn y lijtbyr nesaf ar y Rhyfelgyreh a anfonwyd gan yr Arljwydd Buchanan yn erbyn Utah.